Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

DARPARIAETH YR ADRAN GWAITH A PHENSIYNAU/PEOPLE PLUS YN SIR DDINBYCH

1.    Trafod gweledigaethau'r ddau sefydliad ar gyfer trigolion Sir Ddinbych, sut maen nhw’n bwriadu darparu eu gweledigaethau i wella deilliannau i ddefnyddwyr gwasanaethau, y rhesymau dros y penderfyniad i ail-leoli gwasanaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau i'r Fflint a chanlyniad yr asesiadau effaith a wnaed i gael gwybodaeth i benderfynu.

2.    Trafod gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau y Rhaglen Gwaith ac Iechyd newydd a sut y gall y Cyngor fod yn gysylltiedig â'r rhaglen hon er budd trigolion y Sir

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr Tîm Cynllunio Strategol ei hadroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) oedd yn hysbysu’r Pwyllgor ynglŷn â’r cefndir ar gyfer adleoli gwasanaethau a gomisiynir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i gynorthwyo pobl ddi-waith i dderbyn gwaith o'r Rhyl i’r Fflint. Eglurodd bod yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi comisiynu Rehab Jobfit i ddarparu’r gwasanaethau hyn ar eu rhan, ac roeddent hwythau wedi is-gontractio’r gwaith i PeoplePlus.  Roedd y contract ar gyfer darparu’r rhaglen bresennol o wasanaethau yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth 2017. O fis Ebrill 2017 roedd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn bwriadu darparu Rhaglen Waith ac Iechyd newydd, ac nid oedd y contract ar gyfer y Rhaglen wedi’i ddyfarnu eto. 

 

Croesawodd y Cadeirydd y canlynol i’r cyfarfod; Mr John Bisby (Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd a Chanolbarth Cymru ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau), a Mr Joel Payne (Rheolwr Rhanbarthol, Gogledd a De Cymru, PeoplePlus) a Mr Brett Smith (Rheolwr PeoplePlus, y Fflint).   Eglurodd Rheolwr Rhanbarthol PeoplePlus, gyda chymorth cyflwyniad PowerPoint, y rhesymau dros benderfyniad y sefydliad i adleoli rhan o’i waith o’r Rhyl i’r Fflint. Pwysleisiodd eu bod yn parhau i weithredu gwasanaeth allgymorth yn y Rhyl at ddibenion darparu cymorth cyflogaeth a hyfforddiant sgiliau. 

 

Mae llwyddiant gwasanaethau PeoplePlus i gael mwy o bobl i dderbyn gwaith yn golygu bod llai o unigolion yn cael eu hatgyfeirio i’r ganolfan yn y Rhyl.  Roedd unrhyw un yn yr ardal sy’n cael eu hatgyfeirio yn cael eu hatgyfeirio i swyddfa’r Fflint, lle'r oedd mwy o wasanaethau ar gael.  Byddai’r rhai sy’n cael eu hatgyfeirio i’r Fflint yn derbyn eu costau teithio a byddai staff yn gweithio gyda nhw mewn ymgais i’w cynorthwyo i dderbyn mynediad at wasanaethau a'r farchnad swyddi. 

 

Eglurodd y Rheolwr Rhanbarthol bod sawl ‘chwedl’ wedi codi yn dilyn cyhoeddiad y penderfyniad i adleoli’r gwasanaethau o’r Rhyl i’r Fflint, gan bwysleisio y byddai pobl nad oeddent yn gallu teithio i’r Fflint yn cael eu gweld yn swyddfa allgymorth y Rhyl, a oedd wedi’i leoli yng nghanol y dref yn awr, wrth ymyl 'Canolfan y Rhyl’.  Hysbyswyd yr Aelodau hefyd, er y bu'n rhaid i'r sefydliad adael eu heiddo blaenorol yn y Rhyl yn gynharach na’r disgwyl roeddent wedi ymgynghori’n helaeth gyda’r landlord a’r staff ynglŷn ag adleoli i safle arall yn y dref am gyfnod sylweddol gan eu bod yn teimlo nad oedd yr eiddo yn ‘addas i bwrpas’. 

 

Darparodd y Rheolwr Rhanbarthol fanylion:

 

·         ynglŷn â sylfaen cwsmeriaid y sefydliad yn ardal y Rhyl (gan gynnwys eu hadborth ynglŷn â’r newidiadau ar ôl adleoli mwyafrif y gwasanaethau i’r Fflint, a oedd yn gadarnhaol yn gyffredinol); ac

·         ynglŷn ag ystadegau cyfanswm y cyfraddau trawsnewid swyddi a pherfformiad yn erbyn y targedau a osodwyd (roedd y mwyafrif ohonynt wedi'u diwallu neu eu rhagori)

 

Yna amlinellodd Rheolwr Rhanbarthol yr Adran Gwaith a Phensiynau’r trawsnewidiad yn ei wasanaeth ar hyn o bryd fel rhan o gyflwyno 'Rhaglen newydd Iechyd a Gwaith’, a fyddai'n weithredol ym mis Ebrill 2017. Roedd gan y rhaglen hon ymagwedd llai cyfyngol a byddai'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a’r cyflogwr. 

 

Byddai'r gwasanaeth newydd yn canolbwyntio ar gynorthwyo a chefnogi pobl i dderbyn gwaith, gan weithio gyda nhw a'u cyflogwyr a'r sgiliau sydd eu hangen mewn marchnad swyddi sy'n newid yn barhaus.  Eglurodd o ddiwedd mis Mawrth 2017 byddai’r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhoi’r gorau i atgyfeirio pobl at PeoplePlus ar gyfer gwasanaethau rhaglenni gwaith, ond byddai’n parhau i gefnogi cwsmeriaid presennol i dderbyn  gwasanaethau PeoplePlus.

 

Mewn ymateb i gwestiynau’r aelodau, ymatebodd cynrychiolwyr y ddau sefydliad:

 

  • drwy bwysleisio eu bod bob amser yn fodlon gwrando a chynorthwyo unigolion sy’n cysylltu â nhw;
  • Roedd PeoplePlus yn cynorthwyo unigolion i dderbyn hyfforddiant, cymwysterau, gwybodaeth a chefnogaeth i sefydlu mentrau cymdeithasol ac ati.  Roeddent hefyd yn gweithio gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill megis Meddygon Teulu ac ati ar broblemau megis gordewdra, asiantaethau eraill i gynorthwyo pobl i dderbyn gwaith e.e. dulliau arloesol o gyflwyno cais am swydd, arian ar gyfer dillad gwaith ac ati, a sicrhau cyfleoedd gwaith cynaliadwy ar gyfer pobl;
  • Cytunodd PeoplePlus y byddent yn darparu ystadegau ynglŷn â’r gostyngiad yn nifer yr unigolion oedd angen eu gwasanaethau yn awr, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn â’r mathau o gyflogaeth a dderbyniwyd.  Fe wnaethant hefyd gynnig darparu Newyddlen fisol i'r aelodau yn nodi'r prosiectau ac ystadegau presennol, ac fe dderbyniodd y Pwyllgor hynny;
  • Darparwyd trosolwg o'r gwaith y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn rhan ohono mewn perthynas â phrosiect Ynys Ynni Môn, drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gyda'r nod o wneud y mwyaf o'r buddiannau ar gyfer ardal gyfan Gogledd Cymru o orsaf bŵer niwclear arfaethedig Wylfa B drwy ddatblygu cyfleoedd gyrfa hirdymor yn y diwydiant pŵer a’r diwydiannau cyflenwi ategol;
  • Cadarnhawyd bod trafodaethau ar y gweill rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a swyddogion Cyngor Sir Ddinbych gyda’r nod o ddatblygu ymagwedd debyg i ymagwedd Wylfa B ar gyfer cyfleoedd sgiliau a gyrfa ar gyfer cwmnïau sydd wedi’u lleoli yn Sir Ddinbych; ac
  • roedd gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg ar draws Gogledd Cymru.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y sefydliadau am fynychu’r cyfarfod ac am egluro eu sefyllfaoedd; am egluro’r camsyniadau yn y gymuned ynglŷn ag effaith adleoli gwasanaethau o'r Rhyl i'r Fflint ac am gadarnhau i’r Cyngor a’r preswylwyr fod eu gwasanaethau ar gael i’r holl drigolion sydd eu hangen ac eisiau eu derbyn.  Awgrymodd hefyd i’r ddau sefydliad, os nad oedd y wasg yn adrodd ffeithiau llawn unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol, efallai y dylent gysylltu â’r Cyngor gyda’r nod o sicrhau fod preswylwyr yn derbyn y ffeithiau cyfan. 

 

PENDERFYNWYD – bod y Pwyllgor yn derbyn y cyflwyniad ac yn seiliedig ar y wybodaeth uchod dylid cyflwyno datganiad i’r wasg i egluro unrhyw gamsyniadau yn y gymuned.

 

Dogfennau ategol: