Eitem ar yr agenda
AROLYGIAD AGGCC O WASANAETHAU GOFAL CARTREF
- Meeting of Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2016 9.30 am (Item 5.)
- View the declarations of interest for item 5.
Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol (copi wedi’i amgáu) yn ymwneud ag arolygiad o'r gwasanaethau gofal cartref ar gyfer pobl hŷn a gynhaliwyd yn Sir Ddinbych fel rhan o arolygiad cenedlaethol.
Cofnodion:
Croesawodd y
Cadeirydd Vicky Poole (Cyfarwyddwr Rhanbarthol) a Christine Jones (Rheolwr
Ardal) o AGGCC a wahoddwyd i fynychu'r cyfarfod ar gyfer yr eitem hon.
Cyflwynodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol yr adroddiad (copi wedi’i
ddosbarthu’n flaenorol) yn ymwneud ag arolygiad o'r gwasanaethau gofal cartref
ar gyfer pobl hŷn a gynhaliwyd yn Sir Ddinbych fel rhan o arolygiad
cenedlaethol. Roedd yr adroddiad yn cynnwys ymatebion i’r materion a nodwyd yn adroddiad
arolygu AGGCC ynghyd â chamau i ymdrin â phryderon penodol.
Roedd yr adroddiad
cenedlaethol llawn ynghlwm wrth yr adroddiad (Atodiad 1) ynghyd â'r adroddiad
manwl o arolygiad Sir Ddinbych (Atodiad 2).
Wrth gyflwyno'r
adroddiad cynhwysfawr tynnodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol sylw at
y canlynol -
·
cyd-destun
arolygiad Sir Ddinbych fel rhan o adolygiad cenedlaethol mwy o ddarpariaeth
gofal cartref ym mis Tachwedd 2015 yn cynnwys chwe awdurdod lleol
·
pwrpas
yr arolygiadau i asesu llwyddiant awdurdodau lleol wrth gyflawni canlyniadau i
bobl trwy arfarniad o effeithiolrwydd ac ansawdd y gofal cartref y maent yn ei
gomisiynu
·
pryderon
a godwyd gan swyddogion ynghylch y diffyg tystiolaeth i gefnogi’r canfyddiadau
yn adroddiad drafft Sir Ddinbych gyda’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi
ar wefan AGGCC gydag ychydig o newidiadau a heb sylwadau’r swyddogion
·
y
materion yr oedd swyddogion yn credu oedd yn anghywir fel y manylwyd ym
mharagraff 4.3.3 yr adroddiad [rhif 1 - 7] yn tynnu sylw at bob mater unigol
ynghyd ag ymateb Sir Ddinbych i hynny
·
canfyddiadau
yn adroddiad arolygu Sir Ddinbych wedi cael eu bwydo i mewn i'r adolygiad a'r
casgliadau cenedlaethol fel y'u cynhwysir yn y Crynodeb Gweithredol
·
risgiau
i'r farchnad gofal cartref a'r camau arfaethedig i ymdrin â hwy, pob un ond un
wedi ei drafod gyda'r arolygydd.
Ymhelaethodd y
Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol ar y materion yr oedd swyddogion yn
credu oedd yn anghywir a oedd wedi'i nodi ym mharagraff 4.3.3 o'r adroddiad
rhif 1 - 7 -
Nid oedd gan Sir Ddinbych
Ddatganiad Sefyllfa’r Farchnad manwl cadarn
Roedd Sir
Ddinbych, ynghyd â holl awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru, yn gweithio
gyda’r Sefydliad Gofal Cyhoeddus ar hyn o bryd er mwyn gwella eu Datganiad
Sefyllfa’r Farchnad. Cyngor arbenigol oedd cadw Datganiad Sefyllfa’r Farchnad yn fyr ac i'r
pwynt gyda gwybodaeth fanwl yn cael ei chadw ar wahân.
Nid oedd dull Sir Ddinbych o dendro-mini ar gyfer pecynnau unigol o ofal yn arwain at ddeilliannau cynaliadwy. Gofynnwyd i ddarparwyr gyflwyno cyfradd ‘cyfwerth â neu is na' ein cyfraddau dangosol.
