Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

EFFAITH Y CYNNYDD MEWN TALIADAU PARCIO CEIR AR Y SIR

Archwilio’r effaith y mae’r cynnydd mewn taliadau parcio ceir yn ei gael ar ganol trefi’r sir.

 

Cofnodion:

Yn ei gyflwyniad, atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod y fethodoleg ar gyfer gosod prisiau parcio priodol ar draws y sir wedi’i archwilio gan y Pwyllgor ym mis Gorffennaf 2015 a bod y Pwyllgor wedi argymell bod y pris parcio is o'r ddau a gynigiwyd yn cael ei weithredu.  Roedd penderfyniadau ynglŷn â ffioedd a phrisiau parcio yn bŵer wedi’i ddirprwyo i'r Prif Swyddog ac ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol roedd y Swyddog Arweiniol wedi penderfynu y byddai’n well codi’r pris uchaf o’r ddau. 

 

O ganlyniad, pan weithredwyd y penderfyniad derbyniwyd rhyw faint o ymatebion anffafriol gan breswylwyr a busnesau.  Mewn ymateb i'r pryderon hyn roedd y Pwyllgor wedi gofyn fod adroddiad ar effaith y cynnydd mewn prisiau ar drefi’r sir yn cael ei gyflwyno i’w ystyried gan yr aelodau.  Croesawodd y Cadeirydd ddau aelod o’r cyhoedd a oedd yn bresennol yn y cyfarfod ac fe’u cynghorwyd y gallant rannu eu sylwadau gyda’r Pwyllgor ar ôl cyflwyno’r adroddiad ffurfiol. 

 

Gan gyflwyno’r adroddiad a’r atodiadau cysylltiol, atgoffodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus y Pwyllgor mai’r cynnydd mewn prisiau parcio a gyflwynwyd ym mis Ebrill 2016 oedd y cynnydd cyntaf yn Sir Ddinbych ers 2009. Pwysleisiodd nad oedd yr holl brisiau wedi cynyddu, er enghraifft roedd cost trwydded parcio flynyddol wedi parhau'r un fath. 

 

Roedd y fenter hirsefydlog sy’n caniatáu i bob cyngor tref enwebu pum diwrnod parcio am ddim yn eu tref bob blwyddyn wedi’i gadw hefyd, ynghyd â’r arfer o ganiatáu parcio am ddim ym mhob tref o 3pm yn ddyddiol yn y 4 wythnos cyn y Nadolig. 

 

Hysbysodd yr Aelod Arweiniol y Pwyllgor fod dau gyngor tref, ar ôl clywed am y prisiau parcio newydd, wedi bod yn arloesol ac wedi penderfynu rhoi cymhorthdal ar gyfer prisiau parcio yn eu trefi penodol o’u harian eu hunain, roedd eraill o’r farn nad oedd hyn yn hanfodol.

 

Wrth annerch y Pwyllgor nododd aelod o’r cyhoedd:

  • ei bod hi wedi synnu mai dim ond 35 cwyn a dderbyniwyd, yn enwedig gan ei bod yn ymwybodol o ddeiseb a gyflwynwyd o ardal Rhuthun a oedd yn cynnwys dros 1,100 o lofnodion;
  • roedd prisiau parcio meysydd parcio arhosiad byr wedi cynyddu 300%, a oedd yn golygu bod meysydd parcio Sir Ddinbych yn ddrytach na’r rhai mewn awdurdodau cyfagos;
  • gan mai dim ond mewn meysydd parcio arhosiad hir y gellir prynu trwyddedau parcio roedd yn cyfyngu opsiynau parcio ar gyfer pobl anabl.

 

Yn dilyn trafodaeth, codwyd y pwyntiau canlynol gan yr Aelodau:

  • roedd angen hyrwyddo argaeledd trwyddedau parcio blynyddol yn ehangach;
  • pryderon y byddai cynnydd mor sylweddol mewn prisiau parcio yn golygu y byddai pobl yn mynd i siopa ymhellach i ffwrdd, lle’r oedd y prisiau yn is.
  • roedd gan bob tref ei anghenion unigol, ac roedd yr effaith yn waeth yn Rhuthun gan fod y gost ar gyfer gyrwyr wedi'i gymorthdalu gan arian a roddwyd gan gronfa a sefydlwyd gan aelodau lleol yn ystod cyfnod swydd y Cyngor blaenorol tan eleni.  Fodd bynnag, roedd y gronfa wedi dod i ben yn awr ac roedd hyn wedi digwydd yr un pryd â chyflwyno’r prisiau newydd, felly roedd Rhuthun wedi profi effaith ddwbl.  Roedd Cyngor Tref Rhuthun wedi penderfynu peidio â mabwysiadu'r ymagwedd a fabwysiadwyd gan Gynghorau Tref Dinbych a Phrestatyn o gymorthdalu'r costau parcio yn eu trefi;
  • er bod incwm mwyafrif y meysydd parcio wedi cynyddu ers cyflwyno’r prisiau newydd, roedd llai o docynnau wedi’u gwerthu;
  • y ffaith fod prisiau parcio yn llawer is yn yr Wyddgrug nac yn Rhuthun;
  • teimlad nad oedd parcio ceir yn broblem fawr yn y Rhyl oherwydd y ffaith fod y siopau mawr wedi adleoli i Brestatyn, fodd bynnag roedd pobl yn anfodlon parcio yn y maes parcio tanddaearol a weithredwyd gan y Cyngor oherwydd bod ceir sy’n cael eu gadael yno’n cael eu fandaleiddio;
  • ni ddylid defnyddio nifer y cwynion fel yr unig feincnod ar gyfer anfodlonrwydd preswylwyr ac eraill gyda’r prisiau newydd, dylid rhoi ystyriaeth i ddefnyddwyr blaenorol y meysydd parcio a oedd yn awr yn gyrru i rywle arall i siopa neu ganfod gofodau parcio, gan effeithio ar ardaloedd preswyl ar adegau;
  • pryderon ynglŷn â diffyg gofodau parcio dynodedig ar gyfer beiciau modur/ sgwteri ym meysydd parcio’r sir a oedd yn golygu bod cerbydau llai yn defnyddio gofodau parcio llawn mewn meysydd parcio penodol;
  • cydnabod bod y cynnydd diweddar mewn prisiau parcio wedi achosi pryder ymysg preswylwyr, fodd bynnag, roeddent yn llawer is na rhai ardaloedd eraill, yn enwedig ardaloedd twristiaeth.  Cyfeiriodd un cynghorydd at nifer y lleoedd yr oedd wedi ymweld â nhw yn ystod yr haf ar draws Gogledd Cymru a Swydd Amwythig.  Dim ond mewn dau le yr oedd wedi peidio â pharcio mewn maes parcio cyhoeddus oherwydd prisiau gormodol, roedd y ddau yn lleoliadau mewn trefi twristiaeth arfordirol yng Ngwynedd;

 

Cofrestrodd y Cynghorydd Rhys Hughes ei wrthwynebiad personol i gynghorau tref yn cymorthdalu prisiau parcio yn eu trefi, gan ei fod yn credu y dylai’r prisiau fod yr un fath ac yn gyson ar draws y sir.

 

Nododd yr aelodau eraill oedd yn bresennol, er y byddai pawb yn hoffi parcio am ddim, yn yr hinsawdd economaidd bresennol y gwirionedd oedd nad oedd hynny’n bosibl os oedd y cyngor am fuddsoddi yn ei feysydd parcio.  Er y cydnabuwyd y gall prisiau parcio gael effaith ar nifer ymwelwyr yng nghanol trefi ac ar fusnesau yn gyffredinol, roedd arferion siopa’r cyhoedd wedi newid hefyd.  Roedd pobl yn tueddu i ymweld â pharciau siopa y tu allan i drefi, ac roedd siopa ar ddydd Sul a siopau 24 awr ar gael mewn nifer o leoedd yn awr, ynghyd â siopa ar y we.  Roedd yr holl agweddau hyn wedi effeithio ar siopa yng nghanol trefi. 

 

Nid oedd unrhyw dystiolaeth fesuradwy i ddangos a oedd y cymhorthdal o £50mil a roddwyd gan yr aelodau lleol i ardal Rhuthun i gymorthdalu prisiau parcio dros gyfnod o bum mlynedd wedi gwneud gwahaniaeth i nifer yr ymwelwyr neu’r busnesau yn y dref.  Atgoffwyd aelodau’r Pwyllgor hefyd fod gan Sir Ddinbych ei ganolfannau siopa y tu allan i drefi e.e. Tweedmill a Pharc Manwerthu Clwyd a oedd yn cyflogi nifer o breswylwyr ac yn cyfrannu at yr economi leol.    

 

Gan ymateb i’r pwyntiau a godwyd eglurodd yr Aelod Lleol a'r swyddogion fod: 

  • nifer y cwynion a dderbyniwyd, cyfanswm o 35, yn cyfeirio at nifer y cwynion unigol penodol a dderbyniwyd drwy Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor.  Nid oedd deisebau a lofnodwyd wedi’u cynnwys yn y ffigurau hyn;
  • roedd argymhelliad 9 yn atodiad 2 yn cydnabod bod angen hyrwyddo argaeledd y trwyddedau parcio blynyddol ac archwilio hyfywedd yr opsiwn o dalu am drwyddedau blynyddol mewn rhandaliadau;
  • roedd trwyddedau parcio ar gael mewn meysydd parcio arhosiad hir yn unig, ond yr unig eithriad oedd maes parcio Heol y Farchnad yn Llangollen.  Y rheswm dros hyn oedd bod meysydd parcio arhosiad hir yn fwy tebygol o gael eu defnyddio gan bobl sy'n gweithio yn hytrach na siopwyr;
  • er bod canran o 300% o gynnydd yn ymddangos fel cynnydd hynod o sylweddol, mewn arian mewn perthynas â meysydd parcio arhosiad byr  roedd cost arhosiad byr wedi cynyddu o 20c;
  • ni fyddai’r Cyngor eisiau diwygio costau parcio yn rheolaidd gan fod costau sylweddol yn gysylltiedig ag ymarfer o'r fath h.y. roedd ail-raglennu peiriannau talu ac arddangos ar draws y sir wedi costio £11mil, nid oedd hyn yn cynnwys costau staffio;
  • Roedd Grŵp Ardal Aelodau Dinbych wedi gofyn i swyddogion y Gwasanaethau Parcio fynychu cyfarfod Cyngor Tref Dinbych i drafod y cynnydd mewn prisiau parcio.  Yn dilyn y cyfarfod hwnnw roedd y Cyngor Tref wedi cynnig cyflwyno cymhorthdal;
  • er bod nifer y tocynnau a werthwyd yn is nag yn ystod yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol, roedd nifer y trwyddedau blynyddol a werthwyd wedi cynyddu'n sylweddol o 18%.  Roedd angen gwaith pellach ar y data hwn, gan gynnwys arolwg nifer ymwelwyr er mwyn dadansoddi'r gwir effaith ar fusnesau canol y dref, ond roedd y dadansoddiad cychwynnol o ffigurau gwerthu tocynnau yn awgrymu bod unigolion a oedd yn prynu dau docyn hanner diwrnod yn y gorffennol yn awr yn prynu trwyddedau blynyddol gan fod hyn yn rhatach yn y pen draw;
  • mewn perthynas â ffioedd parcio yn Sir y Fflint, roedd cyngor tref yr Wyddgrug yn cymorthdalu’r prisiau parcio yn y dref ac roedd prisiau parcio mewn ardaloedd eraill yn y sir yn uwch.  O ran cymharu â siroedd eraill roedd prisiau newydd Sir Ddinbych yn cyd-fynd â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a’r awdurdodau cyfagos eraill;
  • nid oedd argaeledd gofodau parcio, arhosiad byr ac arhosiad hir, yn gymaint o broblem yn y Rhyl ag ydoedd mewn mannau eraill yn y sir, gan fod gan y dref nifer o feysydd parcio cyhoeddus a phreifat sy’n hawdd eu cyrraedd;
  • roeddent yn ymwybodol o ddiffyg gofodau parcio dynodedig ar gyfer beiciau modur/sgwteri anabledd/beiciau yn y sir ac roeddent yn gweithio ar gynlluniau i fynd i’r afael â’r diffyg hwn;
  • roedd pob maes parcio sy’n eiddo i'r cyngor ar draws y sir yn destun yr un cynllun codi tâl; fodd bynnag roedd rhai cynghorau tref wedi dewis cymorthdalu'r prisiau ac felly’n ad-dalu’r Cyngor Sir gyda balans yr incwm sy’n ddyledus o'r meysydd parcio hynny.  Felly roedd y Cyngor Sir yn derbyn taliad llawn ar gyfer pob tocyn a brynwyd;
  • roedd y Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi ym meysydd parcio’r sir yn hir dymor.  Roedd adolygiad rheoli asedau ar y gweill mewn perthynas â'r holl feysydd parcio sy'n eiddo i'r cyngor er mwyn nodi lefel y gwaith cynnal a chadw a gwella yr oedd ei angen ym mhob un, gan gynnwys rhestr o brosiectau blaenoriaeth.  Rhagwelwyd y byddai disodli’r holl beiriannau talu ac arddangos gyda pheiriannau gwell yn costio oddeutu £300mil i £400mil. 
  • roedd angen diweddaru a gwella’r arwyddion ac ymgymryd â gwaith y parth cyhoeddus er mwyn sicrhau bod meysydd parcio yn groesawgar, yn enwedig gan eu bod yn borth i Sir Ddinbych ar gyfer twristiaid ac ati;
  • gellir cyflwyno cynllun rheoli asedau drafft i’r pwyllgor archwilio i’w ymgynghori maes o law os yw aelodau yn dymuno hynny.
  • gwnaed penderfyniad i beidio ag amrywio cost parcio am awr rhwng meysydd parcio arhosiad byr ac arhosiad hir  Dim ond y gyfradd tair awr oedd wedi'i hamrywio.
  • roedd trafodaethau ar y gweill gydag Adran Gwasanaethau Eiddo’r Cyngor ynglŷn â hyfywedd agor meysydd parcio staff fel meysydd parcio talu ac arddangos ar benwythnosau a gŵyl y banc ac ati, yn benodol yr un yn Neuadd y Sir, nawr fod yr adeilad a’r tir yn eiddo i’r Cyngor;
  • roedd swyddogion gorfodi parcio yn gorfodi rheolau parcio ar ddydd Sul hyd at ddiwedd mis Hydref, ac yn parhau â'r gwaith gorfodi ar ddydd Sul ar ôl y dyddiad hwnnw pan gynhelir digwyddiadau;
  • dylid archwilio nifer o opsiynau arloesol i gynorthwyo i gyflawni’r blaenoriaethau corfforaethol o ddatblygu'r economi leol, i ddarparu strydoedd glân a thaclus, a buddsoddi ym meysydd parcio'r sir.  Roedd y rhain yn cynnwys trwyddedau parcio y gellir eu trosglwyddo, cynlluniau taleb parcio gwesty a llety gwely a brecwast ac ati; a
  • byddai rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r newidiadau i brisiau parcio wedi elwa o gyfathrebu'n well ar draws y sir, yn enwedig o ran buddiannau prynu trwyddedau blynyddol.

 

Cynghorodd y Cadeirydd y Pwyllgor y byddai’r broses penderfyniadau dirprwyol gan Brif Swyddog yn y dyfodol yn destun yr un lefel o archwilio, gan gynnwys opsiwn i alw penderfyniad i mewn i’w archwilio, fel y gwneir ar gyfer penderfyniadau dirprwyol gan Aelodau Cabinet ac Aelodau Arweiniol ar hyn o bryd. 

 

Ar ddiwedd y drafodaeth roedd y Pwyllgor o’r farn nad oedd unrhyw elw o adolygu'r prisiau parcio ar hyn o bryd ac y byddai’n well mabwysiadu dull rhagweithiol o reoli a buddsoddi ym meysydd parcio’r Cyngor.  Hefyd roedd angen hysbysu’r preswylwyr ynglŷn â'r cynlluniau a'r datblygiadau ar gyfer meysydd parcio'r Cyngor.  Yn dilyn trafodaeth fanwl:-

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn argymell:

(i)            Bod y Cyngor yn cadw’r cynllun codi tâl presennol ar gyfer y Sir gyfan (fel y nodwyd yn Atodiad B yr adroddiad).

(ii)          Gallai’r Swyddogion ddiwygio’r trefniadau rheoli yn y meysydd parcio, gan gynnwys cyflwyno amrywiadau i’r cynllun codi tâl ar draws y Sir, drwy drafodaethau gyda GGAau, Cynghorau Tref a'r Aelod Arweiniol.

(iii)         Dylai’r swyddogion fynychu pob un o’r chwe Grŵp Ardal Aelodau dros y chwe mis nesaf (Hydref 2016 i fis Mawrth 2017) i drafod y trefniadau rheoli ar gyfer y meysydd parcio yn eu hardal.

(iv)         datblygu cynllun rheoli asedau meysydd parcio i gynorthwyo i flaenoriaethu buddsoddiad, gan gynnwys peiriannau talu ac arddangos modern; gwell arwyddion; gwella gwaith cynnal a chadw cyffredinol; gwelliannau amgylcheddol gan gynnwys plannu ychwanegol ac ati.

(v)          opsiynau i’w harchwilio ar gyfer defnyddio peiriannau talu am barcio i gyflwyno talebau i’w defnyddio mewn siopau lleol, caffis a chyfleusterau’r Cyngor. Gallai hyn amrywio o dalebau syml wedi'u hargraffu ar gefn pob tocyn i beiriannau talu sy’n cynnig amryw o opsiynau.

(vi)         dylid galluogi trosglwyddo tocynnau talu ac arddangos rhwng y meysydd parcio o fewn y Sir i wella hyblygrwydd yn enwedig ar gyfer ymwelwyr, er mwyn i rywun allu prynu tocyn diwrnod cyfan mewn un maes parcio, a fyddai’n caniatáu iddynt barcio mewn unrhyw faes parcio arall y Cyngor yn Sir Ddinbych ar y diwrnod hwnnw.

(vii)        archwilio estyniad posibl i’r system trwyddedau parcio presennol i gynnwys mwy o opsiynau ar gyfer twristiaid. Er enghraifft, gellir gwerthu trwyddedau parcio sy’n para am wythnos, neu benwythnos yn y siopau papur newydd lleol, fel y gwneir mewn lleoedd fel Jersey.

(viii)      swyddogion i ystyried opsiynau ar gyfer cynlluniau taleb parcio ar gyfer gwestai a llety gwely a brecwast a fyddai’n caniatáu i westeiwyr roi taleb parcio i’w gwesteion ar gyfer cyfnod eu harhosiad, ac osgoi yr amgylchiadau pan fu'n rhaid i westeion godi a mynd i brynu tocyn talu ac arddangos yn gynnar yn y bore i osgoi dirwy.

(ix)         Gwella'r gwaith o hyrwyddo'r trwydded parcio arhosiad hir blynyddol ac ystyried cyflwyno'r gallu i dalu mewn rhandaliadau a

(x)          dylid cyflwyno adroddiad cynnydd pellach i’r Pwyllgor mewn chwe mis ynglŷn ag effaith y cynnydd mewn prisiau parcio, ynghyd â chynllun drafft rheoli asedau meysydd parcio i dderbyn sylwadau’r aelodau arno.

 

 

Dogfennau ategol: