Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHIF Y CAIS 03/2016/0300/PF - TIR ODDI AR FFORDD Y FICERDY, LLANGOLLEN

Ystyried cais i godi 95 o dai, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais i godi 95 annedd, ynghyd â ffyrdd cysylltiedig, mannau agored a gwaith cysylltiedig ar dir oddi ar Ffordd y Ficerdy, Llangollen.

 

Siaradwyr Cyhoeddus -

 

Mr. Lawrence (Yn erbyn) - cododd bryderon ynghylch y cais.  Gwrthwynebodd y ffaith nad yw’r cais presennol yn debyg o gwbl i'r cais a roddwyd yn 1997, pan nad oedd y cae uchaf wedi cael ei ystyried ar gyfer datblygiad. Mynegodd yr angen am fwy o dai fforddiadwy.  Hefyd mynegwyd pryderon ynghylch y pwysau ar ysgolion a faint o le agored y bydd yna o fewn y datblygiad arfaethedig.

 

Mr. Gilbert (O blaid) – rhoddodd gefndir a gwybodaeth am y datblygiad.  Roedd y safle cyfan wedi ei ddyrannu ar gyfer datblygu o fewn y CDLl.  Cafwyd trafodaethau gyda swyddogion cynllunio ac roedd datblygwyr yn cydymffurfio â safonau cynllunio Sir Ddinbych.  Byddai ffordd newydd arfaethedig mewn perthynas â'r cais, a fyddai'n gwella'r problemau ac yn lleddfu pryderon trigolion lleol.

 

Dadl Gyffredinol - Cyfeiriodd y Swyddog Cynllunio at y safle a ddyrannwyd yn cyfuno 2 lain o dir - un yn cynnwys caniatâd cynllunio sy’n bodoli ar gyfer 50 o anheddau a'r ail wedi ei glustnodi yn y CDLl ar gyfer datblygiad o 45 o anheddau. 

 

Yn ystod trafodaeth ddwys, codwyd y pwyntiau canlynol:

 

·       Roedd y caniatâd cynllunio blaenorol yn dal yn fyw oherwydd y ffaith bod y ffordd fynediad i'r datblygiad wedi cael ei hadeiladu o fewn 5 mlynedd o ddyddiad rhoi'r caniatâd cynllunio.

·       Man Agored - Yn dilyn trafodaethau, roedd man agored cyhoeddus mwy, a mwy canolog, wedi cael ei gynnig.  Cynigiwyd bod y cyfrifoldebau rheoli yn gorwedd gyda'r datblygwr / tirfeddiannwr a byddai'n cael ei sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol.  Cynigiwyd £1818.28 yn ychwanegol fel cyfraniad at ddarpariaeth oddi ar y safle.

·       Roedd strategaeth ddraenio wedi’i chyflwyno yn nodi bod ffosydd cerrig yn ddewis realistig ar y safle.  Ystyriodd y Swyddogion bod digon o wybodaeth wedi’i chyflwyno i ddangos y gellid rheoli dŵr budr a dŵr wyneb yn dderbyniol.  Nid oedd union faint a lleoliad y ffosydd cerrig arfaethedig wedi cael ei sefydlu, fodd bynnag, ystyriwyd y gallai'r manylion hyn gael eu rheoli’n rhesymol drwy amod.

·       Roedd pryderon amrywiol wedi'u codi mewn perthynas ag effaith y datblygiad mewn perthynas â'r rhwydwaith priffyrdd lleol a diogelwch y ffyrdd. 

Roedd asesiadau wedi’u cynnal gan yr adran Priffyrdd, ac yn seiliedig ar y cyflwyniad, ynghyd â chasglu gwybodaeth ychwanegol, ystyriodd y Swyddogion Priffyrdd y byddai'n angenrheidiol bod y ffordd fynediad newydd yn cael ei chwblhau cyn adeiladu unrhyw anheddau.  Byddai hyn yn caniatáu i draffig adeiladu sy’n ymwneud â'r tai i ddefnyddio hon fel llwybr i mewn i'r safle.  Gan ystyried ymatebion yr ymgynghorai technegol, manylion y trefniadau mynediad a pharcio arfaethedig, dyluniad cyffyrdd, lleoliad y safle a graddfa'r datblygiad, ni ystyriwyd y byddai'r datblygiad yn cael effaith annerbyniol ar y rhwydwaith priffyrdd lleol.

·       Y cynnig oedd codi 95 o anheddau ar 3.7 hectar. 

Byddai hyn yn cynrychioli dwysedd o 26 o anheddau fesul hectar, a oedd yn is na’r ffigwr a fyddai'n codi o gymhwyso'r ffigur Polisi RD1, o 35 annedd fesul hectar.

·       Gwnaethpwyd cytundeb gyda'r datblygwyr mewn perthynas â chyfraniad addysg a gynigiwyd i'w sicrhau drwy gytundeb cyfreithiol.

·       Cafodd ei gadarnhau gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y cais ar gyfer 95 o anheddau, a oedd yn cynnwys cais blaenorol am 50 o anheddau.  Roedd y caniatâd cynllunio a oedd yn bodoli, ar gyfer gosodiad a dyluniad gwahanol.  Roedd y cais presennol ar gyfer y safle cyfan o 95 o anheddau.

·       Fe wnaeth nifer o Aelodau gwestiynu dyraniad y tai fforddiadwy.  Eglurodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y caniatâd cynllunio ar gyfer 50 o dai yn bodoli cyn y gofyniad tai fforddiadwy, ac felly derbyniodd, drwy gyd-drafod, ar gyfer y 10% o 45 annedd yn dai fforddiadwy.  Byddai hyn yn cyfateb i 4 uned tai fforddiadwy gyda thaliad ychwanegol o £47,074.50 wedi’i gynnig tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle.  Ystyriodd y Swyddogion fod yn rhaid rhoi pwysau sylweddol i ganiatâd sy'n bodoli.

·       Mynegodd yr aelodau eu hanghytundeb â’r cyfrifiad a mynnwyd y dylai 10% o dai fforddiadwy gael ei ddyrannu i'r safle cyfan o 95 o anheddau. Byddai hyn yn cyfateb i 9 uned tai fforddiadwy gyda thaliad ychwanegol o £47,074.50 wedi’i gynnig tuag at ddarpariaeth oddi ar y safle.

 

Mynegodd yr Aelod Lleol, y Cynghorydd Rhys Hughes, ei anghytundeb gyda’r datblygiad, yn enwedig y dyraniad tai fforddiadwy.  Gofynnodd y Cynghorydd Hughes hefyd bod parcio ychwanegol yn cael ei ddarparu yn agos at Adeiladau'r Castell, fel y nodir ar y cynllun.  Mae'r datblygwr wedi cytuno i un lle parcio i bob aelwyd, ond gofynnodd y Cynghorydd Hughes bod llecynnau ychwanegol yn cael eu darparu.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Merfyn Parry ddiwygiad, a eiliwyd gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, i ganiatáu'r cais gyda'r Cytundeb Adran 106, sy'n gyda 10% o dai fforddiadwy yn gymwys ar gyfer y safle cyfan (95 o anheddau).

 

Byddai union eiriad Adran 106 yn fater i'r swyddog cyfreithiol gwblhau.  Mewn achos o fethiant i gwblhau cytundeb Adran 106 o fewn 12 mis i ddyddiad penderfyniad y pwyllgor cynllunio, byddai'r cais yn cael ei adrodd yn ôl i'r Pwyllgor benderfynu arno yn erbyn y polisïau a'r canllawiau perthnasol ar y pryd.

 

Cynnig - Cynigiodd y Cynghorydd Rhys Hughes y dylid gwrthod y cais, a eiliwyd gan y Cynghorydd Arwel Roberts, ar y sail nad oedd digon o dai fforddiadwy, materion priffyrdd ac effaith ar yr AHNE.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y byddai'r bleidlais ynghylch y diwygiad a gynigiwyd gan y Cynghorydd Merfyn Parry yn digwydd yn y lle cyntaf.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 22

Ymatal - 0

Gwrthod - 0

 

Derbyniwyd y diwygiad yn unfrydol.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y byddai'r bleidlais yn digwydd ynghylch a ddylid rhoi caniatâd cynllunio, yn cynnwys y Cytundeb Adran 106, ar gyfer 10% o 95 o anheddau i'w hystyried ar gyfer tai fforddiadwy, neu i wrthod y cais.

 

PLEIDLAIS:

O blaid - 17

Ymatal - 0

Gwrthod - 6

 

PENDERFYNWYD bod y caniatâd cynllunio'n cael ei ROI yn unol ag argymhelliad y Swyddog yn amodol ar gwblhau Ymrwymiad Adran 106 i sicrhau cyfraniadau tai fforddiadwy yn seiliedig ar 10% o 95 o anheddau a chyfraniadau addysg a mannau agored yn unol ag adroddiad y Swyddog.

 

Dogfennau ategol: