Eitem ar yr agenda
GWELEDIGAETH TWF AR GYFER ECONOMI GOGLEDD CYMRU
Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Hugh Evans,
Arweinydd ac Aelod Arweiniol yr Economi (copi’n amgaeedig) yn gofyn am
gymeradwyaeth i “Weledigaeth Twf Economi Gogledd Cymru” fel sail ar gyfer
trafodaethau gyda Llywodraethau’r DU a Chymru dros Gais Cynllun Twf ar gyfer y
rhanbarth.
Penderfyniad:
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo “Gweledigaeth Twf ar gyfer
Economi Gogledd Cymru” (gweler yr atodiad) ac yn cefnogi ei ddefnydd fel sail
ar gyfer trafodaethau gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru gyda Llywodraethau’r DU
a Chymru dros Gynnig Cynllun Twf ar gyfer y rhanbarth, ac yn
(b) nodi y bydd unrhyw Gynnig Cynllun Twf
sy’n codi yn cael ei gyflwyno gerbron y Cyngor am benderfyniad cyn i Gyngor Sir
Ddinbych wneud unrhyw ymrwymiad.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans yr adroddiad yn
gofyn am gymeradwyo 'Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru' fel sail
ar gyfer trafodaethau gyda Llywodraethau Cymru a'r DU dros Gynnig Bargen Twf ar
gyfer y rhanbarth.
Roedd y ddogfen Gweledigaeth Twf yn ganlyniad dull
cydweithredol ac yn nodi uchelgais clir ar gyfer Gogledd Cymru, yn enwedig mewn
perthynas â datblygu seilwaith, sgiliau a chyflogaeth a thwf busnes. Os yw busnes yn cael ei sicrhau i gyflawni
cynllun gweithredu’r prosiectau, byddai'r rhanbarth yn profi twf economaidd
cynaliadwy a byddai gwerth yr economi yng Ngogledd Cymru’n tyfu o £12.8 biliwn
yn 2015 i £20 biliwn erbyn 2015 ac yn cynhyrchu o leiaf 120,000 o gyfleoedd
cyflogaeth newydd. Credai'r Arweinydd fod Sir Ddinbych mewn sefyllfa dda yn logistaidd i elwa
o fuddsoddiad a byddai'r ddogfen Weledigaeth yn ategu at waith y Cyngor ei hun
wrth ddatblygu'r economi leol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Economi a Pharth y Cyhoedd drosolwg
o'r ddogfen sy'n nodi gweledigaeth a strategaeth ar gyfer twf ar draws y
rhanbarth, gan gynnwys pecyn o brosiectau, er mwyn sicrhau twf economaidd a
chyflogaeth gynaliadwy ac yn darparu sail ar gyfer trafodaethau buddsoddi â
Llywodraethau Cymru a'r DU.
Croesawodd y Cabinet y Weledigaeth Twf fel ffordd
o ddarparu fframwaith strategol a chyd-destun er mwyn llywio buddsoddiad a
darparu twf ar draws y rhanbarth, a nododd y gefnogaeth eang gan sectorau a
sefydliadau eraill.
Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
drafodaeth -
·
trafododd yr aelodau’r strategaeth
i fanteisio ar gysylltiad ag economïau'r Northern Powerhouse ac Iwerddon, yn
enwedig yng ngoleuni'r newidiadau o fewn gweinyddiaethau cyfredol, gan nodi bod
ymrwymiad yn parhau i gryfhau a datblygu'r economi ac y byddai'r Weledigaeth yn
sicrhau bod y rhanbarth yn y sefyllfa orau i fanteisio ar fuddsoddiad
·
roedd
datblygu Bargen Twf ar gyfer Gogledd Cymru wedi’i gynnwys yn Rhaglen
Lywodraethu Llywodraeth Cymru a byddai'r Weledigaeth yn ffurfio sail ar gyfer y
trafodaethau hynny - nodwyd bod y Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith wedi
bod yn gadarnhaol ynghylch y Weledigaeth a byddai â rôl allweddol wrth
ddatblygu economi Gogledd Cymru
·
roedd
y Cynghorydd Eryl Williams wedi bod yn siomedig nad oedd y diwydiant
amaethyddol wedi'i grybwyll yn benodol â'r ddogfen Weledigaeth o ystyried ei
bwysigrwydd yng Ngogledd Cymru, ac fe gyfeiriodd yr Arweinydd at yr anawsterau
wrth godi proffil un diwydiant penodol dros un arall, yn enwedig pan fo
diwydiannau eraill yn creu mwy o swyddi. Nodwyd bod rhai cynhyrchion amaethyddiaeth, megis
y sector bwyd a diod, wedi cael eu nodi
·
amlygwyd
pwysigrwydd seilwaith cludiant ac adroddodd y Cynghorydd David Smith ar waith y
Fforwm Ymgynghorol ar Gludiant, o ran dylanwadu ar gynlluniau cludiant yn y
dyfodol i fanteisio ar dwf economaidd yn y rhanbarth, a’i gefnogi
·
cyfeiriwyd
at y rhaglen sgiliau a sicrhau bod pobl â’r sgiliau angenrheidiol a mynediad at
swyddi wrth iddynt gael eu creu, ac adroddodd y Cynghorydd Eryl Williams ar y
gwaith o fewn ysgolion ynglŷn â gyrfaoedd yn y dyfodol, er mwyn sicrhau
bod pobl ifanc yn cael eu harfogi â’r sgiliau yr oedd cyflogwyr eu hangen drwy
wahanol fentrau, megis y rhaglen Llwybrau+. Byddai bod heb waith yn cael sylw drwy raglenni penodol sy'n canolbwyntio
ar amgylchiadau'r unigolyn.
PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -
(a) cymeradwyo
"Gweledigaeth Twf ar gyfer Economi Gogledd Cymru" (ynghlwm fel
atodiad i'r adroddiad) a chymeradwyo ei defnyddio fel sail ar gyfer
trafodaethau gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru gyda Llywodraethau
Cymru a’r DU dros Gynnig Bargen Twf ar gyfer y rhanbarth, a
(b) nodi y bydd unrhyw Gynnig Bargen Twf ffurfiol sy'n codi yn cael ei gyflwyno
i'w benderfynu gan y Cyngor, cyn i Gyngor Sir Ddinbych wneud unrhyw ymrwymiad.
Dogfennau ategol:
- GROWTH VISION FOR THE ECONOMY, Eitem 7. PDF 170 KB
- GROWTH VISION FOR THE ECONOMY - APPENDIX E, Eitem 7. PDF 882 KB