Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL - CHWARTER 1 2016/17

Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol yn gofyn i'r Pwyllgor adolygu perfformiad y Cyngor o ran cyflawni’r canlyniadau a fwriadwyd ar gyfer y Cynllun Corfforaethol.  Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi gwybod i Aelodau am berfformiad Sir Ddinbych yn ystod 2015-16 o'i gymharu ag awdurdodau eraill.

3pm – 3.30pm

 

Cofnodion:

Wrth gyflwyno'r adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn ariannol 2016/17 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) hysbysodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun a Pherfformiad Corfforaethol y Pwyllgor fod perfformiad hyd yma yn dda ar y cyfan, gyda dim ond un canlyniad, yr un o ran cyrhaeddiad addysgol, ddim yn cael ei fodloni. 

 

Roedd perfformiad wedi gwella mewn amrywiaeth o fesurau sy’n ymwneud â’r flaenoriaeth gorfforaethol o 'sicrhau mynediad at dai o ansawdd da', h.y. perfformiad wrth gyflwyno Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl - roedd Sir Ddinbych nawr y Cyngor oedd yn perfformio orau yng Nghymru ar gyfer y Dangosydd Perfformiad (DP) hwn.  Roedd perfformiad mewn perthynas â 'nifer y diwrnodau calendr a gymerwyd i osod eiddo gwag (stoc tai cyngor yn unig)' yn dal i gael ei fonitro.  Fodd bynnag, roedd Archwilio eisoes wedi bodloni ei hun bod rhesymau dilys dros beidio â chyrraedd y targed cenedlaethol hwn.  Roedd y Pwyllgor mewn cyfarfod cynharach wedi cymeradwyo ymagwedd y Gwasanaeth yn y maes hwn, o adnewyddu tai i safon uchel cyn ail-osod, gan eu bod o'r farn bod hyn yn cyflwyno canlyniadau tymor hir gwell i drigolion. 

 

Roedd data mewn perthynas â gollyngiadau carbon bellach ar gael, ac er bod allyriadau carbon o adeiladau swyddfa’r Cyngor yn lleihau, roedd wedi cynyddu mewn ysgolion.  Roedd gwaith yn awr ar y gweill i geisio gwella perfformiad yn y maes hwn. 

 

Ynghlwm wrth yr adroddiad oedd atodiad: Uned Ddata Llywodraeth Leol (Cymru) Bwletin Perfformiad Llywodraeth Leol ar gyfer 2015-16 Leol. Mae'r adroddiad yn dangos perfformiad Sir Ddinbych o gymharu â holl awdurdodau yng Nghymru o ran y Dangosyddion Perfformiad statudol (DPA).  Roedd Sir Ddinbych yn y chwartel uchaf ar gyfer 18 o'r DPA ac yn y chwartel isaf ar gyfer 7 DPA.  Roedd perfformiad yn y 15 DPA oedd yn weddill naill ai yn y chwartel canol uchaf neu’r chwartel canol isaf.  Pwysleisiodd yr Aelod Arweiniol nad yw dirywiad mewn perfformiad ar gyfer dangosydd penodol o reidrwydd yn golygu bod y Cyngor yn perfformio'n wael, dim ond bod gostyngiad bach o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol e.e. absenoldeb oherwydd salwch.  Roedd dadansoddiad yr Uned Ddata o berfformiad cymharol ar draws Cymru ar gyfer 2015-16 yn gosod Sir Ddinbych fel yr awdurdod sy'n perfformio’r trydydd gorau mewn perthynas â chael y rhan fwyaf o ddangosyddion yn y chwartel uchaf.  Wrth ymateb i gwestiynau ac arsylwadau'r swyddogion, bu i’r Aelod Arweiniol a’r swyddogion:

·        gadarnhau y byddai prawf radon yn cael ei gynnal ym mhob adeilad cyhoeddus i ddechrau.  Tai cyngor yn yr ardaloedd a nodwyd ar y mapiau radon fel ‘ardaloedd mewn perygl' yn unig fyddai angen eu profi.  Pe byddai pob adeilad sy’n eiddo i’r Cyngor angen prawf radon maes o law byddai yna oblygiadau cost sylweddol i'r awdurdod;

·cydnabod bod natur y data a adroddwyd o’r arolygon yn tueddu i nodi data crai – nid oedd yn meintioli neu gyfiawnhau’r rhesymau y tu ôl i’r perfformiad neu’r gwaith sy’n mynd rhagddo i fynd i’r afael â pherfformiad gwael neu sy’n dirywio;

·        yn y Cynllun Corfforaethol presennol roedd y Cyngor wedi dewis ‘gwella perfformiad mewn addysg ac ansawdd adeiladau ein hysgolion’ fel un o’i flaenoriaethau corfforaethol, gyda’r elfen olaf o’r flaenoriaeth yn canolbwyntio ar adeiladu ysgolion/cyfleusterau ysgol newydd.  Gan edrych ymlaen at y Cyngor newydd a'i Gynllun Corfforaethol efallai y bydd yn dymuno canolbwyntio ar wella pob ysgol ledled Sir Ddinbych ac nid canolbwyntio ar nifer fach o brosiectau ysgol; a

·chadarnhawyd bod y Cyngor wedi gosod targed uchelgeisiol iawn ar gyfer absenoldebau salwch, un a oedd yn debyg i ddiwydiannau yn y sector preifat, a dyna’r rheswm am gofrestru ‘ambr’ am ei berfformiad yn y maes hwn.  Nid oedd yr un awdurdod lleol arall yng Nghymru wedi cwrdd â’r targed a osodwyd gan Sir Ddinbych eto.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNODD y Pwyllgor yn amodol ar y sylwadau uchod i dderbyn yr adroddiad ar berfformiad y Cyngor wrth gyflawni ei Gynllun Corfforaethol yn ystod Chwarter 1 o 2016/17, a nodi perfformiad y Sir mewn perthynas â'r Dangosyddion Strategol Cenedlaethol (DSC) a Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (MAC) ar gyfer 2015/16

 

 

Dogfennau ategol: