Eitem ar yr agenda
DIWEDDARIAD AR WASANAETHAU GOFAL MEWNOL
Ystyried adroddiad y Grŵp Tasg a Gorffen
(copi ynghlwm) ar y cynnydd hyd yma o ran yr ymgynghoriad ar ddyfodol darpariaeth gofal cymdeithasol mewnol y
Cyngor ar gyfer pobl hŷn yn Hafan Dȇg (Y Rhyl), Dolwen (Dinbych) ,
Cysgod y Gaer (Corwen) ac Awelon (Rhuthun) a gofyn i’r Pwyllgor wneud
argymhellion i'r Cabinet mewn perthynas â darpariaeth yn y dyfodol yn Hafan
Dȇg a Dolwen.
2pm – 3pm
Cofnodion:
Roedd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen (T a G) a sefydlwyd i edrych ar
ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol yn fewnol yn y dyfodol wedi cyflwyno
adroddiad cynnydd i’r Pwyllgor ar waith y Grŵp hyd yma (a ddosbarthwyd yn
flaenorol), a oedd yn cynnwys ei argymhellion mewn perthynas â darparu
gwasanaethau yng Nghanolfan Ddydd Hafan Deg, Y Rhyl a Chanolfan Ddydd a
Chartref Gofal Preswyl Dolwen, Dinbych yn y dyfodol.
Yn ei chyflwyniad amlinellodd y Cadeirydd y cefndir i sefydlu'r Grŵp,
y broses a ddilynwyd hyd yma a'r cerrig milltir a phenderfyniadau democrataidd
allweddol a oedd wedi arwain at yr adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor
yn y cyfarfod presennol. Hefyd
darllenodd benderfyniad y Cabinet ar 26 Mai 2016 a oedd yn rhoi awdurdod i’r
Grŵp Tasg a Gorffen i ymgymryd â gwaith archwiliadol, y casgliadau wedi eu
nodi yn yr adroddiad i’r Pwyllgor. Roedd y gwaith archwiliadol yn parhau mewn perthynas â
chynigion posibl i Awelon, Rhuthun a Cysgod y Gaer, Corwen. Byddai’r casgliadau
hynny yn cael eu hadrodd i'r Pwyllgor yn ddiweddarach, pan fydd y wybodaeth y
gofynnwyd amdani ar gael a’r holl opsiynau wedi cael eu harchwilio'n llawn.
Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cefnogi Cymunedol, er bod digwyddiad
ymgysylltu cychwynnol wedi ei gynnal ar gyfer darparwyr posibl i’r gwasanaethau
yn Hafan Deg a Dolwen, gallai lefel y manylder cymharol yr oedd aelodau
etholedig wedi gofyn amdano er mwyn ffurfio argymhellion mewn perthynas â
dyfodol y ddau sefydliad ond cael ei gyflawni os bydd y Cyngor yn cychwyn proses
dendro ffurfiol. Ni fyddai
dechrau proses yn ymrwymo’r Cyngor i drosglwyddo’r gwasanaethau i ddarparwr
allanol, ond byddai’n darparu digon o wybodaeth i alluogi gwneud penderfyniad
gwybodus ar y ffordd ymlaen ar gyfer y dyfodol. Roedd yr holl risgiau a nodwyd gyda'r prosiect cyfan yn
cael eu nodi yn yr adroddiad.
Gan
ymateb i gwestiynau'r aelodau, roedd yr Aelod Arweiniol dros Ofal Cymdeithasol
(Oedolion a Gwasanaethau Plant), wedi cadarnhau mewn perthynas ag argymhellion
a gyflwynwyd ar gyfer y ddau sefydliad:
·
y byddai’r holl dendrau’n cael eu gwerthuso gan y
Grŵp Tasg a Gorffen cyn i argymhellion gael eu llunio a’u cyflwyno i’r
Pwyllgor Archwilio Perfformiad ac yna’r Cabinet ar ddarpariaeth gwasanaeth yn y
dyfodol;
os yn dilyn y broses dendro nad yw unrhyw un o'r tendrau’n bodloni’r meini prawf gofynnol ar gyfer y gwasanaethau mae’r Cyngor yn dymuno eu cyflenwi, byddai’r Awdurdod angen adolygu ei ddull o gyflenwi’r gwasanaethau hyn. Pwysleisiwyd na fyddai unrhyw un o'r sefydliadau yn cau ac y byddai gwasanaethau yn parhau fel ar hyn o bryd;
byddai trefniadau monitro ansawdd gofal statudol yn berthnasol i sefydliadau os oeddent yn trosglwyddo i ddarparwyr allanol. Byddent hefyd yn destun trefniadau monitro gofal Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), yn yr un modd ag y byddai darparwyr gofal cyhoeddus a phreifat yn cael eu harolygu gan y Rheoleiddiwr;
Roedd y Cyngor yn talu £50 y dydd i ddarparwyr allanol ar gyfer darparu gofal dydd. Byddai’r dogfennau tendro arfaethedig ar gyfer y ddau sefydliad yn pennu'r ffi sy'n daladwy gan y Cyngor;
