Eitem ar yr agenda
DEDDF TRWYDDEDU 2003: CAIS AM DRWYDDED EIDDO NEWYDD – TYN DŴR HALL, TYN DŴR ROAD, LLANGOLLEN
Ystyried cais am
Drwydded Eiddo newydd, a gyflwynwyd yn unol ag Adran 17 o Ddeddf Trwyddedu 2003
(amlinelliad o'r cais a phapurau cysylltiedig ynghlwm).
Nodwch y drefn
i’w chymryd gan yr Is-Bwyllgor (sydd ynghlwm wrth y rhaglen hon).
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais yn destun amodau.
Cofnodion:
{0><}100{>Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod
y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn â –<0}
(i)
{0><}100{>chais a dderbyniwyd gan Mr.<0} {0><}100{>Thomas Matthew Jones am Drwydded
Safle newydd mewn perthynas â Tyn Dŵr Hall, Tyn Dŵr Road, Llangollen;<0}
(ii)
{0><}100{>yr ymgeisydd a oedd wedi gofyn am ganiatâd i ddarparu’r
gweithgareddau trwyddedadwy canlynol:<0}
{0><}100{>GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG<0} |
DAYS
APPLICABLE |
TIMES |
{0><}100{>Darparu Cerddoriaeth Fyw Uchel<0} {0><}100{>(Dan do yn unig)<0} |
Monday – Sunday |
12.00 – 00:00 |
{0><}100{>Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio<0} {0><}100{>(Dan do ac yn yr awyr agored)<0} |
Monday – Sunday |
12.00 – 00:00 |
{0><}100{>Darparu Alcohol (i’w yfed ar y
safle)<0} |
Monday – Sunday |
12.00 – 00:00 |
{0><}77{>Oriau y bydd y safle ar agor i’r
cyhoedd – y bwriad yw y bydd yr eiddo’n gweithredu fel lleoliad arbennig i’w
logi/i’w gynnal ar gyfer priodasau a digwyddiadau, a bydd yn cynnig llety i
gwsmeriaid yn ogystal â llogi ystafelloedd achlysuron.<0}
(iii)
{0><}75{>un sylw ysgrifenedig (Atodiad A
i'r adroddiad) wedi’i dderbyn gan breswylydd yn yr ardal yn codi pryderon sy’n
ymwneud â niwsans cyhoeddus a’r potensial ar gyfer ymddygiad afreolus;<0}
(iv)
{0><}75{>Heddlu Gogledd Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y cais
ynghyd â nifer o amodau y bwriedir eu cynnwys o fewn Atodlen Weithredu’r
adeilad os bydd y cais yn cael ei ganiatáu (Atodiad B i'r adroddiad); mae'r
Ymgeisydd wedi dangos eu parodrwydd cyffredinol i gytuno i'r amodau hynny, ond
gofynnwyd i beidio â gosod y TCC tan ar ôl y Nadolig – ar yr amod nad oedd
unrhyw ddigwyddiadau cytunodd Heddlu Gogledd Cymru i’r oedi cyn gosod TCC tan
fis Mawrth 2017 fan bellaf;<0}
(v)
{0><}89{>Adran Reoli Llygredd y Cyngor wedi cyflwyno sylwadau
(Atodiad C i’r adroddiad) yn codi pryderon yn ymwneud â pha mor agos yw'r safle
i eiddo preswyl ac mae'n cynnig nifer o amodau i gael eu gweithredu pe bai'r
drwydded yn cael ei chaniatáu er mwyn helpu i atal niwsans cyhoeddus;<0}
(vi)
{0><}95{>yr Atodlen Weithredu
arfaethedig (Atodiad D i'r adroddiad);<0}
(vii)
{0><}75{>y defnydd a fwriedir ar gyfer y lleoliad i fod yn
lleoliad priodas a digwyddiadau unigryw ac mewn ymateb i bryderon y preswylydd
roedd yr Ymgeisydd wedi cynghori ynglŷn â’u bwriad i weithio tuag at ddatrysiad i unrhyw
broblemau a allai ddigwydd o ganlyniad i gynnydd mewn traffig a achosir gan
gwsmeriaid; yn yr un modd, er nad yw’r defnydd o dân gwyllt wedi ei awdurdodi
gan y Ddeddf Trwyddedu ond yn peri pryder i'r preswylydd, roedd yr Ymgeisydd
wedi datgan eu bod ond yn derbyn archebion ar yr amod na fyddai tân gwyllt a
llusernau Tsieineaidd yn cael eu caniatáu;<0}
(viii)
{0><}100{>yr angen i ystyried y cais gan roi ystyriaeth ddyladwy i
Ddatganiad Polisi Trwyddedu’r Cyngor; i Ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr
Ysgrifennydd Gwladol; i ddeddfwriaeth arall berthnasol ac i sylwadau perthnasol
a dderbyniwyd, a’r<0}
(ix)
{0><}100{>opsiynau sydd ar gael i'r pwyllgor wrth benderfynu ar y
cais.<0}
{0><}75{>Arweiniodd y Swyddog Trwyddedu’r aelodau drwy’r adroddiad
a dywedodd bod yr amodau arfaethedig a gyflwynwyd gan Adran Rheoli Llygredd y
Cyngor wedi eu cytuno gyda’r Ymgeisydd ers cyhoeddi’r adroddiad.<0}
{0><}100{>CYFLWYNIAD YR YMGEISYDD<0}
{0><}100{>Roedd Ms<0} {0><}75{>Tracey Owen yn bresennol ar ran
yr Ymgeisydd Mr<0} {0><}75{>Thomas Matthew Jones nad
oedd yn gallu bod yn bresennol oherwydd apwyntiad hir sefydlog a chyflwynodd ei
ymddiheuriad yn hynny o beth.<0} {0><}100{>Ms<0} {0><}75{>Owen oedd chwaer yr Ymgeisydd a Rheolwr/Goruchwyliwr
Dynodedig y Safle.<0}
{0><}100{>Dywedodd Ms<0} {0><}75{>Owen y byddai'r eiddo yn
gweithredu fel lleoliad priodas unigryw o ansawdd uchel ac y byddai gwesteion
yn aros ar y safle drwy gydol y dydd.<0} {0><}75{>Nid oedd unrhyw fwriad i
weithredu sefydliad math disgo/clwb a byddai cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar
lefel resymol i sicrhau y gallai gwesteion gynnal sgwrs.<0} {0><}100{>Dywedodd Ms<0} {0><}75{>Owen hefyd fod cymdogion cyfagos wedi'u gwahodd i daith o
amgylch y safle er mwyn darparu sicrwydd ynglŷn â safon y sefydliad a'i
weithrediad ac roedd ganddi eu cefnogaeth lawn yn hynny o beth.<0} {0><}75{>Ychwanegodd fod y gwahoddiad hwn hefyd wedi’i ymestyn i’r
gwrthwynebydd gyda golwg ar liniaru ei bryderon ond hyd yma nid oedd wedi
derbyn y cynnig – fodd bynnag roedd y gwahoddiad yn dal yn agored pe bai’n
dymuno ymweld â’r lleoliad yn y dyfodol.<0}
{0><}100{>CYFLWYNIAD HEDDLU GOGLEDD CYMRU<0}
{0><}100{>Nid oedd cynrychiolydd o Heddlu
Gogledd Cymru yn bresennol.<0} {0><}100{>Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau am y sylwadau ysgrifenedig a nifer o amodau a gytunwyd rhwng yr
Ymgeisydd a Heddlu Gogledd Cymru er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
ymhellach (i'w weld yn Atodiad B i'r adroddiad).<0} {0><}100{>Gofynnodd yr Heddlu a
fyddai’r aelodau'n penderfynu caniatáu'r cais pe baent yn ystyried ymgorffori’r
amodau hynny o fewn yr Atodlen Weithredu.<0}
{0><}75{>Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod ynglŷn â’r cais i ohirio gosod y TCC, dywedodd Ms<0} {0><}75{>Owen ei fod am resymau
busnes yn unig i sicrhau cyn lleied o amhariad ar westeion gan fod tri
digwyddiad wedi eu trefnu yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr.<0} {0><}75{>Yr amser gorau ar gyfer gwaith adeiladu pellach a gosod y
TCC er mwyn sicrhau cyn lleied o amhariad â phosibl fyddai Ionawr/Chwefror
2017.<0}
{0><}100{>SYLWADAU RHEOLI LLYGREDD <0}
{0><}100{>Cyfeiriodd Mr.<0} {0><}75{>Sean Awbery o Adran Rheoli Llygredd y Cyngor at ei
sylwadau ysgrifenedig (Atodiad C i'r adroddiad) a chadarnhaodd fod yr amodau
hynny bellach wedi eu cytuno gyda’r Ymgeisydd.<0}
{0><}100{>CYFLWYNIAD Y GRŴP Â DIDDORDEB<0}
{0><}79{>Roedd un sylw ysgrifenedig wedi ei dderbyn (Atodiad A yr
adroddiad) gan breswylydd sy’n byw yn yr ardal.<0} {0><}75{>Roedd y preswylydd wedi dweud na fyddai’n bresennol yn y
gwrandawiad ac roedd yn deall y byddai’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn ei
absenoldeb.<0} {0><}75{>O ganlyniad, cafodd eu sylwadau eu darllen.<0}
{0><}100{>DATGANIAD TERFYNOL YR YMGEISYDD<0}
{0><}100{>Wrth wneud datganiad terfynol<0} {0><}75{>Dywedodd Ms Owen am ei
chyfoeth o brofiad yn gyffredinol wrth weithredu safleoedd trwyddedig gan
gynnwys lleoliadau priodas a gwesty ac roedd yn anelu i ddarparu’r safon uchaf
o wasanaeth.<0} {0><}75{>Roedd yn rhannu ei
gweledigaeth ar gyfer lleoliad priodas hardd, o ansawdd uchel yn Llangollen.<0}
{0><}100{>GOHIRIAD I YSTYRIED Y CAIS<0}
{0><}100{>Ar y pwynt hwn (9.45 am)<0} {0><}100{>gohiriwyd yr Is-bwyllgor
Trwyddedu i ystyried y cais.<0}
{0><}100{>PENDERFYNIAD A RHESYMAU
DROS Y PENDERFYNIAD<0}
{0><}100{>PENDERFYNWYD yn amodol ar yr amodau a nodir isod, rhoi Trwydded Safle
ar gyfer y canlynol -<0}
{0><}100{>GWEITHGAREDD TRWYDDEDIG<0} |
DAYS APPLICABLE |
TIMES |
{0><}100{>Darparu Cerddoriaeth Fyw Uchel<0} (Dan
do yn unig) |
Monday
– Sunday |
12.00
– 00:00 |
{0><}100{>Darparu Cerddoriaeth wedi’i Recordio<0} {0><}100{>(Dan do ac yn yr awyr agored)<0} |
Monday
– Sunday |
12.00
– 00:00 |
{0><}92{>Darparu Alcohol (i’w yfed ar y safle)<0} |
Monday
– Sunday |
12.00
– 00:00 |
{0><}100{>AMODAU<0}
{0><}100{>Fel y cyflwynwyd gan Heddlu’r Gogledd ac y cytunwyd
gan yr Ymgeisydd –<0}
{0><}100{>Atal Trosedd ac
Anhrefn<0}
1.
{0><}100{>TCC<0}
a)
{0><}75{>Bydd
system TCC yn cael ei osod ar y safle ac yn cael ei weithredu trwy’r adeg y
bydd y safle ar agor (System TCC i gael
ei osod dim hwyrach na Mawrth 2017 ar yr amod nad oes unrhyw ddigwyddiadau)<0}
b)
{0><}100{>Bydd gan y system teledu cylch caeedig gamerâu yn
monitro tu mewn a thu allan yr adeilad.<0} {0><}97{>Yn achos tu mewn yr eiddo bydd digon o gamerâu wedi
eu gosod i weld pob rhan o’r adeilad y mae gan y cyhoedd fynediad iddynt, ac
eithrio ardal y toiledau.<0} {0><}98{>Mae'n rhaid i’r holl bwyntiau mynediad ac ymadael
ddangos pen ac ysgwyddau yn glir.<0}
c)
{0><}98{>Bydd
y system TCC yn ddigon safonol i fedru darparu delweddau o ansawdd
tystiolaethol ac yn gallu adnabod wynebau mewn pob math o olau.<0}
d) {0><}98{>Bydd
gan y system TCC gyfleuster i recordio delweddau o bob camera a bydd y lluniau
hyn yn cael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod.<0}
e) {0><}100{>Bydd y system TCC yn cynnwys cyfleuster sy’n
cynnwys y dyddiad a'r amser cywir ar y delweddau sy’n cael eu recordio.<0}
f) {0><}100{>Bydd gan y system TCC gyfleuster er mwyn gallu
llwytho delweddau i ryw fath o gyfrwng cludadwy.<0} {0><}84{>Cyfrifoldeb deiliad y drwydded safle yw darparu
cyfrwng symudadwy, a phe bai cyfrwng symudadwy yn cael ei feddiannu, mae'n
gyfrifoldeb ar y safle i sicrhau bod fformatau ychwanegol o gyfryngau symudadwy
ar gael. <0}
g)
{0><}98{>Bydd delweddau o'r system teledu cylch caeedig ar
gael i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais.<0}
h) {0><}100{>Bydd o leiaf un aelod o staff a fydd wedi'i
hyfforddi i weithredu’r system TCC ac a fydd yn gallu darparu'r delweddau a
recordiwyd o'r system TCC ar ddyletswydd ar bob achlysur pan fo’r safle ar
agor.<0}
i)
{0><}94{>Mae’n
rhaid i'r Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig sicrhau bod gwiriadau wythnosol yn cael
eu gwneud ar weithrediad y system teledu cylch cyfyng – eir i’r afael ag unrhyw
ddiffygion yn y system ar unwaith.<0} {0><}100{>Rhaid i hyn gynnwys
sicrhau fod y camerâu yn gweithio, y cyfleusterau recordio, cyfleusterau ar
gyfer darparu delweddau a chywirdeb yr amser a'r dyddiad.<0}
{0><}100{>Mae’n rhaid cadw
cofnod ysgrifenedig o'r archwiliadau hyn, gan gynnwys llofnod y person sy'n
cynnal yr archwiliad.<0} {0><}100{>Mae’n rhaid i'r cofnod
ysgrifenedig gael ei gadw ar y safle bob amser a dylai fod ar gael i
gynrychiolydd o unrhyw awdurdod cyfrifol ar gais.<0}
2. {0><}95{>CYN cael caniatâd i werthu alcohol bydd pob aelod o
staff heb drwydded bersonol, gan gynnwys unrhyw aelodau o staff di-dâl,
aelodau'r teulu a phobl achlysurol a allai fod yn gysylltiedig â gwerthu
alcohol ar y safle, gael eu hyfforddi yn eu cyfrifoldebau o dan y Ddeddf
Trwyddedu 2003 ac unrhyw ddiwygiadau dilynol i'r Ddeddf honno - yn benodol
byddant yn cael hyfforddiant o ran rhoi alcohol i bobl sy'n feddw.<0}
3. {0><}94{>Cynhelir hyfforddiant diweddaru mewn perthynas â’r
hyfforddiant cychwynnol y sonnir amdano yn 2 uchod ar gyfer pob aelod o staff
sy'n ymwneud â gwerthu alcohol bob chwe mis<0}
4. {0><}100{>Bydd cofnod yn cael ei gadw o'r hyfforddiant
cychwynnol a’r hyfforddiant diweddaru dilynol a dderbyniwyd a byddant yn cael
eu cyflwyno i’r Heddlu neu swyddogion yr Awdurdod Lleol ar gais.<0}
5. {0><}100{>Llyfr Digwyddiadau a Gwrthod - rhaid cadw llyfr
digwyddiadau a gwrthodiad (gyda’r tudalennau wedi’u rhifo) ar y safle a bydd ar
gael i'w archwilio gan yr awdurdodau cyfrifol.<0} {0><}100{>Rhaid
defnyddio'r llyfr digwyddiadau a gwrthod i gofnodi'r canlynol:<0}
a)
{0><}100{>Unrhyw achos o drais neu anhrefn ar neu yn union y
tu allan i'r safle.<0}
b)
{0><}100{>Unrhyw ddigwyddiad yn ymwneud â chyffuriau
(cyflenwi / meddiant / dylanwad) ar y safle.<0}
c)
{0><}100{>Unrhyw drosedd neu weithgarwch troseddol arall ar y
safle.<0}
d)
{0><}100{>Unrhyw
wrthodiad i weini alcohol i bobl sy'n feddw.<0}
e)
{0><}100{>Unrhyw achos o wrthod gweini alcohol i rai dan 18
oed neu unrhyw un sy'n ymddangos o dan 18 oed.<0}
f)
{0><}100{>Unrhyw alwad am gymorth yr heddlu i'r safle.<0}
g)
{0><}100{>Unrhyw un sy’n cael eu hanfon o’r safle.<0}
h)
{0><}100{>Unrhyw gymorth cyntaf / gofal arall a roddwyd i
gwsmer.<0}
6. {0><}100{>Mae’n rhaid i'r llyfr digwyddiadau a gwrthod fod ar
gael i'w archwilio gan awdurdodau cyfrifol ar gais.<0} {0><}100{>Gall yr wybodaeth hon hefyd gael ei chofnodi yn
electronig trwy ddefnyddio system til neu system debyg. <0}
7. {0><}95{>Dylid adolygu’r llyfr digwyddiadau a gwrthod bob
pedair wythnos gan y rheolwyr adeiladau a llofnodi/dyddio i gadarnhau
cydymffurfiaeth<0}
8. {0><}100{>Bydd y llyfr digwyddiadau a gwrthod ar gael i'w
archwilio ar gais swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu'r Awdurdod Lleol. <0}
{0><}100{>Amddiffyn Plant Rhag Niwed<0}
1.
{0><}94{>Bydd y safle yn gweithredu polisi gwirio oedran Her 25<0}
2.
{0><}100{>Bydd yr holl staff, gan gynnwys unrhyw aelodau
di-dâl o staff, aelodau'r teulu a phobl achlysurol sy'n ymwneud â gwerthu
alcohol yn cael eu hyfforddi yn y polisi Her 25 CYN cael caniatâd i werthu
alcohol a byddant yn ymgymryd â hyfforddiant diweddaru bob chwe mis o leiaf.<0}
3.
{0><}100{>Bydd cofnodion o'r hyfforddiant Her 25 yn cael eu
cadw a byddant ar gael i'w harchwilio gan swyddogion Heddlu Gogledd Cymru neu'r
Awdurdod Lleol ar gais.<0}
{0><}100{> Fel y cyflwynwyd gan
Adran Rheoli Llygredd y Cyngor ac a gytunwyd gan yr Ymgeisydd -<0}
{0><}100{>Atal Niwsans Cyhoeddus<0}
1. {0><}100{>Bydd lobi
yn cael ei gosod wrth bob mynedfa ac allanfa, gan gynnwys unrhyw ardal ysmygu
wrth y drws, a bydd gan bob lobi 2 set o ddrysau yn cau eu hunain i leihau’r
sŵn fydd yn cael ei ryddhau. Bydd y ddau set o ddrysau yn parhau ar gau ac
eithrio ar gyfer mynediad a gadael pan fo adloniant wedi ei reoleiddio yn cael
ei chwarae ar lefel sy’n cael ei ystyried i fod yn uwch na sŵn 'cefndir'.<0}
2. {0><}100{>Bydd yr
holl ddrysau a ffenestri yn cael eu cadw ar gau pan fo cerddoriaeth yn cael ei
chwarae ar lefel yr ystyrir i fod yn uwch na sŵn ‘cefndir’ i leihau unrhyw
sŵn fyddai’n cael ei ryddhau. <0}
3. {0><}100{>Os oes
angen awyru ychwanegol, bydd yr eiddo yn cael ei osod gydag awyr wedi ei drin
yn acwstig / system awyru i osgoi’r angen i agor drysau a ffenestri pan fo
cerddoriaeth yn cael ei chwarae ar lefel yr ystyrir i fod yn uwch na sŵn
‘cefndir’.<0}
4. {0><}80{>Ni
chaniateir chwarae cerddoriaeth uwch yn allanol.<0}
5. {0><}100{>Bydd yr
ardal ysmygu'n cael ei gau i’r cyhoedd ar gyfer yfed alcohol cyn 09:00 ac ar ôl
23.00.<0}
6. {0><}100{>Er mwyn
lleihau aflonyddwch i eiddo gerllaw, dim ond rhwng 09:00 a 21:00 y caniateir
gosod poteli mewn cynwysyddion y tu allan i'r eiddo.<0}
7. {0><}100{>Bydd
arwyddion amlwg a chlir yn cael eu harddangos ym mhob allanfa yn gofyn i
gwsmeriaid barchu anghenion y trigolion lleol a gadael yr eiddo a’r ardal yn
ddistaw.<0}
8.
{0><}100{>Ni fydd
unrhyw oleuadau llachar na goleuadau sy’n flachio yn cael eu gosod ar neu du
allan i’r eiddo a bydd unrhyw oleuadau mynediad neu ddiogelwch yn cael eu gosod
a’u gweithredu fel na fyddant yn achosi niwsans i eiddo gerllaw.<0}
{0><}100{>Cyfleodd y Cadeirydd
benderfyniad yr Is-bwyllgor i bob parti yn y cyfarfod a rhoddodd y Cyfreithiwr
y rhesymau dros y penderfyniad fel a ganlyn -<0}
{0><}75{>Roedd yr
Aelodau wedi ystyried y cais a’r sylwadau a gyflwynwyd yn yr achos hwn yn
ofalus ac yn ystyried bod yr amodau a osodwyd yn bodloni’r holl amcanion
trwyddedu.<0}
{0><}91{>Roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y ffaith fod yr
Ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau a gynigiwyd gan Heddlu Gogledd Cymru ac Adran
Rheoli Llygredd y Cyngor ac y byddant yn hybu’r amcanion trwyddedu ac yn ymdrin
â'r pryderon a godwyd.<0} {0><}75{>Wrth ystyried y
sylwadau a wnaed gan y rhai â diddordeb, roedd yr aelodau yn ystyried nifer o
bryderon nad oedd yn fater trwyddedu a chyfeiriwyd at ddigwyddiadau hanesyddol
nad oedd yn berthnasol i'r cais.<0} {0><}75{>Roedd yr
Aelodau wedi eu calonogi gan gynrychiolydd yr Ymgeisydd o ran safon a
gweithrediad y sefydliad ac roeddent yn ystyried y byddai’r amodau a osodwyd yn
mynd i’r afael ag unrhyw bryderon perthnasol a godwyd gan y rhai â diddordeb.<0} {0><}75{>Os bydd
problemau’n codi gyda gweithredu’r eiddo roedd yr hawl i alw am adolygiad o’r
drwydded yn parhau yn agored. <0}
{0><}100{>Daeth y cyfarfod i ben am 9.50 a.m.<0}
Dogfennau ategol: