Eitem ar yr agenda
RHEOLI DŴR A LLINIARU LLIFOGYDD
Trafod mesurau rheoli dŵr a lliniaru
llifogydd a'u heffaith bosibl ar drigolion ac eiddo yn Sir Ddinbych gyda
chynrychiolwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Ddinbych.
10:45am- 11:30am
Cofnodion:
Croesawyd Mr Keith Ivens, Rheolwr Gweithrediadau
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac Uwch Beiriannydd y Cyngor - Rheoli Perygl
Llifogydd i’r cyfarfod gan y Cadeirydd i hwyluso trafodaeth ar reoli dŵr a
mesurau lliniaru llifogydd yn Sir Ddinbych. Yn ystod y drafodaeth, cododd yr aelodau
nifer o bryderon mewn perthynas â chynnal afonydd, nentydd, ffosydd a llifoedd,
gan holi pwy oedd yn gyfrifol am eu cynnal a’u clirio.
Mewn ymateb i gwestiynau'r Pwyllgor, dywedodd y
ddau swyddog:
• gweithiodd yr
awdurdod lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn agos gyda’i gilydd i liniaru risg i
fywyd ac eiddo rhag llifogydd o ‘brif’ afonydd;
• Rhestrir gwaith
cynnal a chadw a gynlluniwyd ar bob prif afon a chwrs dŵr dan
oruchwyliaeth CNC ar ‘Rhaglen Cynnal a Chadw Arferol Gogledd Cymru 2016/17’ ar
wefan Cyfoeth Naturiol Cymru
• Lluniwyd
amserlenni cynnal a chadw Cyfoeth Naturiol Cymru yn seiliedig ar asesiad risg a
dyraniad cyllideb sydd ar gael. Mae gwaith modelu eisoes wedi cael ei
raglennu ar gyfer 2017-18 er mwyn deall a ellid gwella isadeiledd a threfnau
cynnal a chadw Ffos y Rhyl. Fodd bynnag, nid oedd Ffos y Rhyl yn cael
ei hystyried yn ardal lle’r oedd perygl mawr ar hyn o bryd, gan fod tri phwynt
allanfa ar gyfer dŵr o’r Ffos, gan gynnwys gorsaf bwmpio a leolir yno;
• Roedd yr
arwyddion yn awgrymu fod cynnydd mewn cyfnodau o law trwm iawn yn y blynyddoedd
diwethaf ac roedd hyn yn dod yn anodd i’w ragweld a’i reoli mewn perthynas â
gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr;
• Roedd
cyfrifoldeb am oruchwylio gwaith cynnal a chadw cyrsiau dŵr ar draws Cymru
yn cael ei bennu gan ddynodiad pob cwrs dŵr. Roedd CNC yn gyfrifol am oruchwylio ‘prif afonydd’
- roedd y rhain yn cynnwys prif afonydd / afonydd mawr, nentydd a rhai cyrsiau
dŵr llai. Mae pob cwrs dŵr agored arall, a elwir yn
‘gyrsiau dŵr arferol’, yn cael eu goruchwylio gan yr awdurdod lleol yn ei
gymhwyster a’r ‘Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol’. Roedd
gwybodaeth am ddynodiadau cyrsiau dŵr ar gael ar wefan CNC;
• Dyrannwyd
cyllideb i CNC a oedd ‘wedi'i glustnodi’ at ddibenion cynnal a chadw ‘prif
afonydd’ at ddibenion dyfrhau ac er mwyn lliniaru’r perygl o lifogydd ar yr
afonydd hynny. Roedd yn rhaid i awdurdodau lleol (awdurdodau
llifogydd lleol arweiniol) ariannu unrhyw waith Rheoli Perygl Llifogydd o’i
gyllideb nad oedd wedi’i glustnodi;
• Er bod gan CNC, awdurdodau lleol a thirfeddianwyr lleol
ddyletswyddau mewn perthynas â rheoli dŵr a'r perygl o lifogydd, rhannwyd
y rhain yn ddau gategori - cyfrifoldebau ac awdurdodaeth. Roedd
dyletswyddau a oedd yn perthyn i’r categori cyntaf yn rhoi cyfrifoldeb
cyfreithiol ar berchennog glan yr afon i wneud gwaith lliniaru/ rheoli
dŵr. Er bod gan CNC ac awdurdodau lleol rymoedd deddfwriaethol i wneud gwaith ar
gyrsiau dŵr, nid oes unrhyw ymrwymiad arnynt i wneud hynny;
• Roedd cyllid
cyfalaf a ddyrannwyd i CNC yn tueddu i fod tuag at waith lliniaru llifogydd
lle'r oedd perygl mawr e.e. gwaith lliniaru llifogydd, ond roedd cyllid refeniw
yn fwy tebygol o gael ei ddefnyddio ar gyfer gwaith atal llifogydd/ cynnal a
chadw afonydd;
• Roedd
dyletswyddau perchnogion glannau afonydd mewn perthynas â chyrsiau dŵr yn
unol â Deddf Draenio Tir 1991, yn ymestyn i sicrhau nad oedd llif dŵr
drwy’r tir yn cael ei atal.
• Roedd yr orsaf bwmpio ger Gwersyll Gwyliau Lyons yn y
Rhyl a fethodd yn ystod y digwyddiad glaw trwm yn haf 2016 yn eiddo i Ddŵr
Cymru ac nid CNC. Roedd y Cyngor wedi cysylltu â Dŵr Cymru i
ofyn am sicrwydd ynglŷn â dibynadwyedd y pwmp hwn;
• Prif ganolbwynt
gwaith CNC oedd cyflawni gwaith lliniaru a rheoli llifogydd lle’r oedd
bygythiad i fywyd neu eiddo. Os byddent yn dod o hyd i broblemau nad
oedd yn peryglu bywyd neu eiddo, byddent yn rhoi gwybod i berchennog glan yr
afon am y broblem. Mae gan CNC ddogfen ganllaw sydd ar gael i
berchnogion glannau afonydd, a hyrwyddwyd yn eang drwy’r undebau ffermio. Roedd
y Cyngor hefyd mewn cyswllt rheolaidd gyda thirfeddianwyr ar faterion o berygl
neu bryder;
• Cynhaliwyd
astudiaeth gan CNC yn edrych ar effeithiolrwydd posibl ‘rheoli perygl
llifogydd' h.y. yn nalgylch yr afonydd Elwy a Chlwyd. Un enghraifft o reoli perygl llifogydd naturiol
yw'r gwaith ar y cyd rhwng CNC a Choed Cymru, lle plannwyd coed gyda’r bwriad o
leihau cyfaint y dŵr a oedd yn llifo i lawr yr afon ac arafu ei llif. Casgliad yr astudiaeth oedd bod cyfleoedd am reoli perygl llifogydd
naturiol yn eithaf cyfyngedig ar ddalgylchoedd Elwy a Clwyd.
• er y cydnabuwyd
ers tro fod coedwigo yn ddull effeithiol i leihau’r dŵr a oedd yn llifo i
lawr yr afon ac i arafu llif y dŵr, roedd ymchwil diweddar yn awgrymu na
fyddai torri coed ar raddfa fechan, fel yr hyn a fwriadwyd ei wneud yn ardal
Coedwig Clocaenog ger Cyffylliog er mwyn codi tyrbinau gwynt, yn cael effaith
andwyol hirdymor ar lefelau afonydd a llif dŵr yn yr ardal honno nac ymhellach
i lawr yr afon. Roedd Aelodau’n amheus o’r dybiaeth hon;
• nid oedd unrhyw fesurau ‘gwyrddu’, tebyg i’r rhai a
dreialwyd yng ngogledd Lloegr lle’r anogwyd ffermwyr i beidio â charthu ffosydd
nac agor ffosydd newydd gyda’r bwriad i liniaru perygl llifogydd, wedi eu
cymryd yn Sir Ddinbych;
• gallai
cynlluniau tebyg i gynllun Ffermwyr Pontbren yn ardal Llanfair Caereinion yng
ngogledd Powys fod yn fuddiol mewn ardaloedd eraill at ddibenion amaeth,
bioamrywiaeth, rheoli dŵr a lliniaru llifogydd;
• ar gyfer
datblygiadau tai ar raddfa fawr, roedd yn ofynnol i ddatblygwyr, fel rhan o’r
cais cynllunio, arddangos na fyddent yn cynyddu cyfradd llif dŵr arwyneb
mewn cyrsiau dŵr ac ati. Yn
gyffredinol, mae datblygwyr yn dueddol o wneud cais i Ddŵr Cymru am
ganiatâd i gysylltu â’r system garthffosydd lleol. Caniatawyd
hyn lle bo hynny’n ‘ymarferol’. Pe na bai gallu yn y system garthffosydd,
roedd y datblygwr yna’n tueddu i wneud cais cynllunio am waith trin preifat, ac
roedd hwn yn ddull yr oedd CNC yn dueddol o’i ystyried yn anffafriol;
• Roedd CNC yn
barod i drafod gyda thirfeddianwyr am unrhyw gynlluniau oedd ganddynt i garthu
neu reoli cyrsiau dŵr ar eu tir.
Roedd angen trwyddedau er
mwyn gwneud y math hwn o waith. Fodd bynnag, roedd y broses o geisio am
drwyddedau yn gymharol hyblyg a gallai ganiatáu cais am drwyddedau cyfnodol
e.e. trwydded garthu/ cynnal a chadw blynyddol;
• Ni fyddai CNC
fel arfer yn tynnu gwrthrychau / pethau dieithr o afonydd oni bai eu bod yn
peryglu bywyd neu eiddo, neu berygl ar unwaith o lifogydd;
• ni fyddai CNC
fel arfer yn gorfodi tirfeddianwyr i wneud gwaith cynnal a chadw ar gyrsiau
dŵr oni bai fod perygl i fywyd neu eiddo. Os
penderfynwyd fod perygl o’r fath, gallai CNC fynd ar y tir i wneud y gwaith a
lleihau’r risg, ac yna wedi hynny godi tâl ar y tirfeddiannwr am y gwaith a
wnaed. Hyd gwybodaeth y cynrychiolydd nid oedd y dull
gweithredu hwn wedi ei ddefnyddio yn y blynyddoedd diwethaf;
• roedd pryderon
iechyd a diogelwch yn ymwneud ag adeileddau pontydd, hyd yn oed os oedd y
pwysau arnynt yn sgil llif dŵr, yn fater i’r awdurdod lleol nid CNC gan
mai cyfrifoldeb yr awdurdod lleol oedd adeileddau fel pontydd; a
• rhagwelwyd y
byddai penderfyniad y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn y tymor hir, yn cael
effaith niweidiol ar gyllid CNC ar gyfer prosiectau cyfalaf ar raddfa fawr, gan
fod pob cynllun lliniaru llifogydd / amddiffynfeydd môr diweddar wedi cael eu
darparu yn bennaf gyda chyllid Ewropeaidd;
Gofynnodd aelodau i:
• Pryderon a
godwyd mewn perthynas â dŵr ffo o ardaloedd ag arwyneb caled i ffosydd lleol
yn ardal Gallt Melyd unwaith y byddai datblygiadau yn y Cynllun Datblygu Lleol
(CDLl) yn cael eu codi gan swyddogion CNC yn eu cyfarfod gweithredol nesaf;
• dylai
swyddogion CNC a’r Cyngor gyfarfod gyda chynghorwyr sir yn ardal y Rhyl a
Phrestatyn i drafod pryderon mewn perthynas â pheryglon llifogydd yn yr ardal
leol; a
• yn sgil y
cymhlethdodau yn ynghylch materion sy’n ymwneud â dŵr a rheoli perygl
llifogydd, gan gynnwys dyletswyddau a chyfrifoldebau gwahanol sefydliadau mewn
perthynas â chyrsiau dŵr ac adeileddau sy’n croesi afonydd ac ar lannau
afonydd, ni ellir rhoi cyflwyniad i bob cynghorydd sir yn ystod sesiwn
Friffio’r Cyngor ar bob un o’r agweddau hyn. Awgrymwyd,
er mwyn ei gwneud yn haws i gyfeirio ato y dylai darluniau gael eu defnyddio i
egluro'r gwahanol gyfrifoldebau, ac esiamplau a ddefnyddir i amlygu sut y mae
pob budd-ddeiliaid yn cydweithio i osgoi rhag i sefyllfaoedd ddatblygu i fod yn
achosion difrifol;
Diolchodd y Cadeirydd i’r ddau swyddog am fod yn
bresennol ac am ateb cwestiynau’r aelodau. Roedd yn teimlo fod gan y Cyngor ran i’w chwarae
wrth gyfathrebu eglurder am swyddogaeth bob budd-ddeliad unigol mewn perthynas
â gwaith rheoli dŵr a lliniaru llifogydd. Felly:
PENDERFYNWYD: - bod:
(i) Cyflwyniad yn cael ei roi yn ystod cyfarfod Briffio'r Cyngor ar yr
etholiadau awdurdod lleol ym mis Mai 2017 at ddibenion cynorthwyo cynghorwyr i
ddeall cyfrifoldebau statudol y Cyngor Sir, fel Awdurdod Llifogydd Lleol
Arweiniol, a Chyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â rheoli dŵr a
llifogydd, gan gynnwys cyfrifoldebau cynnal a chadw arfordirol ac afonydd, a
sut y mae'r ddau sefydliad yn cydweithio i liniaru risgiau llifogydd; ac
(ii) Yn y cyfamser, dylid paratoi a chyflwyno datganiad i’r wasg i’w gynnwys yn atodiad ‘Farm and Country’ y Daily Post ar sut y gall perchnogion glannau afonydd ymgeisio am drwyddedau i wneud gwaith cynnal a chadw o bryd i’w gilydd ar gyrsiau dŵr sy’n croesi eu tir.