Eitem ar yr agenda
YSBYTY CYMUNED GOGLEDD SIR DDINBYCH – PROSIECT CYFLEUSTER IECHYD
Derbyn cyflwyniad
ar lafar.
9.40 a.m. – 10.30 a.m.
Cofnodion:
Croesawodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Jeanette Chamberlain Jones, Gareth
Evans, y Cyfarwyddwr Prosiect a Stephanie O’Donnell, y Rheolwr Prosiect, o
Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i’r cyfarfod i roi'r newyddion diweddaraf
i’r Pwyllgor am y cynnydd hyd yma o ran datblygu cyfleuster iechyd/ysbyty
cymuned ar gyfer ardal gogledd Sir Ddinbych, ar safle blaenorol Ysbyty
Brenhinol Alexandra, y Rhyl.
Cafodd yr aelodau wybodaeth, drwy gyflwyniad PowerPoint, am hanes y prosiect
a’r camau y mae’r Bwrdd Iechyd wedi’u cymryd hyd yma i gyrraedd ei sefyllfa
bresennol, sef gweithio ar gwblhau’r Achos Busnes Amlinellol (ABA) i’w gyflwyno
i Lywodraeth Cymru (LlC) ddechrau 2017. Yn ystod y cyflwyniad, amlinellodd y
cynrychiolwyr y model gwasanaeth arfaethedig fyddai’n cael ei ddatblygu ar y
safle. Byddai’r model dan ystyriaeth yn canolbwyntio ar ofal brys ac undydd,
gwasanaethau cleifion allanol ger cartrefi defnyddwyr y gwasanaeth a
gwasanaethau iechyd meddwl a chorfforol integredig i bobl hŷn, a byddai’n
cynnwys mynediad at wasanaethau atal i wella lles y trigolion lleol. Roedd y
Gwasanaeth Iechyd yn bwriadu darparu’r gwasanaethau atal hyn mewn partneriaeth
â’r awdurdod lleol, y gymuned a sefydliadau trydydd sector.
Rhoddwyd manylion am gwmpas y gwasanaethau arfaethedig yn y cyfleuster
newydd, fyddai’n cynnwys:
·
Canolfan gofal undydd (gan
gynnwys uned mân anafiadau (UMA) ac amrediad o wasanaethau i gefnogi gofal
sylfaenol lleol);
·
Clinigau cleifion allanol;
·
Gwelyau cleifion mewnol;
·
Unedau therapi ac asesu;
·
Ystafelloedd therapi
mewnwythiennol;
·
Diagnosteg;
·
Gwasanaethau therapi;
·
Gwasanaethau Deintyddol
Cymunedol;
·
Gwasanaethau Iechyd Meddwl
Plant a Phobl Ifanc (CAMHS);
·
Gwasanaethau Iechyd
Rhywiol;
·
Gwasanaeth Cleifion
Allanol Iechyd Meddwl Pobl Hŷn;
·
Un
Pwynt Mynediad (UPM) / safle gweithio Iechyd a Gofal Cymdeithasol Integredig;
·
Canolbwynt Cymunedol
(fyddai’n cynnwys caffi, mynediad at y sector gwirfoddol, ystafelloedd cyfarfod
ac ati).
Dangoswyd map o’r awyr o’r safle (y
Campws) i’r aelodau ynghyd â chynlluniau llawr arfaethedig pob un o dri llawr
yr adeilad newydd, fyddai wedi'i leoli ar safle'r adeilad Ward Glantraeth
presennol. Disgwylir i’r amrediad o wasanaethau fyddai ar gael yn y cyfleuster
newydd, ynghyd â’r ymagwedd ragweithiol tuag at ddarparu’r gwasanaethau
ymyrraeth:
·
leihau’r effaith ar Uned
Damweiniau ac Achosion Brys (A&E) Ysbyty Glan Clwyd;
·
lleihau’r straen ar
wardiau yn Ysbyty Glan Clwyd ac ysbytai cymuned yr ardal ehangach, sydd ar hyn
o bryd yn cynnwys trigolion ardal arfordirol Sir Ddinbych cyn eu rhyddhau;
·
creu gwasanaeth undydd
cynaliadwy fyddai’n lleihau’r galw yn
lleol am ofal sylfaenol;
·
gwella’r modd y mae
anghenion iechyd a lles yn cael eu hunan reoli trwy addysg, gwybodaeth a
gwasanaethau atal, ar y cyd â’r awdurdod lleol a darparwyr trydydd sector;
·
darparu
cyfleusterau fyddai’n galluogi gofalwyr i aros ar y safle a helpu gyda phroses
adsefydlu’r claf;
·
cwtogi cyfnodau hir yn yr
ysbyty i gleifion mewnol trwy adsefydlu, e.e. datblygu hyder y claf o ran
cyflawni tasgau dydd i ddydd;
·
darparu amrediad o
wasanaethau i gleifion allanol mor lleol ag y bo modd a lleihau’r angen i
gleifion allanol deithio ymhellach i gael apwyntiadau ac ati;
·
gwneud y defnydd gorau o adnoddau
gwerthfawr trwy ymgyfuno timau amlasiantaeth ac ati; a
·
gwella cyfraddau recriwtio
a chadw staff trwy’r ffaith y byddent wedi’u lleoli mewn cyfleuster modern,
newydd sy’n darparu gwasanaethau iechyd arloesol.
Dyma ymateb cynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd i gwestiynau’r aelodau:
·
hysbyswyd
mai trydydd cam y broses, sef y cam terfynol, ar ôl i LlC gymeradwyo’r ABA,
fyddai mynd ati i ddatblygu’r Achos Busnes Llawn (Abl) a chyflawni’r prosiect;
·
cadarnhawyd bod pob
partner wedi ymrwymo i gyflawni’r prosiect;
·
hysbyswyd
y byddai’r cyfleuster yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uned â 28 gwely i
gleifion mewnol (fydd yn cynnwys 22 ystafell sengl gydag ystafell ymolchi
gysylltiedig, a 6 gwely arhosiad byrrach er dibenion ail-alluogi/asesu);
·
eglurwyd y byddai canolfan
ragoriaeth ar gyfer Gwasanaethau Iechyd Deintyddol Cymunedol i Gonwy a Sir
Ddinbych yn cael ei datblygu ar y safle fel rhan o’r prosiect. Ond ni fydd y
cyfleuster Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol yn cynnwys Gwasanaeth Orthodontig;
·
cadarnhawyd y bydd y Gwasanaeth
UPM yn cael ei leoli ar y campws;
·
hysbyswyd eu bod wrthi ar
hyn o bryd yn archwilio posibilrwydd dad-fabwysiadu Alexandra Road, gyda’r nod
o ymgorffori’r ffordd fel rhan o'r campws;
·
cadarnhawyd mai bwriad
Bwrdd y Prosiect yw cyflwyno’r ABA i’r Bwrdd Iechyd yn ei gyfarfod ar 8 Rhagfyr
2016. Yna, byddai BIPBC yn cyflwyno’r ABA i LlC ei gymeradwyo yn ystod mis
Ionawr 2017.
Disgwylir i LlC gymryd 10 i 12 wythnos i graffu ar yr
ABA. Ar ôl cael cymeradwyaeth,
byddai BIPBC yn mynd ymlaen at gam yr Achos Busnes Llawn (Abl), fyddai eto’n
cymryd tua 10 i 12 wythnos arall. Pe gellid
cymeradwyo’r Abl yn ystod haf 2017 a rhoi caniatâd cynllunio (y mae
Ymgynghorydd Cynllunio wrthi’n gweithio arno gydag Adran Gynllunio Sir
Ddinbych), y gobaith yw y byddai’r gwaith yn cychwyn ar y safle yn gynnar yn
2018 gyda’r nod o gychwyn darparu gwasanaethau o’r cyfleuster newydd ddechrau
2020;
·
cadarnhawyd y byddai Uned
Mân Anafiadau (UMA) yn y cyfleuster fel rhan o wasanaeth Canolfan Gofal Undydd
fwy, fyddai’n darparu amrediad llawer ehangach o wasanaethau na dim ond mân
anafiadau, gyda'r nod o gefnogi darpariaeth gofal sylfaenol ardal gogledd Sir
Ddinbych;
·
hysbyswyd
bod yr iard ganolog agored a ddangosir yn y cynlluniau yn rhwymedigaeth
bensaernïol i ofynion golau naturiol adeilad o'r maint a gynigir yn y
cynlluniau;
·
cydnabuwyd nad oedd y
prosiect wedi gwneud cynnydd yn y blynyddoedd diweddar, a’r rheswm am hynny
oedd cyfyngiadau strwythurol adeilad blaenorol Ysbyty Brenhinol Alexandra am ei
fod yn adeilad rhestredig, ac yn fwy diweddar, oherwydd ymarfer ailstrwythuro
mewnol gyda Bwrdd BIPBC.
Er
hynny, mae camau sylweddol wedi’u cymryd yn y misoedd diwethaf. Yn ôl Rheolwr y
Prosiect a Chyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor: Mae cymunedau wedi dylanwadu’n
fawr ar gynnydd y prosiect yn ddiweddar;
·
cadarnhawyd y byddai darparu gwelyau
ail-alluogi/asesu yn y cyfleuster newydd yn lleddfu’r broblem o brinder gwelyau
yn Ysbyty Glan Clwyd.
Mae
BIPBC wrthi’n ymchwilio i broses newydd ar sut i wella a chyflymu’r broses o
sicrhau ‘rhyddhau diogel’;
·
hysbyswyd
yr ystyrir bod uned cleifion mewnol 28 gwely yn ddigonol i ateb y galw yn y
dyfodol am wasanaethau cleifion mewnol, ar sail niferoedd poblogaeth presennol,
rhagfynegiadau poblogaeth y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), data twf poblogaeth
disgwyliedig cydnabyddedig a’r agenda ail-alluogi;
·
eglurwyd y bydd yna le yn
yr uned ailalluogi/asesu 6 gwely i ofalwyr aros gyda’r claf – mae hyn yn
cydymffurfio â'r athroniaeth ailalluogi sy’n dod i’r amlwg, sy’n dadlau dros y
rhan bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae yn y broses ailalluogi;
·
cadarnhawyd bod trafodaethau eisoes wedi’u
cynnal gyda’r Grŵp Strategaeth Gofalwyr o ran manteision galluogi
gofalwyr/aelodau teulu i aros yn yr ysbyty gyda phobl sy'n dioddef o ddementia,
yn unol â nodau ‘John’s Campaign’;
·
cadarnhawyd yr ariannwyd y
Gwasanaeth UPM bron yn gyfan gwbl gan arian y Gronfa Gofal Canolraddol (CGC) a
roddwyd gan LlC er diben darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol
integredig gyda’r nod o gefnogi unigolion i barhau’n annibynnol cyhyd ag y bo
modd;
·
cadarnhawyd bod dyletswydd
statudol ar y Bwrdd Iechyd i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, a’u
‘bod yn gwneud hynny lle bynnag y bo modd. Bu i’r Bwrdd
gydnabod pwysigrwydd darparu gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf i les cleifion â
dementia;
·
hysbyswyd bod meddygfeydd
teulu yn y Rhyl, Llanelwy a meddygfeydd eraill yn yr ardal, ynghyd â
chyfleuster Prestatyn a Rhuddlan Iach, eisoes yn ymgysylltu â’r Bwrdd Iechyd
mewn perthynas â datblygiad y campws. Byddai disgwyl i’r meddygfeydd teulu hyn
weld eu cleifion yng nghyfleuster yr ysbyty maes o law, a defnyddio’r
cyfleuster er dibenion camu i fyny/camu i lawr;
·
hysbyswyd, gan fod rhai cleifion o ardal y
Rhyl yn cael eu derbyn ar hyn o bryd i Ysbyty Dinbych, y rhagwelir y byddai
agor yr uned gwelyau i gleifion mewnol newydd yn lleihau’r pwysau ar yr ysbyty
hwnnw. Fodd bynnag, gan fod gan
Ysbyty Dinbych welyau resbiradol arbenigol, byddai rhai cleifion o ardal y Rhyl
yn dal i gael eu derbyn yno;
·
eglurwyd, er y bydd
gwasanaethau offthalmoleg cymunedol ar gael ar y campws, y byddai’r prif
wasanaeth ysbyty llygaid yn aros yn Ysbyty Abergele; ac
·
eglurwyd y byddai pob
adeilad dros dro presennol ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael eu
dymchwel a'u clirio i wneud lle ar gyfer maes parcio ychwanegol ar y safle.
Byddai cludiant cyhoeddus i’r safle
hefyd yn llunio rhan o waith datblygu gwasanaethau’r prosiect, yn ogystal â
chynllunio’r gweithlu ar gyfer y cyfleuster. Bydd strategaeth y gweithlu’n cael
ei ddarparu a gwneir pob ymdrech i sicrhau na fyddai staffio’r cyfleuster
newydd yn creu bwlch mewn lleoliadau Iechyd neu ofal cymdeithasol eraill.
Cyn i’r drafodaeth ddod i ben, gofynnodd yr aelodau i swyddogion y Bwrdd
Iechyd holi am bosibilrwydd sicrhau cyllid i gynhyrchu llyfryn hanesyddol am
Ysbyty Brenhinol Alexandra, yn debyg i’r un a gyhoeddwyd yn ddiweddar am y cyn
Ysbyty H M Stanley yn Llanelwy, oedd yn llwyddiant mawr.
Diolchodd y Pwyllgor i’r cynrychiolwyr am fynychu ac am ateb eu cwestiynau.
Felly:
PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, derbyn y cyflwyniad, nodi'r cynnydd a
wnaed hyd yma a chefnogi'r gwaith sy'n mynd rhagddo i ddarparu'r Ysbyty Cymuned
a Chyfleuster Iechyd newydd i ardal gogledd Sir Ddinbych yn y Rhyl.