Eitem ar yr agenda
CYNNYDD AR GYFLAWNI STRATEGAETH DAI SIR DDINBYCH: THEMA 2 - CREU CYFLENWAD O DAI FFORDDIADWY
Ystyried adroddiad (copi ynghlwm) gan y Rheolwr
Cynllunio Strategol a Thai ar ddarparu Thema 2 Strategaeth Tai’r Cyngor: Creu
cyflenwad o dai fforddiadwy.
10.10am – 10.45am
Cofnodion:
Cyflwynodd yr
Aelod Arweiniol dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad yr
adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) yn absenoldeb yr Aelod Arweiniol dros
Foderneiddio a Thai. Cadarnhaodd yr Aelod Arweiniol bod yr
adroddiad yn ddiweddariad i Aelodau Archwilio ar y cynnydd a wnaed hyd yma o
ran cyflawni'r canlyniadau a'r camau gweithredu allweddol mewn perthynas â thai
fforddiadwy a nodwyd yn Strategaeth Dai Sir Ddinbych. Roedd
y Strategaeth wedi ei mabwysiadu gan y Cyngor ar 1 Rhagfyr 2015.
Dywedodd yr Aelod
Arweiniol fod Grŵp Cyflenwi’r Strategaeth Dai yn monitro darpariaeth y
Strategaeth Dai yn ei chyfanrwydd yn rheolaidd, ac wedi nodi atebion ar gyfer
mynd i'r afael ag unrhyw rwystrau i’w chyflawni. Dywedodd
fod yr holl dargedau yn y Cynllun Gweithredu o fewn targed ar hyn o bryd. Roedd
elfen allweddol ar gyfer creu cyflenwad o dai fforddiadwy, a datblygu
cynlluniau lleol ar gyfer anghenion tai cymdeithasol ym mhob rhan o’r sir ar y
gweill. Mae nifer o safleoedd wedi eu caffael er mwyn
adeiladu cartrefi newydd. Yn ogystal, roedd eiddo hefyd wedi'i brynu
gyda'r bwriad o gynyddu'r nifer o unedau tai cymdeithasol yn y sir. Roedd
y rhain yn cynnwys prynu cyn dai awdurdod lleol a werthwyd yn flaenorol o dan y
cynllun "Hawl i Brynu".
Amlinellodd y
Rheolwr Tai a Chynllunio Strategol gefndir datblygu’r Strategaeth Dai trwy
gyflwyniad PowerPoint. Roedd pum thema’r Strategaeth yn cynnwys:
(i)
Mwy o
gartrefi i ddiwallu'r angen a’r galw lleol;
(ii)
Creu
cyflenwad o dai fforddiadwy;
(iii)
Sicrhau
cartrefi diogel ac iach;
(iv)
Cartrefi
a chefnogaeth i bobl ddiamddiffyn; a
(v)
Hyrwyddo
a chefnogi cymunedau.
Eglurodd y
Rheolwr Tai a Chynllunio Strategol sut oedd y pum thema wedi cael eu cynnwys
mewn cynllun gweithredu, a'r cynnydd hyd yn hyn gyda themâu 1 a 2. Dywedodd
mewn perthynas â Thema 2, roedd 57 eiddo newydd wedi eu galluogi fel anheddau
fforddiadwy yn ystod 2015-16 (roedd y rhain yn cynnwys 7 prynu tŷ; 10 o
gartrefi gwag; 24 o dai newydd; 6 wedi eu hariannu yn breifat gan Landlordiaid
Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) a 10 prydles fel llety ar gyfer pobl
ddigartref). Roedd yr adborth a dderbyniwyd gan drigolion a
oedd wedi elwa ar y cynlluniau hyn wedi bod yn hynod gadarnhaol.
Roedd wedi cael
ei gydnabod bod datblygiadau tai sylweddol, a fyddai'n sbarduno'r gofyniad
darpariaeth tai fforddiadwy ar y safle, heb eu hadeiladu yn y blynyddoedd
diwethaf oherwydd y dirywiad economaidd.
Fodd bynnag, bu arwyddion bod
datblygwyr yn bwriadu adeiladu yn y dyfodol agos. Felly,
roedd y Cyngor wedi cynhyrchu prosbectysau safle tai ac wedi eu cyflwyno i
ddatblygwyr mewn ymgais i’w hannog i ddechrau datblygu safleoedd.
Gyda golwg ar
gynyddu nifer yr unedau tai fforddiadwy sydd ar gael ledled y sir, mae'r Cyngor
wedi cymeradwyo cynllun busnes 30 mlynedd Cyfrif Refeniw Tai ac wedi gwneud
cais am ganiatâd i atal y cynllun "Hawl i Brynu". Roedd
y timau Polisi Cynllunio a Strategaeth Tai hefyd wedi eu cyfuno dan un Pennaeth
Gwasanaeth mewn ymgais i leihau'r amser sy'n ymwneud â chyflwyno prosiectau
sy'n gysylltiedig â thai.
Gan ymateb i
gwestiynau Aelodau roedd Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus, yr Aelod Arweiniol
dros Gyllid, y Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad, a Swyddogion yn:
·
cynghori
y dylai’r strwythur staffio newydd ar waith gyfrannu tuag at gyflawni'r
Strategaeth Dai o fewn yr amserlen a fwriedir;
·
cadarnhau
bod rhai preswylwyr yn awr yn gwrthwynebu ceisiadau cynllunio a gyflwynwyd ar
gyfer datblygiadau mawr, ond gan fod y safleoedd eisoes wedi'u dynodi o dan y
Cynllun Datblygu Lleol (CDLl), fel tir datblygu tai, nid oedd ganddynt sail ddigonol
i wrthwynebu'r cais oni bai eu bod yn gwyro’n sylweddol o’r lleoliad a gytunwyd
neu bod pryderon diogelwch mawr yn dod i’r amlwg;
dweud nawr fod y Cyngor wedi optio allan o’r System Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (CRT) ac yn gweinyddu ei CRT ei hun, byddai eto yn hwyluso/galluogi adeiladu tai fforddiadwy. Fel galluogwr tai byddai’r cyngor yn cyflwyno datblygiadau tai i ddarparu cartrefi a oedd yn adlewyrchu'r ddemograffeg leol ac a oedd yn gynaliadwy yn y tymor hir. Teimlwyd y byddai'r dull hwn yn rhoi'r elw mwyaf posibl i’r awdurdod ar ei fuddsoddiadau CRT;
·cadarnhau bod y term "uned" tai yn
gartref hunangynhwysol;
dweud bod nifer o unedau wedi eu prynu hyd yma ac eraill ar y gweill hyd nes i ddatblygiadau newydd gael eu hadeiladu. Byddai'r elfen olaf yn gofyn am gyfnod hwy o amser ar gyfer cyflwyno;
·amlinellu cynlluniau sy’n cael eu hystyried ar hyn
o bryd ar gyfer datblygu tai fforddiadwy mwy;
·
cadarnhau
bod Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn cael eu rheoleiddio yn yr un modd
ag adrannau tai awdurdodau lleol sy'n darparu cartrefi i bobl leol;
cynghori, yn ychwanegol at y cyllid a ddarperir i awdurdodau lleol drwy'r Grant Tai Cymdeithasol (GTC), roedd gan Lywodraeth Cymru (LlC) duedd i gyhoeddi cyllid ychwanegol eithaf sylweddol ar gyfer materion sy'n ymwneud â thai yn hwyr yn y flwyddyn ariannol. Roedd yr amseru hwn yn golygu ei bod yn anodd iawn i ddefnyddio’r arian yn effeithiol ar fyr rybudd, felly penderfynodd y Cyngor i gael briffiau datblygu wedi eu mabwysiadu o flaen llaw er mwyn galluogi'r awdurdod i ddefnyddio'r arian i'w lawn botensial os a phryd y byddai’n cael ei ddyfarnu;
·cadarnhau y byddai swyddogion yn trafod ac yn
ymgynghori ar y Cynlluniau Ardal ar gyfer pob ardal gyda phob un o Grwpiau
Ardal yr Aelodau unwaith y bydd y dadansoddiad cychwynnol wedi cael ei gynnal.
PENDERFYNWYD yn
amodol ar y sylwadau uchod:
(i) cymeradwyo'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda chyflwyno Thema 2 o’r Strategaeth Dai Leol: Creu cyflenwad o dai fforddiadwy; a
(i)chyfarwyddo'r
Cydlynydd Craffu i gysylltu â'r Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Thai a'r
Penaethiaid Gwasanaeth i fonitro cyflwyno pob un o themâu Cynllun Gweithredu'r
Strategaeth Dai Leol ar Raglen Waith i'r Dyfodol y Pwyllgor yn rheolaidd.
Dogfennau ategol:
- Affordable housing Report 290916, Eitem 6. PDF 100 KB
- Affordable housing Report - App 1 290916, Eitem 6. PDF 255 KB