Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

POLISI CLUDIANT O’R CARTREF I’R YSGOL SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Addysg (copi ynghlwm) yn diweddaru'r aelodau ar yr adolygiad o Bolisi Cludiant o’r Cartref i'r Ysgol Sir Ddinbych.

 

09:40am- 10:30am

 

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd Mrs Kathy Jones, a oedd wedi’i phenodi’n ddiweddar gan yr Eglwys Gatholig i wasanaethu fel ei gynrychiolydd cyfetholedig ar gyfer materion yn ymwneud ag addysg ar y Pwyllgor Archwilio, i’w chyfarfod cyntaf.

 

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg yr adroddiad cyfrinachol (a gylchredwyd yn flaenorol) a ddiweddarodd y Pwyllgor ar yr adolygiad o Bolisi Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol y Sir a oedd yn gweithredu ar hyn o bryd.  Atodwyd copi o fersiwn ddiweddaraf y Polisi drafft i’r adroddiad er gwybodaeth yr aelodau.  Rhoddodd y Pennaeth Addysg drosolwg byr o'r cefndir a oedd wedi arwain at y penderfyniad i adolygu’r polisi yn 2014, a’r adolygiad presennol dilynol o’r Polisi.  Dywedodd eu bod wedi gofyn am gyngor cyfreithiol ar elfennau o’r Polisi diwygiedig i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofynion sy’n llywodraethu cludiant o’r cartref i’r ysgol yn ogystal â deddfwriaeth arall sy’n ymwneud â diogelu a lles.  Dywedodd y Pennaeth Addysg a swyddogion eraill wrth aelodau fod y Polisi diwygiedig, cyn belled a bod hynny’n bosibl yn rhesymol, yn ystyried y pwyntiau a godwyd yn flaenorol gan gynghorwyr a rhieni yn ystod gweithrediad y polisi yn dilyn adolygiad 2014, gofynion Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008, y berthynas agos rhwng ysgolion cynradd ‘bwydo’ a’u hysgolion uwchradd cysylltiedig, y polisi llwybrau peryglus i'r ysgol, polisi teithio dewisol a hefyd hygyrchedd y broses apeliadau ar gyfer rheini/ gwarcheidwaid.

 

Wrth ymateb i gwestiynau aelodau dywedodd yr Aelod Arweiniol, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd a’r Rheolwr Adnoddau a Chymorth Addysg (Cynllunio ac Adnoddau) fod:

 

           y Cyngor o’r farn ei bod yn bwysig cael cyngor cyfreithiol ar gynnwys y polisi drafft cyn ymgynghori â’r cyhoedd ar y cynigion oedd wedi eu cynnwys ynddo,

           Caniatáu rhieni/ gwarcheidwaid i gwrdd â swyddogion fel rhan o’r broses Apeliadau wedi bod yn hynod ddefnyddiol.  Byddai trafodaethau gyda rhieni/ gwarcheidwaid yn cael eu cynnwys rŵan yn y polisi mewn perthynas â ‘darpariaethau dewisol’, gan mai yn ystod trafodaethau o’r fath a sgyrsiau wyneb i wyneb yr oedd amgylchiadau unigol yn cael eu harchwilio a’u deall yn gywir;

           roedd y term ‘ysgol addas agosaf’ yn cynnwys cludiant i ysgolion ffydd y tu allan i’r sir os mai honno oedd ysgol ffydd agosaf y disgybl;

           roedd barn gyfreithiol eisoes wedi’i derbyn ar rai elfennau o’r polisi diwygiedig, roeddem yn dal i aros am gyngor yr ymgynghorydd cyfreithiol ar elfennau eraill.  Roedd y farn a dderbyniwyd hyd yma yn ffafriol;

           prif nod y polisi diwygiedig oedd sicrhau fod y disgyblion cywir yn derbyn y cludiant yr oed ganddynt yr hawl i’w dderbyn i’w ‘hysgol agosaf briodol’.  Unwaith y pennwyd hynny, gellid rhoi ystyriaeth i geisiadau cludiant gostyngol, gan gynnwys cyfathrebu clir gyda rhieni/ gwarcheidwaid y disgyblion y dyfarnwyd cludiant gostyngol iddynt ar yr amser y dyfarnwyd y cludiant gostyngol;

           byddai asesiad effaith yn cael ei chynnal ar bob cais am drefniadau teithio, statudol a dewisol;

           byddai’r polisi yn mynd i'r afael ag unrhyw anghysonderau a ddaeth i’r amlwg o dan yr adolygiad blaenorol h.y. perthnasau wedi eu hen sefydlu gydag ysgol uwchradd fel ‘ysgol fwydo’ er mwyn peidio â chael effaith negyddol ar ysgolion penodol a’u disgyblion;

           Byddai pob ymdrech yn cael ei gwneud i ymgymryd ag ymgynghoriad cyhoeddus ar y polisi diwygiedig yn ystod y tymor er mwyn sicrhau y byddai cyfle digonol i bob budd-ddeiliad i gyflwyno eu barn;

           Fel rhan o’r broses ymgynghori, byddai cyfarfodydd yn cael eu cynnal i drafod y polisi diwygiedig bwriedig gydag unrhyw barti cysylltiedig h.y. Fforwm Llywodraethwyr Ysgol, Cynhadledd Penaethiaid; pob llywodraethwr ysgol ac ati. Byddai cyfeiriad at y polisi diwygiedig yn cael ei gynnwys yn y Newyddlen Addysg newydd a drefnwyd i’w dosbarthu i rieni yn fuan yn y flwyddyn newydd;

           amlinellwyd yr amserlen ar gyfer y broses adolygu polisi, gan gynnwys y cyfnod ymgynghori yn yr adroddiad.  Rhagwelwyd y byddai’r cam ymgynghori cyhoeddus yn dechrau’n fuan yn y flwyddyn newydd gyda’r bwriad o gwblhau’r polisi yn ystod rhan gyntaf yr haf ac i'r Cyngor ei gymeradwyo ym mis Medi 2017 i'w weithredu ym mis Medi 2018;

           Cydnabuwyd y byddai effaith ar gyllideb y Cyngor unwaith y byddai’r polisi diwygiedig yn cael ei weithredu.  Roedd ymrwymiad statudol ar y Cyngor i ddarparu cludiant i’r ysgol i’r disgyblion hynny a oedd yn gymwys i'w gael, gan gynnwys disgyblion gydag anghenion addysgol arbennig (AAA), felly byddai’n rhaid dod o hyd i unrhyw gyllid ychwanegol;

           roedd yn hanfodol i gael y polisi yn iawn i alluogi cyfrifiadau cywir o’r gyllideb oedd ei hangen mewn gwirionedd i'w ddarparu;

           os oedd gan unrhyw un bryderon mewn perthynas ag a oedd unrhyw ysgolion yn darparu’r cwricwlwm yn unol â’r dynodiad categori, dylai'r pryderon hynny gael eu codi gyda'r Gwasanaeth Addysg i'w alluogi i ymchwilio iddynt.

 

Cyn cwblhau’r drafodaeth, diolchodd y Cadeirydd i’r Aelod Arweiniol a swyddogion am yr holl waith oedd wedi’i wneud yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gyda’r bwriad o ddatblygu polisi teg a chyfiawn.  Roedd o’r pwysigrwydd mwyaf i gydbwyso’r gyllideb gydag ymrwymiadau statudol y Cyngor.  Gan gydnabod y byddai bob amser rhyw anghysonderau pan oedd y rheolau’n cael eu gweithredu dywedodd fod y Pwyllgor wedi eu calonogi gan y ffaith y byddai trafodaethau’n cael eu cynnal gyda rhieni/ gwarcheidwaid disgyblion unigol a oedd yn apelio yn erbyn penderfyniadau, neu a oedd yn cysylltu â’r Cyngor yn cwestiynu eu hawl.  Pwysleisiodd yr angen i bob cynghorydd sir i gael eu briffio ar y polisi diwygiedig cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus arno.  Felly:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor: -

 (i)        yn amodol ar y sylwadau uchod i gefnogi’r cynnig i fwrw ymlaen â’r cyfnod ymgynghori maes o law, unwaith roedd barn y cynghorydd cyfreithiol wedi ei dderbyn ar bob agwedd ar y polisi diwygiedig a gyfeiriwyd ato/ati am gyngor; a

 (ii)       cyn yr ymgynghoriad cyhoeddus, dylid cyfeirio’r polisi drafft yn ôl i’r Pwyllgor i roi cymeradwyaeth i ymgynghori.

 

 

Dogfennau ategol: