Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ASESIADAU ATHRAWON A CHANLYNIADAU ARHOLIADAU DROS DRO

Ystyried adroddiad ar y cyd (copi ynghlwm) gan y Prif Reolwr Addysg ac Uwch Ymgynghorydd Her GwE sy'n gofyn i’r Pwyllgor adolygu perfformiad ysgolion yn erbyn perfformiad blaenorol a meincnodau allanol sydd ar gael ar hyn o bryd, a nodi unrhyw feysydd posibl ar gyfer gwella.

9.40am – 10.10am

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Addysg yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i roi gwybodaeth i’r Pwyllgor Archwilio Perfformiad ynglŷn â pherfformiad ysgolion Sir Ddinbych  mewn asesiadau athrawon ac arholiadau allanol yn ddiweddar.

 

Roedd yr Uwch Ymgynghorydd Herio, GwE (canolbwynt Conwy a Sir Ddinbych), wedi crynhoi’r adroddiad a oedd yn manylu ar ganlyniad asesiadau athrawon terfynol ar gyfer 2015/16 a’r canlyniadau arholiadau allanol dros dro ar gyfer yr un cyfnod. 

 

Yn ystod y cyflwyniad:

 

·       rhoddodd y manylion yn yr adroddiad.

·       cadarnhaodd y dylai’r ffigur + / - ar gyfer Ysgol Brynhyfryd yn y tabl canlyniadau arholiadau allanol heb eu gwirio ddarllen + ac nid - 4.8%;

·       dywedodd bod canlyniadau Sir Ddinbych yn dangos gwelliant cyffredinol ar ganlyniadau'r flwyddyn flaenorol, er hynny nid oedd y rhan fwyaf o ysgolion wedi cyrraedd y targedau uchelgeisiol iawn yr oeddent wedi eu gosod i’w hunain;

·       roedd perfformiad mewn sgiliau iaith Gymraeg wedi dirywio ym mhob cam o'r asesiadau athrawon ac oherwydd hyn, byddai GwE yn monitro’r maes hwn yn agos iawn ar gyfer y dyfodol hyd y gellir ei ragweld.

 

Cafwyd trafodaeth ac mewn ymateb i bryderon a chwestiynau'r Aelodau, roedd yr Uwch Ymgynghorydd GwE, Aelod Arweiniol dros Addysg, ac uwch swyddogion eraill yn:

 

·       dweud fod nifer y disgyblion nad oeddent yn cyflawni Dangosydd Pwnc Craidd (DPC) ym mhob cam ac nad oeddent wedi eu nodi gydag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn gostwng.  Roedd hyn oherwydd bod y Sir wedi rhoi manylion data ar bob disgybl ac roeddent yn gallu ymyrryd yn ystod camau cynnar yn eu haddysg.  Rhoddodd hyn y gefnogaeth sydd ei hangen er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni'r DPC;

·cadarnhawyd bod ganddynt bryderon mewn perthynas â’r potensial i golli nifer o ddisgyblion o’r sector cyfrwng Cymraeg i’r sector cyfrwng Saesneg yn ystod y cyfnod pontio o addysg gynradd i addysg uwchradd, ac yn ystod camau cynnar eu haddysg uwchradd.  Byddai swyddogion yn cefnogi disgyblion a nodwyd eu bod “mewn perygl” yn ystod y cam hwn.  Soniodd yr Aelod Arweiniol dros Addysg am lwyddiant ffrwd cyfrwng Cymraeg Ysgol Dinas Brân wrth gefnogi disgyblion i gyflawni gwell canlyniadau;

·amlinellwyd y broses a ddilynir gan ysgolion wrth osod targedau, gan bwysleisio bod y targedau yn hynod uchelgeisiol ac yn annhebygol o gael eu bodloni.  Os yw ysgol wedi cyflawni o fewn 5% o'r targed a osodwyd mae’n cael ei ystyried fel un sydd wedi cyflawni ei darged;

·roedd y mwyafrif o ysgolion wedi cyflawni o fewn 5% o'r targed a osodwyd ganddynt eu hunain, gydag Ysgol Brynhyfryd yn rhagori ar ei darged a osodwyd sef 4.8%.  Fodd bynnag, roedd tair ysgol wedi methu eu targed gan fwy na 5%.  Y tair ysgol oedd:

ØYsgol

Ø  Uwchradd Prestatyn

Ø  Ysgol Uwchradd Dinbych ac

Ø  Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones

Roedd Ysgol Uwchradd y Bendigaid Edward Jones wedi methu eu targed, er gwaethaf eu bod wedi dangos gwelliant o 15.4% mewn perfformiad ers y flwyddyn flaenorol.  Byddai GwE yn gweithio'n agos i gynorthwyo’r ysgolion unigol hyn;

·       roedd Pennaeth newydd wedi'i benodi ar gyfer Ysgol Uwchradd Prestatyn yn ddiweddar.  Roedd wedi bod yn gweithio ochr yn ochr â'r cyn Bennaeth am gyfnod o amser a byddai'n cymhwyso strategaethau addysgu tebyg i’r rhai yr oedd Pennaeth newydd Ysgol Brynhyfryd wedi bod yn eu defnyddio.  Felly roedd yr Aelod Arweiniol a Swyddogion yn hyderus y byddai canlyniadau Ysgol Uwchradd Prestatyn yn gwella’n sylweddol yn y dyfodol;

·proses categoreiddio ysgolion GwE manwl, lle’r oedd ysgolion wedi cael naill ai statws Coch, Ambr neu Wyrdd (RAG).

 

Roedd y Pennaeth Addysg ac Aelodau yn mynegi eu pryderon am effaith niweidiol posibl y system RAG.  Roeddent yn teimlo bod ysgolion a ddyfarnwyd statws “gwyrdd” iddynt mewn perygl o beidio â chyflawni eu targedau yn y dyfodol gan y byddai’r holl gefnogaeth gan GwE yn cael ei sianelu i’r ysgolion “coch" ac o bosibl y rhai "ambr".  Roedd yna deimlad cyfunol y dylai ysgolion gael elfen o gefnogaeth er mwyn cyflawni gwelliant parhaus.

 

Cyn diwedd y drafodaeth, roedd yr Aelodau yn canmol cyflawniad ardderchog Ysgol Brynhyfryd, yn enwedig o gofio bod y Pennaeth newydd ond wedi bod yn ei swydd am ddau dymor llawn.

 

Roedd hefyd wedi’i nodi bod nifer o ddisgyblion ar draws y sir yn cael gwersi ychwanegol y tu allan i oriau’r ysgol er mwyn cyrraedd eu graddau ardderchog.

 

Ar ddiwedd y drafodaeth:

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar y sylwadau uchod:

(i)              llongyfarch disgyblion y sir ar eu cyflawniadau addysgol eleni fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad a’r sir ar ei berfformiad yn erbyn meincnodau allanol; ac

(ii)             y dylai pob ysgol gael eu cefnogi yn unol â hynny gyda golwg ar gyflawni'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer eu disgyblion.

 

 

Dogfennau ategol: