Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CADARNHAU PENDERFYNIAD Y PWYLLGOR CYNLLUNIO AR 14 RHAGFYR 2016 MEWN PERTHYNAS Â CHAIS RHIF 03/2016/0300/PF - TIR AR FFORDD Y FICERDY, LLANGOLLEN

Ystyried adroddiad yn gofyn am gadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio mewn perthynas â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Stuart Davies gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn byw gyferbyn â’r safle oedd yn destun y cais.]

 

Cyflwynwyd adroddiad yn gofyn i gadarnhau penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Rhagfyr 2016 mewn perthynas â chais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen.  Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yn ddibynnol ar ddarparu mwy o dai fforddiadwy.

 

Roedd yr adroddiad yn rhoi diweddariad i aelodau ar wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd mewn perthynas  â’r penderfyniad hwnnw fel y crynhowyd isod -

 

·         Tai Fforddiadwy – byddai’r ymgeisydd yn darparu 10% o dai fforddiadwy ar y 95 annedd llawn a oedd yn cyfateb i 9 annedd ar y safle  a thaliad swm gohiriedig o £47,074.50 yn gyfnewid am 0.5 annedd.   Roedd yr ymgeisydd yn cynnig bod yr unedau fforddiadwy hynny yn gydberchnogaeth.

·Diogelwch Cyfraniadau Ariannol - gallai datblygu’r unedau fforddiadwy ar y safle, talu’r swm gohiriedig a chyfrifoldebau mannau agored, a darparu cyfraniad ariannol tuag at addysg ei reoli’n ddigonol trwy gytundeb cyfreithiol A.106 ac felly nid oedd swyddogion yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r datblygwr fod yn rhan o fond ariannol. 

·         Lle Parcio – roedd amod tirlunio wedi’i gynnig yn adroddiad gwreiddiol y swyddog yn ceisio cytundeb pellach i'r manylion penodol ar gyfer y man agored a’r ardaloedd wedi’u tirlunio ar y safle a allai, os cytunir, gynnwys lle parcio ychwanegol i gerbydau.  Cyfrifoldeb y datblygwr fydd cyflwyno cynnig tirlun ar gyfer yr ardaloedd a gall swyddogion gysylltu ag aelodau lleol ar y cynllun terfynol.

 

Roedd y Cynghorydd Stuart Davies (Aelod Lleol) yn falch o ddweud bod trigolion lleol wedi cydnabod y drafodaeth gadarn yn y cyfarfod diwethaf wrth ystyried y cais ac roeddent yn ddiolchgar am hyn.   Diolchodd i’r swyddogion cynllunio am eu gwaith i sicrhau’r cytundebau perthnasol gyda datblygwyr y gellir eu rheoli a’u gorfodi drwy gytundeb A.106 fel y manylir o fewn yr adroddiad.     Fodd bynnag, gofynnodd am eglurhad pellach ar y cynllun cydberchnogaeth arfaethedig a pha un a oedd y Cyngor yn gallu cyfrannu at y ddarpariaeth mewn cyferbyniad â landlordiaid cymdeithasol eraill.    Cadarnhaodd y swyddogion y cynnig ar gyfer cyd-ecwiti mewn perthynas â’r 9 uned tai fforddiadwy a dywedodd y byddent yn cysylltu â swyddogion tai ynglŷn â rôl Sir Ddinbych yn y ddarpariaeth honno.   Roedd hefyd yn agored i’r datblygwr godi’r mater gyda landlordiaid cymdeithasol eraill a chynnig cynllun.    Rhoddwyd sicrwydd y byddai aelodau lleol yn cael eu hysbysu am y trafodaethau hynny. 

 

Ymatebodd y Swyddogion i gwestiynau pellach fel a ganlyn -

 

·         dywedwyd bod y polisïau a gweithdrefnau ar gyfer delio gyda thai fforddiadwy a sicrhau bod gofynion yn cael eu diwallu o ran dyraniad perthnasol yr unedau i ddiwallu’r angen lleol, safonau gofod llawr a ffactorau a meini prawf gwerth/fforddiadwyedd – dylai unrhyw bryderon am achosion unigol gael eu codi y tu allan i’r cyfarfod a dylai unrhyw bryderon ehangach ynglŷn â’r polisïau hynny gael eu codi trwy Grŵp Llywio'r Cynllun Datblygu Lleol neu'r Pwyllgor Archwilio. 

·         derbyniwyd sylwadau hwyr gan Gymdeithas Ddinesig Llangollen a oedd yn holi am y cyfraniadau arfaethedig mewn perthynas ag Addysg a Gofod Swyddfa ac eglurodd swyddogion y rhesymau dros y farn y byddai darparu mannau agored a chyfraniad yn seiliedig ar y 45 uned ychwanegol yn dderbyniol yn yr achos hwn o ystyried yr egwyddor a hanes cynllunio. 

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies argymhellion y swyddogion i gadarnhau’r penderfyniad i roi caniatâd cynllunio ar y sail fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 18

YN ERBYN – 0

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau yn cadarnhau penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ar 14 Rhagfyr 2016 ac yn cymeradwyo caniatâd cynllunio yn amodol ar y canlynol -

 

·         cwblhau a llofnodi cytundeb cyfreithiol A.106

·         yr amodau cynllunio a osodwyd yn yr adroddiad gwreiddiol gan y swyddog

·         cynnig diwygiedig y datblygwr o 10% o dai fforddiadwy o’r 95 annedd.

 

 

Dogfennau ategol: