Pori cyfarfodydd

Pori cyfarfodydd

Gweithgor Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol

Mae’r dudalen hon yn rhestu’r cyfarfodydd ar gyfer Gweithgor Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol.

Gwybodaeth am Gweithgor Newid Hinsawdd ac Argyfwng Ecolegol

Penderfynwyd Cyngor Sir Ddinbych y cynnig canlynol ar y 2 Gorffennaf 2019:

 

Bydd Cyngor Sir Ddinbych yn:

         Datgan argyfwng hinsawdd ac ecolegol ar unwaith

         Ymrwymo i sicrhau bod yr awdurdod yn ddi-garbon net erbyn 2030 fan bellaf.

         Sefydlu grŵp tasg a gorffen i lunio cynllun clir o fewn 6 mis i gyflawni’r uchod, gan gynnwys dulliau o wella bioamrywiaeth yn Sir Ddinbych.

         Galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i ddarparu cymorth ac adnoddau i’n galluogi i leihau allyriadau nwyon gwydr a gwella bioamrywiaeth; a

         Gweithio gyda phartneriaid ar draws y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector i gynorthwyo i ddatrys yr argyfwng hinsawdd ac ecolegol hwn.

 

Mae'r Gweithgor yn gorff ymgynghorol nad yw'n gwneud penderfyniadau ond gall wneud argymhellion neu geisiadau i bwyllgorau, paneli, aelodau arweiniol neu swyddogion Cyngor Sir Ddinbych fel y bo'n briodol.

Ei ddiben yw:

i.      Bod yn grŵp cyfeirio gwleidyddol trawsbleidiol ar gyfer swyddogion ar yr agenda newid hinsawdd ac adfer natur

ii.      Darparu her i sicrhau y cyflawnir Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol 2021/22 - 2029/2030

iii.     Hyrwyddo'r agenda newid hinsawdd ac adfer natur ymhlith Cynghorwyr, o fewn Grwpiau Gwleidyddol a chydag etholwyr.