Agenda, decisions and draft minutes

Agenda, decisions and draft minutes

Lleoliad: TRWY CYFRWNG FIDEO

Media

Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Rhif Eitem

PWYNT HYSBYSIAD - PROFEDIGAETH

Roedd yn ddrwg iawn gan y Cabinet glywed bod Edna Pomeroy wedi marw’n ddiweddar ac yn dymuno cyfleu eu cydymdeimlad llwyraf â'i theulu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Yr Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 305 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 (copi ynghlwm).  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021.

 

Materion yn Codi –

 

Eitem 5 Cynllun Gwella Heol y Castell Llangollen 2020 (tudalen 9) – Rhoddodd y Cynghorydd Brian Jones y wybodaeth ddiweddaraf ar yr awgrym y dylai’r man llwytho newydd arfaethedig ar Heol y Castell y tu allan i neuadd y dref fod yn adeiladwaith pantiog.  Er ymdrechu’n galed, yn dilyn ymchwiliadau a thrafodaethau technegol â budd-ddeiliaid, darganfuwyd na fyddai’n bosibl i’r man llwytho bantio mwy oherwydd yr effaith andwyol ar y goeden sydd ar y safle a’r angen i ailosod y gwasanaethau cyfleustodau, fyddai’n costio’n afresymol. Fodd bynnag roedd y cynllun cyffredinol wedi cael ei addasu pan oedd yn briodol, a byddai Llangollen yn elwa o’r buddsoddiad a’r gwelliannau sylweddol a fyddai’n dod yn sgil y prosiect.

 

Roedd y Cynghorydd Meirick Davies wedi holi a ddylid newid y cyfeiriad at LlC (Llywodraeth Cymru) yn yr adroddiad Cymraeg i Senedd (tudalen 11). Eglurodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wahanol rolau’r Senedd a Llywodraeth Cymru a chytunodd i wirio’r cyd-destun priodol yn y ddogfen.

 

PENDERFYNWYD derbyn cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Gorffennaf 2021 a’u cadarnhau fel cofnod cywir.

 

 

5.

STRATEGAETH AR GYFER ATAL A CHANFOD TWYLL, LLYGREDIGAETH A LLWGRWOBRWYAETH A’R CYNLLUN YMATEB I DWYLL pdf eicon PDF 215 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) sy’n ceisio cymeradwyaeth y Cabinet o’r Strategaeth ddiwygiedig a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet ar y Strategaeth ddiwygiedig ar Atal a Chanfod Twyll a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig. Cafodd y Strategaeth a’r Cynllun eu hystyried gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 28 Gorffennaf 2021 a argymhellodd i’r Cabinet eu mabwysiadu.

 

Roedd y Strategaeth a’r Cynllun yn ffurfio rhan o fframwaith gwrth-dwyll y Cyngor, casgliad o bolisïau a gweithdrefnau cydberthnasol sy’n cynnwys y Cod Ymddygiad, Rheoliadau Ariannol a’r Polisi Rhannu Pryderon. Roedd yn cynnwys polisïau a gweithdrefnau wedi’u targedu’n benodol at atal twyll a llygredigaeth ac yn darparu offeryn rheoli i sicrhau cynnydd a thryloywder o ran gweithgareddau gwrth-dwyll. Amlinellwyd pwysigrwydd cadw strategaethau a chynlluniau gwrth-dwyll cyfredol i sicrhau cydymffurfiaeth â chyfreithiau a rheoliadau.  Er nad oedd gofyniad i gyflwyno’r dogfennau er cymeradwyaeth y Cabinet, ystyriwyd y byddai hyn o fudd er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r mater.

 

Cydnabu’r Cabinet bwysigrwydd y Strategaeth a’r Cynllun ac roeddent yn awyddus i glywed mwy am y cynlluniau i ymgysylltu a chodi ymwybyddiaeth yn fewnol ac allanol a sut byddai canlyniadau’n cael eu monitro a’u gwerthuso.  Dywedodd yr Aelod Arweiniol a’r swyddogion bod codi ymwybyddiaeth yn digwydd drwy brosesau democrataidd y Cyngor a chyhoeddi’r Strategaeth a’r Cynllun ar wefan y Cyngor. Os bydd y Cabinet o blaid cymeradwyo'r dogfennau, gallai'r Aelod Arweiniol drefnu iddynt gael eu dosbarthu i bob aelod fel bo’n briodol. Roedd modiwl e-ddysgu i staff yn cael ei ddatblygu gyda chynlluniau i’w ehangu i aelodau, yn benodol ar gyfer y Cyngor newydd y dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022 er mwyn codi ymwybyddiaeth yn gynnar. Ar gyfer partneriaid strategol allweddol, goruchwyliwyd y trefniadau hynny fel rhan o waith archwilio mewnol gyda phwyslais ar fesurau gwrth-dwyll. Roedd pecyn gwaith partneriaeth hefyd oedd angen hunanasesiad blynyddol ar agweddau fel monitro ariannol, llywodraethu a chydymffurfio; cadarnhawyd y byddai Hamdden Sir Ddinbych Cyfyngedig  yn ymwybodol o’r trefniadau oedd ar waith.  O ran rhannu pryderon, roedd y polisi wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar ac roedd yn dal i gael ei hyrwyddo i sicrhau y gellid codi pryderon a delio â nhw’n briodol. Roedd adroddiad blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio i fonitro gweithrediad y polisi rhannu pryderon ac ystyried canlyniadau.

 

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cefnogi’r Strategaeth ddiwygiedig ar gyfer Atal a Chanfod Twyll, Llygredigaeth a Llwgrwobrwyaeth a’r Cynllun Ymateb i Dwyll cysylltiedig a darparu cymorth i sicrhau bod y mesurau yn cael eu sefydlu ar draws y sefydliad.

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI’R TRYSORLYS 2020/21 pdf eicon PDF 210 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi’n amgaeedig) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Cabinet ynglŷn â pherfformiad y swyddogaeth rheoli’r trysorlys ac i ddangos cydymffurfiaeth â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2020/21.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2020/21 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2020/21 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill adroddiad yn diweddaru'r aelodau ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys ac sy’n dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus yn ystod 2020/21.

 

Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd Thompson-Hill at bwysigrwydd rheoli’r trysorlys, a’r cefndir economaidd a'i effaith ar weithgareddau rheoli'r trysorlys.  Amlygodd y prif bwyntiau ar gyfer aelodau yn nhermau gweithgareddau benthyca a buddsoddi a chadarnhaodd eu bod yn cydymffurfio â phob dangosydd darbodus a nodwyd, gan fynd â’r aelodau drwy'r dangosyddion hynny fel y manylir yn Atodiad B gan gadarnhau cymarebau addas o ariannu costau a lefelau benthyca o fewn terfynau. Nodwyd bod y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn monitro’r swyddogaeth rheoli’r trysorlys a’u bod wedi derbyn yr adroddiad.  Diben yr adroddiad oedd rhoi sicrwydd o ran gweithgareddau rheoli trysorlys y Cyngor.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, ymatebodd y Pennaeth Cyllid i gwestiynau am y swyddogaeth rheoli’r trysorlys yn y dyfodol.  Oherwydd bod y Cyngor yn awdurdod benthyca roedd y swyddogaeth rheoli trysorlys yn canolbwyntio ar y cydbwysedd rhwng ariannu uchelgeisiau cyfalaf a sicrhau llif arian digonol i dalu cyflogau a chyflenwyr. O ran cyfraddau llog, nid oedd arwydd y byddent yn cynyddu sy’n golygu y byddai cyfraddau llog benthyca yn parhau’n isel a byddai angen gwneud penderfyniadau yn y dyfodol ynghylch beth oedd yn fforddiadwy, gan gynnal y cydbwysedd rhwng darparu gwasanaethau o ddydd i ddydd a buddsoddi mewn prosiectau cyfalaf. O ran casgliadau’r Asesiad o Effaith ar Les, roedd y Cynghorydd Mark Young yn teimlo nad oedd y sgôr ar gyfer cynaliadwyedd (2 seren allan o 4), yn cynnwys carbon isel a bioamrywiaeth, yn adlewyrchu’n gywir y gwaith caled oedd wedi’i wneud.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid y rhesymeg y tu ôl i’r fethodoleg sgorio a bod agwedd ofalus wedi’i chymryd, ac er bod y swyddogaeth rheoli trysorlys yn hwyluso prosiectau penodol, roedd yr asesiadau unigol ar gyfer y prosiectau penodol hynny wedi cynnwys y cyfeiriadau hynny. Fodd bynnag, cytunwyd i adolygu’r dull yn ystod y broses asesu nesaf yn sgil sylwadau'r Cynghorydd Young.  Cadarnhaodd yr Arweinydd y gellid cael sicrwydd o’r adroddiad gan ailadrodd y cydbwysedd ariannol rhwng delio â swyddogaethau craidd a phwysau sy’n codi ag uchelgeisiau’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y gwaith sy’n dechrau ar ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol newydd a’r blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi yn y dyfodol. Credai, er y dylai’r Cyngor gadw ei uchelgeisiau, fod rhaid iddynt fod yn fforddiadwy i sicrhau bod swyddogaethau craidd a phwysau cysylltiedig yn cael eu hariannu’n briodol.  Rhoddodd deyrnged hefyd i’r gwaith agos rhwng yr Aelod Arweiniol a’r Pennaeth Cyllid, a staff cyllid am yr holl waith a wnaed sy’n rhoi sicrwydd a hyder yn rheolaeth ariannol y Cyngor. Cytunodd yr Arweinydd â hyn gan gydnabod gwaith y tîm cyllid.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi perfformiad swyddogaeth Rheoli Trysorlys y Cyngor yn ystod 2020/21 a’i chydymffurfiaeth â’r Dangosyddion Darbodus gofynnol, fel yr adroddwyd yn Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol 2020/21 (Atodiad 1 yr adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau eu bod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

7.

FFRAMWAITH GWELLIANNAU ALLANOL AC ARBED YNNI TAI’R CYNGOR A DYFARNU CYSTADLEUAETH FECHAN pdf eicon PDF 316 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r fframwaith i chwe chontractwr ac i dendro’r ddau ran cyntaf o’r fframwaith trwy gystadleuaeth fechan.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo –

 

 (a)      dyfarnu’r contract fframwaith i chwe contractwr fel y manylir isod a oedd yn llwyddiannus yn cyflawni’r meini prawf gofynnol yn dilyn ymarfer tendro diweddar -

 

·        Sustainable Building Services (UK) Ltd

·        Bell Decorating Group Limited

·        Novus Property Solutions Limited

·        ParkCity Multitrade Ltd

·        Gareth Morris Construction Ltd

·        Pave Aways Ltd

 

 (b)      i dendro’r ddwy gyfres gyntaf o’r fframwaith trwy gystadleuaeth fach y flwyddyn ariannol hon ar sail pris yn unig, o ystyried bod yr holl gontractwyr wedi bodloni’r meini prawf gofynnol, gan hepgor y cyfnod galw mewn pum diwrnod (cyfres 1 yn unig) er mwyn caniatáu i gyfres 1 y fframwaith gael ei hysbysebu ar unwaith a lleihau oedi pellach o’r contract, a

 

 (c)       dirprwyo’r penderfyniad i gynyddu gwerthoedd contract Cyfres 1 a Chyfres 2 os fydd Cyllid Ôl-Osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn llwyddiannus, ac os fydd gwerth diwygiedig y contract tu hwnt i £2m i'r Pennaeth Cyllid ac Eiddo mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad yn ceisio cymeradwyaeth y Cyngor i ddyfarnu’r fframwaith gwelliannau allanol a dendrwyd yn ddiweddar i chwe contractwr ac i dendro'r ddwy gyfres cyntaf o'r fframwaith drwy gystadleuaeth fechan.  

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo tendro’r fframwaith ym mis Mai 2021 i gaffael gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni gwaith atgyweirio allanol sylweddol i stoc dai’r Cyngor a chynnal cyflwr y stoc dai yn unol â Safon Ansawdd Tai Cymru. Byddai’r rhaglen gyfalaf pedair blynedd yn darparu gwelliannau a byddai’r gwaith yn gyffredinol yn ailadrodd y rhaglen flaenorol o ran y gwelliannau allanol, gyda gwaith ôl-osod yng nghyswllt arbed ynni’n cael ei wneud ble bynnag y mae hynny’n bosibl. Rhoddwyd manylion y cynnig i ddarparu 2 gyfres yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol yn cynnwys cyfuno gwelliannau cynnal a chadw cynlluniedig a gwaith ôl-osod.  Oherwydd amseru’r terfynau amser cadarnhau, rhyddhau a gwario cyllid grant, cynigiwyd i dendro Cyfres 1 a 2 ar y sail y gellid gosod y contract gwaith cynlluniedig yn seiliedig ar waith gwella yn unig (gwerth a ragwelir o £1m yr un), gydag unrhyw waith ôl-osod yn cael ei ychwanegu yn amodol bod cyllid ar gael a phroffil gwariant a allai fynd â’r prosiect dros y trothwy £2m sydd angen cymeradwyaeth y Cabinet. Roedd awdurdod dirprwyedig hefyd yn cael ei geisio i hwyluso unrhyw gynnydd yng ngwerth y contract dros y trothwy o £2m.

 

Canmolodd y Cabinet y gwaith gwella a wnaed i'r stoc dai yn y blynyddoedd diweddar gan gefnogi’r gwaith gwella cynlluniedig yn llawn i’r dyfodol a’r disgwyliad o gyllid pellach i ôl-osod gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cynlluniau arbed ynni er budd trigolion. Darparodd y Prif Swyddog - Eiddo Corfforaethol a Stoc Dai yr atebion canlynol i gwestiynau -

 

·        roedd y cais i hepgor y weithdrefn galw i mewn ar gyfer penderfyniadau’n ymwneud â’r tendr ar gyfer Cyfres 1 yn unig er mwyn cyflymu’r broses honno o ystyried yr amserlenni

·        gyda blociau o fflatiau gyda deiliadaethau preifat a chyngor, cyfrifoldeb y landlord oedd atgyweirio’r gwelliannau allanol ac felly gallai gwaith a wnaed i denantiaid y cyngor fod o fudd i denantiaid preifat hefyd

·        gweithiodd yr awdurdod gyda Busnes Cymru yn ystod y broses dendro a cheisiodd weithio gyda’r holl gontractwyr a fynegodd ddiddordeb cyn y tendr, a gellid rhoi adborth i'r rhai aflwyddiannus ar gais

·        yn unol â rheolau caffael, roedd yn rhaid tendro drwy'r porth caffael GwerthwchiGymru, oedd yn broses caffael nad oedd yn gyfyngedig i gwmnïau lleol

·        mewn ymateb i ymholiadau gan y Cynghorydd Brian Jones am y rhesymeg y tu ôl i’r diffyg contractwyr lleol a gyflwynwyd ar gyfer y fframwaith a’r meini prawf ariannol a osodwyd gan GwerthwchiGymru a allai effeithio ar allu contractwyr lleol i gymryd rhan yn  broses, cytunwyd y byddai’r Swyddog Arweiniol yn ymchwilio i’r materion hyn ac yn adrodd yn ôl yn uniongyrchol i’r Cynghorydd Jones

·        dilynodd y meini prawf ar gyfer ailwampio’r stoc dai arolwg cyflwr ac roedd yn seiliedig ar raglen gyfalaf hirdymor ar gyfer gwelliannau allanol a gwaith mewnol i sicrhau cydymffurfiaeth â Safon Ansawdd Tai Cymru

·        gallai rhywfaint o'r anfodlonrwydd a fynegwyd gan denantiaid hirdymor fod oherwydd y pwyslais ar waith unedau gwag yn sgil y safon dderbyniol uchel ar gyfer gosod a’r pwyslais ar gartrefi o ansawdd oedd yn haws ei wneud pan oedd eiddo’n wag gan ei bod yn anodd gwneud gwaith o’r fath pan oedd tenantiaid yno; bu oedi gyda gwaith mewnol hefyd oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws ond byddai’n ailddechrau cyn bo hir

·        mewn ymateb i faterion a godwyd yn uniongyrchol â’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts am y diffyg gwaith ailwampio a wnaed i denantiaid  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

ADEILADU 15 RHANDY AR GYFER RHENT CYMDEITHASOL YN Y DELL, PRESTATYN – DYFARNU CONTRACT pdf eicon PDF 217 KB

Ystyried adroddiad (sy’n cynnwys atodiad cyfrinachol) gan y Cynghorydd Tony Thomas, Aelod Arweiniol Tai a Chymunedau (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu'r contract i adeiladu 15 rhandy ar gyfer rhent cymdeithasol yn y Dell ym Mhrestatyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      Cymeradwyo dyfarnu’r contract i RL Davies & Sons Limited yn ôl Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Tony Thomas yr adroddiad (oedd yn cynnwys atodiad cyfrinachol gyda manylion yr ymarfer gwerthuso) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu’r contract i godi 15 rhandy rhent cymdeithasol yn y Dell ym Mhrestatyn.

 

Roedd y Cabinet wedi cymeradwyo adeiladu rhandai yn y Dell ym Mhrestatyn ym mis Gorffennaf 2019 ac roedd yr adroddiad yn crynhoi’r broses a gynhaliwyd yn ystod yr ymarfer caffael oedd wedi arwain at gyflwyno pedwar tendr. Yn dilyn ymarfer gwerthuso gan ddefnyddio methodoleg sgorio gyda phwysoliad o 70% ar gyfer y pris a 30% ar gyfer ansawdd, dewiswyd contractwr a’i argymell i’r Cabinet.  Cyfanswm amcangyfrif o’r gost a gyflwynodd y cynigiwr a argymhellwyd oedd £3,021,361.96 oedd o fewn y gyllideb ar gyfer y prosiect yng Nghynllun Busnes y Stoc Dai. Nodwyd yr oedi gyda’r datblygiad oherwydd y pandemig coronafeirws.

 

Roedd y Cabinet yn llwyr gefnogi’r datblygiad, fyddai’n helpu i ymdrin â’r angen am dai a chyfrannu at Flaenoriaeth Gorfforaethol y Cyngor i sicrhau bod pawb yn cael eu cefnogi i fyw mewn tŷ sy’n bodloni eu hanghenion, a’r Strategaeth ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol drwy adeiladu eiddo carbon isel.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      cymeradwyo dyfarnu’r contract i RL Davies & Sons Limited yn ôl Adroddiad Argymhelliad Dyfarnu Contract (Atodiad 1 yr Adroddiad), a

 

 (b)      cadarnhau ei fod wedi darllen, wedi deall ac wedi ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les (Atodiad 2 yr adroddiad) fel rhan o'i ystyriaethau.

 

 

9.

ADRODDIAD CYLLID pdf eicon PDF 235 KB

Ystyried adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol (copi ynghlwm) ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn –

 

 (a)      nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2021/22 a'r cynnydd yn erbyn y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn

 

 (b)      Cymeradwyo achos busnes ar gyfer datblygu hen safle Llyfrgell Prestatyn  fel yr argymhellir gan y Grŵp Buddsoddi Strategol (fel y manylir yn Adran 6.7 yr adroddiad ac Atodiadau 5 a 6 yr Adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr adroddiad oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd a wnaed o ran y strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb fel yr amlinellir isod -

 

·        y gyllideb refeniw net ar gyfer 2021/22 oedd £216.818 miliwn (£208.302 miliwn yn 2020/21)

·        rhagwelir y byddai gorwariant o £0.835 miliwn mewn cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol

·        manylion arbedion ac arbedion effeithlonrwydd y cytunwyd arnynt gwerth £4.448 miliwn o ran ffioedd ac arwystlon, arbedion gweithredol, newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth ac ysgolion 

·        tynnwyd sylw at y risgiau a thybiaethau presennol yn ymwneud â meysydd gwasanaeth unigol, cyllidebau corfforaethol ac ysgolion ynghyd ag effaith ariannol coronafeirws a’r sefyllfa o ran ceisiadau ariannol i Lywodraeth Cymru

·        rhoddwyd y wybodaeth gyffredinol ddiweddaraf ynghylch y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai, Rheoli Trysorlys a’r Cynllun Cyfalaf gyda diweddariad ar brosiectau mawr.

 

Ceisiwyd cymeradwyaeth y Cabinet ar gyfer achos busnes i ddatblygu cyn safle llyfrgell Prestatyn yn dilyn adroddiad llafar i’r Cabinet yn y cyfarfod diwethaf.

 

Rhoddodd y Pennaeth Cyllid ddiweddariad ar geisiadau cyllido Llywodraeth Cymru a rhai elfennau oedd yn dod i ben.  Er na ragwelwyd newidiadau sylweddol o ran rhagamcaniadau, byddai effaith ar wasanaethau a fyddai’n gorfod ariannu’r elfennau hynny yn y dyfodol a allai arwain at gynnydd mewn gorwariant neu ostyngiad mewn tanwariant mewn rhai meysydd gwasanaeth.  Cyfeiriwyd hefyd at adroddiad diweddar yr adolygiad o wariant 3 blynedd a chyllideb yr hydref fyddai’n cael ei chyhoeddi ym mis Hydref, oedd yn gam positif gan fod posibilrwydd y byddai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddarparu ffigurau dangosol 3 blynedd ar gyfer y grant cynnal refeniw yn ogystal â chyhoeddiad penodol ar gyfer setliad y flwyddyn nesaf.

 

Codwyd y materion canlynol wrth drafod –

 

·        roedd yr aelodau’n falch o nodi’r posibilrwydd o gael cyllidebau 3 blynedd gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol, roedd yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd wedi bod yn galw amdanynt i helpu â chynllunio ariannol gwell, darparu mwy o sicrwydd i’r dyfodol a chaniatáu hyblygrwydd wrth osod y gyllideb i hwyluso cyflawni prosiectau mwy ac arbedion o ran costau

·        byddai cefnogaeth ariannol gan Lywodraeth y DU o ran y cynllun ffyrlo a’r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol yn dod i ben cyn bo hir, a thynnodd y Cynghorydd Mark Young sylw at yr effaith ariannol ar deuluoedd a holodd am y prosesau oedd yn eu lle o ran Treth y Cyngor a rheolaeth ariannol. O ran casglu Treth y Cyngor a’r economi ehangach, eglurwyd bod awdurdodau lleol wedi bod yn cyflwyno ffurflenni misol i Lywodraeth Cymru er mwyn monitro’r sefyllfa’n ofalus. Roedd gan y Cyngor gynlluniau a phrosesau cadarn yn eu lle ac roedd y gwaith yn parhau, yn cynnwys dynodi pwysau ar wasanaethau i lywio’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig. Roedd llawer yn dibynnu ar y setliad llywodraeth leol oedd yn anodd ei ragfynegi, ond rhagwelwyd y gellid gosod cyllideb wedi’i mantoli ar gyfer y flwyddyn nesaf heb fod angen arbedion mawr na thoriadau i wasanaethau er y byddai setliadau’r blynyddoedd sydd i ddod yn debygol o fod yn anoddach.  O ran cyflenwyr nwy, roedd ffigurau ar gyfer cynnydd a ragwelir mewn prisiau yn cael eu hystyried ac oherwydd bod llawer o gostau rhedeg swyddfeydd wedi gostwng oherwydd bod staff yn gweithio o gartref, y gobaith oedd y gellid ail neilltuo’r cyllidebau i gynnwys y cynnydd mewn costau. Pan fydd y setliad drafft wedi ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, bydd cynigion ar gyfer y gyllideb yn cael eu dwyn ymlaen i aelodau eu hystyried

·        ymatebodd swyddogion i gwestiynau am ailddatblygu hen safle llyfrgell Prestatyn gan gadarnhau bod angen systemau draenio cynaliadwy i gydymffurfio â safonau/arferion presennol a darparu  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

10.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.  

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried a nododd yr aelodau’r diwygiadau canlynol –

 

·        Cynllun Amddiffyn Rhag Llifogydd Prestatyn – i gael ei symud o fis Rhagfyr i fis Ionawr

·        Cytundeb Cyflawni diwygiedig y CDLl Newydd ac Asesiad o Effaith Covid ac Adrodd yn ôl ar yr Ymgynghoriad Strategaeth a Ffefrir ar y CDLl Newydd – wedi eu tynnu o fis Hydref, dyddiad i’w gadarnhau.

 

PENDERFYNWYD nodi Blaenraglen Waith y Cabinet.

 

 

Gwahardd y wasg a'r cyhoedd

PENDERFYNWYD gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr eitemau busnes canlynol, dan ddarpariaethau Adran 100A Deddf Llywodraeth Leol 1972, ar y sail y byddai gwybodaeth eithriedig yn debygol o gael ei datgelu fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A y Ddeddf.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

11.

CYNLLUNIAU BYW Â CHYMORTH ANABLEDDAU DYSGU SIR DDINBYCH - ESTYNIAD DROS DRO I AC AIL-DENDRO CONTRACTAU SY’N BODOLI

Ystyried adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Bobby Feeley, Aelod Arweiniol Lles ac Annibyniaeth (copi’n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro contractau a’r broses ar gyfer ail-dendro contractau mewn perthynas â Chynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniadau dros dro i 35 o gontractau Byw â Chymorth anabledd dysgu am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023 a chymeradwyo'r broses o gynnal tendrau bychain ar gyfer 41 o gontractau o dan Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth (mae manylion yr amserlen arfaethedig a manylion contract wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Bobby Feeley adroddiad cyfrinachol yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i estyniad dros dro i gontractau a’r broses ar gyfer ail-dendro contractau mewn perthynas â Chynlluniau Byw â Chymorth Anableddau Dysgu Sir Ddinbych.

                                 

Roedd y Cabinet eisoes wedi cymeradwyo estyniad i’r contractau fel trefniant dros dro i aros am ddatblygiad Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth ond oherwydd oedi, yn cynnwys effaith Covid-19, nid oedd y gwaith wedi mynd yn ei flaen mor gyflym â’r disgwyl. O’r herwydd, ceisiwyd cymeradwyaeth am estyniad pellach i’r 35 contract hyd at 31 Mawrth 2023 fan bellaf ynghyd â’r broses at gyfer tendrau bychain ar gyfer 41 contract. Roedd yr adroddiad yn cynnwys costau manwl yn cynnwys yr amserlen arfaethedig a manylion y contract. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cynghorydd Meirick Davies, rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd wybod am yr arfer presennol o gwblhau’r ffurflenni angenrheidiol yn defnyddio llofnodwyr digidol gyda thrywydd e-bost fel tystiolaeth o awdurdodiad.  Cytunodd i ofyn am i enwau swyddogion gael eu teipio dan y llofnodwr er tryloywder.

 

PENDERFYNWYD y byddai’r Cabinet yn cymeradwyo cyflwyno estyniadau dros dro i 35 o gontractau Byw â Chymorth anabledd dysgu am gyfnod hyd at 31 Mawrth 2023 a chymeradwyo'r broses o gynnal tendrau bychain ar gyfer 41 o gontractau o dan Fframwaith Rhanbarthol Gogledd Cymru ar gyfer Byw â Chymorth (mae manylion yr amserlen arfaethedig a manylion contract wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 yr adroddiad).

 

Daeth y cyfarfod i ben am 11.55 am.