Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol Addysg (copi yn amgaeedig) ynglŷn â’r ffordd ymlaen ar gyfer Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn.

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cytuno bod swyddogion yn datblygu achos busnes ar gyfer adeilad newydd i Ysgol Llanfair DC, a

 

(b)       Chytuno i barhau â’r sefyllfa bresennol o ran Ysgol Pentrecelyn

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn nodi cefndir yr adolygiad mewn perthynas ag Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn, ynglŷn â’r rhesymeg dros y dull a argymhellir.

 

Ar ôl cwblhau’r broses trefniadaeth ysgolion ym mis Hydref 2015, cymeradwyodd y Cabinet argymhelliad i gau Ysgol Llanfair DC ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol gynradd newydd Categori 2 yr Eglwys yng Nghymru gyda dwy ffrwd.  Heriwyd y penderfyniad drwy Adolygiad Barnwrol a’i ddileu ar seiliau gweithdrefnol.  Nid oedd y Llys wedi beirniadu rhinweddau’r cynnig a byddai modd gwneud penderfyniad tebyg yn dilyn ymarfer ymgynghori pellach.  Fodd bynnag, roedd angen ailystyried unrhyw gynnig yn y dyfodol yn seiliedig ar effaith ehangach a’r amgylchiadau presennol gan roi sylw dyledus i gydlyniant cymunedol a dysgwyr.  Ar ôl trafodaethau gyda chymunedau’r ddwy ysgol, roedd yn amlwg nad oeddent yn dymuno ail-ystyried yr un cynnig a byddai olrhain y dewis hwnnw yn peri risg o  ymraniad cymunedol a heriau cyfreithiol pellach.  Roedd hefyd yn amlwg na ellir parhau â’r sefyllfa bresennol yn Ysgol Llanfair ac roedd galw am ysgol Categori 2 gynaliadwy yn yr ardal.  Yn sgil yr ystyriaethau hynny, argymhellwyd na ddylid ymgynghori ar y cynnig gwreiddiol.  Yn hytrach, gofynnwyd i’r Cabinet ystyried cynigion i ail-adeiladu Ysgol Llanfair ar safle newydd ac i beidio â chymryd unrhyw gam pellach ar gyfer dyfodol Ysgol Pentrecelyn a fyddai’n parhau fel ysgol Categori 1.

 

Amlygodd yr Arweinydd nod y cyngor i fuddsoddi mewn ysgolion newydd a chreu adeiladau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol ac i roi plant wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau.  Er bod yr holl aelodau wedi cefnogi blaenoriaeth y Cyngor i foderneiddio ysgolion, roedd y broses wedi arwain at benderfyniadau anodd a chydnabuwyd fod y broses yn yr achos hwn wedi bod yn anodd iawn ar gyfer y cymunedau dan sylw.  Er y byddai modd ymgynghori eto ar y cynigion gwreiddiol, teimlwyd y byddai’r ymraniad a achoswyd yn y cymunedau o ganlyniad i’r broses yn amharu ar unrhyw gydweithrediad rhwng y cymunedau yn y dyfodol agos.  O ganlyniad, fel yr Aelod Lleol, cefnogodd yr Arweinydd argymhellion yr adroddiad a fyddai’n caniatáu i Ysgol Pentrecelyn barhau fel ysgol Categori 1 ac i elwa o’r un gefnogaeth a ddarperir i bob ysgol arall yn y sir, a darparu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair o ystyried y cyfleusterau gwael iawn sydd ar y safle a’r pryderon o ran diogelwch ar y ffyrdd.

 

Ar ôl ystyried y ffactorau perthnasol a’r rhesymau dros y cynigion, cefnogodd y Cabinet yr argymhellion.  Derbyniwyd na fyddai’n fuddiol parhau â’r cynnig gwreiddiol o ystyried y digwyddiadau diweddar a’r gwrthdaro parhaus dros y categori iaith arfaethedig na ellir ei ddatrys i fodloni cymunedau’r ddwy ysgol.  O ran Ysgol Llanfair, roedd yn amlwg bod angen buddsoddi mewn adeiladu ysgol newydd Categori 2 â dwy ffrwd yn yr ardal, ac fe gyfeiriwyd yn benodol at yr amodau llawn a’r cyfleusterau anaddas nad oeddent yn arwain at ddysgu da a dyletswydd y Cyngor i ddarparu’r cyfleusterau gorau ar gyfer disgyblion lle bo modd.

 

Gwahoddodd yr Arweinydd gwestiynau a sylwadau gan rai nad oeddent yn Aelodau Cabinet ac roedd prif bwyntiau'r drafodaeth yn canolbwyntio ar y canlynol-

 

·         Er bod cefnogaeth gyffredinol ar gyfer argymhellion yr adroddiad ceisiwyd sicrwydd o ran diogelu Ysgol Pentrecelyn ar gyfer y dyfodol, a phwysleisiwyd bod angen cydraddoldeb a chwarae teg, yn enwedig o ran buddsoddiad yn yr ysgol. Eglurodd y Cynghorydd Eryl Williams y byddai’r sefyllfa bresennol yn cael ei chynnal yn Ysgol Pentrecelyn a fyddai’n parhau i dderbyn cefnogaeth gan y Cyngor a GwE ochr yn ochr â holl ysgolion y sir.  O ran buddsoddiad, defnyddir yr un ymagwedd ag ardal Llanferres/Llanarmon gyda buddsoddiad yn y dyfodol yn cael ei ystyried fel rhan o gynigion cyllid Band B ar gyfer Ysgolion yr 21ain Ganrif.  Wrth arwain yr alwad am fwy o sicrwydd, ceisiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fesurau cadarn i ddiogelu dyfodol hirdymor Ysgol Pentrecelyn y tu hwnt i gyfnod oes y Cyngor presennol.  Fodd bynnag, nodwyd y byddai’r Cyngor newydd, a fydd yn cael ei ethol yn dilyn etholiadau mis Mai 2017, yn gosod ei flaenoriaethau ei hun, ac er y gobeithir y byddent yn parhau ac yn ategu at waith y cyngor presennol, ni ellir gwarantu hynny.

·         Y prif wrthwynebiad i’r cynnig gwreiddiol oedd y categori iaith ar gyfer yr ysgol ardal newydd a gofynnodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y cofnodir y bu parodrwydd ar ran Ysgol Pentrecelyn i weithio gydag Ysgol Llanfair i greu ysgol Categori 1 newydd.   Roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn gobeithio y byddai’r ymraniadau cymunedol a grëwyd o ganlyniad i’r broses yn adfer dros amser – roedd carfannau wedi’u rhannu oherwydd y safbwyntiau gwrthwynebol o ran y categori iaith ac roedd mwyafrif y gefnogaeth yn cefnogi ysgol Categori 2.  Y flaenoriaeth wrth symud ymlaen oedd darparu addysg ag ansawdd gwell yn y dyfodol.

·         Roedd y Cynghorwyr Alice Jones ac Arwel Roberts wedi gwrthwynebu penderfyniad gwreiddiol y Cabinet i beidio â dynodi’r ysgol ardal newydd fel ysgol Categori 1 a mynegwyd pryder ynglŷn â'r broses gyfreithiol faith a gafwyd.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Roberts at gyfarfod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad ar 11 Mehefin 2015 ac roedd yn siomedig fod y pwyllgor wedi penderfynu peidio â gofyn i’r Cabinet ailystyried ei benderfyniad, yn enwedig gan y byddai’r canlyniad yn wahanol pe  bai dim ond yr aelodau etholedig wedi'u caniatáu i bleidleisio yn y cyfarfod hwnnw.  Cadarnhaodd y swyddogion fod gan aelodau cyfetholedig y pwyllgor hawl cyfreithiol i bleidleisio ar y mater

·         O ran canlyniad yr adolygiad barnwrol, roedd y Cynghorydd Martyn Holland wedi ceisio sicrwydd ynglŷn â’r broses yn flaenorol, ac roedd yn gobeithio y gellir dysgu gwersi o ganlyniad i’r broses.  Roedd yn falch o nodi y byddai Pwyllgor Archwilio Cymunedau yn adolygu’r broses honno yn y dyfodol.  Teimla’r swyddogion ei bod yn bwysig nodi nad oedd y broses gyfan yn wallus a bod yr adolygiad barnwrol yn cyfeirio at yr agwedd weithdrefnol.  Byddai deall yr agwedd honno yng nghyd-destun cod trefniadaeth ysgolion yn derbyn trafodaeth bellach yn y pwyllgor archwilio.  Yn bersonol, roedd y Cynghorydd Eryl Williams yn credu bod y Cyngor wedi dilyn y broses gywir a bod canllawiau Llywodraeth Cymru yn anghywir.

·         Cefnogodd y Cynghorydd Huw Williams argymhellion yr adroddiad ond lleisiodd ei bryderon ynglŷn â’r camau cyfreithiol a gododd o’r penderfyniad gwreiddiol a’r gost ddilynol i’r awdurdod.  Cyfeiriodd at y rheolau newydd i gefnogi ysgolion gwledig Cymru, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan yr Ysgrifennydd Addysg, ac yn dilyn y datganiad hwnnw gofynnodd am ailystyried y penderfyniad i gau Ysgol Llanbedr.  Eglurodd y swyddogion y costau a ysgwyddir gan yr awdurdod o ganlyniad i’r adolygiad barnwrol ac eglurwyd, oherwydd dyfarniad gan y llys, roedd y Cyngor yn atebol am fwyafrif helaeth y costau beth bynnag fo’r canlyniad.  O ran Ysgol Llanbedr, disgwylir penderfyniad gan yr Ysgrifennydd Addysg.  Awgrymodd datganiad diweddar y byddai rheolau newydd yn cael eu cyflwyno yn y dyfodol mewn perthynas ag ysgolion gwledig yn dilyn ymarfer ymgynghori, ac o ganlyniad byddai’n anodd ymateb ar y cam hwn yn y broses.

·         mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y byddai lleoedd dros ben yn cael eu datrys yn yr ardal, cadarnhaodd y swyddogion y byddai niferoedd disgyblion a maint yr adeilad ysgol newydd ar gyfer Ysgol Llanfair yn cael eu hystyried yn ystod y cam o ddatblygu’r achos busnes.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bobby Feeley at yr argymhellion fel datrysiad cyfaddawd a gobeithir y byddai’r penderfyniad yn gymorth i adfer yr ymraniad rhwng y cymunedau.  Y gobaith ar ddechrau’r broses adolygu oedd y byddai cytundeb yn cael ei ffurfio ond yn anffodus nid dyma’r achos ac yr argymhellion hyn yw’r ffordd orau ymlaen yn awr ar gyfer y ddwy ysgol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Eryl Williams yr argymhellion i sicrhau’r dyfodol gorau ar gyfer y ddwy ysgol, fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Hugh Evans.  Wedi hynny –

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

 (a)      cytuno bod y swyddogion yn datblygu achos busnes ar gyfer adeilad newydd ar gyfer Ysgol Llanfair DC, ac

 

 (b)      yn cytuno i gynnal y sefyllfa bresennol o ran Ysgol Pentrecelyn.

 

 

Dogfennau ategol: