Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/0269/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD diddymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cynghorydd Mellor gysylltiad personol yn yr eitem hon gan ei fod yn adnabod dau o'r tystion yn yr achos hwn a gadawodd y cyfarfod pan fu’r pwyllgor yn ystyried yr eitem hon]

 

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        15/0269/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat wedi cwyn am gythraul gyrru;

(iii)      manylion ac amgylchiadau yn gysylltiedig â'r drosedd wedi’u rhoi ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig ac roedd dogfennaeth ynghlwm wrth yr adroddiad;

 

(iv)      roedd y Gyrrwr wedi ymddangos gerbron y Pwyllgor Trwyddedu o’r blaen ar 10 Mehefin 2015, a chanlyniad yr achos hwnnw, a

 

(v)       bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi’r adolygiad o’i drwydded, ac i ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â'i Gynrychiolydd Cyfreithiol, a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Cynghorodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd y Gyrrwr am ddadlau yn erbyn y mwyafrif o’r honiadau yn natganiadau’r tystion ac roedd wedi derbyn ei ymddygiad yn ystod y cyfweliad.  Rhoddodd fanylion am yr amgylchiadau’n arwain at y digwyddiad oedd yn ymwneud â symudiad tancer ar gyffordd.  Yn dilyn y symudiad roedd y Gyrrwr wedi gollwng ei deithwyr ac wedi mynd yn ôl i weld gyrrwr y tancer er mwyn trafod ei ffordd o yrru.  Fodd bynnag gwrthododd gyrrwr y tancer â siarad ag ef a cherddodd i ffwrdd ac ar y pryd hynny rhegodd arno.  Nid oedd bwriad dadlau ond roedd y ffordd roedd gyrrwr y tancer wedi ymateb wedi achosi iddo golli ei dymer.  Cyfaddefodd y Gyrrwr ei fod wedi ymddwyn yn annerbyniol ac roedd wedi cynnig ysgwyd llaw dair gwaith.  Roedd yn cydnabod yn llwyr fod ei ymddygiad yn annerbyniol ac roedd yn ymwybodol o ddifrifoldeb y sefyllfa ac roedd yn edifar.  Tra bo’r Gyrrwr wedi bod o flaen y pwyllgor ym mis Mehefin 2015 roedd natur yr achos hwnnw wedi bod yn wahanol ac fe gyfaddefodd y Gyrrwr ei euogrwydd ar yr achos hwnnw.  Darparwyd esiamplau o gymeriad da'r Gyrrwr a chynghorwyd aelodau ei fod wedi dal trwydded y tu allan i’r ardal ac roedd â record hollol lân.  Rhoddwyd manylion amgylchiadau personol y Gyrrwr a allai fod wedi effeithio ei ymateb i ryw raddau a dywedwyd y byddai colli ei drwydded yn golygu caledi ariannol. 

 

Cymerodd Aelodau’r cyfle i gwestiynau’r Gyrrwr ar ddatganiad ei gyfweliad a’i fersiwn o’r digwyddiad a holwyd iddo beth oedd wedi bwriadu ei ennill o'i weithredoedd.  Cynghorodd y Gyrrwr nad oedd wedi paratoi ar gyfer y cyfweliad gan nad oedd wedi cael gwybod beth oedd natur y gwyn ond o dan bwysau fe wnaeth gadarnhau fod ganddo syniad.  Ymhelaethodd ar y digwyddiad o’i bersbectif ef gan ddweud ei fod yn teimlo ei fod wedi ei fwlio gan yrrwr y tancer a'i fod am ei holi am ei ddull o yrru ond roedd wedi ei bryfocio a chollodd ei dymer a chyfaddefodd wrth edrych yn ôl na fyddai’n cymryd y camau hynny eto.  Dadleuodd ei fod wedi ei hel o’r eiddo a’i fod wedi ceisio ymddiheuro ar y pryd.  Fel gyrrwr trwyddedig roedd yn gweld digwyddiadau traffig niferus yn aml heb ddial a dywedodd fod yr achos hwn yn enghraifft brin na fyddai’n cael ei ailadrodd yn y dyfodol.

 

Yn ei ddatganiad terfynol ailadroddodd y Cynrychiolydd Cyfreithiol nad oedd yn fwriad gan y Gyrrwr achosi dadl pan aeth yn ôl i weld gyrrwr y tanc ac roedd yn wir edifar am yr hyn oedd wedi digwydd.  Roedd y Gyrrwr wedi dysgu o’r profiad a byddai’n gweithredu’n wahanol pe bai'n wynebu amgylchiadau tebyg yn y dyfodol.  Cyflwynwyd na fu unrhyw ddigwyddiadau eraill o'r math hwn ac nad oedd y Gyrrwr yn tueddu i ddioddef o gythraul gyrru a'i fod yn fodlon ymddiheuro'n bersonol i yrrwr y tanc.  Nid oedd y Gyrrwr ar unrhyw adeg wedi ceisio dadlau ei ran yn beth ddigwyddodd ond roedd yn edifar ac yn cydnabod fod ei ymddygiad yn annerbyniol.  Wrth ystyried y cosbau gofynnwyd i’r pwyllgor beidio dirymu’r drwydded ond os oedd yr aelodau o blaid atal y drwydded dylai fod yn gymesur.

 

Ar y pwynt hwn, gohiriodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PENDERFYNWYD dirymu trwydded yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat Gyrrwr Rhif 15/0269/TXJDR ar sail diogelwch y cyhoedd ar unwaith.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Rhoddodd yr Aelodau ystyriaeth ofalus i’r dystiolaeth a gyflwynwyd yn yr achos hwn, ynghyd â'r esboniad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ddatganiad lliniarol.  Tra'r oedd yr aelodau’n teimlo fod y Gyrrwr wedi derbyn ei fod wedi gwneud y peth anghywir a'i fod yn edifaru, nid oeddynt yn credu ei fersiwn o'r digwyddiadau yn llwyr ac roeddynt o’r farn ei fod wedi mynd i weld gyrrwr y tanc er mwyn ei wynebu a’i herio. Roedd ymddygiad a ffordd y Gyrrwr wrth ateb y cwestiynau yn ogystal  â’r digwyddiad ei hun yn achosi’r pwyllgor i gredu ei fod yn ei chael hi'n anodd rheoli ei dymer ac roeddynt yn cwestiynu ei ffordd o feddwl o fynd yn ôl i wynebu gyrrwr y tancer ar ôl y digwyddiad, yn hytrach na gweithredu mewn dull arall, fel adrodd am y digwyddiad.    Nid oedd y pwyllgor wedi eu perswadio taw digwyddiad ynysig oedd hwn ac nid oeddynt wedi eu sicrhau na fyddai digwyddiad tebyg yn digwydd eto yn y dyfodol mewn amgylchiadau tebyg a fyddai’n rhoi aelodau o'r cyhoedd mewn peryg.  Cwestiynwyd uniondeb cymeriad y Gyrrwr hefyd o ystyried iddo ddweud yn y man cyntaf nad oedd syniad ganddo pam y cafodd ei gyfweld.  Ystyriaeth bwysicaf y pwyllgor oedd diogelwch y cyhoedd ac roedd ganddynt ddyletswydd i warchod y cyhoedd oedd yn teithio rhag Gyrrwr oedd wedi arddangos y gallu i golli ei dymer, dychwelyd i leoliad digwyddiad oedd wedi dod i ben a defnyddio iaith ddifrïol ac afiach, lle bu gofyn iddo adael y safle.  Nododd Aelodau hefyd fod y Gyrrwr wedi diystyru rhybudd blaenorol am ei ymddygiad yn y dyfodol bymtheg mis yn unig ynghynt ac roedd ei ymddygiad yn adlewyrchu’n wael ar y diwydiant ac ar y cyngor.  O ganlyniad roedd y pwyllgor yn teimlo nad oedd y Gyrrwr yn addas a chymwys ac nad oedd ganddo’r priodoleddau angenrheidiol i fod yn yrrwr trwyddedig a phenderfynwyd dirymu'r drwydded yn syth ar sail diogelwch y cyhoedd.  Diystyriodd y pwyllgor yr effaith y byddai dirymu neu atal dros dro yn ei gael ar ei fywoliaeth a’i amgylchiadau teuluol gan nad oedd yn ystyriaeth berthnasol wrth edrych ar ei gymeriad a’i addasrwydd fel gyrrwr.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau eu cyfleu felly i'r Gyrrwr a chafodd wybod am ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad i Lys yr Ynadon o fewn 21 diwrnod.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.45 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: