Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CYNLLUN COMISIYNU LLEOL – CEFNOGI POBL SIR DDINBYCH 2017-18

Ystyried adroddiad gan y Swyddog Comisiynu a Thendro (copi ynghlwm) sy'n rhoi manylion y Cynllun Comisiynu Lleol 2017-18 ar gyfer y Rhaglen Cefnogi Pobl yn Sir Ddinbych.

11.15 a.m. – 11.45 a.m.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Plant ac Oedolion), y Cynghorydd Bobby Feeley, yr adroddiad a Chynllun Comisiynu Lleol drafft 2017-18, ynghyd â’r AEL (a ddosbarthwyd ymlaen llaw). 

 

Hysbysodd yr Aelod Arweiniol bod y Grant Cefnogi Pobl (CP), a glustnodwyd gan LlC ar gyfer darparu gwasanaethau CP, wedi gweld toriadau yn y blynyddoedd diwethaf. Llwyddodd yr arian grant CP i gyflawni nifer o ofynion Deddf Tai (Cymru) 2014, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Hysbyswyd y Pwyllgor bod y mynegiannau diweddaraf gan LlC yn awgrymu bod y Grant CP ar gyfer 2017-18 wedi’i warchod rhag toriadau pellach. Fodd bynnag, ar ôl llunio’r Cynllun drafft, rhagwelwyd toriad o 5% o leiaf ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, felly mae tudalennau 19 i 31 y Cynllun drafft yn amlinellu datblygiadau arfaethedig i’r gwasanaeth a chynigion i ddatgomisiynu ac ailfodelu ar sail y toriadau a ragwelir. Pe bai’r grant yn cael ei gynnal ar ei lefel bresennol, ni fyddai angen gweithredu’r cynigion datgomisiynu/ailfodelu hyn oni fyddai hynny er budd defnyddwyr y gwasanaeth.

 

Wrth ymateb i gwestiynau'r aelodau, hysbysodd yr Aelod Arweiniol, Pennaeth y Gwasanaeth a Rheolwr Tîm Cefnogi Pobl:

·       bod y term ‘darpariaeth wlyb’ yn cyfeirio at amgylchedd diogel i unigolion sy’n ddifrifol ddibynnol ar gyffuriau neu alcohol ‘gymryd’ eu sylwedd caethiwus hyd at lefel goddefiant a reolir. Ar hyn o bryd, nid yw gwasanaethau’r awdurdod lleol yn gymwys i ddelio ag unigolion sy’n dioddef o ddibyniaeth ddifrifol;

·       bod y Grant CP yn grant ‘annibynnol’ ar wahân, wedi'i glustnodi ar gyfer gwasanaethau CP; nid yw’n rhan o Grant Cynnal Refeniw (GCR) y Cyngor ac felly nid oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros doriadau i’r grant gan lywodraeth ganolog.

Yr unig beth y gallai’r Cyngor ei wneud oedd rheoli effaith y toriadau hynny ar y gwasanaethau CP;

·       bod y cynigion datblygu gwasanaeth, datgomisiynu ac ailfodelu arfaethedig yng Nghynllun Comisiynu Lleol CP yno fel mesurau wrth gefn yn barod am doriad o tua 5% i’r grant ar gyfer 2017-18. Os na newidir y dyraniad grant, ni fyddai angen gweithredu’r newidiadau, ond byddai gwelliannau cost negyddol i’r gwasanaeth yn cael eu hystyried, yn naturiol;

·       bod y broses ar gyfer darparu ac archwilio grantiau i ddarparwyr y sector gwirfoddol (trydydd sector) yn hynod drylwyr a chadarn; ac

·       nad oedd unrhyw dystiolaeth i Sir Ddinbych ddioddef er gwaeth o fwy o unigolion yr ystyriwyd nad oedd ganddynt “... unrhyw gysylltiad lleol...” yn cyflwyno eu hangen am gymorth CP nag ardaloedd eraill.  Mae gan yr awdurdod broses archwilio well bellach, a gofynnwyd y cwestiwn am gysylltiad lleol i bob unigolyn oedd yn cysylltu â’r Cyngor am gymorth.

 

Gofynnodd aelodau’r Pwyllgor:

·       am restr o ddarparwyr trydydd sector sy’n darparu gwasanaethau CP yn Sir Ddinbych; ac

·       am graff a’r niferoedd perthnasol ym mhob categori i gyd-fynd â'r graffigyn eglurhaol sy’n ymwneud â ‘Phroblem Gudd Digartrefedd’ ar dudalennau 8 a 9 y cynllun comisiynu drafft (tudalennau 104 a 105 y pecyn rhaglen);

 

Ar ddiwedd trafodaeth drylwyr, bu i’r Pwyllgor:

 

 BENDERFYNU:

 

(i)  Rhoi gwybod i’r Cabinet am farn y pwyllgor Archwilio ei fod, ar ôl adolygu Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2017-18, yn dymuno nodi ei bryderon bod y Grant Cefnogi Pobl wedi gweld toriadau flwyddyn ar ôl blwyddyn gan Lywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd; ac

(ii)   er y cydnabyddir y gwnaed cynlluniau wrth gefn o fewn Cynllun Comisiynu Lleol Cefnogi Pobl 2107-18 i ddarparu ar gyfer toriadau pellach, pe bai arian y grant Cefnogi Pobl yn aros ar y lefel bresennol, y bydd y cyllid yn aros o fewn y gwasanaethau Cefnogi Pobl er mwyn cynnal y gwasanaethau a ddarperir.

 

 

Dogfennau ategol: