Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL

Ystyried adroddiad y Swyddog Cynllunio Strategol a Pherfformiad (copi ynghlwm) ar Adroddiad Perfformiad Blynyddol Drafft y Cyngor ar gyfer 2015-16.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i'r Aelodau gymeradwyo fersiwn drafft o Adolygiad Perfformiad Blynyddol 2015/16, yn amodol ar newidiadau y cytunwyd arnynt, er mwyn iddo gael ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2016.

 

Roedd yr adroddiad drafft yn cynnwys crynodeb o gynnydd pob blaenoriaeth gorfforaethol, gan danlinellu llwyddiannau neu heriau allweddol a wynebwyd yn ystod y flwyddyn.  Roedd hefyd yn crynhoi perfformiad prosiectau corfforaethol, risgiau corfforaethol, dangosyddion cymaradwy (Dangosyddion Strategol Cenedlaethol), Mesurau Atebolrwydd Perfformiad a chanfyddiadau allweddol gan reoleiddwyr allanol. Yn ychwanegol at hynny, roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth gryno ynglŷn â gwaith a wnaed mewn perthynas ag amrywiaeth a chydraddoldeb a Safonau'r Iaith Gymraeg, yn ogystal â gweithgarwch gyda phartneriaid a thrwy gydweithio.

 

Eglurodd y Pennaeth Gwella Busnes a Moderneiddio bod Cynllun Corfforaethol y Cyngor 2012-17 wedi gosod y cyfeiriad strategol ar gyfer y Cyngor a'i flaenoriaethau dros y cyfnod o bum mlynedd. Nodwyd manylion ynglŷn â bwriad y Cyngor i gyflawni’r blaenoriaethau yn y cynlluniau gwasanaeth blynyddol ac yn nogfen Darpariaeth Flynyddol y Cynllun Corfforaethol.

 

Datblygwyd yr adroddiad drafft gan y Tîm Cynllunio Strategol, wrth ymgynghori â gwasanaethau eraill y Cyngor. Darparwyd y wybodaeth ynglŷn â pherfformiad a oedd wedi’i chynnwys yn y ddogfen gan y gwasanaethau, ac fe'i cafwyd o system rheoli perfformiad Verto.  Ymgynghorwyd â’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Cabinet cyn cyflwyno’r adroddiad i’r Cyngor Sir i’w gymeradwyo.

 

Wrth drafod, codwyd y materion canlynol:

·       Ymateb gwael i Arolwg y Preswylwyr. Derbyniwyd tua 750 o ymatebion, a oedd yn llai na 1% o boblogaeth y sir.  Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y Pwyllgor Archwilio ym mis Ionawr 2017, er mwyn ystyried sut i fynd i'r afael â hyn.

·       Tai Fforddiadwy – cyflwynwyd adroddiad i'r Pwyllgor Archwilio i ddod ag eiddo gwag i mewn i’r farchnad dai, a phrynu hen dai cyngor yn eu holau. Roedd y Cyngor ar flwyddyn gyntaf cynllun strategaeth dai 5 mlynedd o hyd. Yn rhan o’r strategaeth dai, bu’r Cyngor mewn cyfarfodydd rheolaidd â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Nid oedd unrhyw gynlluniau ar gyfer datblygiad maint llawn o dai cyngor newydd. Byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i gyfarfod Briffio’r Cyngor yn y Flwyddyn Newydd.

·       Roedd Band Eang BT yn parhau'n broblem. Roedd Aelodau’n ymwybodol bod Band Eang BT wedi’i drafod yn y pwyllgor Archwilio’n ddiweddar. Roedd BT wedi darparu rhestr o leoliadau ‘Dim cysylltiad' ond roedd yr Aelodau'n pryderu y byddai busnesau'n symud o ardaloedd lle nad oedd band eang cyflym iawn ar gael. Gofynnwyd i BT am ddiweddariad ar gynnydd gwaith gosod band eang cyflym iawn.

·       Cefnogaeth i fusnesau – codwyd mater cyfathrebu â busnesau lleol gan nad oedd hysbysiadau roedd y Cyngor yn eu gyrru â gwybodaeth am ddigwyddiadau lleol yn cyrraedd pob busnes.  Cafwyd eglurhad bod angen i fusnesau gofrestru â’r Cyngor i dderbyn gwybodaeth. Anogwyd Aelodau i siarad â busnesau a'u hannog nhw i gofrestru.

·       Codwyd y Rhyl fel blaenoriaeth adfywio.  Roedd y cyllid a ddaeth ar gael ar gyfer adfywio’n dod gan Lywodraeth Cymru a'r sector preifat.

·       Gallai cleifion Iechyd Meddwl a oedd angen triniaeth breswyl, ar achlysuron, gael eu cludo mor bell â Glasgow gan fod diffyg gwlâu yn Sir Ddinbych. Roedd yn broblem genedlaethol ac roedd y Byrddau Iechyd ynghyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n hynod o galed i ddatrys y broblem hon.  Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio Partneriaethau ar y mater hwn yn gynnar yng ngwanwyn 2017.

·       Gofynnwyd am sicrwydd ynglŷn â’r eitemau a farciwyd yn ‘goch’ i gael eu gwella a sut y byddai hynny’n cael ei gyflawni.

·       Cyfradd y bobl hŷn (65 oed a throsodd) sy’n cael cefnogaeth yn y gymuned fesul 1,000 o’r boblogaeth ac sy’n 65 oed a throsodd ar 31 Mawrth – parhaodd perfformiad yn y chwartel isaf. Nid oedd y dangosydd hwn yn ystyried uchelgais Sir Ddinbych i ddiwallu anghenion pobl drwy ail-alluogi a gwasanaethau cymunedol, yn hytrach na gofal a reolir. Dylai perfformiad da fod yn isel yn y dangosydd hwn. Felly, roedd perfformiad Sir Ddinbych wedi gwella mewn perthynas â’n huchelgais ni ac uchelgais Cymru i leihau cefnogaeth ffurfiol i unigolion a dylai, felly, gael ei ystyried yn y chwartel uchaf.

·       Cyflwr y ffyrdd yn Sir Ddinbych – cadarnhawyd bod pob Grŵp Ardal Aelodau wedi cael cyfle i fwydo gwybodaeth i system Rheoli'r Rhwydwaith ond, yn anffodus, roedd cyfyngiadau ariannol a olygai na ellid cadw pob ffordd mewn cyflwr “rhagorol”.

·       Cymunedau yn Gyntaf – Byddai datganiad gan Lywodraeth Cymru y diwrnod ar ôl cyfarfod y Cyngor yn cyhoeddi’r setliad ariannol. Wedi hynny, byddai gwaith i geisio cael eglurhad ynglŷn â Chymunedau yn Gyntaf.

 

Diolchodd yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Gofal Cymdeithasol, Oedolion a Phlant am y gwaith a wnaed gan yr Adran Oedolion a Phlant wrth ymdrechu’n barhaus i wella gwaith diogelu.

 

Datganodd yr Arweinydd ei ddiolch i’r Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad am gyflwyno’r adroddiad. Dywedodd ei bod yn hanfodol bod Cynllun Corfforaethol cadarn ar waith.

 

Bu i’r Arweinydd hefyd longyfarch pawb yn y Cyngor am fod yn un o'r cynghorau a oedd yn perfformio orau trwy Gymru.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar unrhyw newidiadau y cytunwyd arnynt, bod yr Aelodau’n cymeradwyo Adolygiad Perfformiad Blynyddol drafft 2015/16 er mwyn gallu ei gyfieithu a’i gyhoeddi cyn 31 Hydref 2016.

 

 

 

 

Dogfennau ategol: