Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

CAIS RHIF 01/2014/1330PF - HEN YSBYTY GOGLEDD CYMRU, DINBYCH

Ystyried cais i drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif adeiladau rhestredig at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

[Datganodd y Cyng Raymond Bartley a Mark Young gysylltiad personol oherwydd eu bod yn aelodau o Gyngor Tref Dinbych.]

 

[Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies gysylltiad personol oherwydd ei fod yn gweithio yn yr ysbyty o'r blaen.]

 

Cyflwynwyd cais i drawsnewid, adfer, dymchwel rhai rhannau ac addasu’r prif adeiladau rhestredig at ddibenion preswyl (34 annedd), a datblygu tir yr ysbyty ar gyfer defnydd cymysg i alluogi datblygu, gan gynnwys hyd at 200 o unedau preswyl a hyd at 1114 metr sgwâr o unedau busnes, mynediad a gwaith cysylltiedig ar safle hen Ysbyty Gogledd Cymru, Dinbych.

 

Dadl gyffredinol - Rhoddodd y Swyddog Cynllunio (IW) rywfaint o wybodaeth gefndirol a oedd yn cyffwrdd ar hanes y safle, gan gynnwys ei gau yn 1995 a statws rhestredig yr adeiladau, a gafodd eu hystyried gan CADW i fod yr enghraifft orau o'i math yng Nghymru. Roedd polisïau cynllunio wedi'u datblygu a oedd yn caniatáu i alluogi datblygiad i helpu greu cyfalaf i gynorthwyo ag adfer yr adeiladau. Roedd y cais yn debyg o ran natur i un a gafodd ganiatâd yn 2006.

Cadarnhawyd mai perchennog presennol y safle oedd Freemont (Dinbych) Cyf, ond yr ymgeisydd ar gyfer y cais cynllunio oedd Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog yn gweithredu ar ran Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru.  Roedd y Gorchymyn Prynu Gorfodol wedi’i gadarnhau, ond roedd Datganiad Breinio Cyffredinol yn aros i gael ei gyflwyno, a fyddai'n gofyn am awdurdodiad y Pwyllgor Cynllunio.  Wrth weithredu’r Datganiad Breinio Cyffredinol a mynd heibio’r dyddiad breinio, yna byddai'r teitl yn cael ei basio i'r cyngor.  Unwaith y bydd y cyngor wedi cymryd perchnogaeth o’r safle, byddent yn ei drosglwyddo ar unwaith i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi'i sefydlu i ddelio ag Adeiladau Rhestredig cymhleth a mawr ledled y DU.  Unwaith roedd y berchnogaeth wedi’i throsglwyddo i Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Gogledd Cymru efallai y byddant yn gallu cael mynediad at gymorth grant amrywiol i gynorthwyo gyda'r datblygiad.

 

Nid oedd unrhyw ddarpariaeth tai fforddiadwy fel rhan o'r cais, er byddai cyfle i Gymdeithas Tai brynu rhai o'r tir i adeiladu cartrefi.

 

Nid oedd gan swyddogion priffyrdd unrhyw wrthwynebiad i'r cais yn amodol ar gynnwys amodau safonol sy’n gofyn am gymeradwyaeth o fanylion llawn y gwaith priffyrdd, ffyrdd ystad mewnol ac isadeiledd cysylltiedig, datganiad(au) dull adeiladu, a gwella cysylltiadau beicio a cherdded gyda'r dref.

 

Roedd y cynigion datblygu’n ymwneud â'r gwaith o adfer y prif Adeilad Rhestredig.  Byddai rhai adeiladau ar y safle yn cael eu dymchwel.   Nid oedd unrhyw gynigion penodol yn y cais mewn perthynas â Chartref y Nyrsys, y Capel, y Mortiwari neu adeiladau Ward Aled a gafodd eu nodi fel "adeiladau y gellid eu cadw os yw defnydd terfynol addas a hyfywedd yn cael eu canfod".

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai 'ymarfer papur' oedd y cam costio yn ei hanfod ar hyn o bryd, oherwydd pan fydd y tir yn cael ei brynu a thai yn cael eu hadeiladu ac yn dechrau gwerthu, byddai mwy o hyder yn y farchnad dai ac efallai y bydd prisiau yn cynyddu.  Pe rhagorwyd ar ddisgwyliadau, byddai'r Ymddiriedolaeth yn dyrannu'r cyllid i achub adeiladau eraill o fewn y safle. 

 

O ran y mater o ystlumod, cadarnhawyd y byddai mesurau lliniaru yn cael eu gweithredu i ymdrin ag effeithiau ar rywogaethau Ewropeaidd a warchodir.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Colin Hughes (Aelod Ward) ei gefnogaeth i ddatblygu'r safle a datganodd ei bwysigrwydd i dref Dinbych.   Anogodd y Cynghorydd Hughes i’r Pwyllgor Cynllunio bleidleisio o blaid y cais cynllunio.  Yn y fan hon, mynegodd ei ddiolch i'r holl gynghorwyr, swyddogion ac Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog a oedd wedi bod yn rhan o'r prosiect dros nifer o flynyddoedd.

 

Cadarnhaodd y swyddogion y byddai cynigion ar gyfer hyrwyddo / gwella'r iaith Gymraeg fel rhan o'r datblygiad yn cael eu cynnwys o fewn y cytundeb cyfreithiol sy'n gysylltiedig â'r caniatâd cynllunio. Gan fod hwn yn safle datblygu mawr, cadarnhawyd bod risgiau yn cael eu monitro a byddai adroddiadau yn parhau i gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Cynllunio. Roedd y perchnogion presennol yn dal i allu i werthu'r safle nes bod y Datganiad Breinio Cyffredinol wedi’i gyflwyno.  Roedd yr Ymddiriedolaeth elusennol yn awyddus i achub yr adeiladau rhestredig ac nid i wneud elw.

 

PLEIDLAIS:

CYMERADWYO - 21

YMATAL - 0

GWRTHOD - 0

 

PENDERFYNWYD y dylid CANIATÁU’R cais cynllunio, yn unol ag argymhelliad y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Yn y fan hon, mynegodd y Cadeirydd, y Cynghorydd Raymond Bartley ei ddiolch i'r holl swyddogion, Phil Ebbrell sydd eisoes wedi ymddeol a'r diweddar Jane Kennedy, yr Uwch Gyfreithiwr, am eu holl waith ar y prosiect.

 

 

Dogfennau ategol: