Agenda, decisions and draft minutes
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1a, Neuadd y Sir, Rhuthun
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Penderfyniad: Datganodd y
Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol yn Eitem Rhaglen Rhif 5. Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Martyn Holland gysylltiad personol yn eitem 5 am ei fod yn
Llywodraethwr Ysgol Bro Famau. |
|
MATERION BRYS Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Penderfyniad: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
faterion brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2015 (copi’n amgaeedig). Penderfyniad: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a
gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd
ar 28 Gorffennaf 2015. PENDERFYNWYD y
dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2015 fel
cofnod cywir ac y dylai’r Arweinydd eu llofnodi. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n
amgaeedig) yn cyflwyno'r adroddiad
gwrthwynebiad i'w ystyried a gofyn i’r Cabinet gymeradwyo’r cynnig. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn - (a) nodi canfyddiadau'r adroddiad gwrthwynebiad; (b) ar ôl ystyried yr uchod, bod y Cabinet yn cymeradwyo'r penderfyniad i
weithredu’r cynnig i gau Ysgol Rhewl ar 31 Awst 2017 a throsglwyddo'r
disgyblion i adeilad newydd Ysgol Pen Barras, Rhuthun, neu Ysgol Stryd y Rhos,
Rhuthun yn dibynnu ar ddewis y rhieni, a (c) bod ceisiadau am gludiant dewisol i'r ysgol categori 2 agosaf yn cael eu
hystyried ar sail achos wrth achos, gan ddisgyblion presennol Ysgol Rhewl a'u
brodyr a'u chwiorydd am weddill eu haddysg gynradd. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad
yn manylu ar y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn dilyn cyhoeddi'r Rhybudd
Statudol i gau Ysgol Rhewl gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Pen Barras
neu Ysgol Stryd y Rhos yn amodol ar ddewis y rhieni, ynghyd â ffactorau i'w
hystyried cyn penderfynu ar y cynnig. Mae'r cynnig ar gyfer Ysgol Rhewl wedi cael ei
wneud yng nghyd-destun yr adolygiad o ardal ehangach Rhuthun gan ystyried
addasrwydd a chyflwr safleoedd ysgolion a lleoedd dros ben a'r effaith ar
gynaliadwyedd tymor hir yr ysgol. Atgoffwyd y Cabinet bod y Pwyllgor Archwilio Perfformiad wedi argymell i
ragor o waith i gael ei wneud yn ystod y broses ymgynghori i ymdrin â phryderon
a godwyd yn ymwneud â'r safle Glasdir newydd a chynnig yr Iaith Gymraeg. Mae canfyddiadau'r gwaith hwnnw wedi ei
gynnwys yn Atodiad D ac E o'r adroddiad. Cododd y Cynghorydd Merfyn Parry (aelod lleol)
bryderon ynghylch pa mor ddigonol yw’r gwaith atodol o ran ymgynghori gan dynnu
sylw at y diffyg gwybodaeth a ddarparwyd gan swyddogion er mwyn llywio
trafodaeth ystyrlon mewn cyfarfodydd a'r anawsterau wrth alw cyfarfodydd
oherwydd argaeledd unigolion allweddol. Teimlai nad oedd ymgynghori priodol wedi'i gynnal,
gan ychwanegu na fu unrhyw drafodaeth o gwbl ar y cynnig diweddaraf i ddarparu
cludiant yn ôl disgresiwn i'r ysgol categori 2 agosaf. O ganlyniad, gofynnodd y Cynghorydd Parry
y dylid gohirio'r mater hyd nes ymgynghori pellach â rhanddeiliaid. Gofynnodd y Cabinet am sicrwydd
ynglŷn â'r gwaith atodol yn ôl cyfarwyddyd archwilio ac adroddodd y
swyddogion ar amserlen o gyfathrebu a arweiniodd at y canfyddiadau fel y
manylir yn Atodiad D ac E i'r adroddiad. Ystyriodd y Cabinet y broses o ymgysylltu i fod yn
gadarn a bod digon o wybodaeth wedi cael ei ddarparu er mwyn galluogi
penderfyniad gwbl wybodus. Tynnodd y Cynghorydd Williams sylw'r aelodau at yr
adroddiad a'r prosesau statudol i'w dilyn. Ystyriodd y Cabinet y gwrthwynebiadau a nodwyd yn
yr adroddiad ynghyd â'r dadleuon dros y cynnig a'r ffactorau a nodir yn y Cod
Trefniadaeth Ysgolion. Talodd yr aelodau sylw arbennig i faterion a godwyd yn ymwneud â'r safle
Glasdir newydd a’r effaith ar y Iaith Gymraeg fel y prif achosion o bryder - (1) Pryderon yn ymwneud â'r safle newydd yn Glasdir Mynegwyd pryderon ynglŷn â diogelwch ar y
ffyrdd a dichonoldeb y datblygiad. Mae dau asesiad diogelwch ar y ffyrdd wedi'u
cynnal ar 14/08/15 (gwyliau ysgol) a 15/09/15 (tymor ysgol) a ganfu nad oedd y
llwybr presennol ar gyfer disgyblion yn cerdded o Rhewl i Glasdir yn beryglus. Nid oedd yr asesiad yn cymryd i ystyriaeth
unrhyw ddatblygiad yn y dyfodol a gofynnodd y Cabinet am sicrwydd o ran
diogelwch y llwybr yn y dyfodol a sicrhau bod mesurau rheoli traffig priodol yn
eu lle cyn agor yr ysgolion newydd. Hefyd, codwyd yr angen i egluro y terfyn cyflymder 30 mya ar gyfer modurwyr
sy'n teithio i Ruthun. Darparodd Swyddogion sicrwydd bod diogelwch y llwybr yn brif flaenoriaeth a
fyddai'n cael eu cadw dan arolwg agos. Byddai asesiadau traffig a chludiant yn parhau
drwy gydol datblygiad y safle wrth i amgylchiadau newid er mwyn sicrhau fod
unrhyw faterion diogelwch yn cael eu nodi. O ran dichonoldeb y datblygiad i ddarparu ar gyfer disgyblion, darparwyd sicrwydd y byddai capasiti arfaethedig y ddwy ysgol newydd yn caniatáu digon o le ar gyfer twf. Mae'r cynnig yn gysylltiedig â'r trosglwyddo disgyblion o Ysgol Rhewl i'r ysgolion newydd yn Glasdir ac ni fyddai disgwyl i ddisgyblion i symud ddwywaith mewn achos o unrhyw oedi yn y broses datblygu safle. Cytunodd y Cabinet fod y bwriad i drosglwyddo disgyblion i'r ysgolion newydd ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADDASU CYNNIG YSGOL LLANFAIR AC YSGOL PENTRECELYN PDF 157 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros Addysg (copi'n
amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ymgynghori ar addasiadau posibl
i'r cynnig ynghylch cau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn ac agor ysgol ardal
newydd. Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion i - (a) ymgynghori ag Esgobaeth Llanelwy, fel cyd-gynigydd, i ofyn am eu caniatâd i
wneud yr addasiad arfaethedig; (b) cael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud yr addasiad arfaethedig; (c) ymgynghori â chyrff llywodraethu Ysgol Pentrecelyn ac Ysgol Llanfair
ynglŷn â’r addasiad arfaethedig, a (d) cytuno bod yr argymhellion i gael eu gweithredu ar unwaith yn unol â
gweithdrefnau’r Cyngor, sydd wedi eu cynnwys yn y cyfansoddiad, o ran galw
materion i mewn yng ngoleuni’r amgylchiadau fel y nodir yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams adroddiad yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo ymgynghoriad
ar newid posibl i amserlen cynnig i gau Ysgol Llanfair ac Ysgol Pentrecelyn ac
agor ysgol ardal newydd. Mae ymgynghoriad
ffurfiol ar y cynnig eisoes wedi cael ei wneud, ond yn dilyn gwaith dichonoldeb
cychwynnol i'r adeilad newydd, argymhellwyd gohirio i weithredu ar y cynnig o
ddeuddeg mis. O ganlyniad, gofynnwyd am gymeradwyaeth i
ymgynghori â Esgobaeth Llanelwy, Cyrff Llywodraethu’r ddwy ysgol a Gweinidogion
Cymru ar yr opsiwn y byddai'r ddwy ysgol yn cau ar 31 Awst 2017 yn hytrach na
2016, gyda’r Eglwys yng Nghymru yn sefydlu ysgol ardal newydd ar y safleoedd
presennol ar 1 Medi 2017 yn hytrach na 2016. Byddai’r addasiad hyn yn caniatáu
ar gyfer amser ychwanegol i’r ddwy ysgol i weithio'n agos gyda'i gilydd cyn uno
a gallai arwain at yr ysgol ardal fod ar safleoedd ar wahân am gyfnod byrrach. Pe
rhoddir cymeradwyaeth bydd y Cabinet yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad
hwn, ynglŷn â’r addasiad, yng nghyfarfod mis Hydref fel rhan o'r broses o
benderfynu ar y cynnig. Er mwyn cydymffurfio gyda gofynion y Cod
Trefniadaeth Ysgolion argymhellwyd bod y
penderfyniad yn cael ei weithredu ar unwaith. Nododd y Cabinet
y gofynion a nodir yn y Cod Trefniadaeth Ysgolion ynghylch addasiadau o'r fath. Fel
aelod lleol fe groesawodd yr Arweinydd y cynnig a gredai y byddai’n creu mwy o
sefydlogrwydd yn y gymuned gydag amserlen realistig. PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn cymeradwyo'r argymhellion i - (a) ymgynghori ag Esgobaeth Llanelwy, fel
cyd-gynigydd, i ofyn am eu caniatâd i wneud yr addasiad arfaethedig; (b) cael cydsyniad Gweinidogion Cymru i wneud yr
addasiad arfaethedig; (c) ymgynghori â chyrff llywodraethu Ysgol Pentrecelyn
ac Ysgol Llanfair ynglŷn â’r addasiad arfaethedig, a (d) cytuno bod yr argymhellion i gael eu gweithredu ar
unwaith yn unol â gweithdrefnau’r Cyngor, sydd wedi eu cynnwys yn y
cyfansoddiad, o ran galw materion i mewn yng ngoleuni’r amgylchiadau fel y
nodir yn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD Y CYNLLUN CORFFORAETHOL – CHWARTER 1 – 2015/16 PDF 86 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol dros Gyllid, Cynllun
Corfforaethol a Pherfformiad (copi wedi’i amgáu) yn rhoi diweddariad ar
ddarparu Cynllun Corfforaethol 2012 – 17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill yr
adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar gyflawni Cynllun Corfforaethol 2012 –
17 fel ag y mae ar ddiwedd chwarter 1 o 2015/16. Roedd yr adroddiad yn cynnwys tair prif elfen - ·
Cynllun
Corfforaethol 2012-17 - tynnwyd sylw yr aelodau at y dadansoddiad o eithriadau
allweddol ac esboniad y tu ôl i'r 'statws Coch' o bob dangosydd wedi eu cynnwys
yn yr adroddiad ac ymhelaethwyd ar hynny ymhellach yn y cyfarfod ·
Dangosyddion
Strategol Cenedlaethol 2014/15 - dadansoddiad wedi cael ei ddarparu am
berfformiad rhagorol Sir Ddinbych yn erbyn dangosyddion cenedlaethol gyda 20 yn
yr hanner uchaf a 14 yn y chwartel uchaf, Sir Ddinbych hefyd gyda’r nifer
lleiaf yn yr hanner isaf. 8 o ddangosyddion cenedlaethol wedi dirywio mewn perfformiad ac eglurhad y
tu ôl i'r dirywiad hefyd wedi'i ddarparu ·
Cofrestr
Prosiectau Corfforaethol - nid oedd unrhyw brosiectau gyda statws 'Coch' a dim
ond dau brosiect gyda statws 'Oren' gyda phob prosiect ar y trywydd iawn. Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y materion
canlynol - ·
Canlyniad
8: Trigolion ac ymwelwyr â Sir Ddinbych gyda mynediad i rwydwaith ffyrdd diogel
a reolir yn dda – byddai’r dangosydd yn gysylltiedig â chyllid cytundeb
canlyniadau yn cael ei ddileu yn y dyfodol pan fydd y cyllid yn cael ei gynnwys
yn y Grant Cynnal Refeniw. Rhagwelwyd y byddai gostyngiadau cyllideb yn cael effaith andwyol a
phwysleiswyd bod angen cadw golwg agos ar y flaenoriaeth hon ·
Dangosydd
Strategol Cenedlaethol: SCC/002: Plant sy'n derbyn gofal yn newid
ysgol - sicrhawyd bod y dangosydd hwn yn parhau i gael ei fonitro'n agos. O ystyried y garfan fechan o blant a
rhesymau dilys am symud ysgol ym mhob achos ni chafodd ei ystyried yn
flaenoriaeth ar gyfer gwella ·
Allyriadau
Carbon - Eglurodd y Cynghorydd Thompson-Hill nad oedd modd cynhyrchu gwybodaeth
ar hyn o bryd o ganlyniad i broblem fawr gyda system filio newydd Nwy Prydain a
oeddent yn gweithio i'w datrys. Ystyriwyd ei bod yn briodol i aros am y data llawn yn hytrach nag adrodd ar
ddata rhannol ac anghywir ·
Diffyg
Lleoedd Ysgolion - eglurwyd bod y ffigurau yn ymwneud â nifer yr ysgolion nad
oedd ganddynt ddigon o leoedd ac roedd anghydbwysedd cyffredinol yn bodoli a
bod ysgolion yng ngogledd y sir yn tueddu i fod wedi gordanysgrifio gydag
ysgolion yn y De gyda lleoedd dros ben ·
Canran
y staff sy'n derbyn arfarniad perfformiad - y ffigur hwn wedi gostwng 17% i 67%
o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd ac roedd hynny’n peri pryder. Eglurodd y swyddogion bod y gostyngiad o
ganlyniad i ad-drefnu staff, ond roedd disgwyl i'r ffigwr gynyddu. Byddai perfformiad ar gyfer y dangosydd
hwn yn cael ei herio fel rhan o'r broses herio gwasanaeth. Croesawodd y Cabinet berfformiad rhagorol Sir
Ddinbych yn y Dangosyddion Strategol Cenedlaethol a'u hanes yn hynny o beth. Tra'n cydnabod ei bod hi dal yn gynnar yn
y broses, roedd yr aelodau hefyd yn falch o nodi'r cynnydd da ar y cyfan wrth
gyflwyno'r Cynllun Corfforaethol. Fodd bynnag, nodwyd bod rhagdybiaethau yn dal i gael eu gwneud ar hyn o
bryd ac roedd yn rhy gynnar i asesu effaith pwysau ar y gyllideb ar wasanaethau. Byddai darlun cliriach yn ymddangos yn nes
ymlaen yn y flwyddyn. Wrth symud yr argymhellion roedd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill hefyd yn
cydnabod y pwyntiau a godwyd gan yr aelodau ac y byddai’n eu gweithredu. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn derbyn yr adroddiad ac yn nodi'r cynnydd o ran cyflawni Cynllun
Corfforaethol 2012-17 ar ddiwedd chwarter 1 2015/16. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL RHEOLI TRYSORLYS 2014/15 PDF 79 KB Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi'n amgaeedig) yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth
rheoli trysorlys ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r
Dangosyddion Darbodus yn ystod 2014/15. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi’r Adroddiad Rheoli Trysorlys
Blynyddol ar gyfer 2014/15. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn diweddaru'r Cabinet ar berfformiad y swyddogaeth rheoli trysorlys
ac yn dangos cydymffurfiad â chyfyngiadau'r trysorlys a’r Dangosyddion Darbodus
yn ystod 2014/15. Wrth grynhoi'r adroddiad, cyfeiriodd y Cynghorydd
Thompson-Hill at y cefndir economaidd ac effaith ddilynol ar weithgareddau
rheoli'r trysorlys. Tynnodd sylw at y prif bwyntiau ar gyfer aelodau o ran gweithgarwch
benthyca a buddsoddi, gan gynnwys y pryniant Cymhorthdal Refeniw
Tai a fyddai'n arwain at arbedion sylweddol i'r Cyfrif Refeniw Tai ac yn rhoi
diweddariad ar derfynu a phryniant cytundeb PFI Neuadd y Sir a oedd yn agos at
gwblhau. Roedd newidiadau diweddar i drefniadau achub banciau hefyd wedi arwain at
newidiadau yng ngweithgarwch buddsoddi y Cyngor i leihau risg. Mae’r holl ddangosyddion darbodus ar hyn o
bryd yn ôl y disgwyl ac nid oedd unrhyw faterion i adrodd yn hynny o beth. Roedd y Pwyllgor Llywodraethu
Corfforaethol wedi ystyried yr adroddiad ac heb ddod o hyd i unrhyw faterion a
oedd yn haeddu ymchwiliad pellach. Ychwanegodd y Prif Gyfrifydd drosolwg o ddangosyddion economaidd presennol
a goblygiadau risg o benderfyniadau trysorlys a strategaethau a ddefnyddir i
reoli'r risgiau hynny. PENDERFYNWYD nodi’r
Adroddiad Rheoli Trysorlys Blynyddol ar gyfer 2014/15. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Julian Thompson-Hill, Aelod Arweiniol Cyllid ac
Asedau (copi ynghlwm) yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf a’r cynnydd
ar strategaeth y gyllideb a gytunwyd arni. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill
adroddiad yn rhoi manylion ynglŷn â'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf a'r
cynnydd a wnaed yn erbyn y strategaeth gyllidebol y cytunwyd arni. Rhoddodd y crynodeb canlynol o sefyllfa
ariannol y Cyngor- ·
rhagwelwyd
tanwariant net o £0.380m ar gyfer cyllidebau gwasanaeth a chorfforaethol ·
74% o
arbedion y cytunwyd arnynt wedi cael eu cyflawni hyd yma (£7.3m yw’r targed) ·
amrywiadau
allweddol eraill wedi’u hamlygu o gyllidebau neu dargedau arbedion i feysydd gwasanaeth unigol, a ·
diweddariad
cyffredinol ar y Cyfrif Refeniw Tai, y Cynllun Cyfalaf Tai a'r Cynllun Cyfalaf
(gan gynnwys yr elfen Cynllun Corfforaethol). Codwyd y materion canlynol yn ystod y ddadl - ·
roedd
yr aelodau'n falch o nodi bod 74% o arbedion wedi'u cyflawni ar gyfnod mor gynnar yn y flwyddyn ariannol a
llongyfarchwyd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill a'r tîm cyllid ar eu gwaith
a'r cynnydd a wnaed ·
cafwyd
peth trafodaeth ynghylch rhinweddau cymorthdalu taliadau meysydd parcio gan
gynghorau tref a dywedodd y Cynghorydd David Smith (Aelod Arweiniol) fod y
sefyllfa'n cael ei adolygu’n rheolaidd ·
gofynnwyd
y cwestiynau ynghylch effaith cyflwyno taliadau ym Mharc Drifft Y Rhyl a
chadarnhaodd y Cynghorydd Huw Jones (Aelod Arweiniol) er gwaethaf tywydd gwael
fod yr incwm wedi bod yn £20k ac bod
arbedion wedi'u cyflawni - er bod ymwelwyr wedi bod yn fodlon talu
costau, roedd cryn wrthwynebiad yn lleol ·
mewn
ymateb i sicrwydd a geisir ynghylch cyflawni'r Cynllun Corfforaethol adroddodd
y Prif Gyfrifydd ar y gwaith parhaus i ddiweddaru'r tybiaethau diweddaraf a
chytunwyd i dderbyn adroddiad yn ôl ar y mater ym mis Tachwedd. PENDERFYNWYD bod
y Cabinet yn nodi'r cyllidebau a bennwyd ar gyfer 2015/16 a'r cynnydd a wnaed o
ran y strategaeth gyllidol y cytunwyd arni. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL Y CABINET PDF 110 KB Derbyn Rhaglen
Gwaith i’r Dyfodol y Cabinet sydd wedi’i hamgáu, a nodi'r cynnwys. Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi
Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Hugh Evans y Rhaglen
Gwaith i'r Dyfodol i’r Cabinet i'w ystyried a nododd yr aelodau eitem
ychwanegol ar gyfer Tachwedd ar gyflawni'r Cynllun Corfforaethol fel y cytunwyd
o dan yr eitem agenda flaenorol. PENDERFYNWYD
nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cabinet. |
|
Gwahardd y wasg a'r cyhoedd PENDERFYNWYD
- dan Adran 100A Deddf
Llywodraeth Leol 1972 i wahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer yr
eitemau canlynol ar y sail ei bod yn debygol y bydd gwybodaeth eithriedig yn
cael ei datgelu, fel y'i diffinnir ym Mharagraff 14 o Ran 4, Atodlen 12A Deddf
Llywodraeth Leol 1972. |
|
YSGOL GLAN CLWYD: DYFARNU CONTRACT Ystyried
adroddiad cyfrinachol gan y Cynghorydd Eryl Williams, Aelod Arweiniol dros
Addysg (copi'n amgaeedig) yn ceisio cymeradwyaeth y Cabinet i ddyfarnu contract
yn ymwneud â phrosiect Ysgol Glan Clwyd. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn
cymeradwyo dyfarnu contract yn ymwneud â phrosiect Ysgol Glan Clwyd i'r
contractwr a enwyd, ac at werth dros dro fel y nodwyd yn yr adroddiad. Cofnodion: Cyflwynodd y
Cynghorydd Eryl Williams yr adroddiad cyfrinachol yn gofyn am awdurdod i symud
ymlaen ag adeiladu a chwblhau Prosiect Ysgol Glan Clwyd drwy Ddyfarniad
Contract. Roedd y prosiect adeiladu yn cynnwys estyniad newydd
a dymchwel rhannol, ailfodelu ac adnewyddu adeiladau presennol. Croesawodd y
Cabinet y prosiect cadarnhaol sy'n dangos ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn
ysgolion ac roedd aelodau yn awyddus i fanylion y prosiect gael eu gwneud yn
gyhoeddus. Adroddodd y Rheolwr Rhaglen ar yr ymgyrch
gyhoeddusrwydd wedi hynny er mwyn gwneud y mwyaf o elfennau cadarnhaol y
prosiect drwy gyfrwng datganiadau i'r wasg, digwyddiadau a thaflenni. O
ran y cyllido darparwyd rhagor o fanylion a sicrwydd bod y prosiect yn cael ei
ariannu'n llawn. PENDERFYNWYD bod y Cabinet
yn cymeradwyo dyfarnu contract yn ymwneud â phrosiect Ysgol Glan Clwyd i'r
contractwr a enwyd, ac at werth dros dro fel y nodwyd yn yr adroddiad. Daeth y cyfarfod i ben am 12.10pm. |