Ni chafwyd
tystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwn gan yr arolygydd. Roedd y datganiad ynglŷn â
chyflwyniad cyfraddau yn ffeithiol anghywir – gofynnwyd i ddarparwyr ddweud
wrth y Cyngor os ydynt yn gallu bodloni gofynion y pecyn a faint fyddai hynny’n
ei gostio. Yn unol â gwerth gorau, os oes mwy nag un darparwr sy’n gallu bodloni’r
gofynion, derbynnir y cais isaf. Roedd yr adroddiad yn awgrymu mai’r gost oedd y
prif ffocws nid dyna oedd yr achos.
3.
Roedd Sir Ddinbych yn talu tâl cadw tra
bydd unigolyn yn yr ysbyty ond dim ond am bythefnos, sy’n golygu bod
posibilrwydd y bydd darparwr newydd yn gyfrifol am ofalu am yr unigolyn pan
gaiff ei ryddhau o’r ysbyty.
Roedd Sir
Ddinbych yn un o ddim ond ychydig o Awdurdodau Lleol sy’n talu tâl cadw am
unrhyw hyd tra bydd unigolyn yn yr ysbyty, ac er ei bod yn ymddangos bod yr
arfer hwn yn cael ei feirniadu yn yr
adroddiad, roedd yr awdurdod o’r farn ei fod yn arfer da.
Er gwaethaf y broblem
bod gwneud taliadau cadw yn gallu bod yn anghynaladwy, bydd anghenion unigolyn
yn newid yn ystod arhosiad hirach yn yr ysbyty a bydd cynllun gofal a
chefnogaeth newydd yn angenrheidiol.
4.
Roedd Sir Ddinbych yn comisiynu galwadau
15 munud o hyd, a’r farn yw nad yw hyn yn dderbyniol
Mae’r Ddeddf
Rheoleiddio ac Arolygu newydd yn nodi ym mha amgylchiadau y gellir comisiynu
galwadau 15 munud. Roedd swyddogion wedi adolygu pob cynllun gofal a chefnogaeth sy’n cynnwys
galwadau 15 munud a’r casgliad oedd bod pob un yn cydymffurfio a’r Ddeddf.
Yn ddiddorol, roedd yr
adroddiad cenedlaethol yn datgan nad pa mor hir yw galwad sy'n bwysig ond yn
hytrach y canlyniad.
5.
Dylai’r Awdurdod Lleol adolygu’r
trefniadau sefydliadol ar gyfer comisiynu a chontractio oherwydd nad ydynt
yn glir i bawb ac mae hynny'n cael cryn effaith ar effeithiolrwydd
y cylch comisiynu, yn arbennig o ran monitro contractau.
Ni chafwyd tystiolaeth
i gefnogi’r datganiad hwn gan yr arolygydd. Nid oedd y trefniadau’n wahanol iawn i
drefniadau llawer o awdurdodau lleol eraill ar draws Cymru ac roeddent wedi'u
derbyn â’u mabwysiadu ar gyfer comisiynu a chontractio, oedd yn 2 wahanol ran
o'r cylch comisiynu. Amlygwyd trefniadau comisiynu – er yn wahanol ar draws y 6 awdurdod lleol a
arolygwyd - fel rhywbeth sy’n peri pryder ym mhump o'r adroddiadau unigol.
6.
Nid yw'r awdurdod lleol yn cwrdd â
darparwyr yn rheolaidd ac roedd straen ar y berthynas
Ni chafwyd
tystiolaeth i gefnogi’r datganiad hwn gan yr arolygydd. Roedd y Pennaeth Gwasanaeth yn cadeirio
cyfarfodydd chwarterol gyda’r darparwyr, sy’n cynnwys Fforwm Gofal Cymru
(Rheolwr y Gwasanaeth oedd yn eu cadeirio gynt) ac mae’r ffaith y cynhelir y
cyfarfodydd hyn yn dangos bod y datganiad hwn yn ffeithiol anghywir.
Yn anffodus, nid oedd
cynrychiolydd o Fforwm Gofal Cymru wedi gallu bod yn bresennol yn y cyfarfod
oherwydd ymrwymiad blaenorol ond roedd yn honni bod perthynas dda gyda
darparwyr.
7.
Nid oedd adolygiadau bob amser yn cael eu
cynnal fel sy'n angenrheidiol
Cwblhawyd dros
90% o adolygiadau ar yr adeg iawn y llynedd, sy’n golygu bod Sir Ddinbych yn un
o’r awdurdodau sy’n perfformio orau yng Nghymru.
Amlygodd Pennaeth
y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol risgiau i’r farchnad gofal cartref ac
ymhelaethodd ar y camau gweithredu arfaethedig a fanylir ym mharagraff 4.5 yr
adroddiad er mwyn mynd i’r afael â’r materion hynny -
Cymorth gyda hysbysebu a recriwtio staff - recriwtio a chadw staff yn fater cenedlaethol a oedd yn fwy amlwg mewn ardaloedd gwledig ac arweiniodd at gostau uwch i dalu darparwyr. Er mwyn atgyfnerthu'r farchnad gofal cartref roedd yr awdurdod yn cynorthwyo darparwyr gyda hysbysebion recriwtio
Gweithio gyda chydweithwyr a darparwyr rhanbarthol drwy'r Bwrdd Comisiynu i ddatblygu model newydd ar gyfer cyflwyno yn seiliedig ar gontractau sy'n seiliedig ar ardal - a chreu rhestr darparwyr a ffafrir ar draws Gogledd Cymru. Byddai'r ffocws ar ddewis y defnyddiwr a chanlyniadau yn hytrach nag 'amser a thasgau' yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cynnwys sgyrsiau gyda defnyddiwr gwasanaeth a'r darparwr i gyflawni'r canlyniadau hynny. Cyfeiriwyd at nifer o astudiaethau achos yn amlygu pwysigrwydd gwrando ar ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn sicrhau bod gofal personol ac anghenion lles yn cael eu bodloni.
·Cefnogaeth barhaus gyda hyfforddi staff -
roedd angen cefnogi asiantaethau a hyfforddi staff ac roedd rhaglen barhaus yn
hynny o beth
·
Datblygu
tîm mewnol tymor byr er mwyn rhoi amser i ddarparwyr recriwtio ar gyfer
cynlluniau gofal a chymorth newydd - byddai hyn yn caniatáu i unigolion adael
yr ysbyty yn ddi-oed tra bod staff yn cael eu recriwtio
·
Cynnydd
ffi gyfartalog o 5%, i gydnabod effaith y Cyflog Byw Cenedlaethol a phwysau
arall wedi ei gytuno ar gyfer 2016/17 ac roedd cynlluniau yn cael eu datblygu
gyda darparwyr i gynhyrchu pris teg am gynnydd parhaus mewn ffioedd
·
Datblygu
Datganiad Sefyllfa’r Farchnad cyfredol yn seiliedig ar waith sy'n cael ei wneud
ar yr Asesiad o Anghenion y Boblogaeth rhanbarthol – roedd drafft terfynol
wedi’i lunio gyda’r manylion ar gael ar wahân.
·
Byddai ailasesiad
o'r holl unigolion sy'n derbyn gofal cartref yn dechrau yn y mis nesaf i
sicrhau bod ffocws ar ganlyniadau a bod y meini prawf cymhwyster newydd a
osodwyd yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn cael eu cymhwyso'n
gyson ac unigolion yn cael eu cefnogi i ddefnyddio eu hadnoddau eu hunain lle
bo hynny'n bosibl, gan ryddhau capasiti yn y farchnad.
Roedd y
Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol, Gwasanaethau
Oedolion a Phlant yn talu teyrnged i waith AGGCC am y gwelliannau wrth ddarparu
gofal cartref ar draws Cymru a sicrhau bod darparwyr yn broffesiynol, yn
effeithiol ac yn diwallu anghenion trigolion. Yn gyffredinol roedd Sir Ddinbych yn
darparu gofal da ac yn ymyrryd yn gyflym os oedd angen. Lle teimlwyd y gellir gwneud newidiadau er
gwell roeddent yn awyddus i wneud hynny.
Ar wahoddiad y
Cadeirydd rhoddodd y Cyfarwyddwr Rhanbarthol AGGCC rywfaint o gyd-destun yr
adolygiad, gan egluro ac ymateb i faterion a godwyd fel a ganlyn -
·
eglurodd
y cefndir i'r adolygiad a gomisiynwyd gan y cyn Weinidog Iechyd Mark Drakeford
fel rhan o gyfres o waith
·
ymhelaethodd
ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd wrth gynnal yr adolygiad a oedd yn cynnwys
caffael gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau er mwyn triongli’r wybodaeth
honno a ffurfio barn
Roedd cynrychiolwyr AGGCC wedi cyfarfod â swyddogion yn y cyfnod adroddiad drafft ac roedd rhai mân newidiadau wedi'u gwneud. O ran cywirdeb ffeithiol ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth i ddweud bod yr haeriadau yn anghywir
·roedd yr adroddiad terfynol wedi ei anfon
yn electronig at y cyngor ond oherwydd diffyg TG nid oedd wedi dod i law ac ni
sylweddolwyd ar y nam
·
amlygodd
fod yr adolygiad wedi ei gynnal deuddeng mis yn gynt ac yn darparu ciplun mewn
amser - roedd yn braf clywed am y newidiadau sy'n cael eu gwneud wrth ymateb i
ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant
·
o ran
y canfyddiadau cyffredinol roedd arfer Sir Ddinbych ynghyd ag awdurdodau lleol
eraill yng Nghymru wedi cael eu cymharu a'u cyferbynnu.
Ymatebodd y
Cyfarwyddwr Rhanbarthol i’r materion hynny yr oedd swyddogion yn credu oedd yn
anghywir fel a ganlyn -
Nid oedd gan Sir Ddinbych
Ddatganiad Sefyllfa’r Farchnad manwl cadarn
Nodwyd y gwaith
sy'n cael ei wneud er mwyn gwella Datganiad Sefyllfa’r Farchnad
Nid oedd dull Sir Ddinbych o dendro-mini ar gyfer pecynnau unigol o ofal yn arwain at ddeilliannau cynaliadwy. Gofynnwyd i ddarparwyr gyflwyno cyfradd ‘cyfwerth â neu is na' ein cyfraddau dangosol.
Roedd hyn wedi
bod yn fater pwysig o ystyriaeth oherwydd ar y pryd roedd dull Sir Ddinbych
wedi bod yn wahanol iawn i'r hyn ledled Cymru a modelau eraill o arfer da.
Dywedodd darparwyr nad oeddent yn
gyfforddus gyda dull arwerthu lle'r oedd yn rhaid iddynt gyflwyno cynnig isel i
gaffael gwaith. Roedd un darparwr yn dewis peidio â gwneud busnes gyda Sir Ddinbych
oherwydd y dull hwnnw. Teimlai darparwyr na allent ddarparu ansawdd gwasanaeth os oedd costau yn
cael eu gyrru i lawr. Dyna oedd yr arfer deuddeng mis yn ôl ac roedd Sir Ddinbych yn rhoi mesurau
ar waith i newid y dull hwnnw o blaid model darparu newydd.
3.
Roedd Sir Ddinbych yn talu tâl cadw tra
bydd unigolyn yn yr ysbyty ond dim ond am bythefnos, sy’n golygu bod
posibilrwydd y bydd darparwr newydd yn gyfrifol am ofalu am yr unigolyn pan
gaiff ei ryddhau o’r ysbyty.
Roedd y datganiad
o ran Sir Ddinbych yn talu tâl cadw yn sefyllfa o ffaith ac nid yn
feirniadaeth. Teimlai darparwyr bod gofal cartref da yn ymwneud â pharhad gofal a'r
berthynas rhwng y staff hynny a defnyddwyr gwasanaethau.
4.
Roedd Sir Ddinbych yn comisiynu galwadau
15 munud o hyd, a’r farn yw nad yw hyn yn dderbyniol
Yn ystod yr
adolygiad, canfuwyd bod Sir Ddinbych yn comisiynu mwy o alwadau 15 munud nag
awdurdodau eraill a gofynnwyd i’r cyngor sicrhau ei hun eu bod wedi eu
cyfiawnhau ac yn briodol. Er bod y cyngor yn ystyried y galwadau hynny yn briodol roedd darparwyr yn
dweud eu bod yn ei chael hi’n anodd i ddarparu gofal o fewn y terfyn amser
hwnnw. Roedd y farn honno wedi cael ei
hadlewyrchu yn yr adroddiad.
5.
Dylai’r Awdurdod Lleol adolygu’r
trefniadau sefydliadol ar gyfer comisiynu a chontractio oherwydd nad ydynt
yn glir i bawb ac mae hynny'n cael cryn effaith ar effeithiolrwydd
y cylch comisiynu, yn arbennig o ran monitro contractau.
Derbyniwyd nad
lle AGGCC oedd dweud wrth y cyngor sut i weithredu ei fusnes. Roedd yr adolygiad wedi ei gynnal ar adeg o newid
o fewn y cyngor gydag ad-drefnu timau nad oedd wedi bod yn glir i bobl ar y
pwynt hwnnw.
6.
Nid yw'r awdurdod lleol yn cwrdd â
darparwyr yn rheolaidd ac roedd straen ar y berthynas
Er mai bwriad y
cyngor oedd i gwrdd â darparwyr yn rheolaidd roedd rhai cyfarfodydd wedi cael
eu canslo cyn yr adolygiad ac roedd cyfarfodydd bellach yn fwy rheolaidd gyda’r
Pennaeth Gwasanaeth yn cadeirio’r cyfarfodydd hynny. Ar y pryd roedd rhai darparwyr wedi dweud
nad oeddent wedi cael y cyfle i gwrdd â'r awdurdod a byddent yn croesawu hynny.
Derbyniwyd na fyddai
rhai darparwyr yn mynegi’r farn honno.
7.
Nid oedd adolygiadau bob amser yn cael eu
cynnal fel sy'n angenrheidiol
Roedd perfformiad
yn dda ac mae'r sylw a wnaed wedi bod yn fwy am yr amser a gymerir i ymateb i
newidiadau mewn amgylchiadau. Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol
bod yr holl ddarparwyr wedi cael gwybod bod ganddynt y gallu i newid pecyn
gofal unigolyn os byddai mater yn codi heb ofyn i'r awdurdod yn gyntaf.
I gloi esboniodd
y CRh y byddai adroddiad arolygu cenedlaethol AGGCC yn helpu i lywio'r
strategaeth gofal pum mlynedd ar gyfer Cymru ac roedd yn cynnwys symud oddi
wrth 'amser a thasg' a chanolbwyntio ar ganlyniadau gwell i bobl.
Eglurodd y
Cadeirydd fod yr adroddiad arolygu AGGCC wedi cael ei gyflwyno i'r pwyllgor yn
unol â'r broses adrodd arferol ar gyfer adroddiadau rheoleiddio allanol ac
roedd cynrychiolwyr o AGGCC wedi cael gwahoddiad fel rhan o'r broses honno yn
sgil y gwahaniaethau barn a amlygwyd. Yn gyffredinol roedd aelodau yn teimlo y bu
cyfnewid safbwyntiau gonest ac agored gan weithwyr proffesiynol ar y ddwy ochr
a oedd wedi helpu i egluro materion a godwyd a'r camau sydd eu hangen i fynd
i'r afael â phryderon penodol. Trafodwyd y rhesymeg y tu ôl i Lywodraeth
Cymru yn comisiynu'r adolygiad a'r canlyniadau a ddisgwylir ac yn gyffredinol
ystyriodd y pwyllgor yr adolygiad yn gam cadarnhaol wrth fynd i'r afael â'r
problemau a wynebir o fewn y farchnad gofal cartref a gwella'r ddarpariaeth ar
draws Cymru. Roedd yr aelodau'n awyddus i ddysgu sut y byddai'r adolygiad yn cael ei
ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwelliant ac a fyddai cymorth
ariannol yn dod i law er mwyn helpu i gyflawni gwell canlyniadau, yn enwedig
yng ngoleuni'r toriadau yn y gyllideb sy'n wynebu awdurdodau lleol.
Eglurodd y CRh bod
AGGCC yn cynnal arolygiadau i wella darpariaeth gofal ac roedd yn gweithredu'n
annibynnol o Lywodraeth Cymru ac nid oedd ganddynt unrhyw ddylanwad dros eu
blaenoriaethau na’u treuliau. Fodd bynnag, cytunodd i gyflwyno sylwadau'r
aelodau i’r Bwrdd Comisiynu Cenedlaethol. Roedd yr adroddiad cenedlaethol yn cynnwys
argymhellion i Lywodraeth Cymru ac o 1 Ebrill 2017 byddai Cyngor Gofal Cymru yn
cael ei ddiwygio fel Gofal Cymdeithasol Cymru a byddai'r mater hwn yn
flaenoriaeth o ran cefnogi darparwyr a chynghorau a sicrhau arfer gorau.
Trafododd yr
Aelodau ganfyddiadau'r adroddiad a'r ymatebion i'r gwahanol faterion a godwyd
gyda Phennaeth y Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a chynrychiolwyr AGGCC, ynghyd
â'r cyd-destun cenedlaethol ehangach a’r risgiau yn y farchnad gofal cartref.
Prif bwyntiau trafod
yn cynnwys -
·
sicrhau
bod pobl yn gallu aros yn eu cartrefi eu hunain a byw mor annibynnol ag y bo modd
yn elfen allweddol ac yn parhau i fod yn flaenoriaeth
·
pryderon
a godwyd ynghylch diffyg difrifol o gapasiti yn y farchnad gofal cartref a oedd
yn hynod o fregus gyda gormod o bwyslais ar gost
·
amlygwyd
unigrwydd ac ynysu cymdeithasol yn fater o bwys i bobl sy'n cael gofal yn y
cartref, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig a'r angen i sicrhau bod ymweliadau
cartref yn parhau lle y bo'n briodol, ac nid yn cael eu disodli gan alwadau
ffôn
·
croesawyd
symud oddi wrth 'amser a thasg' i symud at ymagwedd sy’n canolbwyntio mwy ar yr
unigolyn sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau a lles ac ymhelaethodd Pennaeth y
Gwasanaeth Cymorth Cymunedol ar waith a wneir er mwyn efelychu arferion da mewn
ardaloedd eraill drwy ddatblygu model pris sefydlog i gynnwys cymysgedd o gwmni
lleol mawr a bach er mwyn darparu’r gwasanaethau gorau i ddefnyddwyr gwasanaeth
·
byddai
amodau ar gyfer darparwyr yn y model newydd yn cynnwys cofrestru gyda CSSIW,
swyddfa leol yng Nghymru a bodloni safonau Iaith Gymraeg
·
eglurwyd
nad oedd Asesiad Effaith Lles wedi bod yn angenrheidiol yn yr achos hwn
oherwydd bod yr adroddiad wedi ei seilio ar ganfyddiadau'r adolygiad ac nid
oedd yn arwain at unrhyw newid yn y polisi - byddai Asesiad Effaith Lles yn
cael ei gynnal wrth ddatblygu'r cynllun comisiynu
·
nodwyd
bod y ddau Adroddiad Gwella Blynyddol diwethaf a gyhoeddwyd gan Swyddfa
Archwilio Cymru wedi cynnwys adroddiad beirniadol gan AGGCC ar ofal cartref a
byddai’r adroddiad diweddaraf yn ymddangos yn yr Adroddiad Gwella Blynyddol
nesaf
·
roedd
comisiynu a thendro gwasanaethau wedi’i amlygu fel mater hollbwysig a holodd y
Cadeirydd a allai AGGCC gymryd sicrwydd gan y camau gweithredu sy'n cael eu
cymryd yn y cyswllt hwnnw – roedd y CRh yn cymharu gwelliant gyda thaith a
dywedodd y byddai AGGCC yn parhau i fonitro a gwerthuso cynnydd
·
o ran
y berthynas rhwng y cyngor a darparwyr cadarnhaodd y CRh nad oedd y ffordd y
caiff gofal ei gomisiynu wedi arwain at bartneriaeth gyfartal a dylai’r newid
arfaethedig yn y trefniadau helpu yn hynny o beth a gwella’r perthnasau hynny -
byddai rhai darparwyr yn fwy parod i siarad gydag AGGCC fel corff niwtral yn
hytrach na'r cyngor oedd yn comisiynu eu gwasanaethau
·
eglurodd
Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth Cymunedol bod comisiynu gwasanaethau gofal
preswyl yn fater ar wahân sy'n cynnwys contract cyffredinol gyda'r cartref
gofal - roedd gan ddarparwyr gofal cartref gontract gyda'r cyngor a gellid
cynnig darn o waith.
Wrth ystyried y
ffordd ymlaen roedd y pwyllgor yn awyddus i fonitro cynnydd o ran y camau
gweithredu a restrir yn 4.5 o'r adroddiad er mwyn mynd i'r afael â meysydd sy'n
peri pryder - yn enwedig comisiynu a thendro gwasanaethau gofal cartref a
gafodd ei ystyried yn rhan hanfodol o'r broses. O ganlyniad -
PENDERFYNWYD y dylid derbyn yr adroddiad a'i nodi ac
adroddiad cynnydd ar y camau gweithredu a restrir ym mharagraff 4.5 o'r
adroddiad i fynd i’r afael â meysydd sy'n peri pryder i gael ei gyflwyno i'r
pwyllgor ym mis Ebrill 2017.
Dogfennau ategol:
- DOMICILIARY CARE REPORT, Eitem 5. PDF 183 KB
- DOMICILIARY CARE REPORT - APP 1, Eitem 5. PDF 2 MB
- DOMICILIARY CARE REPORT - APP 2, Eitem 5. PDF 230 KB