Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

GWASANAETHAU BWS LLEOL A CHLUDIANT ADDYSG

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi’n amgaeedig) yn manylu ar y camau a gymerwyd yn dilyn cwymp GHA Coaches Ltd a gofyn am gytundeb ar y strategaeth ar gyfer gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

a)         cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan swyddogion i lenwi bylchau yn y gwasanaeth yn dilyn cwymp GHA, h.y. cefnogi'r meini prawf (a amlygwyd ym mharagraff 4.5 yr adroddiad) a ddefnyddir i ailsefydlu'r gwasanaethau hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol;

 

(b)       cytuno y bydd y cyngor yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gyfrannu at rai o'r costau ychwanegol yn ystod 2016/17 (ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad ariannol ychwanegol hefyd);

 

(c)        cytuno y dylai trafodaethau am y gyllideb ar gyfer gwasanaethau bysiau lleol yn y dyfodol ffurfio rhan o'r gweithdai gyllideb sydd ar ddod;

 

(d)       nodi ac yn gwerthfawrogi cynnig Llywodraeth Cymru i ddarparu arian i gwrdd â chostau ychwanegol y Cyngor wrth adfer y gwasanaethau bws lleol yn dilyn methiant GHA Coaches. Hefyd, annog y Gweinidog yn barchus i ystyried darparu cymorth ariannol pellach o ran y costau ychwanegol a wynebir yn ystod y flwyddyn ariannol hon o ran darpariaeth statudol gwasanaethau cludiant ysgol sy'n cynrychioli’r gyfran fwyaf o'r baich ariannol ychwanegol a osodwyd ar y Cyngor oherwydd methiant y cwmni hwn;

 

(e)       cytuno bod swyddogion yn cynnal trafodaethau gyda swyddogion y Llywodraeth mewn perthynas ag elfen cludiant ysgol y costau ychwanegol hyn, ac yn

 

(f)         cytuno bod swyddogion yn mynd at y Cynllun Datblygu Gwledig i weld a oes arian ar gyfer datblygu gwasanaethau cludiant cymunedol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith yr adroddiad yn nodi'r camau a gymerwyd yn dilyn cwymp GHA Coaches Ltd ym mis Gorffennaf 2016, a cheisio cytundeb ar y strategaeth ar gyfer gwasanaethau cludiant teithwyr yn y dyfodol.

 

Eglurodd y Cynghorydd Smith fod cludiant ysgol statudol wedi cael ei adfer yn syth ar ôl cwymp GHA Coaches a’r gwasanaethau bws lleol wedi’u hadfer yn raddol, yn rhannol o leiaf, hyd nes y ceir penderfyniad ynghylch y strategaeth ar gyfer y dyfodol.   Talodd deyrnged i'r Tîm Cludiant Teithwyr am eu gwaith diflino wrth adfer cludiant i'r ysgol ar fyr rybudd a’r ymdrechion sylweddol a wnaed wrth sicrhau bod y cymunedau yr effeithir arnynt yn parhau i elwa o ryw fath o ddarpariaeth gwasanaeth bws lleol.  Fodd bynnag, mae'r costau wedi bod yn sylweddol gyda £175k ychwanegol ar gyfer cludiant i'r ysgol yn y flwyddyn ariannol gyfredol.  Byddai'r gyllideb ar gyfer gwasanaethau bws lleol hefyd yn cael ei gorwario ac yng ngoleuni costau yn y dyfodol, cynigiwyd bod aelodau’n trafod y strategaeth yn y dyfodol ar gyfer y gwasanaethau hynny a lefel y gyllideb ar gyfer gwasanaethau bws lleol yn y dyfodol, fel rhan o'r gweithdy cyllideb sydd ar ddod. Fe wnaeth y Cynghorydd Smith hefyd ddiweddaru aelodau ynghylch y trafodaethau gyda'r Gweinidog dros yr Economi a’r Seilwaith, yn cynghori y byddai Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer y costau wrth adfer gwasanaethau bws lleol, ond nid oedd cyfraniad wedi cael ei gynnig ar gyfer cludiant i'r ysgol a oedd yn cynrychioli’r gyfran fwyaf o'r baich ariannol ychwanegol i’r Cyngor.

 

Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y drafodaeth  -

 

·         Cymeradwyodd y Cabinet y camau a gymerwyd gan y Tîm Cludiant Teithwyr wrth adfer gwasanaethau bws a thalwyd deyrnged i'w gwaith caled a’u hymdrechion i sicrhau cyn lleied o drafferthion â phosibl

·         tra bod y cynnig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau bws lleol yn cael ei groesawu, codwyd pryderon ynghylch y pwysau ariannol sylweddol ychwanegol ar ddarpariaeth cludiant i'r ysgol a gofynnodd y Cabinet bod swyddogion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru i geisio cymorth ariannol pellach yn hynny o beth

·         ymatebodd y swyddogion i gwestiynau ac ymhelaethasant ar y ddarpariaeth wahanol mewn ardaloedd mwy poblog gyda thwf a buddsoddiad mewn gwasanaethau sector preifat, yn groes i ardaloedd mwy gwledig llai poblog, lle mae twf yn annhebygol

·         trafodwyd dyfodol y gyllideb cludiant cyhoeddus ynghyd â'r sefyllfa ariannol a goblygiadau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ac roedd rhywfaint o’r drafodaeth yn canolbwyntio ar opsiynau posibl i'w hystyried fel rhan o'r strategaeth yn y dyfodol, gyda’r bwriad o sicrhau gwasanaethau cynaliadwy yn y dyfodol.  Cydnabu swyddogion bryderon ynghylch effeithiau posibl mewn ardaloedd gwledig ac fe wnaethant ymateb i gwestiynau am lwybrau penodol a rheoli gwasanaethau yn y dyfodol, er mwyn sicrhau atebion cynaliadwy wrth ystyried y strategaeth yn y dyfodol.  Cadarnhaodd y swyddogion fod gwahanol fodelau yn cael eu harchwilio, gan gynnwys datblygu gwasanaethau cludiant cymunedol.  Roedd Cabinet yn cefnogi'r cynnig gan y Cynghorydd Eryl Williams fod y Cyngor yn cysylltu â'r Cynllun Datblygu Gwledig ar gyfer arian, er mwyn datblygu darpariaeth yn y gymuned.  Cytunodd y Cabinet hefyd fod angen ystyried y gyllideb yn ei chyfanrwydd, fel rhan o'r broses gyffredinol o osod y gyllideb

·         codwyd peth pryder bod y gost i deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau newydd wedi cynyddu mewn rhai achosion, a dywedodd y swyddogion nad oedd gan y Cyngor unrhyw reolaeth dros gost tocynnau bws ar gyfer gwasanaethau a weithredir yn fasnachol ac efallai y bydd yn rhaid addasu prisiau i sicrhau hyfywedd dyfodol y gwasanaeth – fodd bynnag, i deithwyr rheolaidd, byddai’n fwy cost-effeithiol prynu tocynnau bws wythnosol / misol neu flynyddol, nad oedd yn fantais a oedd ar gael yn flaenorol gan GHA Coaches - gofynnwyd i'r swyddogion godi ymwybyddiaeth o’r opsiwn hwnnw.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn -

 

(a)       cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan swyddogion i lenwi bylchau gwasanaeth yn dilyn cwymp GHA, h.y. cefnogi'r meini prawf (a amlygwyd ym mharagraff 4.5 yn yr adroddiad) a ddefnyddir i adfer gwasanaethau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol;

 

(b)       cytuno y bydd y cyngor yn defnyddio cronfeydd wrth gefn i gyfrannu at rai o'r costau ychwanegol yn ystod 2016/17 (ar y dybiaeth y bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gwneud cyfraniad ariannol ychwanegol);

 

(c)        cytuno y dylai trafodaethau am gyllideb y dyfodol ar gyfer gwasanaethau bws lleol ffurfio rhan o'r gweithdai cyllideb sydd ar ddod;

 

(d)       nodi a bod yn ddiolchgar am y cynnig o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru o ran y costau ychwanegol gan y Cyngor wrth adfer gwasanaethau bws lleol yn dilyn cwymp GHA Coaches.  Byddai'r Cabinet yn annog y Gweinidog yn barchus i ystyried cymorth ariannol pellach o ran y costau ychwanegol yn y flwyddyn ariannol gyfredol yn y ddarpariaeth statudol o wasanaethau cludiant ysgolion, sy'n cynrychioli’r gyfran fwyaf o'r baich ariannol ychwanegol a osodwyd ar y Cyngor oherwydd tranc y cwmni hwn;

 

(e)       yn cyfarwyddo swyddogion i gychwyn trafodaethau gyda swyddogion y Llywodraeth mewn perthynas â'r elfen cludiant ysgol o’r costau ychwanegol hyn, a

 

(f)         bod swyddogion yn mynd at y Cynllun Datblygu Gwledig i chwilio am arian ar gyfer datblygu gwasanaethau cludiant cymunedol.

 

 

Dogfennau ategol: