Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Liz Grieve,
Pennaeth Tai a Chymunedau, a oedd mewn cyfarfod arall. |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol neu bersonol ac
sy’n rhagfarnu ag unrhyw un o’r eitemau a restrwyd i’w trafod. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw eitemau
brys gyda’r Cadeirydd na’r cydlynydd Craffu cyn dechrau’r cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 405 KB Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Craffu Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024 (copi
ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Craffu
Perfformiad a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024. Cywirdeb Eitem 5. ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ - yn ystod
y drafodaeth ar yr eitem hon, roedd y Cynghorydd Andrea Tomlin wedi holi am
ddefnydd rhieni’r disgyblion Addysg Ddewisol yn y Cartref o lyfrgelloedd i
gefnogi addysg eu plant, ac os oedd effaith lleihau oriau agor llyfrgelloedd ar
y rhieni hyn ac ar addysg y disgyblion wedi cael ei asesu. Wrth ymateb i’r ymholiad hwn, dywedodd y
Pennaeth Addysg nad oedd unrhyw ddata wedi’i gadw ar ddefnydd y rhieni o
lyfrgelloedd at ddibenion caffael adnoddau addysgol, er y byddai rhieni mwy na
thebyg yn defnyddio eu llyfrgelloedd lleol at y diben hwn. Yn dilyn y newid i oriau agor llyfrgelloedd,
os oedd rhieni’r disgyblion hyn yn wynebu anawsterau o ran cael mynediad at eu
llyfrgell leol i gael y deunyddiau angenrheidiol, dylent gysylltu â’r
Gwasanaeth Addysg a fyddai’n gwneud pob ymdrech i’w cyfeirio neu’u cefnogi i
gael yr adnoddau. Felly: Penderfynwyd: yn amodol
ar gynnwys yr uchod, y dylid derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2024 fel cofnod gwir a chywir o’r gweithrediadau. Materion yn codi Eitem 5. ‘Addysg Ddewisol yn y Cartref’ - cadarnhawyd bod swyddogion a’r Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Theuluoedd i fod i gyfarfod yn fuan i lunio llythyr i Weinidog Addysg a’r Gymraeg Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r Llywodraeth gyflwyno rheoliadau sy’n llywodraethu cyfrifoldebau’r rhai sy’n dewis addysgu eu plant gartref. |
|
CYSYLLTEDD RHYNGRWYD YN SIR DDINBYCH PDF 246 KB Ystyried adroddiad gan y Swyddog Digidol ar
Gysylltedd Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych, y cynnydd hyd yma, a chynlluniau i’r
dyfodol, ar gyfer cynyddu a gwella cysylltedd rhyngrwyd ym mhob rhan o’r sir
(copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd Aelod
Arweiniol y Gymraeg, Diwylliant a Threftadaeth yr adroddiad ar Gysylltedd
Rhyngrwyd yn Sir Ddinbych (dosbarthwyd ymlaen llaw) i’r Pwyllgor. Allan o’r cyfanswm o
50,501 eiddo yn Sir Ddinbych roedd 2,690 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd
o 30Mbs neu lai ac roedd 1,145 eiddo yn derbyn cyflymderau rhyngrwyd o 10Mbs
neu lai (roedd Atodiad A i’r adroddiad yn darparu manylion pellach i Aelodau). Roedd ‘Helpu trigolion i
ddeall yr opsiynau a datrysiadau ar gyfer gwell cysylltedd rhyngrwyd’ yn nod o
fewn ein Cynllun Corfforaethol ac roedd Cyngor Sir Ddinbych (CSDd) wedi
buddsoddi mewn swydd Swyddog Digidol (o Chwefror 2020 i Fai 2025) i hysbysu unigolion,
busnesau a chymunedau am hyn. Roedd y
Swyddog Digidol yn gweithio’n agos gydag Aelodau o Gynghorau Dinas, Tref a
Chymuned wrth hysbysu cymunedau. Roedd y Cyngor yn cael
ei gynrychioli hefyd ar Raglenni Digidol a Bwrdd Digidol Uchelgais Gogledd
Cymru. Roedd y gwaith hwn ar lefel strategol a lefel ranbarthol ac roedd yn
canolbwyntio ar wella isadeiledd ar draws y rhanbarth. Roedd ymyrraeth polisi a
masnachol newidiol yn gwneud y gwaith yn heriol oherwydd cyhoeddiadau a
newidiadau masnachol gan Openreach ac ymyrraeth gan Lywodraeth y DU, a allai
olygu nad oes angen neu nad yw prosiectau Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn
ymarferol mwyach, yn sgil trefniadau masnachol ac ymyrraeth Llywodraeth y
DU. Roedd hwn yn waith tymor canolig i
hirdymor, ac felly roedd prosiectau yn gallu newid i adlewyrchu’r amgylchedd
newidiol. Soniodd y Prif Reolwr
Cydnerthu Cymunedol ymhellach am bwysigrwydd cysylltedd rhyngrwyd yn y gymuned.
Roedd 3 philer
cynhwysiant digidol - ·
Mynediad at offer ·
Gwybodaeth am ddefnyddio
offer ·
Isadeiledd cysylltedd Gallai peidio â chael
mynediad at y rhyngrwyd gael effaith niweidiol ar gyfleoedd bywyd. Roedd cael
cysylltiad band eang yn ymwneud â chael y gallu i ymgysylltu a chysylltu o fewn
y gymuned, yn cynnwys mynediad at addysg, cyfleoedd cyflogaeth, a chyngor
iechyd. Eglurodd y Swyddog
Digidol er bod gan y rhan fwyaf o siroedd lond llaw o gwmnïau yn gosod
isadeiledd rhwydwaith ffibr, Openreach oedd yr unig gwmni a oedd yn gosod yr
isadeiledd angenrheidiol yn Sir Ddinbych.
Er hyn, roedd Sir Ddinbych yn rhagori ar gyfartaledd Cymru o ran
cysylltedd rhyngrwyd, fodd bynnag, roedd angen sicrhau bod rhannau gwledig o’r
sir yn cael mynediad at yr un lefel o gysylltedd â’r ardaloedd mwy trefol. Yn y
dyfodol agos, byddai 762 eiddo o fewn y sir yn cael cysylltiad ffibr, roedd hyn
wedi cael ei sicrhau drwy gynlluniau talebau Gigabit. Byddai hyn, yn ei dro, yn helpu safleoedd
gerllaw i gael mynediad at y rhwydwaith ffibr am bris mwy rhesymol. Dywedodd Cyfarwyddwr
Partneriaeth Openreach yng Nghymru a Gorllewin Lloegr fod Sir Ddinbych ymysg y
gorau yng Nghymru o ran cysylltedd ffibr. Roedd £11 miliwn o bunnoedd wedi cael
eu buddsoddi hyd yma i uwchraddio’r rhwydwaith copr i ffibr llawn ac roedd 11
cyfnewidfa newydd ar draws y sir bellach wedi cael eu clustnodi ar gyfer bod yn
adeiladau masnachol. Roedd y cynllun talebau
Gigabit wedi dod i ben am y tro, fodd bynnag, roedd 4 cynllun talebau newydd i
helpu preswylwyr gyda chysylltedd wedi cael eu lansio yn Sir Ddinbych yn
ddiweddar, un o’r cymunedau i elwa o’r cynllun hwn oedd Llandyrnog. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Swyddogion a’r Aelod Arweiniol am yr adroddiad ac fe groesawodd gwestiynau
gan yr Aelodau. Cwestiynodd yr Aelodau
ar ba gam fyddai’r gwaith adeiladu isadeiledd erbyn diwedd 2025 a pha gymunedau
/ cyfnewidfeydd fyddai’n parhau i fod heb ffibr. Eglurodd gynrychiolydd
Openreach eu bod yn gobeithio y bydd 80% o’r eiddo yn y rhaglen uwchraddio
cyfnewidfeydd presennol gyda chysylltiad ffibr llawn erbyn diwedd 2026. Gofynnodd yr Aelodau am ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
ADOLYGIAD O’R GOFRESTR RISGIAU GORFFORAETHOL: CHWEFROR 2024 PDF 223 KB Ystyried adroddiad ar yr Adolygiad o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol:
Chwefror 2024 gan Bennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Corfforaethol: Perfformiad,
Digidol ac Asedau (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd yr Aelod
Arweiniol Polisi, Cydraddoldeb a Strategaeth
Gorfforaethol yr Adolygiad o’r
Gofrestr Risgiau Gorfforaethol: Chwefror 2024 i’r Pwyllgor. Yr Uwch Dîm Arwain,
ynghyd â’r Cabinet, oedd wedi datblygu ac yn berchen ar y Gofrestr Risgiau
Gorfforaethol. Roedd yn cael ei hadolygu ddwywaith y flwyddyn gan y Cabinet yn
ystod sesiwn friffio’r Cabinet. Ar ôl
pob adolygiad, roedd y gofrestr wedi’i diweddaru wedyn yn cael ei rhannu gyda’r
Pwyllgor Craffu Perfformiad a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Cyflawnwyd
yr adolygiad diwethaf ym mis Medi 2023. Mae’r papurau a gyflwynwyd ddiwethaf
i’r Pwyllgor Craffu Perfformiad (30 Tachwedd 2023) ar gael ar-lein. Roedd Datganiad
Parodrwydd i Dderbyn Risg y Cyngor wedi cael ei ddefnyddio yn y trafodaethau a
gafwyd gyda pherchnogion risgiau, a dadansoddwyd lefel risg y Cyngor o fewn y
Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. Roedd gan y Cyngor 13 o
Risgiau Corfforaethol ar y Gofrestr ar hyn o bryd. Darparwyd crynodebau o’r
adolygiad yn Atodiad 2. Nid oedd unrhyw risgiau wedi’u tynnu oddi ar y gofrestr
yn yr adolygiad hwn, nac unrhyw rai newydd wedi’u hychwanegu. Er bod pob risg
wedi’i hadolygu, nid oedd unrhyw newidiadau arwyddocaol wedi’u gwneud yn ystod
adolygiad Chwefror 2024, ac nid oedd sgôr risg weddilliol unrhyw un o’r 13 Risg
Gorfforaethol wedi newid. Eglurodd Arweinydd y Tîm
Cynllunio Strategol a Pherfformiad bod y 13 risg a nodwyd yn yr adroddiad wedi
aros yn sefydlog heb unrhyw newid. Roedd proses beilot ar waith ar gyfer dull
adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol a fyddai’n golygu adolygu’r gofrestr 4
gwaith y flwyddyn a chyflwyno diweddariadau chwarterol i’r Pwyllgor Craffu
Perfformiad. Diolchodd y Cadeirydd
i’r Swyddogion am eu hadroddiad a chroesawyd cwestiynau gan y Pwyllgor. Croesawodd yr Aelodau’r
dull newydd ar gyfer adolygu’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol. Cyfeiriodd yr Aelodau at
risg 01 a oedd yn ddibynnol iawn ar Wasanaethau Cymdeithasol a chwestiynwyd os
y dylid rhoi mwy o ffocws ar y Gwasanaethau AD a’r broses wirio ar gyfer pobl
sy’n ymuno â’r Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau y byddai hyn yn rhywbeth y gellid ei drafod eto
mewn cyfarfod yn y dyfodol ar ôl cael y manylion. Rhoddodd y Swyddog Monitro sicrwydd i’r
Aelodau bod proses ar waith ar gyfer gwiriadau diogelu a oedd yn cael ei
hymestyn i unrhyw asiantaeth yr oedd y Cyngor yn ei defnyddio. Roedd gwiriadau
gorfodol yn cael eu cwblhau yn dilyn penodi gweithwyr newydd ac roedd
hyfforddiant diogelu yn orfodol i bob un o weithwyr y Cyngor beth bynnag eu
rôl, gyda hyfforddiant mwy dwys yn cael ei ddarparu i’r rhai hynny a oedd yn
darparu gwasanaethau gofal rheng flaen. Gofynnodd yr Aelodau am
eglurder ynghylch risg 21, yn cyfeirio at unrhyw welliannau cysylltedd /
cyfathrebu rhwng y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor ers rhoi’r Bwrdd yn ôl dan Fesurau
Arbennig. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Gwasanaethau
Cymdeithasol ac Addysg bod y berthynas
rhwng y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd yn parhau i wella. Penodwyd Prif Swyddog
Gweithredol newydd yn ddiweddar ar y Bwrdd Iechyd ac fe gynhaliwyd cyfarfod
gyda’r Cadeirydd a Phrif Swyddog Gweithredol y Bwrdd Iechyd a oedd yn
gadarnhaol iawn. Cyfeiriodd yr Aelodau at
risg 45, Argyfwng Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol a chwestiynwyd a oedd y
Cyngor wedi asesu effaith y risg i’r Cyngor o beidio â chyrraedd y targed
lleihau carbon a’r sgil-effaith bosibl o gynyddu prisiau ynni ar sefydlogrwydd
ariannol y Cyngor. Dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth Cymorth Corfforaethol:
Perfformiad, Digidol ac Asedau bod y risg yn cael ei hasesu’n barhaus, byddai
peidio â chyrraedd y targed carbon yn golygu gwario mwy ar ynni yn y pen draw. Trafododd yr Aelodau risgiau 51 a 52 - Hinsawdd Economaidd - ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 241 KB Ystyried adroddiad
gan y Cydlynydd Craffu (copi ynghlwm) yn gofyn am adolygiad o raglen waith y
pwyllgor a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau am faterion perthnasol. Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y Cydlynydd Craffu’r adroddiad a’r atodiadau
(a ddosbarthwyd ymlaen llaw) er mwyn gofyn i’r Pwyllgor adolygu ei raglen
gwaith i’r dyfodol. Roedd cyfarfod nesaf y Pwyllgor Craffu Perfformiad wedi’i
drefnu ar gyfer 6 Mehefin 2024. Roedd pedair eitem wedi’u trefnu ar gyfer y
cyfarfod - · Argymhellion Arolwg Estyn
2018 · Recriwtio, Cadw a
Chynllunio’r Gweithlu · Strategaeth Ddiwygiedig
Ddrafft Sir Ddinbych ar Newid Hinsawdd a Newid Ecolegol 2021/2022-2029/2030 · Y wybodaeth ddiweddaraf am
Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad (Ch4 a Blynyddol) Roedd Atodiad 2 yn
cynnwys copi o ffurflenni Cynnig ar gyfer Craffu yr Aelodau ac anogwyd Aelodau
i gwblhau’r ffurflen os oedd ganddynt unrhyw eitemau yr oeddent yn meddwl y
byddai’n haeddu eu craffu. Roedd Rhaglen Waith y
Cabinet yn Atodiad 3 er gwybodaeth. Roedd Atodiad 4 yn
amlinellu’r cynnydd a wnaed ar argymhellion y Pwyllgor o’i gyfarfodydd
blaenorol. Felly: Penderfynwyd: yn amodol ar gynnwys yr adroddiad
cynnydd ar Gysylltedd Rhyngrwyd a geisiwyd yn ystod y cyfarfod, i gadarnhau’r
rhaglen waith fel roedd wedi’i nodi yn Atodiad 1 i’r adroddiad. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR PWYLLGOR Cael y wybodaeth ddiweddaraf gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparodd y Cynghorydd Martyn Hogg drosolwg i’r
Pwyllgor o’r cyfarfod Herio Gwasanaeth diweddar ar gyfer y Gwasanaeth Cymorth
Corfforaethol: Pobl a oedd wedi’i
fynychu ar ran y Pwyllgor. Amlinellodd
gryfderau a gwendidau’r gwasanaeth ynghyd â’r camau gweithredu a nodwyd i
geisio mynd i’r afael ag unrhyw wendidau.
Un o’r prif wendidau a nodwyd oedd system Rheoli Cyswllt Cwsmer C360 y
Cyngor a oedd angen ei newid. Roedd
gwaith yn mynd rhagddo gyda’r bwriad o gaffael system newydd. Mynegodd y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, ynghyd ag
Aelodau eraill y Pwyllgor, bryderon mewn perthynas â’r newidiadau arfaethedig
i’r broses Herio Gwasanaeth ar gyfer 2024/25.
Roeddent yn pryderu mai dim ond Cadeirydd neu Is-Gadeirydd y Pwyllgor
Craffu Perfformiad fyddai’n cynrychioli Craffu ym mhob cyfarfod Herio
Gwasanaeth yn y dyfodol a byddai’r broses Herio Gwasanaeth gyfan yn cael ei
chynnal o fewn cyfnod o 3-4 wythnos ym mis Tachwedd. Byddai hyn yn creu llwyth gwaith trwm i
Gadeirydd / Is-Gadeirydd y Pwyllgor ac efallai’n rhoi
pwysau ar eu hamser ac argaeledd ar gyfer gwaith arall, yn ogystal ag amddifadu
Aelodau Craffu eraill o gyfle i gymryd rhan yn y broses a chynnig eu
harbenigedd unigol. Rhoddodd y Cadeirydd drosolwg o’i gyfarfod
blynyddol diweddaraf gyda swyddog Estyn mewn perthynas â rôl y Pwyllgor wrth
graffu materion addysg. Felly: Penderfynwyd: derbyn y wybodaeth a ddarparwyd. Daeth y cyfarfod i ben
am 12.20pm |