Agenda and decisions
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gynhadledd fideo
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Y Cynghorwyr Gill German, Dirprwy Arweinydd ac Aelod
Arweiniol dros Addysg, Plant a Theuluoedd a Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol
Cyllid, Perfformiad ac Asedau Strategol |
|
Yr Aelodau i
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu ag unrhyw
fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion
brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cododd yr Arweinydd y mater brys canlynol - Cyflwyno’r
Gwasanaeth Casglu Deunyddiau Ailgylchu a Gwastraff newydd |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 (copi ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD derbyn
cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024 a’u cadarnhau fel cofnod
cywir. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a
Chludiant (copi ynghlwm) yn cyflwyno Strategaeth Hinsawdd a Natur y Cyngor
(2021/22 – 2029/30) ar gyfer ei ystyried ac argymell i’r Cyngor y dylid ei
fabwysiadu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y
Cabinet yn – (a) argymell
bod y Cyngor yn mabwysiadu’r Strategaeth Hinsawdd a Natur (2021/22 –
2029/30) fel yr amlinellir yn Atodiad 1 i’r adroddiad, ac yn (b) cadarnhau
ei fod wedi darllen, deall ac ystyried yr Asesiad o Effaith ar Les fel rhan o’i
ystyriaethau fel yr amlinellir yn Atodiad 2 i’r adroddiad. |
|
CYNLLUN HIRDYMOR AR GYFER TREFI: Y RHYL Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Jason McLellan, Arweinydd ac Aelod Arweiniol Twf
Economaidd a Threchu Amddifadedd (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i’r Cabinet am y penderfyniadau dirprwyedig a’r camau a gymrwyd yn dilyn
cyfarfod y Cabinet a gynhaliwyd ar 21 Mai 2024. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn nodi ac yn cefnogi’r wybodaeth sydd
wedi’i chynnwys, ac wedi’i hatodi, i’r adroddiad hwn, yn cynnwys penodiad
Cadeirydd Bwrdd newydd y Rhyl ac aelodaeth arfaethedig y Bwrdd. |
|
HUNANASESIAD Y CYNGOR O’I BERFFORMIAD 2023 I 2024 Ystyried adroddiad
gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad ac Asedau
Strategol (copi ynghlwm), yn cyflwyno Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad ar
gyfer 2023 i 2024 er mwyn i’r Cabinet ei ystyried a’i gadarnhau cyn ei gyflwyno
i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) nodi cynnwys yr adroddiad, gan gynnwys y
chwe cham gwella a restrwyd ym mharagraff 4.4 yn yr adroddiad, ac yn (b) cadarnhau cynnwys Hunanasesiad y Cyngor o’i Berfformiad
2023-2024 i’w gyflwyno i’r Cyngor ym mis Gorffennaf 2024 i’w gymeradwyo. |
|
Ystyried
adroddiad gan y Cynghorydd Gwyneth Ellis, Aelod Arweiniol Cyllid, Perfformiad
ac Asedau Strategol (copi ynghlwm), ynglŷn â'r sefyllfa refeniw derfynol
ar gyfer 2023/24 a’r driniaeth arfaethedig o gronfeydd wrth gefn a balansau. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNWYD bod y Cabinet yn – (a) Nodi’r sefyllfa refeniw derfynol ar gyfer
2023/24, ac yn (b) cymeradwyo sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn
ar gyfer 2023/24 fel y disgrifir yn yr adroddiad ac yn Atodiadau 1 - 3. |
|
RHAGLEN WAITH Y CABINET Derbyn Rhaglen Waith
y Cabinet sydd ynghlwm a nodi’r cynnwys.
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNWYD nodi rhaglen
gwaith i’r dyfodol y Cabinet. |