Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd Y Sir, Ruthun
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cynghorydd Merfyn Parry |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 211 KB Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorydd Brian Blakeley gysylltiad personol yn eitem 5 ar y rhaglen – Tân Mynydd
Llantysilio, Haf 2018, oherwydd ei fod yn aelod o Awdurdod Tân ac Achub Gogledd
Cymru. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
faterion brys. [Ar y pwynt hwn
dywedodd y Cadeirydd am ei fwriad i amrywio'r drefn ar y rhaglen a dod â'r prif
eitem busnes ar Dân Mynydd Llantysilio, Haf 2018 ymlaen] |
|
TÂN MYNYDD LLANTYSILIO, HAF 2018 PDF 226 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) sydd yn cyflwyno adroddiad
drafft y Pwyllgor i’w gymeradwyo, yn dilyn adolygiad o’r tân ar Fynydd
Llantysilio yn ystod haf 2018, a’i effaith ar yr ardal. Mae'r adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor
gychwyn cynnal trafodaethau gyda sefydliadau partner a budd-ddeiliaid er mwyn
symud ymlaen gyda’r bwriad o leihau’r perygl bod digwyddiadau tebyg yn digwydd
yn y dyfodol. 10.10am – 11.45am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan
gynnwys cynrychiolwyr sefydliadau partner ac aelodau o’r cyhoedd oedd yn
bresennol. Cyflwynodd y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd y
Cynghorydd Graham Timms adroddiad drafft y Pwyllgor ar ei adolygiad o'r tân ar
Fynydd Llantysilio yn ystod yr haf 2018 a’i effaith ar yr ardal. Roedd yr adroddiad hefyd yn gofyn i'r Pwyllgor gychwyn cynnal trafodaethau
gyda sefydliadau partner a budd-ddeiliaid er mwyn symud ymlaen gyda’r bwriad o
leihau’r perygl o ddigwyddiadau tebyg yn y dyfodol. Dywedodd y Cadeirydd mai nod ac amcanion y
cyfarfod oedd i drafod yr adroddiad drafft ac argymhellion a chyflwyno ei
ganfyddiadau a chasgliadau i’r cyhoedd. Pwysleisiodd mai diben yr adolygiad oedd nid
rhannu bai ond i ddeall beth ddigwyddodd yn well i helpu i wella’r ymteb a
rheoli digwyddiadau tebyg a lleihau’r risg o danau tebyg rhag digwydd yn y
dyfodol. Cyfeiriwyd at y broses gynhwysfawr a gynhaliwyd o ran casglu tystiolaeth a
gwaith manwl gan y Pwyllgor yn archwilio’r achos tân ac ymateb aml-asiantaeth
iddo, a’i effaith ar yr ardal leol, yr amgylchedd a busnesau, a arweiniodd at
ganfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor ar y ffordd ymlaen oedd yn cynnwys
cydweithio gydag amrywiol asiantaethau ar ddatrysiad cyfunol. Cymerodd y Cadeirydd y cyfle i ddiolch i
bawb wnaeth gymryd rhan yn y broses a chynhyrchu'r adroddiad drafft terfynol. Rhoddodd yr Is-Gadeirydd drosolwg o ganfyddiadau
ac argymhellion y Pwyllgor. Roedd nifer o themâu cyffredin wedi codi,
y prif rai oedd Cyfathrebu, Tanau Gwyllt – eu rheoli a’r ffordd orau i leihau'r
risg ohonynt rhag digwydd drwy Reoli Tir. I grynhoi - Cyfathrebu - ·
Byddai
cyfathrebu rhwng amrywiol asiantaethau wedi gallu bod yn well ar adegau. Tra’n cydnabod bod y sawl oedd yn ymateb i’r tân
yn gweithio o dan amodau anodd iawn a bod newid sydyn yn y tywydd yn golygu bod
yn rhaid defnyddio tactegau anodd, daethpwyd i’r casgliad os byddai’r
digwyddiad wedi’i ddynodi yn ‘Ddigwyddiad Mawr’ a bod Grŵp Cydlynu
Tactegol wedi'i sefydlu byddai hynny wedi golygu cyfathrebu gwell, mwy
effeithiol rhwng yr amrywiol asiantaethau a sicrhau bod y sawl gafodd eu
heffeithio gan y tân yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd ar y
sefyllfa. Roedd cyfathrebu effeithiol rhwng y sawl oedd yn delio gyda digwyddiadau
fel hyn a’r sawl oedd wedi eu heffeithio ganddo yn allweddol, er mwyn i’r holl
ymatebwyr ddeall gallu ac adnoddau oedd ar gael iddynt a sicrhau bod y cyhoedd
yn derbyn gwybodaeth reolaidd, cyson a chredadwy, gyda golwg ar oresgyn
camwybodaeth a allai’n hawdd gyrraedd cynulleidfa estynedig drwy’r cyfryngau
cymdeithasol. Felly, argymhellwyd bod Grŵp Cydlynu Tactegol yn cael ei sefydlu
gynted â phosibl yn ystod y camau ymateb i ddigwyddiad yn y dyfodol i helpu
cyfathrebu a dealltwriaeth. Os byddai’n amlwg wrth i’r digwyddiad
ddatblygu nad oedd angen y Grŵp mwyach, gellir yn hawdd ei hysbysu nad
oedd ei angen. Byddai sefydlu’r Grŵp hwn i gyfleu negeseuon cadarn, clir, cydlynol yn
ystod camau cynnar digwyddiad yn helpu pawb dan sylw. ·
Roedd
perchnogion ystâd, ffermwyr a phorwyr wedi mynegi pryder am ddiffyg y
cyfathrebu gyda nhw yn ystod y tân. Roeddent yn adnabod y mynyddoedd a’r ardaloedd
lleol yn dda ac roeddent mewn sefyllfa dda i hysbysu staff y gwasanaeth tân ac
achub am y tir a pheryglon cudd posibl. ·
Roedd
hefyd yn bwysig pwysleisio nad oedd unrhyw fywydau wedi eu colli nac unrhyw
eiddo wedi llosgi i lawr yn y tân. Fodd bynnag, gyda rhywfaint o addasiadau gellir
gwella cyfathrebu a chydlynu. Tanau gwyllt - · O ystyried amodau penodol, gallai’r math hyn o danau gwyllt barhau i ddigwydd ac roedd yn bwysig bod pob asiantaeth yn barod amdanynt. ... view the full Cofnodion text for item 4. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Craffu Cymunedau a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019 (copi
wedi’i atodi). 10.05am – 10.10am Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd
cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 4 Gorffennaf 2019. Cywirdeb – dywedodd y Cynghorydd Rachel Flynn fod ei
hymddiheuriad ar gyfer y cyfarfod diwethaf wedi’i adael allan o’r
cofnodion. PENDERFYNWYD y
dylid, yn amodol ar yr uchod, dderbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd
ar 4 Gorffennaf 2019 fel cofnod cywir. |
|
RHAGLEN WAITH ARCHWILIO PDF 246 KB Ystyried
adroddiad gan y Cydlynydd Craffu (copi wedi’i atodi) yn gofyn am adolygiad o
raglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor ac yn diweddaru aelodau ar faterion
perthnasol. 12pm – 12.20pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Cyflwynodd y
Cydlynydd Craffu adroddiad (a gylchredwyd ymlaen llaw) yn gofyn i’r Aelodau
adolygu Rhaglen Waith y Pwyllgor ac yn rhoi diweddariad ar faterion
perthnasol. Canolbwyntiodd y
drafodaeth ar y canlynol – ·
trafodwyd
yr ymresymiad y tu ôl i newidiadau arfaethedig i'r rhaglen waith fel y manylwyd
yn yr adroddiad i sicrhau bod eitemau yn cael eu hystyried yn amserol ar gyfer
hwyluso’r drafodaeth yn well a chraffu ar destunau arbennig a chytunwyd ar y
newidiadau ·
roedd
cynnwys yr adroddiad cynnydd ar yr argymhellion yn adroddiad Tân Mynydd
Llantysilio mewn oddeutu chwe mis fel y cytunwyd yn gynharach ar y rhaglen
wedi’i gadarnhau ·
Gofynnodd
y Cynghorydd Andrew Thomas am y cynnydd a wnaed gyda lleoliad arwyddion
ymwelwyr brown ar yr A55 fel y trafodwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor a
chytunodd y Pwyllgor Craffu i gael diweddariad i’r aelodau ar y sefyllfa
bresennol. ·
yn
dilyn cais craffu gan y Cynghorydd Rachel Flynn, byddai eitem yn ymwneud â’r
Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion (CAMHS) yn cael ei hystyried gan y
Pwyllgor Craffu ar Bartneriaethau ar 16 Medi 2019 ·
yn
dilyn mater a godwyd gan y Cynghorwyr Brian Blakeley a Rachel Flynn ac yna cais
craffu gan y Cynghorydd Brian Blakeley ynglŷn â chapasiti ysgolion yn
ardal arfordirol y sir, roedd y Grŵp Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion wedi
ystyried bod y wybodaeth a ddarparwyd gan y Tîm Addysg Moderneiddio wedi delio
â’r mater a godwyd ac felly nid oedd angen craffu manwl – cytunodd y Cydlynydd
Craffu i ailddosbarthu’r deilliant ·
anogwyd
aelodau i gyflwyno unrhyw ffurflenni cynnig ynglŷn â thestunau ar gyfer
craffu i’w cyflwyno i gyfarfod nesaf y Grŵp Cadeiryddion ac
Is-Gadeiryddion Craffu ar 11 Medi ·
o
safbwynt yr eitem ar raglen waith y Cabinet oedd yn ymwneud â’r Model Darparu
Amgen ar gyfer swyddogaethau/gweithgareddau oedd yn ymwneud â hamdden ac
Aelodaeth y Bwrdd, cadarnhawyd ar ôl ystyried yr eitem yng nghyfarfod y Cabinet
ym mis Medi, y bwriad oedd i’r mater gael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym mis
Hydref ·
darparwyd
manylion y Seilwaith i’w gwneud yn haws i lwyfannu digwyddiadau o fewn yr
adroddiad a thrafodwyd enwebiad i fod ar y Bwrdd Prosiect i gynorthwyo
ymgysylltu a dull traws sirol ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghyd â rhinwedd
penodi dirprwy gynrychiolydd ·
hefyd
gofynnwyd i’r Pwyllgor benodi dau gynrychiolydd ar y Grŵp Monitro Safonau
Ysgolion (GMSY) ac roedd manylion cylch gorchwyl y Grŵp a dyddiadau
cyfarfodydd ar gyfer 2019/2020 wedi eu dosbarthu’n flaenorol a ystyriwyd gan
aelodau ·
hefyd
hysbyswyd yr aelodau am newidiadau i’r Broses Herio Gwasanaeth y cyfeiriwyd ati
o fewn briff gwybodaeth y Pwyllgor a chytunwyd bod y cynrychiolwyr a benodwyd
yn flaenorol yn parhau ar gyfer yr ardaloedd gwasanaeth unigol am y flwyddyn i
ddod tra’n cydnabod y byddai angen gwneud rhywfaint o adlinio o ganlyniad i
ailstrwythuro. Roedd y
Cadeirydd yn annog aelodau i’w hysbysu ef neu’r Cydlynydd Craffu os nad oeddent
yn gallu mynychu cyfarfod herio gwasanaeth a dywedodd y byddai’n fodlon
dirprwyo lle bo’n bosibl. ·
dywedodd
y Cydlynydd Craffu na dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y pumed
cynrychiolydd i fod ar y Gweithgor Cludiant i Ddysgwyr Roedd y Cynghorydd Rachel Flynn yn mynegi
diddordeb cyn belled â bod cyfarfodydd yn cyd-fynd â’i hymrwymiadau teuluol. PENDERFYNWYD – (a) yn amodol ar
yr uchod, cymeradwyo’r rhaglen gwaith i’r dyfodol fel ag y mae yn Atodiad 1 i’r
adroddiad; (b) Penodi’r Cynghorydd Anton Sampson i fod ar y Bwrdd Prosiect Seilwaith i’w
gwneud yn haws i lwyfannu digwyddiadau’ a bod y Cynghorydd Brian Blakeley yn
cael ei benodi fel dirprwy gynrychiolydd
lle caniateir dirprwy; (c) Y Cynghorwyr Rachel Flynn a Graham Timms ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
ADBORTH GAN GYNRYCHIOLWYR Y PWYLLGOR Derbyn unrhyw ddiweddariadau gan gynrychiolwyr y Pwyllgor ar Fyrddau a
Grwpiau amrywiol y Cyngor. 12.20pm – 12.30pm Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw adroddiadau gan gynrychiolwyr y
Pwyllgor. Daeth y cyfarfod
i ben am 11.50 a.m. |