Eitem ar yr agenda

Eitem ar yr agenda

ADOLYGIAD O DRWYDDED I YRRU CERBYDAU HACNI A CHERBYDAU HURIO PREIFAT - GYRRWR RHIF 15/1594/TXJDR

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Diogelu’r Cyhoedd (copi ynghlwm) yn gofyn i aelodau adolygu trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat o ran Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR wedi’u profi ac na ddylid gweithredu o gwbl.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad cyfrinachol gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (a ddosbarthwyd yn flaenorol) ynglŷn ag –

 

(i)        addasrwydd Gyrrwr Rhif 15/1594/TXJDR i ddal trwydded i yrru cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat yn dilyn cronni 20 o bwyntiau cosb o dan gynllun pwyntiau cosb y Cyngor am gyflwyno cerbyd trwyddedig i’w brofi mewn cyflwr anniogel a pheryglus;

 

(ii)       bod manylion ynghylch y diffygion a nodwyd yn dilyn cyflwyno’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT Mai 2016 a chyhoeddi 20 pwynt cosb wedi eu cynnwys yn yr adroddiad, ynghyd â datganiadau tyst cysylltiedig a dogfennaeth;

 

(iii)      y Gyrrwr wedi apelio’r penderfyniad i ddyfarnu'r 20 pwynt cosb ar y sail, ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd ar gyfer y prawf o flaen llaw mewn garej wahanol, a bod y gwaith trwsio angenrheidiol wedi cael ei wneud yn unol â methiant y prawf a hysbysiadau cynghori (nid oedd y ddwy eitem a nodwyd fel 'peryglus' yn y prawf dilynol ym Mai wedi cael eu nodi yn ystod y prawf cyntaf) – y Gyrrwr wedi methu â darparu tystiolaeth ddogfennol o'i hawliadau ac ar ôl ymchwiliadau, fe wrthododd y swyddogion yr apêl, a

 

(iv)      bod y Gyrrwr wedi cael ei wahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi adolygiad o’i drwydded, er mwyn gallu ateb cwestiynau’r aelodau ynglŷn â hynny.

 

Roedd y Gyrrwr yn bresennol yn y cyfarfod i gefnogi ei chais a chadarnhaodd ei fod wedi derbyn yr adroddiad a threfnau’r pwyllgor.

 

Amlinellodd y Swyddog Gorfodi Trwyddedu'r achos fel y manylir yn yr adroddiad.

 

Derbyniodd y Gyrrwr y ffeithiau fel y nodwyd yn yr adroddiad, ar wahân i'r methiant i gredu ei fod wedi cyflwyno’r cerbyd i'r Orsaf Brofi ymlaen llaw.  Dadleuodd ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau addasrwydd y cerbyd ac fe fanylodd ar y digwyddiadau a arweiniodd at Fethu’r Prawf Cydymffurfio/MOT a oedd yn cynnwys (1) adnewyddu'r cerbyd mewn siop rhannau ceir; (2) cyflwyno’r cerbyd mewn Gorsaf Brofi lle cafodd cyn-archwiliad ei wneud a nododd bump o ddiffygion; (3) cyflwyno'r cerbyd i garej wahanol a drwsiodd y diffygion a nodwyd, a (4) cyflwyniad terfynol o’r cerbyd ar gyfer Prawf Cydymffurfio/MOT angenrheidiol a arweiniodd at fethu’r prawf.  Darparodd y Gyrrwr dystiolaeth o daliadau a wnaed i bob un o'r tair garej ar wahân a nodwyd yn ei gyflwyniad, er nad oedd tystiolaeth o'r gwaith a wnaed a’r diffygion a nodwyd wedi cael eu rhoi.  Rhoddwyd tystiolaeth ddogfennol ar ffurf datganiad tyst yn cadarnhau casglu’r cerbyd o'r Orsaf Brofi a’i gyflwyno i garej ar wahân ar gyfer gwaith trwsio.  Yn olaf, cyflwynwyd llythyr gan Frocer Yswiriant y Gyrrwr i gefnogi ei achos.  Wrth gloi ei gyflwyniad, dywedodd y Gyrrwr ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth ac wedi ymddiried mewn gweithwyr proffesiynol tair garej ar wahân a oedd wedi methu adnabod y diffygion fel y rhestrir ar yr hysbysiad methiant.  Rhoddodd sicrwydd bod camau wedi’u cymryd ar unwaith i drwsio’r diffygion unwaith y cawsant eu nodi ac nad oedd y cerbyd wedi bod yn berygl i'r cyhoedd, gan nad oedd wedi bod yn gwasanaethu yn ystod y cyfnod yn arwain at fethu’r prawf.  Yn olaf, fe roddodd y Gyrrwr rhywfaint o wybodaeth gyffredinol am reoli ei fusnes a chynnal a chadw ei gerbydau trwyddedig heb ddigwyddiad blaenorol.

 

Cymerodd yr Aelodau’r cyfle i godi cwestiynau gyda'r Gyrrwr er mwyn egluro trefn y digwyddiadau ymhellach a'r camau yr oedd wedi’u cymryd mewn ymateb i amgylchiadau penodol i sicrhau bod y cerbyd mewn cyflwr diogel ac addas i'r ffordd fawr, ynghyd â chwestiynau ynghylch rheolaeth gyffredinol ei fusnes a threfn cynnal a chadw cerbydau.  Ymatebodd y Gyrrwr i gwestiynau hefyd ynglŷn â'r dystiolaeth ddogfennol a gyflwynodd o blaid ei achos a’r rhesymeg y tu ôl i'r diffyg tystiolaeth ategol wrth gofnodi gwaith archwilio a thrwsio cerbydau, fel y nodwyd yn ei gyflwyniad i'r pwyllgor.

 

Yn ei ddatganiad terfynol, dywedodd y Gyrrwr ei fod wedi bod yn onest yn ei gyflwyniadau a thynnodd sylw'r aelodau at y dystiolaeth a gyflwynwyd, gan gynghori y gallai ddarparu datganiadau tystion pellach os oes angen.  Roedd yn credu ei fod wedi ymddwyn yn gyfrifol yn yr achos hwn ac wedi cael ei siomi gan weithwyr proffesiynol eraill.

 

Ar y pwynt hwn torrodd y pwyllgor i ystyried yr achos a -

 

PHENDERFYNWYD nad oedd yr honiadau a wnaed yn erbyn Gyrrwr Rhif  15/1594/TXJDR wedi eu profi ac felly does dim angen gweithredu pellach.

 

Dyma oedd y rhesymau am benderfyniad y Pwyllgor Trwyddedu –

 

Roedd yr Aelodau wedi ystyried yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd yn ofalus, a'r cyflwyniadau gan y Gyrrwr a'i ymateb i gwestiynau.  Ystyriodd y pwyllgor fod y dystiolaeth yn yr achos hwn yn awgrymu bod y Gyrrwr wedi dilyn cyngor gweithwyr proffesiynol eraill, ei fod wedi mynd â’i gerbyd am wiriad cyn-archwiliad, ac roedd wedi rhoi manylion ynghylch y gwaith a oedd ei angen i garej, lle gwnaethpwyd y gwaith trwsio.  Roedd y Gyrrwr wedi talu am y gwasanaethau hynny.  Yna cafodd y cerbyd ei gyflwyno ar gyfer y Prawf Cydymffurfio / MOT, ac wedi methu.  Yna cafodd y cerbyd waith trwsio pellach lle pasiodd y Prawf Cydymffurfio/MOT wedi hynny.

 

Ar sail y dystiolaeth a gyflwynwyd, fe dderbyniodd y pwyllgor fod y Gyrrwr wedi cymryd camau rhesymol i sicrhau addasrwydd ei gerbyd yn yr achos hwn, a’i ystyried yn berson addas a phriodol i ddal trwydded gyrrwr cerbyd hacni/cerbyd hurio preifat.  Argymhellodd yr Aelodau hefyd fod yr 20 pwynt cosb a roddwyd i'r Gyrrwr yn cael eu tynnu ymaith ar unwaith.

 

Cafodd penderfyniad y pwyllgor a'r rhesymau felly eu cyfleu i'r Gyrrwr.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.10 a.m.

 

 

Dogfennau ategol: