Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH CEFNOGI ANNIBYNIAETH YN SIR DDINBYCH

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth – Ardal y Gogledd (copi ynghlwm) i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â Chefnogi Annibyniaeth yn Strategaeth Sir Ddinbych a'r gwahanol fentrau sydd wedi eu datblygu.

10.30 a.m. – 11.00 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac Oedolion), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad (a ddosbarthwyd ymlaen llaw) yn rhoi manylion ymagwedd gorfforaethol y Cyngor tuag at alluogi trigolion y sir i gynnal eu hannibyniaeth a’u lles yn eu cartrefi eu hunain.

 

Roedd copïau o’r strategaeth ddrafft a’r Asesiad o’r Effaith ar Les (AEL) ar y Strategaeth ynghlwm wrth yr adroddiad er sylw’r aelodau. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol pam fod gofyn am ymagwedd gorfforaethol tuag at ddarparu’r strategaeth a gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Dyma ymateb Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r Rheolwr Gwasanaeth - Datblygu Strategol wrth ymateb i gwestiynau’r aelodau:

·       eglurwyd amcan y prosiect ‘Pwyntiau Siarad’ a’i fanteision posib i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Roedd hi’n dal yn ddyddiau cynnar ar y prosiect  ar y pryd, ond wrth iddo ddatblygu ac ymsefydlu, rhagwelwyd mai’r sector gwirfoddol fyddai'n cymryd perchenogaeth o'r gwaith;

·       hysbyswyd y Pwyllgor y sefydlwyd y gwasanaeth allgymorth cyfrwng Cymraeg a ddarperir yn Y Waen ger Llanelwy, rai blynyddoedd yn ôl a bod parch mawr tuag ato ymysg y rheini oedd yn mynychu a’u gofalwyr. Rhoddodd y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol gyfraniad ariannol i gynnal y prosiect hwn, er na wnaeth gomisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol gan y sefydliad nac atgyfeirio unigolion yn uniongyrchol yno. Er hynny, gallai gweithwyr cymdeithasol unigol gyfeirio unigolion at y gwasanaethau oedd ar gael yno. Bu i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ymweld â’r ganolfan y llynedd a chasglu bod y gwasanaethau a ddarparwyd yno yn cyd-fynd â’r dyletswyddau atal newydd a roddwyd ar awdurdodau lleol dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant;

·       cadarnhawyd bod y Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad (UPM) yn cyflogi aelodau gyda sgiliau Cymraeg. Llenwyd pob swydd wag o fewn y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yn unol â’r Polisi Recriwtio Corfforaethol, oedd yn gwneud darpariaeth ar gyfer swyddi yr ystyrir bod sgiliau Cymraeg yn hanfodol neu’n ddymunol ar eu cyfer;

·       eglurwyd mai rhan o’r gwaith gyda’r prosiect Cyfeirio Cymunedol oedd ceisio canfod, trwy gyrff sefydledig fel cynghorau cymuned, pa grwpiau neu sefydliadau oedd yn gweithredu o fewn eu cymunedau.  Byddai hyn yn galluogi’r Gwasanaethau Cymorth Cymunedol i gyfeirio unigolion at y grwpiau hynny ar gyfer gweithgareddau i wella eu hiechyd a’u lles, a lleihau’r perygl o arwahanrwydd ac unigrwydd;

·       amlinellwyd rôl a chyfrifoldebau ‘Ymarferydd Gofal Cymdeithasol’ a sut y gallai ymarferydd helpu i ailalluogi unigolyn a gwella eu hunanhyder yn eu galluoedd eu hunain i ymgymryd â thasgau dydd i ddydd unwaith eto;

·       pwysleisiwyd yr angen i symud oddi wrth sefyllfa sy’n dibynnu ar fudd-daliadau tuag at sefyllfa sy’n galluogi pobl drwy fagu eu hyder a mynd i'r afael ag arwahanrwydd ac unigrwydd;

·       cadarnhawyd bod y ddogfen Strategaeth yn ddogfen i swyddogion mewnol yn bennaf; bydd dogfen fwy cryno, haws ei darllen yn cael ei chynhyrchu er gwybodaeth i’r trigolion maes o law;

·       eglurwyd y pedwar amod y mae’n rhaid i unigolyn eu cyflawni i fod yn gymwys i gael y gofal a’r gefnogaeth i gyflawni deilliannau personol, a’r broses ar gyfer asesu’r amodau. Eglurwyd bod Proses Apêl i unigolion oedd yn anghytuno â’u hasesiad, ac y defnyddir asesydd gwahanol i ymgymryd â’r broses honno; a

·       hysbyswyd y Pwyllgor bod rhaid ystyried gallu defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys eu gallu ariannol) i gyflawni eu deilliannau gofal cymdeithasol pan oeddent yn gwneud cais am y gwasanaethau. Fodd bynnag, roedd LlC wedi capio’r gyfradd y gallai awdurdodau lleol ei godi am ofal a chefnogaeth a reolir ar £60 yr wythnos. Cynhwyswyd budd-daliadau megis Lwfans Gweini (LG) a Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) fel adnoddau ar gael i’r unigolyn i gyflawni eu deilliannau, gan y telir y budd-daliadau hynny er mwyn eu helpu i wella eu lles.

 

O ran y Strategaeth ddrafft a’r daflen ddrafft ‘Sut ydw i’n cael gafael ar Ofal a Chefnogaeth yng Ngogledd Cymru?’, gofynnodd yr aelodau i’r diwygiadau canlynol gael eu hystyried:

·       tudalen 27 y strategaeth ddrafft (tudalen 65 y pecyn rhaglen) – dylid disodli'r term ‘’Volunteer Kinetic Sir Ddinbych’ gyda therm sy’n esbonio’r gwasanaeth/sefydliad yn well;

·       tudalen 31 y strategaeth ddrafft (tudalen 69 y pecyn rhaglen) - dylid newid cyfeiriadau at Bodelwyddan a Llanelwy i adlewyrchu’r sir gyfan, neu dylid cyflwyno’r mentrau fesul cam i’r sir gyfan, gan mai strategaeth sirol oedd hi. Fe hysbysodd y swyddogion y byddai’r gwaith hwn yn cael ei ymestyn i ardaloedd eraill y sir yn y flwyddyn sydd  i ddod;

·       clawr blaen y daflen (tudalen 75 y pecyn rhaglen) – dylai’r frawddeg ar waelod y dudalen ddarllen “Mae gwybodaeth ar gael mewn ieithoedd eraill... ar gais”, yn hytrach na “Gellir darparu gwybodaeth mewn ieithoedd eraill...ar gais”;

 

Ar ddiwedd y drafodaeth, bu i’r Pwyllgor:

 

 BENDERFYNU:

 

(i)    yn amodol ar y sylwadau uchod ac ystyriaeth o’r diwygiadau a awgrymir, cefnogi’r Strategaeth; a

(ii)   cefnogi’r dull corfforaethol o ddiwallu anghenion dinasyddion y gallai fod angen cymorth arnynt, gan atal yr angen am ymyrraeth statudol yn eu bywydau.

 

 

Dogfennau ategol: