Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DIWEDDARIAD AR WERTHUSIADAU OPSIYNAU AR GYFER GWASANAETHAU GOFAL MEWNOL

I ystyried canlyniadau’r dadansoddiad a gynhaliwyd o safbwynt opsiynau posib ar gyfer darparu’r gwasanaethau yn y dyfodol ar safle Awelon yn Rhuthun.

 

9.35am – 10.20am

Cofnodion:

Bu i'r Cynghorydd Win Mullen-James, Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen a gafodd y dasg o adolygu darpariaeth gofal cymdeithasol fewnol y Cyngor, wrth gyflwyno canfyddiadau'r Grŵp mewn perthynas â defnyddio Awelon yn y dyfodol, dalu teyrnged i'r diweddar Gynghorydd Raymond Bartley, a fu'n aelod ymroddgar o’r Grŵp Tasg a Gorffen a’r Pwyllgor.  Roedd y Cynghorydd Bartley wedi gweithio’n ddiflino i ddiogelu hawliau a lles yr henoed a'r diamddiffyn yn y Sir trwy gydol ei yrfa, a byddai colled fawr ar ei ôl.

 

Yn ei chyflwyniad, rhoddodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen wybod i'r Pwyllgor bod y Grŵp o'r farn y byddai'r argymhelliad a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn ateb y galw am ofal a chymorth yn y trefniadau Gofal Ychwanegol a ffefrir, yn ogystal â chefnogi gweithgareddau cymunedol ar gyfer trigolion a’r gymuned ehangach o fewn y cyfleusterau cymunedol newydd. Roedd y Grŵp Tasg a Gorffen hefyd o’r farn y byddai’r prosiect cyfan yn elwa o gael ei reoli gan 3 defnyddiwr presennol y safle – y Cyngor, Grŵp Cynefin a Phwyllgor Canolfan Awelon – gan ddod i gytundeb er lles pawb.  O achos hynny roedd y Grŵp yn argymell y dylent gydweithio i weithredu'r trefniadau gorau ar gyfer y safle ar sail Opsiynau 2a, 2b, a 3a yn yr adroddiad.  Trwy fabwysiadu’r dull hwn, byddai unigolion sy'n byw yn rhan breswyl y safle ar hyn o bryd yn gallu aros yno tra bod eu hanghenion yn cael eu bodloni.

Croesawodd y Cadeirydd Rhys Dafis, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin, i’r cyfarfod er mwyn trafod y cynigion a’r astudiaeth ddichonoldeb.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau a Phennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol fanylion yr astudiaeth ddichonoldeb a gynhaliwyd gan Grŵp Cynefin, a oedd yn parchu ysbryd penderfyniad y Cabinet ym mis Mai 2016, ac a oedd yn amlinellu’r casgliadau ar ddiwedd yr astudiaeth. 

 

Gan ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor, bu i'r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau, Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol, Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Oedolion a Gwasanaethau i Blant), Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen a Chyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin:

 

·         gadarnhau bod Opsiwn 3 a gyflwynwyd gan y Cabinet fis Mai 2016, mewn perthynas ag ymgysylltu â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) i ymchwilio i ddichonoldeb datblygu gofal nyrsio ychwanegol yn Rhuthun, yn parhau i gael ei ddilyn. Fodd bynnag, ni fyddai safle'r ysgol, sydd gyferbyn â'r ysbyty presennol yn y dref, yn dod yn wag am beth amser. Roedd y cynigion i’w hystyried yn y cyfarfod presennol yn ymwneud â safle Awelon, a oedd yn endid ar wahân. Gallai unrhyw gynigion y gallent gael eu cyflwyno yn y dyfodol, unai ar wahân neu ar y cyd â BIPBC ar gyfer hen safle'r ysgol, o bosibl, wella’r ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn ardal Rhuthun ymhellach;

·         eglurwyd swyddogaethau’r Cyngor a’r Rheoleiddwyr wrth archwilio a monitro gofal a chymorth mewn lleoliadau gofal ac yng nghartrefi pobl. Roedd hwn yn ddull gweithredu â sawl lefel. Roedd ansawdd y gofal a'r cymorth a ddarparwyd yn cael ei fonitro'n ofalus, fel a oedd yn wir am y trefniadau diogelu. Roedd contractau ar gyfer darparu gofal yn cael eu monitro’n rheolaidd i sicrhau bod holl fanylion y contractau'n cael eu cyflawni. Darparwyd adroddiad chwarterol ar fonitro ansawdd gwasanaethau gofal allanol i Grŵp Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Archwilio (GCIGA);

·         dywedwyd, â’r bwriad o wella gallu’r Cyngor i fonitro contractau, y byddai ymarfer recriwtio’n cael ei wneud yn y flwyddyn ariannol newydd am swydd rheoli contractau ychwanegol o fewn Tîm Rheoli ac Adolygu Contractau’r Cyngor;

·         cadarnhawyd bod mwyafrif y lleoliadau gofal cymdeithasol a drefnwyd gan y Cyngor o fewn y sector annibynnol yn y Sir;

·         pwysleisiwyd nad oedd y cynigion a oedd yn cael eu cyflwyno ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych yn y dyfodol yn cael eu gyrru gan yr angen i arbed arian i'r gyllideb.  Y prif sbardun oedd bodloni gofynion deddfwriaethol a darparu gwasanaethau a oedd yn unol ag anghenion a dewisiadau preswylwyr ac a oedd yn gwella canlyniadau ar gyfer yr unigolyn dan sylw.  Er bod pwysau cyllidebol wedi dod yn fwy o ffactor mewn blynyddoedd diweddar, roedd cefnogi annibyniaeth a chefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain yn nod hirdymor i'r Cyngor.  Roedd dull cymhleth Gofal Ychwanegol yn galluogi i unigolion fod yn rhannol annibynnol ac i barau aros gyda'i gilydd pan fo un neu'r ddau angen gofal neu lefel wahanol o ofal, mewn amgylchedd y maen nhw'n ei ystyried yn gartref iddyn nhw, gan wella ansawdd eu bywyd trwy hynny;

·         cynghorwyd bod dyletswydd ar y Cyngor i ddefnyddio arian cyhoeddus yn effeithiol ac yn effeithlon.  Bwriad y cynigion a gynhwyswyd yn yr adroddiad oedd gwella canlyniadau ar gyfer unigolion gan fodloni eu hanghenion dynodedig. Roedd y cynigion sy’n cael eu hystyried ar gyfer Awelon yn datgan yn benodol na fyddai disgwyl i unrhyw breswylydd presennol symud i leoliad arall cyhyd ag y byddai modd diwallu eu hanghenion yn ddiogel yn Awelon;

·         cadarnhawyd bod y buddsoddiad £7m arfaethedig a gynigiwyd ar gyfer Awelon yn fuddsoddiad gan Grŵp Cynefin ac mai cyfraniad y Cyngor fyddai trosglwyddo'r safle i Grŵp Cynefin, a oedd eisoes yn gweithredu cyfadeilad o dai Gofal Ychwanegol Llys Awelon ar y safle;

·         eglurwyd, mewn perthynas ag Opsiynau 2a, 2b a 3a, bod yr wyth ystafell wely gofal preswyl dros dro yn ganllaw i faint y byddai eu hangen tra roedd y gwaith ailfodelu ac ailwampio’n digwydd. Pan fyddai gwaith ar gychwyn, gellid cynyddu neu ostwng y nifer hon i fodloni’r galw ar yr adeg honno gan breswylwyr a oedd yn dymuno aros yn Awelon. Byddai unedau ‘dros dro' yn parhau i fod ar gael cyhyd ag y byddai eu hangen. Ni fyddent yn destun cyfyngiadau amser. I sicrhau y gall y datblygiad barhau mor amserol a diffwdan â phosibl, ni fyddai unrhyw drigolion ‘preswyl' newydd yn cael eu derbyn i Awelon;

·         cadarnhawyd y gellid diwallu anghenion sydd wedi'u diffinio fel 'anghenion preswyl' ar hyn o bryd mewn cyfleusterau gofal ychwanegol, a'u bod mewn gwirionedd yn cael eu diwallu mewn cyfleusterau gofal ychwanegol a oedd yn bod eisoes. Mantais y cyfleusterau gofal ychwanegol oedd nad oedd angen i breswylwyr symud oddi yno pan oedd angen mwy o gymorth arnynt, ond byddai eu pecynnau gofal yn cael eu newid i ddiwallu eu hanghenion mwy dwys. Er nad oedd gan y Cyngor ganiatâd cyfreithiol i ddarparu gofal nyrsio yn ei leoliadau, byddai datblygu cyfleusterau gofal ychwanegol yn golygu llai o amharu â tharfu ar fywydau pobl ddiamddiffyn pan fyddent angen mwy o ofal;

·         cadarnhawyd bod y Cyngor a Grŵp Cynefin am weithio'n agos gyda Phwyllgor Canolfan Awelon a cheisio pennu eu gofynion nhw a'u cynnwys yn y cynlluniau terfynol ar gyfer y cyfadeilad. Y nod yn y pen draw fyddai gwella’r cynnig sydd ar gael yn y ganolfan gymunedol ar gyfer y gymuned leol;

·         cynghorwyd, o safbwynt Grŵp Cynefin, y byddent am ddatblygu cyfleuster integredig er budd preswylwyr a’r gymuned ehangach a fyddai’n cyflawni gweledigaeth greiddiol y Grŵp i wella ansawdd bywyd y preswylwyr. Roedd hyn yn debyg i’w dull ar gyfer datblygu tai gofal ychwanegol yn Ninbych. Roedd ymgynghoriad ar y cynlluniau hynny ar hyn o bryd;

·         cynghorwyd, ar gyfer Grŵp Cynefin o safbwynt gwerth am arian, mai Opsiwn 2a fyddai fwyaf cost effeithiol. Fodd bynnag, roeddent yn fodlon gweithio gyda’r ddau bartner arall i ddatblygu unrhyw un o’r tri opsiwn a ffefrir. Efallai, ar ddiwedd yr ymarfer hwn, y bydd yr opsiwn terfynol yn cynnwys elfen o'r tri opsiwn a ffefrir;

·         eglurwyd pam y pennwyd Opsiwn 1 yn anymarferol. Roedd hyn oherwydd y risg a oedd yn gysylltiedig ag addasu hen adeilad a oedd yn aneffeithlon o ran ynni ac na fyddai yn ateb cynaliadwy yn y tymor hir ar gyfer darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol modern.  Byddai’r cyfleuster gofal ychwanegol newydd arfaethedig yn darparu o leiaf yr un lefel o ofal preswyl ag ar hyn o bryd, ond yn ceisio darparu pecyn byw a gofal mwy cyfannol o lawer a fyddai’n gwella lles pob preswylydd unigol;

·         cynghorwyd, pe bai Opsiwn 1 yn cael ei argymell, y byddai angen i'r Cyngor ddod o hyd i bartner newydd i ddarparu’r datblygiad a byddai angen buddsoddi tua £2m i adnewyddu’r adeilad presennol;

·         Pwysleisiwyd mai’r brif ystyriaeth mewn perthynas â’r cynigion oedd y model gofal y dylid ei ddarparu yn y dyfodol. Roedd disgwyl i’r Cyngor gomisiynu/darparu gwasanaethau a oedd yn gwella canlyniadau ar gyfer preswylwyr ac a oedd yn gynaliadwy yn y tymor hir gan ystyried y newidiadau demograffig a allai fod yn y dyfodol. Trwy ddatblygu cyfleusterau gofal ychwanegol unigryw, yn debyg i’r rhai a gynigir ar gyfer safle Awelon, gellid cynnig canlyniadau gwell i breswylwyr gan y byddai ystod ehangach o ddewisiadau ar gael iddyn nhw yn y dyfodol;

·         sicrhawyd yr aelodau y byddai iechyd, diogelwch a lles preswylwyr yn ystod y gwaith ailfodelu o'r pwys mwyaf i'r holl bartneriaid a byddai ymdrechion parhaus i'w cefnogi a'u sicrhau nhw a'u teuluoedd/gofalwyr cyn dechrau'r gwaith, yn ogystal ag ar ôl ei gwblhau;

·         cynghorwyd y byddai Grŵp Cynefin yn ffurfio Grŵp Partneriaeth pe bai cymeradwyaeth i ddatblygu'r cynnig, fel yr oedd wedi'i wneud â datblygiadau tebyg mewn mannau eraill, i ymgysylltu â phreswylwyr, teuluoedd, gofalwyr a budd-ddeiliaid gan geisio lleihau ofnau a chamsyniadau a dod o hyd i atebion i broblemau hysbys, ac ati. Roedd Grŵp Cynefin hefyd yn y gorffennol wedi ailymweld â phreswylwyr, budd-ddeiliaid ac aelodau Grwpiau Partneriaeth ddeuddeng mis ar ôl cwblhau'r prosiect i werthuso'r prosiect a'i effaith ar eu bywydau. Roedd yr un camau gweithredu'n debygol o gael eu mabwysiadu ar gyfer y prosiect hwn;

·         byddai cynllun y cyfleuster gofal ychwanegol ar safle Awelon yn ‘gyfeillgar i Ddementia' drwyddo, yn debyg i’r cynllun sy’n cael ei gynnig ar gyfer cyfleuster gofal ychwanegol Grŵp Cynefin yn Ninbych;

·         byddai fflat yn y cyfleuster hefyd, at ddefnydd teuluoedd/ffrindiau a fyddai'n dod i ymweld;

·         roedd y cynigion i’r rhan fwyaf o fflatiau fod yn unedau â dwy ystafell wely wedi’u seilio ar ddewisiadau defnyddwyr gwasanaeth, ac roedd y rhain hefyd yn ymarferol ar gyfer preswylwyr a fyddai angen gofalwyr dros nos;

·         cynghorwyd na fyddai Grŵp Cynefin yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal yn y cyfleuster newydd, byddai darparwr annibynnol yn cael ei gomisiynu i’r diben hwnnw, yn dilyn tendr. O ganlyniad, ni fyddai holl staff presennol Awelon yn cael eu trosglwyddo. Roedd rhai o’r staff yn debygol o dderbyn cynnig i gael eu trosglwyddo i Grŵp Cynefin h.y. staff y ffreutur.  Er hynny, roedd swyddogion y Cyngor eisoes wedi trafod â staff ynglŷn â goblygiadau posibl y cynigion sy'n cael eu hystyried iddyn nhw. Roedd yr holl staff gofal yn fedrus iawn ac felly fe fyddai galw mawr am eu sgiliau mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Byddai’r Cyngor, drwy ei Adran AD, yn gwneud pob ymdrech i gefnogi staff i ddod o hyd i swyddi eraill.

 

Darllenodd yr Aelod Arweiniol neges yr oedd wedi’i derbyn yn ddiweddar gan berthnasau cyn-breswylydd y cyfleuster gofal ychwanegol yn y Rhyl. Ynddi roeddent yn diolch i staff y cyfleuster am eu gofal diwyd am eu perthynas trwy gydol ei chyfnod yno, gan bwysleisio'r gofal urddasol roeddent wedi'i roi iddi hi ac iddyn nhw yn ystod ei dyddiau olaf. Ym marn yr Aelod Arweiniol, roedd hyn yn crynhoi holl gysyniad gofal ychwanegol. Cafwyd hefyd enghraifft gan Gadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen o’r modd yr oedd y cyfleuster gofal ychwanegol wedi cyfoethogi bywyd un preswylydd ac wedi gwella ei iechyd/hiechyd cyffredinol gan nad oedd bellach yn profi arwahanrwydd cymdeithasol.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Adfywio Grŵp Cynefin bod croeso i gynghorwyr ymweld ag unrhyw un o’u mentrau gofal ychwanegol i weld y cyfleusterau a oedd ar gael ac i siarad â phreswylwyr.

 

Cyn gorffen y drafodaeth, caniataodd Cadeirydd y Pwyllgor i aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol siarad o flaen y Pwyllgor. Wrth siarad, gofynnodd i'r Pwyllgor ystyried maint arwynebedd llawr Canolfan newydd arfaethedig Awelon yn fanwl.  Roedd hi o’r farn na ddylai fod ag arwynebedd llawr sy'n llai na'r cyfleuster presennol. Gofynnodd i'r Pwyllgor hefyd ystyried pwy a ddylai gael y cyfrifoldeb o reoli'r cyfleuster cymunedol yn y dyfodol.  Yn ei barn hi, byddai wastad angen rhyw lefel o 'ofal preswyl' wrth symud tua'r dyfodol, neu fel arall fe fyddai ysbytai lleol yn parhau i fod yn llawn.

 

Pwysleisiodd aelodau’r Pwyllgor yr angen i Ganolfan newydd Awelon gael ei chynllunio mewn modd a oedd yn bodloni anghenion y preswylwyr a'r gymuned ehangach. Roedd Canolfan bresennol Awelon yn cael ei defnyddio’n aml gan y gymuned leol, fel y dangosodd yr aelodau yn y cyfarfod. Felly, byddai'n bwysig bod unrhyw gynllun yn y dyfodol yn addas ar gyfer ystod eang o ddefnyddwyr ac yn bodloni anghenion y preswylwyr ar yr un pryd, ac na fyddai defnydd y cyhoedd o'r ganolfan gymunedol yn tarfu ar breifatrwydd y preswylwyr.  Gofynnodd yr aelodau hefyd am i'r Cyngor wneud pob ymdrech i gefnogi grwpiau cymunedol i ddod o hyd i fannau addas eraill i gynnal eu digwyddiadau dros gyfnod y gwaith ailfodelu.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd ynghlwm â llunio astudiaeth ddichonoldeb fanwl iawn ac am eu gwaith wrth ddod â’r cynigion gerbron y Pwyllgor i’w hystyried.  Diolchodd hefyd i bawb a oedd yn bresennol am archwilio’r cynigion yn ddyfal. 

 

Cynigiwyd ac eiliwyd mân ddiwygiad i’r argymhelliad a dderbyniwyd gan y Grŵp Tasg a Gorffen (fel y’i nodir yn yr adroddiad). Wrth bleidleisio, roedd mwyafrif y Pwyllgor yn gytûn, felly:

 

PENDERFYNWYD: o ystyried y sylwadau a wnaed yn ystod y cyfarfod a chasgliadau’r Asesiad Lles, argymell i’r Cabinet:

 

a)    y dylai ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les yn rhan o’i ystyriaethau;

b)     ei fod yn cytuno â’r Pwyllgor nad yw Opsiynau 1 a 3b yn Astudiaeth Ddichonoldeb Grŵp Cynefin yn ddewisiadau ymarferol am y rhesymau a nodir yn atodiadau 1 a 5 yn y drefn honno; ac

 

c)    ei fod yn awdurdodi i drafodaethau gael eu cynnal rhwng Aelodau lleol, swyddogion, Grŵp Cynefin a phwyllgor Canolfan Awelon i weithio drwy Opsiynau 2a, 2b a 3a i barhau â’r cynllun gorau ar gyfer y safle sy'n diwallu anghenion pawb ac sy’n amharu leiaf ar drigolion/tenantiaid presennol, a bod y trafodaethau hyn yn cynnwys gofynion gofod llawr ar gyfer Canolfan Gymunedol Awelon.

 

 (Ar bwynt addas, byddai hyn yn galluogi clirio Safle Awelon a dechrau ar y gwaith ar yr estyniad. Roedd y grŵp tasg a gorffen yn credu y byddai cynyddu nifer yr unedau Gofal Ychwanegol a ddatblygir (fel y nodir yn Opsiwn 2a) yn darparu’r trefniadau gorau ar gyfer darparu Tai Gofal Ychwanegol gyda Chyfleusterau Cymunedol ar safle Awelon. Fodd bynnag, cydnabuwyd bod angen cynnal trafodaethau pellach gyda phwyllgor Canolfan Awelon i sicrhau y gall y cynllun terfynol ddarparu’r gweithgareddau cymunedol y maent eisoes yn eu darparu.

Mae hyn yn bodloni'r dewis a ffefrir gan y Cabinet yn dilyn trafod ym mis Mai 2016 a bydd yn sicrhau hyd at 35 o fflatiau Gofal Ychwanegol eraill ar y safle a galluogi’r preswylwyr sydd eisoes yn derbyn gwasanaethau gofal preswyl i barhau i aros ar y safle drwy gydol y cyfnod datblygu os ydynt yn dymuno hynny, ynghyd â pharhau i ddarparu cyfleusterau cymunedol i hyrwyddo annibyniaeth a lleihau arwahanrwydd cymdeithasol.)

Yna, cynigiwyd, eiliwyd a phleidleisiwyd ar yr argymhelliad gwreiddiol, fel y’i nodir yn yr adroddiad. Gan fod mwyafrif y Pwyllgor wedi ymatal rhag pleidleisio ar yr argymhelliad gwreiddiol, bydd yr argymhelliad diwygiedig fel y'i nodir uchod yn cael ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo.  Gofynnodd yr Aelodau hefyd am i’r adroddiad i’r Cabinet ddatgan yn eglur pam nad yw Opsiwn 1 yn cael ei ystyried yn ddewis ymarferol.

 

 

Dogfennau ategol: