Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Y Cynghorydd
Bobby Feeley – Cysylltiad Personol - Eitemau 5 a 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Cysylltiad Personol -
Eitem Rhif 5 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
David Smith – Cysylltiad Personol - Eitemau 5 a 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd
Merfyn Parry – Cysylltiad Personol – Eitemau rhif 5 a 6 ar y Rhaglen Y Cynghorydd Huw
Williams - Cysylltiad Personol - Eitem
Rhif 5 ar y Rhaglen Cofnodion: Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen - Y Cynghorydd Huw
Hilditch-Roberts - Llywodraethwr yn Ysgol Pen Barras a phlentyn yn mynd i Ysgol
Pentrecelyn ym mis Ionawr 2016. Y Cynghorydd Huw
Williams - Mab yn Ysgol Pen Barras Datganodd yr
aelodau canlynol gysylltiad personol yn eitemau 5 a 6 ar y rhaglen - Y Cynghorydd
Bobby Feeley - Llywodraethwr yn Ysgol Stryd Rhos Y Cynghorydd
Merfyn Parry - Llywodraethwr yn Ysgol Bryn Clwyd ac Ysgol Gellifor Y Cynghorydd
David Smith – Ŵyr/wyres yn Ysgol Pen Barras |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 29 Medi 2015 (copi wedi’i amgáu). Penderfyniad: PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 29 Medi 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Medi 2015 fel cofnod
cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi
ynghlwm) yn cyflwyno'r adroddiad gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet
gymeradwyo gweithredu’r cynnig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn:- (a) nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad; (b) yn dilyn ystyried yr uchod, mae'r Cabinet yn
cymeradwyo gweithrediad y cynnig a'r diwygiad arfaethedig i gau Ysgol Llanfair
Dyffryn Clwyd ac Ysgol Pentrecelyn ar 31 Awst 2017, a bod Esgobaeth Llanelwy yn
agor Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir newydd ffrwd ddeuol Categori 2 yr Eglwys
yng Nghymru o 1 Medi 2017; (c) bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol
categori 1 agosaf, yn cael eu hystyried fesul achos, gan ddisgyblion presennol
Ysgol Pentrecelyn a’u brodyr a’u chwiorydd am weddill eu haddysg gynradd yn
dilyn cau'r ysgol (ar 1 Medi 2017), a (d) bod yr Awdurdod Lleol wedi ymrwymo i fonitro
safonau a chanlyniadau’r Ysgol Ardal newydd a fydd yn cael eu hadolygu'n
rheolaidd yn y Grŵp Monitro Safonau Ysgolion, Archwilio a chan y Grŵp
Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad yn manylu ar y
gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig,
ynghyd â'r diwygiad arfaethedig i oedi'r dyddiad gweithredu gan ddeuddeg mis o
2016 i 2017. Cyfeiriodd at argymhellion yr adroddiad ac ychwanegodd
argymhelliad i adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor, fel y nodir ym mharagraff 5.2 o'r
adroddiad, i fonitro safonau a chanlyniadau yn barhaus. Gwnaed y cynnig yng nghyd-destun adolygiad
ehangach o ardal Rhuthun. Roedd y ddwy ysgol gymunedol yn gefnogol
o’r buddsoddiad mewn ysgol ardal newydd, ac nid oedd y penderfyniad i’w
ddynodi’n ysgol Eglwys yng Nghymru yn un cynhennus. Y brif gynnen oedd y categoreiddio iaith, a derbyniwyd 30 gwrthwynebiad gan
y gymuned leol yn ymwneud â'r dynodiad arfaethedig i ysgol Categori 2. Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau a nodwyd yn
yr adroddiad, ynghyd â'r dadleuon dros y cynnig a'r ffactorau a nodwyd yn y Cod
Trefniadaeth Ysgolion. Canolbwyntiodd trafodaeth y Cabinet ar y materion canlynol - ·
cydnabuwyd
bod y mwyafrif llethol o ddisgyblion oedd yn mynychu’r ddwy ysgol yn cael eu
haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Byddai ysgol dwy ffrwd yn caniatáu i
ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg gael eu cynnal ar gyfer disgyblion o'r ddwy ysgol
ond byddai hefyd yn caniatáu i bobl ddi-Gymraeg gael mynediad i ddarpariaeth
cyfrwng Cymraeg drwy ddechrau yn y ffrwd Saesneg ac yna trosglwyddo i'r ffrwd
Gymraeg. Yn 2015, addysgodd Ysgol Llanfair 80 o ddisgyblion drwy gyfrwng y
Gymraeg a 23 drwy gyfrwng y Saesneg. O blith yr 80 disgybl yma, roedd 14 (13%)
wedi trosglwyddo o gyfrwng Saesneg i Gymraeg, a byddai dynodi’r ysgol yn
Gategori 2 yn helpu i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg a disgyblion a fyddai’n
gadael yr ysgol yn rhugl yn y ddwy iaith ·
cyfeiriwyd
at y buddsoddiad ychwanegol sydd ei angen er mwyn datblygu a symud yr iaith
Gymraeg yn ei blaen mewn ysgol Categori 2, a p'un a fyddai'n gynaliadwy yn y
tymor hir o ystyried y sefyllfa ariannol - dywedodd y swyddogion bod 23% o
leoedd dros ben yn ardal Rhuthun ar hyn o bryd, a phetai’r holl gynigion yn yr
adolygiad yn cael eu rhoi ar waith, byddai'r lleoedd gwag yn gostwng i 9%, ac
felly’n golygu y gellir ailddosbarthu adnoddau i ddiwallu anghenion ysgolion ·
cafodd
pwysigrwydd cadw ethos a diwylliant Cymreig bresennol ei bwysleisio a cheisiwyd
sicrwydd ynghylch hynny petai’r cynnig yn cael ei weithredu. Cafodd y Cabinet
wybod am gyfrifoldeb ar y cyd sy'n cynnwys y Corff Llywodraethu, GwE
(Gwasanaeth Gwella Ysgolion) a'r Cyngor. Byddai'r Corff Llywodraethu yn
sylfaenol o ran sicrhau bod ethos Cymreig cryf yn cael ei gynnal yn yr ysgol
newydd, a byddai modd i hyn gael ei adlewyrchu yn eu polisïau rheoli a recriwtio. Fe eglurwyd rôl y Cyngor
a'i ymrwymiad i fonitro safonau a chanlyniadau trwy'r Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion, Pwyllgorau Archwilio a Grŵp Strategol Cymraeg mewn Addysg, a
fyddai’n diogelu’r ethos Cymreig ymhellach ac yn cynnal parhad ·
adroddodd
y Cynghorydd Huw Jones, Aelod Arweiniol dros yr Iaith Gymraeg ar y cynnydd a
wnaed i gynyddu nifer y dysgwyr Cymraeg yn y sir, gan dynnu sylw at y cynnydd
yn nifer y plant sy'n siarad Cymraeg yn ysgolion y sir ers 2011. Roedd yn falch
o nodi bod y categorïau ieithyddol wedi cael eu hegluro’n eglur yn yr
adroddiad, ynghyd â data cymharol ynglŷn â rhuglder y disgyblion yn y ddwy
ysgol ·
eglurwyd
y byddai ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol Categori 1 agosaf yn cael eu
hystyried gan ddisgyblion a brodyr a chwiorydd presennol Ysgol Pentrecelyn
petai’r ysgol yn cau. Dywedodd yr Arweinydd ei fod wedi cwrdd ag ymgyrchwyr o Ysgol Pentrecelyn ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
BWRIAD I GAU YSGOL LLANBEDR DYFFRYN CLWYD PDF 246 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg, yn
cyflwyno canfyddiadau’r ymgynghoriad ffurfiol a gofyn am gymeradwyaeth y
Cabinet i gyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr ar 31
Awst 2016 a throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn
amodol ar ddewis y rhieni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD
bod y Cabinet yn rhoi cymeradwyaeth i gyhoeddi
rhybudd statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd ar 31
Awst 2016 a throsglwyddo'r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun, yn
dibynnu ar ddewis y rhieni. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad a oedd yn manylu ar ganfyddiadau’r
ymgynghoriad ffurfiol ar y cynnig i gau Ysgol Llanbedr DC ar 31 Awst, 2016 a
throsglwyddo’r disgyblion presennol i Ysgol Borthyn, Rhuthun yn amodol ar ddewis
y rhieni, a gofynnodd am gymeradwyaeth y Cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol ar
y cynnig. Mae'r cynnig wedi
cael ei wneud fel rhan o'r adolygiad ehangach ardal Rhuthun, ac er bod
rhywfaint o wybodaeth gefndirol wedi cael ei ddarparu yn flaenorol, roedd yn
ofynnol i'r Cabinet ystyried yr ymatebion i'r ymgynghoriad o'r newydd. Mae’r
achos dros newid wedi ei nodi yn yr adroddiad yn seiliedig ar amcanion y Cyngor
i leihau lleoedd dros ben, sicrhau dosbarthiad tecach a mwy cyfartal o gyllid
ysgolion a rhoi mwy o effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar gyfer ystâd
ysgolion. Roedd yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn cynnwys opsiwn arall a
gyflwynwyd gan Esgobaeth Llanelwy i ffederaleiddio Ysgol Llanbedr DC gydag
Ysgol Trefnant VA, a newid statws cyfreithiol o Ysgol Wirfoddol a Reolir i
Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir. Gofynnwyd i'r Cabinet ystyried hyfywedd y dewis
ffederaleiddio cyn penderfynu a ddylid cymeradwyo'r rhybudd statudol i gau. Ystyriodd y Cabinet yr achos dros ffederaleiddio gan ofyn a fyddai'n
cyflawni amcanion y Cyngor i fynd i'r afael â lleoedd dros ben yn ardal
Rhuthun, darparu canlyniadau addysgol gwell, lleihau'r gost fesul disgybl a
darparu ysgol gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Cafodd manteision a'r risgiau eu hystyried hefyd
ynghyd â'r goblygiadau i'r partneriaid ffederaleiddio arfaethedig. Yn
ystod y drafodaeth, nododd y Cabinet - ·
y
byddai ffederaleiddio yn golygu bod y ddwy ysgol yn parhau ac yn rhannu Corff
Llywodraethu - ni fyddai'n mynd i'r afael â'r mater o leoedd dros ben ·
ni fyddai
unrhyw arbedion yn cael eu gwneud o ran y gost fesul disgybl o ganlyniad i
ffederaleiddio, ac ar gyfer cynaliadwyedd yn y dyfodol, roedd angen gostwng
costau refeniw a chyfalaf ·
Yn
gyffredinol roedd canlyniadau addysgol yn ardal Rhuthun yn dda ac roedd disgwyl
i ysgolion gynnal neu wella canlyniadau - ni ellid ffurfio barn ar hyn o bryd
ynghylch a fyddai ffederaleiddio yn golygu canlyniadau gwell ·
roedd
Awdurdod yr Esgobaeth a Chorff Llywodraethu yn angerddol am gadw Ysgol Llanbedr
ar agor ac wedi gwneud achos dros ffederaleiddio fel opsiwn arall yn lle cau -
fodd bynnag gallai fod risg posibl ar gyfer y partner ffederaleiddio, a oedd yn
ysgol gynaliadwy yn ei rinwedd ei hun ar hyn o bryd ·
roedd
manteision yr opsiwn ffederaleiddio wedi cael eu nodi gan y Cyrff Llywodraethu
yn yr adroddiad ac roedd yn cynnwys arfer gorau a phrofiadau dysgu – gallai
llawer o'r buddion hynny gael eu gwireddu gan ysgolion sy'n gweithio’n fwy
cydweithredol ac nid oeddynt yn achos cryf dros ffederaleiddio ar eu pen eu
hunain ·
ni
ddarparwyd manylion y model ffederaleiddio ar hyn o bryd, ac er bod pellter o
10 milltir rhwng yr ysgolion yn arwyddocaol, roedd y cynnig yn nodi na fyddai
disgyblion yn cael eu trosglwyddo rhwng safleoedd, dim ond yr athrawon, a gofynnwyd cwestiynau ynghylch ymarferoldeb
trefniant o’r fath heb unrhyw arbedion maint yn cael eu gwireddu ·
byddai
rhywfaint o gyfrifoldeb ariannol yn cael ei dynnu oddi ar y Cyngor yn sgil
newid yn y statws cyfreithiol i Ysgol Wirfoddol a Gynorthwyir a oedd yn ymwneud
â chlustnodi'r eiddo ar gyfer cynnal a chadw. Ymatebodd y
Cynghorydd Huw Williams i’r ddadl am ffederaleiddio a dywedodd - ·
nad
oedd unrhyw ymgynghori wedi cael ei gynnal ar hyn o bryd ac roedd yn anodd ateb
cwestiynau penodol hyd nes yr ymgynghorwyd yn llawn ar y cynnig · roedd arbedion syth yn cynnwys £26,000 yn sgil peidio â gorfod cludo disgyblion i ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd David Smith, Aelod Arweiniol y Parth Cyhoeddus (copi
ynghlwm) yn cyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol drafft y CDLl ac yn amlygu'r
diffyg cyflenwad 5-mlynedd o dir sy’n barod i’w ddatblygu ar gyfer tai. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r Adroddiad Monitro Blynyddol llawn (ynghlwm
yn Atodiad 1 yr adroddiad), sef yr adroddiad cyntaf o'i fath; (b) yn cytuno y dylid anfon datganiad ysgrifenedig ar
ran y Cabinet i Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon am y dull cyfrifo a
ragnodwyd ar gyfer cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai sy’n rhwydd i’w
ddatblygu, ac (c) anfon copi o gyflwyniad y Cyngor i Lywodraeth Cymru at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru er mwyn gofyn am gefnogaeth. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd David Smith, Aelod
Arweiniol y Parth Cyhoeddus ddrafft cyntaf Adroddiad Monitro Blynyddol Cynllun
Datblygu Lleol, a soniodd am ei bryderon ynghylch effaith dull cyfrifo
rhagnodedig Llywodraeth Cymru am gyflenwi 5 mlynedd o dir sy’n barod i’w
ddatblygu ar gyfer tai, a oedd yn brif ddangosydd perfformiad ar gyfer y
Cynllun Datblygu Lleol. Eglurodd y Cynghorydd Smith fod y dull cyfrifo
gweddilliol a ragnodwyd yn rhoi awdurdodau lleol dan anfantais ac yn achos Sir
Ddinbych, gadawyd y sir â chyflenwad tir ar gyfer tai o 2.10 mlynedd o gymharu
â bron i gyflenwad tir ar gyfer 10 mlynedd yn seiliedig ar dai a gafodd eu
cwblhau yn y pum mlynedd diwethaf. Tynnodd sylw hefyd at y posibilrwydd o
apeliadau cynllunio petai’r dull cyfrifo presennol yn parhau. Felly, cynigiodd bod sylwadau yn cael eu
cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn amlinellu’r pryderon hyn. Roedd aelodau'r Cabinet yn rhannu’r
pryderon hynny gan ofyn beth oedd sefyllfa awdurdodau lleol eraill. Cadarnhaodd y swyddogion nad oedd rhaid i awdurdodau lleol heb Gynllun
Datblygu Lleol gyflwyno Adroddiad Monitro Blynyddol, ond byddent yn cael eu
hystyried nad oedd ganddynt unrhyw dir ar gael ar gyfer tai ar gael. Roedd awdurdodau lleol sydd wedi mabwysiadau CDLl mewn sefyllfa debyg i
Sir Ddinbych, a dim ond dau awdurdod yn cyrraedd y gofyniad 5 mlynedd o dan y
dull rhagnodedig presennol. O ystyried effaith y dull cyfrifo ar awdurdodau lleol eraill, cynigiwyd eu
bod yn ceisio cefnogaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi'r Adroddiad Monitro Blynyddol llawn (ynghlwm yn Atodiad 1 yr
adroddiad), sef yr adroddiad cyntaf o'i fath; (b) yn cytuno y dylid anfon datganiad ysgrifenedig ar ran y Cabinet i
Lywodraeth Cymru yn amlinellu pryderon am y dull cyfrifo a ragnodwyd ar gyfer
cyflenwad 5 mlynedd o dir ar gyfer tai sy’n rhwydd i’w ddatblygu, ac (c) anfon copi o gyflwyniad y Cyngor i Lywodraeth Cymru at Gymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru er mwyn gofyn am gefnogaeth. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid,
Cynllun Corfforaethol a Pherfformiad (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa
ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arni ar gyfer y gyllideb, ac yn (b) cymeradwyo trosglwyddo cyllid o £40,000 i gronfa wrth gefn y System Rheoli
Dogfennau a Chofnodion Electronig i helpu ariannu'r prosiect yn 2016/17. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill,
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.476 miliwn ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
roedd
91% o’r arbedion y cytunwyd arnynt (targed o £7.3 miliwn) wedi’u sicrhau hyd
yma ·
amlygwyd
y prif amrywiadau oddi wrth dargedau cyllideb neu arbedion yn ymwneud â meysydd
gwasanaeth unigol ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol) ·
y
wybodaeth ddiweddaraf am Derfynu Contract Cynllun Ariannu Preifat a thalodd deyrnged
i'r Prif Swyddog Cyllid a'i dîm am eu holl waith yn y cyswllt hwnnw, a ·
gofynnodd
i’r Cabinet gymeradwyo trosglwyddo cyllid o £40,000 i'r gronfa wrth gefn EDRMS
i helpu i ariannu'r prosiect yn 2016/17. Cafodd y materion canlynol eu trafod yn ystod y
ddadl - ·
roedd
yr aelodau'n falch o nodi'r manteision ac arbedion o ganlyniad i derfynu'r
contract Cynllun Ariannu Preifat a oedd yn cynnwys Neuadd y Sir, Neuadd y Dref
Rhuthun a chyfleuster Storfa Corfforaethol, ac ymatebodd y Cynghorydd
Thompson-Hill ymateb i gwestiynau a godwyd yn hynny o beth gan gynnwys
trefniadau rheoli cyfleusterau ·
roedd
y Cabinet hefyd yn falch o adrodd ar lwyddiant y prosiectau mawr, rhoddwyd sylw
arbennig i Ddatblygiad Arfordir Gorllewin y Rhyl a Phrosiect cysylltiedig
Gwella Tai Gorllewin y Rhyl; Ysgol Uwchradd y Rhyl, a chyfres o lansiadau
meddal ar gyfer Canolfan y Nova cyn y lansiad ffurfiol ar 23 Tachwedd – roedd
aelodau’n teimlo y dylid gwneud mwy i hyrwyddo
buddsoddiad sylweddol mewn prosiectau mawr ·
fe
ddiweddarodd y Cynghorydd Barbara Smith yr aelodau am brosiect EDRMS gan ddweud
y byddai'r gronfa wrth gefn yn galluogi trawsnewid electronig mewn gwasanaethau
ychwanegol ·
fe
nodwyd bod cyflawni 91% o arbedion y cytunwyd arnynt ar yr adeg hon yn y
flwyddyn ariannol yn gyflawniad
arwyddocaol ac yn glod i'r gwasanaethau perthnasol. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
- (a) yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd yn erbyn y
strategaeth y cytunwyd arnynt ar gyfer y gyllideb, a (b) chymeradwyo
trosglwyddo cyllid o £40,000 i'r gronfa wrth gefn EDRMS i helpu i ariannu'r
prosiect yn 2016/17. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CABINET PDF 102 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans Raglen Gwaith
i'r Dyfodol y Cabinet i’w hystyried ac
roedd yr aelodau’n nodi’r newidiadau canlynol - ·
eitem
ychwanegol ar gyfer mis Rhagfyr ar y Cynllun Dirprwyo Swyddog ynghyd ag eitem
posibl ar Orchymyn Prynu Gorfodol Ysbyty Gogledd Cymru ·
eitem
ychwanegol ar gyfer mis Ionawr ar y Gyllideb, ac ·
roedd
adroddiad yn dilyn cyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llanbedr wedi ei drefnu
dros dro ar gyfer mis Chwefror. PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Daeth y cyfarfod i ben am 1.15pm. |