Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 40/2016/0256/PC – CAEAU I’R DE-ORLLEWIN O GROESFFORDD BORTH, ABERGELE

Ystyried cais i gadw a newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio coed (ôl-gais) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cafodd cais ei gyflwyno i gadw a newid defnydd adeilad amaethyddol i brosesu coed a defnyddio’r iard i storio coed (ôl-gais) ar gaeau i’r de-orllewin o Groesffordd Borth, Abergele.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Mr B Owen (O blaid) – eglurodd weithrediad y busnes a manteision o ran cyflogaeth leol a’r economi wledig.    Ymatebodd i (1) bryderon sŵn gan ddadlau’r effaith lleiaf a bod Swyddogion Rheoli Llygredd yn derbyn hyn, a (2) pryderon priffyrdd yn dadlau y byddai defnydd amaethyddol yn cynhyrchu mwy o ddefnydd gan gerbydau ac y byddai mesurau lleddfu yn cael eu gweithredu i fynd i’r afael â phryderon. 

 

Trafodaeth Gyffredinol – Tynnodd y Rheolwr Datblygu sylw at wybodaeth ychwanegol fel y manylwyd yn y papurau atodol a ddosbarthwyd yn y cyfarfod a oedd yn manylu hanes cynllunio ar gyfer  y safle hyd eithaf gwybodaeth y swyddogion.    Eglurodd mai’r mater dan ystyriaeth oedd pa un a oedd y defnydd o’r adeilad, mynediad i gerbydau a’r safle yn addas ac yn dderbyniol ar gyfer  busnes prosesu coed.    Er gwaethaf pryderon sŵn roedd y Swyddog Rheoli Llygredd yn ystyried na fyddai'r sŵn o'r prosesu coed ei hun yn cyfiawnhau gwrthod gan y gellir rheoli'r lefelau drwy amodau.    Er mai’r defnydd amaethyddol oedd y sefyllfa ar gyfer syrthio yn ôl arno, roedd swyddogion yn meddwl y byddai’r defnydd ar gyfer prosesu coed yn cynyddu’r effaith annerbyniol ar ddiogelwch priffordd a fanylwyd o fewn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Arwel Roberts am yr ymweliad safle a gynhaliwyd ar 12 Medi 2016.  Cyfeiriodd at amrywiol ddamweiniau ar y ffordd gerbydau ac roedd yn meddwl bod y mynediad i’r safle/ffordd allan yn beryglus iawn.   Credai y byddai caniatáu’r cais yn gwaethygu’r sefyllfa a chytunodd gyda’r swyddogion y dylid gwrthod y cais ar sail diogelwch priffordd.   O ganlyniad cynigiodd y Cynghorydd Roberts i wrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Ymhelaethodd y Cynghorydd Alice Jones (Aelod Lleol) ynglŷn â hanes cynllunio’r safle o 2004 ac amlygodd ddiystyrwch y perchennog o ran rheoliadau a gweithdrefnau cynllunio ers hynny heb unrhyw ddefnydd difrifol o'r safle at ddibenion amaethyddol.    Hefyd mynegodd bryder am y cais cynllunio ôl-weithredol ac roedd yn cynnig newid defnydd o amaeth i brosesu/gweithgynhyrchu coed ac amlygodd y gwrthwynebiad gan drigolion cyfagos.    Roedd y Cynghorydd Jones yn cefnogi argymhelliad y swyddog i wrthod ar sail priffordd a theimlodd nad oedd yna sail i ddadl yr ymgeisydd y byddai defnydd amaethyddol yn golygu nifer uwch o gerbydau o ystyried na fu llawer neu ddim defnydd amaethyddol yn y gorffennol ac yn annhebygol o fod yn y dyfodol.    Fodd bynnag, gofynnodd iddynt ystyried sŵn ac amwynder preswyl a cholli tir amaethyddol fel rhesymau cynllunio dilys dros wrthod y cais.    Dywedodd y Cadeirydd bod y rhesymau dros beidio â chynnwys y seiliau cynllunio hynny wedi eu manylu o fewn yr adroddiad.  O ganlyniad eiliodd y Cynghorydd Alice Jones y cynnig gan y Cynghorydd Arwel Roberts i wrthod y cais yn unol ag argymhellion y swyddog.

 

Trafododd yr aelodau'r ystyriaethau cynllunio materol ymhellach gyda swyddogion a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion.  O ran priffyrdd, gofynnwyd mwy o gwestiynau ynglŷn â dadl yr ymgeisydd y gall y defnydd syrthio yn ôl ar gyfer y safle at ddibenion amaethyddol arwain at fwy o symudiadau cerbydau a pha un a oedd tystiolaeth i gefnogi’r sail diogelwch priffyrdd o ran damweiniau a gofnodwyd, yn arbennig o ystyried ei fod yn gais ôl-syllol.    Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â’r polisïau cynllunio sy’n ymwneud â newid defnydd o amaeth i waith cynhyrchu, diffiniad o’r gwaith prosesu coed a pha un a ellid ei ystyried fel prosiect arallgyfeirio ar ffarm.

 

Ymatebodd y Swyddogion i sylwadau a chwestiynau fel a ganlyn-

 

·         ymhelaethwyd ar y polisïau cynllunio o ran newid posibl i ddefnydd amaethyddol gan gynghori bod defnydd masnachol o adeiladau gwag yn cael ei ganiatáu o ran polisi cynllunio cyn belled â bod tystiolaeth yn cael ei chyflwyno – nad oedd tystiolaeth wedi’i chyflwyno a bod y busnes prosesu coed wedi dechrau heb ganiatâd cynllunio, a dyna pam y cyflwynwyd y cais ôl-syllol.

·         cyfeiriwyd at yr asesiad priffyrdd, gan gynnwys dadansoddiad ysgubo llwybr, a’r casgliadau y byddai yna effaith andwyol ar ddiogelwch priffordd gan arwain at yr argymhelliad i’r cais gael ei wrthod.   Roedd yna chwech o ddamweiniau wedi eu cofnodi ers i’r busnes prosesu coed ddechrau ond derbyniwyd na adroddwyd am bob damwain.   Roedd y swyddogion hefyd yn ystyried na fyddai dychwelyd i ddefnydd amaeth o’r safle yn effeithio lawer oherwydd maint y cae tra y byddai gweithredu’r busnes prosesu coed yn arwain at gynnydd mewn traffig ac effaith andwyol ar ddiogelwch priffordd.  

·tynnwyd sylw’r aelodau at yr achos busnes ar gyfer datblygu fel y manylwyd o fewn yr adroddiad ynglŷn â gweithredu’r busnes a natur y defnydd prosesu coed o ran y cais dan sylw. 

·         ymhelaethwyd ymhellach ar yr hanes cynllunio blaenorol ac eglurwyd y rhesymau dros wrthod y cais cynllunio ym mis Tachwedd 2015. 

 

Cynnig – Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts argymhelliad y swyddog i gymeradwyo’r cais, ac eiliwyd gan y Cynghorydd Alice Jones.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 6

GWRTHOD - 16

YMATAL - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid GWRTHOD y cais yn unol ag argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: