Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ARGYMHELLION OMBWDSMON GWASANAETHAU CYHOEDDUS CYMRU YN DILYN YMCHWILIAD I YMDRINIAETH Y CYNGOR Â CHAIS CYNLLUNIO RHIF 42/2012/1368/PO - TIR YN MOUNT HOUSE, BRYNIAU, DISERTH

Ystyried adroddiad ar ganfyddiadau Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r achos, tir yn Mount House, Bryniau, Diserth (copi wedi'i amgáu).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar ganfyddiadau Adroddiad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ynglŷn â’r achos, tir yn Mount House, Bryniau, Diserth.

 

Siaradwr Cyhoeddus-

 

Cyfeiriodd Mr. Rhys Davies (ar ran yr ymgeisydd) –at y sylwadau hwyr a gyflwynwyd gan yr achwynydd a’r cyngor cyfreithiol a roddwyd i’r pwyllgor i symud ymlaen i lunio eu penderfyniadau.  Roedd yr achwynydd wedi cadarnhau na ddylid ystyried costau iawndal fel mater ond pe bai’r caniatâd cynllunio yn cael ei dynnu’n ôl yna byddai’n rhaid talu iawndal i berchennog y tir.

 

Amlinellodd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd y digwyddiadau a arweiniodd at gyflwyno’r adroddiad a’r cais i'r aelodau ailystyried canfyddiadau ymchwiliad yr Ombwdsmon yn yr achos hwn ac a ddylid tynnu’r caniatâd cynllunio amlinellol yn ôl.  Roedd y Pwyllgor Cynllunio wedi ystyried adroddiad yr Ombwdsmon yn wreiddiol ym mis Chwefror 2016 ac wedi penderfynu na fyddai’n briodol dirymu’r caniatâd a oedd wedi’i gymeradwyo.  Ers hynny roedd yr achwynydd wedi dwyn achos Adolygiad Barnwrol yn erbyn y penderfyniad a fyddai’n derbyn gwrandawiad ym mis Rhagfyr 2016.  Yn unol â’r cyngor cyfreithiol roedd y mater wedi’i ddwyn yn ôl o flaen yr Aelodau i’w ailystyried gan ystyried sail yr hawliad yn yr Adolygiad Barnwrol a seiliau’r her.  Pe bai’r aelodau o blaid cadarnhau eu penderfyniad i beidio â thynnu’r caniatâd yn ôl yn unol ag argymhelliad y swyddog byddai’r Cyngor mewn sefyllfa gryfach wrth wynebu’r Adolygiad Barnwrol.  Pe bai’r aelodau o blaid tynnu’r caniatâd cynllunio yn ôl yn ffurfiol, ni fyddai’r Adolygiad Barnwrol yn parhau ond byddai gan yr ymgeisydd hawl i dderbyn iawndal.  Eglurwyd, pe bai’r caniatâd yn cael ei dynnu’n ôl, byddai’r penderfyniad a wnaed ynglŷn â’r materion a gadwyd yn ôl hefyd yn cael eu dirymu.

 

Pwysleisiodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) y bu beirniadaethau ynglŷn â’r modd yr oedd y Cyngor wedi delio â’r cais cynllunio a oedd wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Tynnodd sylw at y prawf cyfreithiol ar gyfer tynnu caniatâd yn ôl fel y nodwyd o dan Adran 97 Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a diffiniad 'hwylus’ yn y cyd-destun hwnnw ac a fyddai’n briodol yn yr achos hwn o ystyried yr holl ystyriaethau gan gynnwys y ffaith pe bai’r cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio heddiw mae'n annhebygol y byddai'n derbyn caniatâd, canfyddiadau’r Ombwdsmon ar ymdriniaeth y Cyngor o’r cais, ac ystyriaethau iawndal.

 

Trafodaeth Gyffredinol – Eglurodd y Cynghorydd Stuart Davies nad oedd unrhyw ystyriaethau perthnasol pellach wedi’u cyflwyno a oedd yn newid ei safbwynt.  O ystyried y prawf statudol ar gyfer tynnu’r caniatâd yn ôl, teimla’r Cynghorydd Davies y byddai effaith un annedd newydd ar eiddo’r achwynydd yn fychan, yn enwedig yn dilyn y diwygiadau a wnaed gan yr ymgeisydd mewn ymateb i’r pryderon a godwyd, ac o ystyried argymhellion yr Ombwdsmon a’r materion iawndal.  O ystyried y sefyllfa gyfreithiol a’r sylwadau a gyflwynwyd cynigodd y Cynghorydd Davies argymhellion y swyddog a nodwyd yn yr adroddiad.  Eglurodd y Cadeirydd y byddai pleidlais ar wahân ar gyfer yr argymhellion.

 

Ceisiodd y Cynghorydd Mark Young eglurhad a fyddai’n briodol iddo bleidleisio ar y mater gan nad oedd yn aelod pan gymeradwywyd y caniatâd cynllunio amlinellol gwreiddiol.  Cynghorodd yr Arweinydd Tîm – Lleoedd (SC) gan ei fod wedi cwblhau’r hyfforddiant cynllunio gofynnol ac fel aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, roedd yn briodol iddo gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.

 

Amlygodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts fod yr aelodau wedi’u cynghori yn ystod eu hyfforddiant y dylid ystyried pob cais ar ei rinweddau ei hun a oedd yn groes i safbwynt yr Ombwdsmon y dylai bod yr aelodau’n ymwybodol o ddau achos o wrthod caniatâd yn yr un lleoliad ac yn yr achos hwn gallai hyn effeithio ar y penderfyniad.  Cadarnhaodd y swyddogion nad oeddent wedi ystyried yr achosion o wrthod rhoi caniatâd cynllunio blaenorol fel ystyriaeth berthnasol er fod yr Ombwdsmon yn teimlo eu bod yn berthnasol.  Ar ôl ystyried safbwynt yr Ombwdsmon ceisiodd y swyddogion gynnwys mwy o gefndir hanesyddol yn yr adroddiadau ceisiadau cynllunio ond roeddent yn parhau i fod o’r farn nad oedd y ceisiadau a wrthodwyd yn flaenorol yn berthnasol yn yr achos hwn.  Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y byddai ystyried ceisiadau hanesyddol yn ‘cymylu’r dyfroedd’ ac fel Pwyllgor Cynllunio dylai’r aelodau ystyried y cais presennol fel y'i cyflwynwyd ar ei rinweddau ei hun.  Gofynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts am gael nodi’r pwynt hwn yng nghofnodion y cyfarfod.

 

O ran ystyriaethau iawndal, eglurodd yr Arweinydd Tîm y cyngor a dderbyniwyd gan y Prisiwr Dosbarth o ran y symiau iawndal posibl fyddai’n daladwy yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i dynnu'r caniatâd yn ôl neu beidio.

 

Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i’r swyddogion am eu cyngor a chyfoeth y wybodaeth a gyflwynwyd er mwyn i’r pwyllgor wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth lawn.

 

Cynnig (1) – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies bod argymhelliad y swyddog (a) yn cael ei dderbyn fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Mark Young.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YN ERBYN – 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD bod Aelodau yn nodi ac yn derbyn argymhellion Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a) i c) gan ystyried y mesurau y cytunwyd arnynt ac a weithredwyd gan Swyddogion.

 

Cynnig (2) – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies bod argymhelliad y swyddog (b) yn cael ei dderbyn fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YN ERBYN – 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD  ar ôl ystyried y materion a chyngor yn yr adroddiad hwn bod y Cyngor yn cadarnhau na fydd yn ceisio dirymiad ffurfiol y caniatâd cynllunio yn unol ag argymhellion y swyddog ac am y rhesymau a nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cynnig (3) – Cynigodd y Cynghorydd Stuart Davies bod argymhelliad y swyddog (c) yn cael ei dderbyn fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac fe’i eiliwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens.

 

PLEIDLAIS:

O BLAID - 21

YN ERBYN – 0

YMATAL - 1

 

PENDERFYNWYD bod yr Aelodau'n cytuno i gyfarwyddo’r Prisiwr Dosbarth ymhellach i asesu effaith unrhyw ddatblygiad a gwblhawyd (testun cais materion a gadwyd yn ôl yn gysylltiedig â'r caniatâd amlinellol) ar eiddo’r achwynwyr, o fewn mis o gwblhau'r datblygiad, a thalu swm sy'n cyfateb i'r gwahaniaeth mewn gwerth cyn ac ar ôl y datblygiad.

 

Dogfennau ategol: