Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 509827

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 509827.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  509827 ond bod y drwydded yn cael ei gwahardd am fis.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif

(ii)        509827 i ddal trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn croniad o 12 pwynt cosb ar ei Drwydded Yrru DVLA rhwng Gorffennaf 2013 hyd at Ebrill 2016 yn ymwneud â defnyddio cerbyd heb ei yswirio (6 pwynt) a 2 achos o oryrru (cyfanswm o 6 pwynt);

(iii)      swyddogion heb fod mewn sefyllfa i adnewyddu cais y gyrrwr oherwydd yr euogfarnau moduro a ddatgelwyd yn dilyn gwiriad arferol ar ei drwydded yrru DVLA oedd hefyd wedi datgelu cyflwr na ddatganwyd gan y Gyrrwr ar ei gais adnewyddu oedd yn ymwneud  â defnyddio cerbyd heb ei yswirio.

 

(iv)      polisi presennol y Cyngor mewn perthynas â pherthnasedd euogfarnau, a

 

(v)       roedd y Gyrrwr wedi ei wahodd i ddod i'r cyfarfod i gefnogi ei gais adnewyddu ac i ateb cwestiynau'r aelodau ar hynny.

 

Cadarnhaodd y Gyrrwr ei fod wedi derbyn adroddiad a gweithdrefnau’r pwyllgor.

 

Rhoddodd Rheolwr Busnes Gwarchod y Cyhoedd (IM) grynodeb o’r adroddiad ac amlinellodd ffeithiau'r achos.

 

Wrth gyflwyno ei achos eglurodd y Gyrrwr fod ganddo chwe phwynt cosb yn parhau ar ei drwydded am ddwy drosedd o oryrru.  Roedd y chwe phwynt cosb a roddwyd ar ei drwydded fis Gorffennaf 2013 am yrru cerbyd heb ei drwyddedu bellach wedi eu disbyddu.  Ymddangosodd y Gyrrwr o flaen y pwyllgor wrth wneud ei gais cyntaf i egluro'r amgylchiadau ynglŷn â'r gollfarn wedi'i disbyddu honno a dyfarnwyd ei drwydded iddo.  Roedd wedi bod o dan y camddealltwriaeth y byddai’r manylion hynny yn cael eu cadw ar ffeil ac er iddo sôn am y drosedd o yrru cerbyd heb ei drwyddedu wrth gyflwyno ei gais adnewyddu nid oedd wedi datgan hynny ar ei ffurflen adnewyddu.  Eglurodd y Gyrrwr hefyd yr amgylchiadau ynghylch y troseddau goryrru a chadarnhaodd ei fod yn cario teithiwr oedd yn talu ar adeg yr ail drosedd goryrru.  Yn olaf cyflwynodd y Gyrrwr ddogfen yswiriant yn cadarnhau ei 7 blynedd o fonws am beidio hawlio.  Yn ei ddatganiad terfynol dywedodd y Gyrrwr ei fod o gymeriad da, yn yrrwr diogel a chyfrifol ac yn ŵr teulu oedd yn gweithio’n galed.

 

Yn y fan hon, cafodd y pwyllgor egwyl i ystyried y cais.

 

Roedd Aelodau am gael eglurder pellach ynglŷn â'r broses am geisiadau i adnewyddu gan ei fod yn berthnasol i'r achos hwn a chadarnhawyd er bod y Gyrrwr wedi datgan y gollfarn oedd bellach wedi'i disbyddu wrth wneud cais yn y lle cyntaf (a ddaethpwyd gerbron y pwyllgor) roedd wedi methu datgan y gollfarn honno ar ei ffurflen adnewyddu lle nodir yn glir fod yn rhaid i ymgeiswyr ddatgan collfarnau moduro am y 5 mlynedd diwethaf.  O dan y weithdrefn cronni ystyriwyd fod yr euogfarn wedi’i disbyddu ar ôl 3 blynedd, fodd bynnag roedd yn parhau ar ei drwydded yrru DVLA am gyfanswm o 4 blynedd.

 

Yn ystod trafodaethau roedd barn gymysg ynglŷn â’r gosb fwyaf addas yn yr achos hwn a chafodd atal dros dro a rhybudd ffurfiol eu hawgrymu gan aelodau.  O'i roi i’r bleidlais -

 

PENDERFYNWYD caniatáu cais i adnewyddu trwydded i yrru cerbyd hacni a cherbydau hurio preifat gan Yrrwr Rhif  509302 ond bod y drwydded yn cael ei hatal am fis.

 

Dyma oedd y rhesymau dros benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Ystyriodd Aelodau ffeithiau’r achos a’r eglurhad a roddwyd gan y Gyrrwr yn ei ble lliniaru yn ofalus.  Mynegodd y pwyllgor bryderon difrifol fod y Gyrrwr wedi derbyn dau euogfarn goryrru yn ogystal â'r drosedd traffig sylweddol o fewn cyfnod o dair blynedd a’i fod wedi methu datgan ei holl euogfarnau moduro ar ei gais adnewyddu, er bod cyfarwyddyd clir i wneud hynny, nad oedd yn adlewyrchu'n dda ar ei gymeriad.  Wrth ystyried y cais roedd aelodau yn fodlon fod y Gyrrwr yn unigolyn cymwys ac addas i ddal trwydded a chytunwyd i ganiatáu’r cais adnewyddu.  Fodd bynnag bu cymysgedd barn wrth ystyried y gosb yn yr achos hwn ond wedi pleidlais penderfynwyd atal y drwydded am fis.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

 

Dogfennau ategol: