Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

RHEOLI CEFNOGI BYW'N ANNIBYNNOL

Amlinellu'r manteision posibl o fabwysiadu dull symlach o reoli’r gwasanaethau hyn ar gyfer y ddau ddefnyddiwr gwasanaeth a'r Cyngor, a'r llinell amser ar gyfer ei fabwysiadu.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Gofal Cymdeithasol (Gwasanaethau Oedolion a Phlant) adroddiad, gan gynghori bod yr adroddiad yn amlinellu buddion posibl  symleiddio rheolaeth Gwasanaethau Cefnogi Byw'n Annibynnol ac Ailalluogi, tra'n cadw annibyniaeth elfen darpariaeth weithredol y gwasanaethau.  Cynghorwyd yr aelodau fod dangosyddion cyllid ar gyfer y Gwasanaeth Cefnogi Byw’n Annibynnol, drwy Grant Cefnogi Pobl gan Lywodraeth Cymru (LlC), ar gyfer 2017/18 yn ymddangos yn ffafriol.  Ymatebodd Pennaeth Gwasanaethau Cymorth Cymunedol a’r swyddogion i gwestiynau’r Aelodau:

 

·         gan egluro’r termau yn yr adroddiad mewn perthynas â gwahanol swyddi 'darparwyr gofal’, gan bwysleisio y gallai Gweithwyr Cefnogi Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig ddarparu elfennau o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

·         Nodwyd, yn ogystal â darparu arbedion ariannol ar gyfer y Cyngor drwy gael un rheolwr yn lle dau, dylai uno'r gwasanaethau o dan un rheolwr wella darpariaeth gwasanaeth a darparu gwasanaeth di-dor i'r defnyddiwr gwasanaeth;

·         cadarnhawyd y gallai achosi mwy o gyfleoedd dilyniant gyrfa ar gyfer y staff;

·         gan gydnabod bod symleiddio rheolaeth y gwasanaethau yn cael ei gymell yn rhannol gan y gyllideb, cynghorwyd hefyd y dylai’r strwythur newydd ddarparu gwasanaethau ymyrraeth o well ansawdd a gwella gwydnwch defnyddwyr gwasanaeth o ganlyniad i hyn.  Byddai hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor o ddiogelu pobl ddiamddiffyn ac yn eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol am gyn hired â phosibl a sicrhau fod gan bobl fynediad at dai o ansawdd da;

·         cynghorwyd y byddai pob swydd wag yn cael ei hadolygu i benderfynu a oedd yn diwallu gofynion Safonau'r Gymraeg;

·         Cadarnhawyd bod 7 allan o'r 21 o argymhellion yn Adolygiad Gwasanaeth Cefnogi Pobl yn weddill ar hyn o bryd, roedd mwyafrif y camau sy’n weddill yn gysylltiedig â’r ailstrwythuro presennol ac felly dylid eu darparu o fewn y terfyn amser a gytunwyd;

·         eglurwyd pan yr ystyrir rhyddhau cleifion mewnol mewn ysbytai roedd gweithdrefn rhyddhau o’r ysbyty yr oedd yn rhaid ei dilyn i sicrhau eu bod yn ddigon iach i gael eu rhyddhau ac y byddent yn ddiogel yn eu cartref eu hunain;

·         Hysbyswyd y Pwyllgor pe bai preswylwyr, gofalwyr neu gynghorwyr eisiau cyflwyno ymholiad ynglŷn â’r gwasanaethau sydd ar gael dylent gysylltu â’r Gwasanaeth Pwynt Mynediad Sengl fel cam cyntaf.  Roedd cysylltu â’r Pwynt Mynediad Sengl yn dechrau’r sgwrs “Beth sy’n Bwysig" gan arwain at flaenoriaethu gwasanaethau ar gyfer pob unigolyn i ddiwallu eu hanghenion penodol.  Roedd hefyd yn borth ar gyfer unigolion oedd heb deulu neu gyfeillion gerllaw i’w cefnogi i gael cymorth a chefnogaeth; a

·         cadarnhawyd y byddai ymgynghoriad gyda’r staff ynglŷn â’r strwythur newydd a’r amodau a thelerau cysylltiedig yn dechrau ar 8 Tachwedd 2016.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth gofynnodd y Pwyllgor :

 

  • bod gwybodaeth am y dangosyddion a ddefnyddir i fesur effeithlonrwydd y gwasanaeth o ran darparu'r canlyniadau yn cael ei chyflwyno i'r Pwyllgor yn gynnar yn y gwanwyn 2017;
  • bod yr aelodau yn derbyn gwybodaeth ynglŷn â dyfarniad cyllid grant Cefnogi Pobl ar gyfer y gwasanaethau uchod cyn gynted ag y bo ar gael; ac
  • y gwneir pob ymdrech i sicrhau bod yr holl achosion unigol a atgyfeirir i’r gwasanaethau yn derbyn ystyriaeth lawn i dderbyn y gwasanaethau a geisiwyd ac eraill a allai fod yn briodol ar eu cyfer.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD:-

 

(i)            yn amodol ar yr arsylwadau uchod ac ar dderbyn sicrwydd na fyddai symleiddio rheolaeth y gwasanaethau yn effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau’r rheng flaen ac y byddai’n cefnogi darpariaeth integredig effeithiol gwasanaethau gofal iechyd a chefnogaeth i breswylwyr, y dylid derbyn yr adroddiad; a

(ii)          bod adroddiad cynnydd pellach o ran symleiddio’r strwythur rheoli, gan gynnwys gwybodaeth am y dangosyddion a ddefnyddir i fesur effeithiolrwydd y gwasanaethau i ddarparu’r canlyniadau arfaethedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddechrau’r gwanwyn 2017.

 

 

Dogfennau ategol: