Eitem ar yr agenda
FFORWM PWYLLGORAU SAFONAU GOGLEDD CYMRU
Ystyried
adroddiad (copi ynghlwm) gan y Swyddog Monitro yn hysbysu’r pwyllgor am y
materion a drafodwyd yng nghyfarfod Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a
gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016 yn Llangefni.
Cofnodion:
Cyflwynodd y
Cadeirydd yr eitem yn rhoi gwybod am ei bresenoldeb, gyda'r Swyddog Monitro, yn
Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru, 17 Hydref 2016 yn Llangefni. Yn dilyn y cyfarfod hwnnw roedd wedi cael
e-bost gan Gadeirydd Pwyllgor Safonau Ceredigion ynghylch y potensial i
awdurdodau eraill canolbarth Cymru ymuno â'r Fforwm. Roedd y Cadeirydd wedi cytuno i godi'r mater
yng nghyfarfod nesaf y Fforwm i ystyried a allai aelodaeth y Fforwm gael ei
hymestyn y tu hwnt i Ogledd Cymru, i ddarparu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb
mewn ymuno.
Cyflwynodd y Swyddog Monitro'r adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol), yn
hysbysu'r pwyllgor o'r materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Fforwm a
gynhaliwyd ar 17 Hydref 2016, a fynychwyd hefyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau
Cyhoeddus Cymru a roddodd gyflwyniad ac ateb cwestiynau, gyda manylion y rhain
wedi'u rhoi fel atodiad i’r adroddiad. [Roedd cofnodion cyfarfod y Fforwm
wedi bod ar gael yr wythnos honno ac wedi’u dosbarthu yn y cyfarfod].
Wrth gyflwyno'r
adroddiad, tynnodd y Swyddog Monitro sylw at y canlynol -
·
pwysleisiodd
yr Ombwdsmon ei gefnogaeth ar gyfer datrys cwynion a wnaed gan aelodau
etholedig yn erbyn ei gilydd yn lleol, ac roedd yn credu y byddai'n ddefnyddiol
ymestyn y broses i Gynghorau Tref, Dinas a Chymuned, ond byddai’n fater i bob
pwyllgor safonau ystyried
·
croesawodd
yr Ombwdsmon y gostyngiad yn nifer y cwynion a dderbyniwyd mewn perthynas â
chynghorwyr sir ar draws Cymru, ond bu cynnydd yn nifer y cwynion yn ymwneud â
chynghorwyr tref a chymuned (tri chyngor tref a chymuned wedi cyfrif am 50 o'r
cwynion hynny)
·
nododd
yr Ombwdsmon fod y rhan fwyaf o’r cwynion wedi’u cau ar ôl ystyriaeth
gychwynnol a bod y niferoedd a atgyfeiriwyd at Bwyllgorau Safonau neu Banel
Dyfarnu Cymru’n isel iawn, a oedd yn achos dathlu. Fe fyfyriodd hefyd ynghylch gweithredu ei brawf
lles y cyhoedd a ffactorau sydd i'w cymryd i ystyriaeth wrth gymhwyso’r prawf
hwnnw, nad oedd yn meddwl a oedd yn cael effaith sylweddol ar y canlyniad hwnnw
·
roedd
rheoli adnoddau yn parhau i fod yn fater pwysig i'r Ombwdsmon a roddodd wybod
am gynnydd mewn cwynion gan y sector iechyd, gyda 75% o adnoddau’n cael eu
defnyddio ar hyn o bryd ar gyfer ystyried cwynion iechyd - yn y cyd-destun
hwnnw ni fyddai'n defnyddio’i bwerau i ymchwilio i gwynion lefel isel mewn
perthynas ag aelodau etholedig, ond byddai ond yn delio â'r toriadau amod mwyaf
difrifol, gan gynnwys camddefnyddio grym, bwlio a llygredd
·
yn
dilyn eitem yr Ombwdsmon, ystyriodd y Fforwm ei weithrediad yn y dyfodol a
chytunwyd ei fod yn parhau i fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer dysgu a rhannu
arferion. Penderfynwyd y byddai'r Fforwm
yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn mewn awdurdod gwahanol yn ei dro, ac yn cael
ei gadeirio a'i weinyddu gan yr awdurdod sy’n cynnal, gyda Swyddog Monitro’r
awdurdod sy’n cynnal yn bresennol.
Byddai Sir Ddinbych yn cynnal y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth / Ebrill
2017
·
fe wnaeth
y Fforwm hefyd ystyried mater ynglŷn â chwblhau'r gofrestr o fuddiannau’n
ddwyieithog gan aelodau, a chytunwyd y
byddai pob awdurdod yn edrych ar y sefyllfa yn eu hawdurdodau eu hunain. Cafwyd trafodaeth hefyd ynglŷn ag
argaeledd hyfforddiant cyfryngu ar gyfer aelodau pwyllgor safonau a all fod yn
rhan o’r gweithdrefnau datrysiad lleol.
Roedd y Swyddog Monitro’n gwneud ymholiadau pellach yn hynny o beth gyda
chydweithwyr AD ar draws Gogledd Cymru, o ystyried y byddai dull cydweithredol
o ran hyfforddiant yn helpu i leihau costau.
Cymerodd y
Swyddog Monitro’r cyfle hefyd i ymhelaethu ar y cwestiynau a roddwyd i
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a'r atebion a roddwyd, a oedd wedi'u
cynnwys yn yr atodiad i'r adroddiad.
Tynnwyd sylw’r Aelodau at y pwyntiau canlynol o ddiddordeb -
·
roedd rhai cwestiynau yn ymwneud â'r protocol datrys yn
lleol, ac fe atgoffodd y Swyddog Monitro’r aelodau o'r materion a godwyd ym
Mesur Llywodraeth Leol drafft (Cymru) a ymgynghorwyd arno’n flaenorol, gan
gynnwys yr awgrym bod Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned yn dod yn fwy o faint, a
allai gael effaith ar yr adnoddau a oedd ganddynt i gefnogi hyn
·
nodwyd
nad oedd pob aelod Cyngor Dinas/ Tref/ Cymuned yn aelodau o Un Llais Cymru, ond
y gobaith oedd y gallent i gyd ddefnyddio'r model drafft roeddent wedi’i
gynhyrchu ar brotocolau datrys yn lleol os oeddent yn dymuno gwneud hynny
·
roedd
canllawiau ar sancsiwn wedi'u cyhoeddi gan Banel Dyfarnu Cymru, y gall y
pwyllgor safonau eu hystyried yn ddefnyddiol, a chytunodd y Swyddog Monitro i
geisio cael y canllawiau i'w dosbarthu i aelodau'r pwyllgor [GW i weithredu]
·
cafwyd rhywfaint o drafodaeth ar yr SI newydd h.y.
gwaharddiad dros dro yn unig o fewn tymor presennol y swydd ac fe gynghorodd
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru fod y mater yn ymwneud â nifer fach iawn
o achosion yn unig. Dywedodd y Cadeirydd nad oedd y mater wedi'i
gyfyngu i aelodau etholedig ac roedd hefyd yn digwydd mewn sectorau eraill
lle’r oedd unigolion yn tyngu llw ar gyfer ymgymryd â swydd o dan Ddeddf benodol
- unwaith nad oedd yr unigolyn yn y swydd honno, nid oedd grym i orfodi cosb yn
eu herbyn
·
eglurwyd
pe na bai’r gofyniad statudol i Gynghorau Dinas/ Tref/ Cymuned gael gwefan yn
cael ei fodloni, nid oedd yn fater i’w ystyried o dan y Cod, ond gall fod yn
gyfystyr â chamweinyddu. Nid oedd gan
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru bwerau rhagweithiol a byddai angen cwyn
gan y cyhoedd iddo ymchwilio i'r mater.
Cyfeiriodd y Cynghorydd David Jones at y broses datgan cysylltiad ar
gyfer Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned, a chadarnhaodd y Swyddog Monitro bod
rhywfaint o ddryswch wedi bod yn y cyswllt hwnnw ac y byddai'n edrych i weld a
oedd yna ofyniad statudol iddynt gyhoeddi cofrestr o fuddianna [GW i weithredu].
Roedd Sir
Ddinbych wedi codi dau gwestiwn gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru
fel a ganlyn -
(1) Mae pryder y gall y cyhoedd golli hyder wrth orfodi'r Cod Ymddygiad, os
ydynt yn teimlo nad yw cwynion dilys wedi cael eu hystyried yn deilwng o
ymchwiliad. A fyddai'r
Ombwdsmon yn ystyried cyfeirio achosion y mae ef wedi penderfynu peidio ag
ymchwilio iddynt, i'w hymchwilio’n
lleol?
Teimlai'r
Ombwdsmon y gallai'r cyhoedd golli hyder os byddai cwynion dibwys yn cael eu
hymchwilio, a oedd hefyd y rheswm y tu ôl i brawf lles y cyhoedd. Roedd achosion wedi cael eu cyfeirio ar gyfer
ymchwiliad lleol yn y gorffennol ond roedd y nifer yn isel, ac roedd peth
amharodrwydd gan Swyddogion Monitro o ystyried y galw ar eu hadnoddau - fodd
bynnag, roedd y gallu i gyfeirio materion yn dal yn berthnasol ac roedd modd
gwneud hynny os tybiwyd bod hynny'n briodol.
Un o'r ffactorau a oedd i'w cymryd i ystyriaeth, oedd tystiolaeth o
gwynion tebyg wedi eu gwneud o'r blaen a phan ofynnwyd gan y Cadeirydd pa mor
hir y cadwyd cwynion ar ffeil, cyfeiriodd at wybodaeth a gadwyd yn y swyddfa ac
yn y dyfodol, byddai'n sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ymwybodol o’r hyn oedd
yn digwydd.
Nid oedd y
Cadeirydd o'r farn bod hwnnw’n ymateb boddhaol o ystyried ei fod yn ymddangos
nad oedd unrhyw system gadarn ar gyfer cadw cwynion lefel isel, gyda dibyniaeth
ar wybodaeth staff unigol yn golygu y gallai gwybodaeth werthfawr gael ei
cholli yn dilyn newidiadau staffio.
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol
sydd ar y gweill a rhoddodd drosolwg cyffredinol o'r newidiadau mewn nifer o
ddarpariaethau yn y Ddeddf Diogelu Data, gan gynnwys 'yr hawl i gael eich
anghofio' mewn achosion penodol, â'r ddeddfwriaeth ynghylch pa mor hir y gallai
gwybodaeth benodol am unigolyn fod ar gadw, a fyddai hefyd yn cael effaith.
(2) A yw'r Ombwdsmon yn ystyried y byddai gosod safonau gofynnol a hyfforddiant
gorfodol ar gyfer Clercod Cynghorau Tref, Dinas a Chymuned yn cynorthwyo i
gynnal safonau uchel o ymddygiad, a gweithrediad Gweithdrefnau Datrysiad Lleol
yn y Cynghorau hynny?
Teimlai'r
Ombwdsmon y byddai hyn yn fuddiol iawn, ond nid oedd yn rhywbeth y gallai roi
adnoddau ar ei gyfer. Fodd bynnag,
byddai'n cefnogi drwy fynychu cynadleddau a hyrwyddo'r materion.
Amlygodd y
Cadeirydd mai thema gyffredinol
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru oedd datrys yn lleol. Er bod rhywfaint o gydymdeimlad â'r Ombwdsmon
wrth reoli'r pwysau ar ei adnoddau, y canlyniad oedd mwy o bwyslais ar ddatrys
yn lleol a phwysleisiodd y Cadeirydd bwysigrwydd pwyllgorau safonau mewn
sefyllfa i gyfrannu at y broses honno lle bo modd.
Wrth ymateb i'r
pwyslais ar ddatrys yn lleol ac o ystyried yr effaith bosibl yn deillio o
ddrafft diweddaraf Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) (sydd i fod yn destun
ymgynghori ddechrau 2017), cytunodd aelodau ar y camau canlynol a awgrymwyd gan
y Swyddog Monitro -
·
ystyriaeth
yn cael ei rhoi ynghylch pa gamau ymarferol y gellid eu cymryd yn Sir Ddinbych
mewn perthynas â'r broses datrys yn lleol ar gyfer Cynghorau Dinas / Tref / Cymuned
- dylai hyn gynnwys hyfforddiant, lefel yr ymgysylltiad rhwng cynghorau lleol a
rôl y pwyllgor safonau yn y cyswllt hwnnw. O ystyried bod Ombwdsmon
Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi croesawu'r templed enghreifftiol drafft ar
gyfer protocolau datrys yn lleol a gynhyrchwyd gan Un Llais Cymru, y farn oedd
y gallai’r model hefyd helpu i lywio'r broses.
Roedd y Swyddog Monitro’n mynychu cyfarfod gyda Chlercod rhai o'r
cynghorau tref / cymuned mwyaf yr wythnos ganlynol, a byddai'n mesur barn ar yr
awydd am y broses. Cytunwyd y byddai'r
pwyllgor yn cael adroddiad yn ôl ar y gwaith hwnnw yng nghyfarfod mis Mawrth
·
byddai
Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) drafft yn debygol o gynnwys diwygio, a fyddai'n
effeithio ar gynghorau dinas / tref / cymuned a sir. Atgoffwyd yr aelodau am y cynigion sy'n codi
o'r Mesur blaenorol drafft, gan gynnwys awgrymiadau am safonau gofynnol ar
gyfer cynghorau a chynghorwyr angen adrodd i bwyllgorau safonau. O ystyried y materion diwygio posibl a'r
effaith ar bwyllgorau safonau o ganlyniad i gynigion yn y Mesur newydd drafft,
cytunodd y pwyllgor i dderbyn adroddiad yn ôl ym mis Mawrth (ar yr amod bod y
Mesur drafft wedi'i gyhoeddi mewn pryd, ac amserlenni ymgynghori’n ddigonol -
derbyniwyd y efallai y bydd angen cynnull cyfarfod arbennig os oes angen).
Diolchodd y
Cadeirydd i'r Swyddog Monitro am ei adroddiad cynhwysfawr a dod â'r materion
mwyaf perthnasol gerbron sylw'r pwyllgor.
PENDERFYNWYD -
(a) derbyn a nodi’r adroddiad ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod diwethaf
o Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru;
(b) bod adroddiad ar broses datrys yn lleol ar gyfer Cynghorau Dinas, Tref a
Chymuned yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2017 [GW i weithredu], a
(c) bod adroddiad ar Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) drafft yn cael ei gyflwyno
i'r Pwyllgor ym mis Mawrth 2017 (os yw amserlenni’n caniatáu) [GW i weithredu].
Ar y pwynt hwn
(11.10 am) cymerodd y cyfarfod egwyl am luniaeth.
Dogfennau ategol: