Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

STRATEGAETH RHEOLI RISG LLIFOGYDD

Dealltwriaeth o'r gweithgareddau y mae'r Cyngor yn eu cyflawni i reoli risg llifogydd yn y sir a phenderfynu a yw'r rhain yn ddigonol ac yn briodol i gyflawni amcanion y Strategaeth

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ar ‘Reoli Risg Llifogydd Arfordirol ac Erydu yng Nghymru’ (a oedd ynghlwm fel atodiad 1 i’r adroddiad a ddosbarthwyd yn flaenorol) pwysleisiodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus fod hwn yn adroddiad cenedlaethol.  Tynnodd y Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd, fel dirprwy’r Rheolwr Risg Llifogydd, sylw’r aelodau at baragraff 4.1 yr adroddiad eglurhaol a oedd yn amlygu prif bwyntiau’r adroddiad cenedlaethol o safbwynt Sir Ddinbych.  Eglurodd hefyd fod diweddariad cynnydd o ran gweithredu'r amcanion, canlyniadau a mesurau Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor ynghlwm i'r adroddiad fel atodiad 2 hefyd er gwybodaeth i’r Aelodau. 

 

Yn ogystal â’r camau a nodwyd yn y Strategaeth at ddibenion lliniaru risg llifogydd yn Sir Ddinbych, roedd mesurau eraill wedi’u cymryd mewn ymgais i leihau’r risg, er enghraifft, mesurau gweithredol megis arolygu ceuffosydd yn rheolaidd, gwagio rhigolau ac ati.

 

Gan ymateb i gwestiynau’r aelodau, eglurodd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, Pennaeth Gwasanaethau Priffyrdd a’r Amgylchedd a Chyfarwyddwr Corfforaethol:  yr Economi a'r Parth Cyhoeddus:

 

  • Roedd ‘glannau afon’ yng nghyd-destun yr adroddiadau yn golygu tir ger afon.  Cyfrifoldeb y perchennog tir yw mesurau lliniaru llifogydd yn yr ardaloedd hyn fel arfer;
  • roeddent o dan yr argraff fod system mapio risg llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi’i ddiwygio i adlewyrchu unrhyw waith lliniaru llifogydd a wnaed;
  • er bod ‘ail-alinio arfordirol’ a 'cilio a reolir’ yn dermau a ddefnyddiwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru fel dulliau o reoli digwyddiadau dŵr dros ben a llifogydd yn y dyfodol, roedd nifer o gwestiynau heb eu hateb mewn perthynas â chynigion o’r fath;
  • er bod adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar lifogydd arfordirol ac erydiad tir, roedd llifogydd mewndirol ac erydiad tir hefyd yn broblem yn Sir Ddinbych ac felly roedd mesurau lliniaru llifogydd wedi'u gweithredu h.y. yn ardal Corwen.
  • roedd mapiau risg llifogydd wedi’u hystyried fel rhan o’r broses gynllunio pan dderbynnir ceisiadau am ganiatâd cynllunio;
  • Byddai’n rhaid i geisiadau cynllunio ar gyfer datblygiadau mawr, megis y rhai yn y Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), amlinellu cynlluniau/strategaethau rheoli risg llifogydd a rheoli dŵr yn eu ceisiadau manwl, ynghyd ag effaith ganlyniadol eu ceisiadau datblygu;
  • roedd proses gynllunio'r awdurdod lleol yn ystyried asesiadau llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Gellir gwrthod caniatâd cynllunio ar sail risg llifogydd perthnasol;
  • mae'n rhy gynnar i benderfynu a fyddai colled terfynol cyllid Ewropeaidd ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd, o ganlyniad i bleidlais Brexit, yn cael ei ddisodli gan gyllid Llywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru (LlC) maes o law.
  • roedd trafodaethau ar y gweill gydag arbenigwyr cynnal a chadw pontydd ar lefel y gwaith sydd ei angen i gynnal safonau diogelwch pontydd y sir;
  • roedd pryderon mewn perthynas â’r ffaith nad oedd afonydd yn cael eu carthu’n rheolaidd a oedd yn cynyddu risg llifogydd ac roedd pwysau ychwanegol ar bontydd y sir yn ystod cyfnodau o law trwm a llanw uchel.

Roedd Aelodau yn credu y byddai’n ddefnyddiol pe gellir ffurfio partneriaeth rhwng y Cyngor, perchnogion tir lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru at ddibenion carthu a chynnal dyfrffyrdd i leihau risg llifogydd.  Felly teimla’r Pwyllgor y byddai’n ddefnyddiol gwahodd Cyfoeth Naturiol Cymru i gyfarfod yn y dyfodol i drafod materion rheoli dŵr.

 

Yn ystod y drafodaeth gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau oedd wedi codi materion mewn perthynas â phryderon llifogydd lleol penodol iawn neu fesurau lliniaru gyda Rheolwr Risg Llifogydd ac i adrodd unrhyw broblemau sy’n hysbys gyda cheuffosydd (gan gynnwys ceuffosydd wedi gordyfu neu eu rhwystro) i’r Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer er mwyn eu rhestru ar system Rheoli Cyswllt Cwsmer ar unwaith a'u rhestru ar gyfer arolwg.

 

Byddai cwestiynau ychwanegol a godwyd yn ystod y cyfarfod ar gynnwys yr adroddiad ac sydd angen gwybodaeth dechnegol neu arbenigol yn cael eu hanfon ymlaen at y Rheolwr Risg Llifogydd ac arbenigwyr eraill i gael ymatebion ysgrifenedig.  Roedd y rhain yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â:

 

·         system AMX;

·         nifer yr offer clirio/gwagio rhigolau yr oedd y Cyngor yn eu gweithredu a'u haddasrwydd i gael mynediad i ardaloedd hygyrchedd cyfyngedig;

·         a oedd gan y Cyngor raglen waith clirio rhigolau/ceuffosydd yn rheolaidd;

·         a oedd unrhyw dystiolaeth fod cwmnïau yswiriant a/neu gwmnïau morgais yn cydnabod y gwaith a wnaed gan awdurdodau lleol/Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â lliniaru llifogydd h.y. premiymau yswiriant is; caniatau cynigion morgais mewn ardaloedd a oeddent yn cael eu hystyried fel risg uchel o lifogydd yn flaenorol ac ati;

·         a oedd digon o gapasiti o fewn y CDLl ac ati i ddelio â dŵr wyneb a dŵr draenio sy’n dod o safleoedd newydd er mwyn lliniaru risg llifogydd pellach yn bellach i lawr ac ati;

·         a oedd gan y Cyngor strategaeth rheoli dŵr cadarn neu gynlluniau rheoli dŵr sy’n fwy lleol i ddelio â dŵr dros ben h.y. un broblem a nodwyd oedd Parc Busnes Llanelwy;

·         a oedd gan yr Adran Priffyrdd bolisi i wyro dŵr wyneb i ffosydd, gan fod hyn yna’n achosi problemau pellach, yn enwedig pan nad oedd y ffosydd yn cael eu cynnal neu eu carthu.  Nodwyd problem hirsefydlog yn ardal Bodelwyddan fel enghraifft.

 

Cyn diwedd y drafodaeth cefnogodd y Pwyllgor yr awgrym y dylid gwahodd cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru i gyfarfod yn y dyfodol at ddibenion trafod materion rheoli dŵr, gan gynnwys: 

·         effaith rhwystrau/amddiffynfeydd llifogydd arfordirol ar eiddo a thir isel e.e. yn Nyffryn Clwyd, yn enwedig gan y byddent mewn perygl llifogydd yn ystod cyfnodau o law trwm beth bynnag;

·         a chanllawiau/cyngor rheoli dŵr a roddwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar geisiadau cynllunio domestig a busnes/diwydiannol, yn enwedig effaith bosibl y datblygiadau mawr ar reoli dŵr y tu allan i'r ardal sy’n agos at y datblygiad. 

Roedd yr Aelodau hefyd yn awyddus i gael gwell dealltwriaeth o risgiau llifogydd arfordirol ac afonydd yn Sir Ddinbych, ynghyd â chael gwybodaeth am waith rheoli dŵr presennol ac arfaethedig (gan gynnwys 'cilio a reolir’) gyda’r partneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn yr ardal. 

 

Roedd y Pwyllgor o’r farn y gallai Aelodau Etholedig, drwy eu rôl fel arweinwyr cymunedol, hwyluso’r holl fudd-ddeiliaid, gan gynnwys cymunedau lleol, i weithio’n effeithiol gyda’i gilydd i leihau a rheoli risg llifogydd yn eu hardaloedd lleol.   

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD:

(i)            yn amodol ar y sylwadau uchod, bod y Pwyllgor yn derbyn yr adroddiad a chefnogi ymagwedd y Cyngor i gyflawni ei gyfrifoldebau fel Awdurdod Rheoli Risg Llifogydd ac Erydu Arfordirol ac i gyflawni’r mesurau a’r amcanion a nodwyd yn y Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol; a

(ii)          Gwahodd cynrychiolwyr o Gyfoeth Naturiol Cymru i fynychu cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod materion rheoli dŵr/llifogydd gyda'r aelodau ac i archwilio ardaloedd posibl lle y gallai'r aelodau etholedig a'r awdurdod lleol weithio'n effeithiol gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i leihau risg llifogydd yn y cymunedau lleol.

 

 

Dogfennau ategol: