Rhaglen

Rhaglen

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Cyswllt: Committee Administrator 01824 706715  E-bost: dcc_admin@denbighshire.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU pdf eicon PDF 64 KB

2.

DATGAN CYSYLLTIAD

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiadau personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 127 KB

Cadarnhau cywirdeb cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2014 (copi wedi’i atodi).

 

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD DATBLYGU pdf eicon PDF 21 KB

Ystyried y ceisiadau am ganiatâd datblygu (copïau wedi’u hatodi).

 

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

BRIFF DATBLYGU BODELWYDDAN - ADRODDIAD AR YR YMGYNGHORIAD pdf eicon PDF 130 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi Datblygu a Chynllunio (copi wedi’i atodi) sy'n crynhoi’r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Brîff Datblygu Safle ar gyfer Safle Strategol Allweddol Bodelwyddan, ac sy’n cynnig newidiadau i'r Brîff Datblygu mewn ymateb i’r sylwadau a dderbyniwyd.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADRODDIAD GRŴP TASG A GORFFEN TAI FFORDDIADWY pdf eicon PDF 81 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Polisi Datblygu a Chynllunio (copi wedi’i atodi) sy’n gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio enwebu dau gynrychiolydd ar gyfer Grŵp Tasg a Gorffen Tai Fforddiadwy. 

 

 

Dogfennau ychwanegol:

8.

APÊL STAD LLANBEDR HALL pdf eicon PDF 75 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd (copi wedi’i atodi) sy'n ceisio enwebiad dau gynrychiolydd o'r Pwyllgor Cynllunio i gynrychioli'r Cyngor yn yr apêl yn ymwneud â'r penderfyniad i wrthod y datblygiad ar Ystâd Llanbedr Hall.

 

9.

MENTER TREFTADAETH DINBYCH

Derbyn cyflwyniad gan y Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar Fenter Treftadaeth Dinbych.