Byddai Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg Gofal Cymdeithasol a’r Gweithgor ‘Mwy Na Geiriau' yn sicrhau bod y dogfennau tendro yn nodi gofynion yr iaith Gymraeg yn glir ar gyfer darparu gwasanaethau yn y ddau sefydliad. Byddent hefyd yn cael eu cynnwys yn y broses gwerthuso tendrau i sicrhau bod pob meini prawf penodol yn cael eu bodloni;
·Byddai trefniadau
Trosglwyddo Ymgymeriadau (Darparu Cyflogaeth) (TUPE) yn berthnasol i bob aelod
o staff a gyflogir yn y ddau sefydliad os, a phan fydd y gwasanaethau yn cael
eu trosglwyddo i ddarparwr allanol;
·
os nodwyd darparwyr posibl yn ystod y broses dendro, a’r
holl feini prawf gofynnol yn cael eu bodloni, gallai’r Cyngor o bosibl
drosglwyddo’r asedau a’r gwasanaethau o fewn dwy flynedd;
·
cadarnhawyd y byddai cymalau yn cael eu cynnwys mewn
unrhyw ddogfennau trosglwyddo cyfreithiol i warchod y Cyngor yn achos tendrwr
llwyddiannus yn tynnu'n ôl rhag cyflwyno'r gwasanaethau a gomisiynir o fewn
cyfnod penodol o amser, neu berchennog/ddeiliad prydles yr adeilad yn ceisio
newid ei ddefnydd o’r hyn y cafodd ei werthu/ei brydlesu iddynt ar gyfer ei
ddefnyddio;
byddai gofal yn cael ei gomisiynu ar sail
unigol, fel yr arfer cyfredol, gan iddo gael ei deilwra i anghenion pob unigolyn. Roedd
darpariaeth gofal mewn sefydliad wedi’i brynu drwy gytundeb fframwaith sy'n
ffurfio contract ar gyfer gofal. Telerau ac amodau'r contract gyda darparwr oedd y
ddogfen allweddol;
roedd gan y Cyngor gynlluniau wrth gefn eisoes ar waith i ddelio â chau annisgwyl a sefyllfaoedd argyfwng a oedd yn gofyn i drigolion gael eu hailgartrefu ar fyr rybudd. Roedd y cynlluniau hyn wedi cael eu rhoi ar brawf a'u profi ac roeddent yn gweithio'n dda; a
·byddai
defnyddwyr gwasanaeth a’u heiriolwyr yn cael eu cynnwys yn y broses ymgynghori
ar ddarpariaeth gwasanaethau yn y dyfodol yn y ddau sefydliad.
Mewn perthynas â Hafan Deg, cadarnhawyd nad oedd:
y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i'w lawn gapasiti ar hyn o bryd, roedd hyn oherwydd cyfyngiadau ariannol ar y Cyngor. Roedd nifer o'r partïon â diddordeb a oedd wedi mynychu'r digwyddiad ymgysylltu wedi rhestru amrywiaeth o wahanol fathau o wasanaethau yr hoffent eu cyflawni yn y ganolfan, y byddai nifer ohonynt yn cyflawni'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mewn perthynas â chefnogi annibyniaeth a gwytnwch a lleihau unigedd;
Mewn perthynas â Dolwen, cadarnhawyd:
nad oedd yr unig ddarparwr oedd wedi mynegi
diddordeb mewn digwyddiad ymgysylltu i gymryd drosodd Dolwen a darparu
gwasanaethau yno yn darparu gwasanaethau yng Nghymru ar hyn o bryd. Fodd bynnag, os
ydynt yn mynd ymlaen i’r cam tendro ffurfiol byddai’r tendr yn cael ei werthuso
yn erbyn y meini prawf penodol a fyddai’n cynnwys, ymhlith meini prawf eraill,
safonau yn mesur ansawdd gofal;
roedd y sawl â diddordeb posibl wedi
cadarnhau ei fwriad i gyflawni gwaith cynnal a chadw hanfodol yn Nolwen ac
roedd ganddo ddyheadau i gynyddu capasiti’r adeilad, drwy wneud cais am ganiatâd
cynllunio, i ymestyn yr adeilad i ddarparu ar gyfer uned 50 gwely, a fyddai’n cynnwys gwelyau
Iechyd Meddwl yr Henoed (IMH). Roedd y darparwr â diddordeb hefyd wedi nodi mai ei
ddymuniad i gynyddu capasiti fyddai adeiladu llawr ychwanegol yn yr adeilad yn
hytrach nag ymestyn tuag at allan ar y tir; a
tra mai dim ond un darparwr posibl oedd wedi mynychu'r digwyddiad ymgysylltu, roedd y Cyngor yn hyderus bod gan ddarparwyr eraill ddiddordeb. Byddai'r rhain yn ôl pob tebyg yn dangos diddordeb yn ystod y broses dendro ffurfiol;
Pwysleisiodd yr Aelodau'r angen i'r Cyngor ddiogelu darpariaeth ar gyfer
trigolion yn yr ardal leol ac i geisio sicrwydd na fyddai unrhyw gontractau yr
ymrwymir iddynt yn cael effaith andwyol ar y rhai sydd angen gwasanaethau a’r
rhai sy’n eu darparu yn Sir Ddinbych. Pwysleisiodd y Cynghorydd
Hilditch-Roberts yr angen i unrhyw gontractau ddiogelu'r gwasanaethau fel na
fyddent yn gadael yr ardal.
Cyn diwedd y drafodaeth gwahoddodd y Cadeirydd aelod o'r cyhoedd yn
bresennol i annerch y pwyllgor ac i ofyn cwestiynau. Mewn ymateb i’r
cwestiynau hynny cadarnhaodd swyddogion:
Nad oedd Hafan Deg yn cael ei ddefnyddio i’w lawn botensial ar hyn o bryd oherwydd nad oedd llawer o alw am y gwasanaethau yr oedd y Cyngor wedi gallu eu darparu yno yn y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, dylai'r gwasanaethau ataliol yr oedd rhai â diddordeb yn awyddus i’w darparu yno yn y dyfodol fod â galw mawr amdanynt gan eu bod yn cwrdd â gofynion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014; ac
·Os byddai darparwr yn
tynnu allan o ddarparu gwasanaethau a drosglwyddwyd naill ai iddyn nhw neu
drydydd parti, cyfrifoldeb perchennog/lesddeiliad yr adeilad fyddai darparu’r
un lefel o wasanaeth o’r sefydliad hwnnw gan eu bod yn rhwym yn gyfreithiol gan
eu contract i wneud hynny;
Dywedodd yr unigolyn uchod ei fod yn teimlo y dylai’r holl waith archwilio
sy’n gysylltiedig â throsglwyddo gwasanaethau gael ei gynnal yn annibynnol.
Wrth ddiolch i aelodau a swyddogion y Grŵp Tasg a Gorffen am eu gwaith
hyd yma pwysleisiodd Cadeirydd y Grŵp Tasg a Gorffen bod y cynigion a
gyflwynwyd yn cynrychioli ffordd i ddiogelu gwasanaethau presennol tra hefyd yn
eu ehangu i fodloni anghenion ym maes gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Cyfeiriodd at lwyddiant
y cyfleuster Gofal Ychwanegol yn y Rhyl a'i dymuniad i weld darpariaeth debyg
ar gael ar draws Sir Ddinbych.
Pwysleisiodd
yr Aelod Arweiniol bod y dull arfaethedig yn ddyfodolaidd ac yn edrych tua’r
dyfodol.
Ar ddiwedd trafodaeth fanwl:
Penderfynodd: y Pwyllgor i argymell i’r Cabinet y dylai gynnal:
(i)
proses dendro ffurfiol
ynglŷn â darparu gwasanaethau yn Hafan Deg (Y Rhyl) gyda’r bwriad o
drosglwyddo'r adeilad i sefydliad allanol, comisiynu gwasanaeth gofal dydd o
fewn yr adeilad ac yn ychwanegol, galluogi asiantaethau'r trydydd sector i
ddarparu gweithgareddau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl hŷn i leihau
unigedd cymdeithasol, cefnogi annibyniaeth a hyrwyddo gwydnwch.
(ii)
proses dendro ffurfiol
mewn perthynas â darparu gwasanaethau yn Nolwen (Dinbych) gyda sefydliad
allanol gyda'r bwriad o drosglwyddo'r adeilad a'r gwasanaeth cyfan i sefydliad
allanol a fydd yn cofrestru Dolwen i ddarparu gwasanaethau gofal dydd a
phreswyl iechyd meddwl yr henoed (IMH);
(iii)
bod yr holl ddogfennau
tendro yn pennu gofynion i ddangos tystiolaeth ar ansawdd y gofal a'r
ddarpariaeth Gymraeg fyddai'n cael eu darparu yn y ddau sefydliad, ac
(iv) ar ddiwedd y broses dendro bod y bidiau yn cael eu gwerthuso a'u dadansoddi ar gyfer effeithiau posibl gan y Pwyllgor Archwilio Perfformiad cyn eu cyflwyno i’r Cabinet gydag argymhellion y darparwr a ffafrir, cyn eu penodi, er mwyn cael cymeradwyaeth lawn y Cabinet ac i sicrhau'r canlyniad mwyaf manteisiol. (Byddai pob penodiad yn amodol ar y Cabinet yn cael ei fodloni y byddai trosglwyddo asedau a darparu gwasanaethau wedi eu cynllunio yn y sefydliadau hynny er budd gorau'r defnyddwyr gwasanaeth, trigolion a'r Cyngor).
Dogfennau ategol:
- In-house Social Care Report 290916, Eitem 10. PDF 184 KB
- In-house Social Care Report - Hafan Deg App 290916, Eitem 10. PDF 143 KB
- In-house Social Care Report - Dolwen App 290916, Eitem 10. PDF 386 KB