Agenda and draft minutes
Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN
Media
Gweddarllediad: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGANIADAU O GYSYLLTIAD Dylai’r Aelodau
ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu mewn unrhyw
fater a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Datganodd y
Cynghorwyr Brian Blakeley, Ann Davies, Bobby Feeley, Jeanette Chamberlain
Jones, Dewi Owens, Huw Hilditch-Roberts a Cefyn Williams i gyd gysylltiad
personol |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Rhybudd o eitemau
y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn
unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dim. |
|
Croesawodd y
Cadeirydd bawb i gyfarfod Arbennig y Cyngor a diolchodd i gynrychiolwyr Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) a Chyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru
(CICGC) am eu presenoldeb. Cadarnhaodd y
Cadeirydd fod y cwestiynau a gyflwynwyd gan Gynghorwyr eisoes wedi’u dosbarthu
i gynrychiolwyr BIPBC a CICGC. Byddai'r cyfarfod yn cael ei gynnal mewn
dwy ran – rhan gyntaf, cwestiynau’r aelodau i gynrychiolwyr BIPBC a’r ail ran,
cwestiynau’r aelodau i gynrychiolydd CICGC. |
|
MATERION CYFREDOL YN EFFEITHIO AR WASANAETHAU IECHYD YN SIR DDINBYCH A SUT Y GELLIR MYND I'R AFAEL Â'R RHAIN Derbyn adroddiadau ar lafar gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr a'r Cyngor Iechyd Cymuned. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: ADRAN 1 - BIPBC Cwestiwn 1 - Y Cynghorydd Dewi Owens “Pam mai
eich opsiwn dewisol yw gwneud newidiadau dros dro i wasanaethau dan arweiniad
Ymgynghorydd Obstetreg yn Ysbyty Glan Clwyd (YGC) pan rydych yn bwriadu agor a
recriwtio Ymgynghorwyr i'r Ganolfan Dwys Ofal newydd enedigol isranbarthol
newydd? Pam y bydd heriau recriwtio’n wahanol?” Mynegodd Prif
Weithredwr Dros Dro BIPBC ei ddiolchgarwch o gael y cyfle i fynychu cyfarfod y
Cyngor. Esboniodd y Prif
Weithredwr Dros Dro i’r Aelodau ei fod wedi bod yn ei swydd am gyfnod o bedwar
mis yn unig a’i fod wedi’i blesio gyda’r staff ar draws Gogledd Cymru, a oedd
yn darparu gofal rhagorol o ddydd i ddydd. Byddai
angen i'r sefydliad fod yn fwy allblyg ac roeddent yn edrych ymlaen at
weithio’n agored ac yn adeiladol gyda'r Cyngor. Mewn ymateb i'r
cwestiwn a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Dewi Owens, cadarnhaodd y Prif
Weithredwr Dros Dro fod y cyfnod Ymgynghori Cyhoeddus wedi dod i ben yn
ddiweddar. Roedd angen dadansoddi’r ymatebion a byddai'r
adolygiad ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Roedd y
gwasanaethau mamolaeth wedi bod yn fater cymhleth, gyda phroblemau'n syth. Bu
cyfradd o tua 50% o swyddi gwag, a oedd yn peri risg, felly bu’n rhaid cyflogi
Meddygon byrdymor. Roedd trafodaethau wedi bod yn digwydd gyda staff
clinigol ym mhob un o'r gwasanaethau a oedd wedi rhoi gwybod i'r Bwrdd am
freuder y mwyafrif o wasanaethau. Yr Opsiwn a
ffefrir oedd cael cyflenwadwyedd ar lefel ymarferol. Ni
fyddai'r newidiadau yn barhaol ond ar sail dros dro. Eglurodd
y Prif Weithredwr Dros Dro nad oedd yr ymgynghoriad wedi ei lywio gan reolaeth
nac arian. Un o'r pwyntiau ffocws yn y gwaith cynllunio
yn y dyfodol fyddai cael gofal newydd enedigol ar safle Ysbyty Glan Clwyd, ac
roedd y broses recriwtio wedi dechrau ar gyfer y gwasanaeth. Byddai
hyn yn rhan o'r strategaeth i annog staff i ddilyn eu gyrfa yng Ngogledd Cymru. Eglurodd
Cadeirydd BIPBC i Aelodau nad oedd y mater o recriwtio wedi bod yn benodol i
Ogledd Cymru, ond wedi bod yn broblem ledled y wlad. Cwestiwn 2 - y Cynghorydd Raymond Bartley “Pa sicrwydd allwch chi ei
roi i ni na fydd cam-drin pobl hŷn ddiamddiffyn â Dementia yn digwydd eto,
o ystyried yr hyn a ddigwyddodd yn ‘Tawel Fan’. Pa
newidiadau ydych chi wedi’u gwneud o ganlyniad i'r adroddiad gan Donna
Ochenden? Beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf mewn
perthynas â phrosesau disgyblu mewnol?” Cytunodd y Prif
Weithredwr Dros Dro bod y materion yn Tawel Fan wedi bod yn warthus. Roedd
mesurau arbennig bellach ar waith fel bod prosesau ansawdd yn sicrhau na
fyddai’r problemau’n codi eto yn y dyfodol. Byddai
angen llawer iawn o waith i ddatblygu Gwasanaethau Iechyd Meddwl, gwaith a
fyddai hefyd yn cynnwys yr Awdurdod Lleol. Roedd
y newidiadau a oedd eisoes wedi digwydd a'r rhai a oedd i ddigwydd yn gysylltiedig
â'r adroddiad gan Donna Ochenden. Roedd BIPBC wedi comisiynu’r Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS), a oedd yn brofiadol dros ben wrth ymgymryd â materion o'r math hwn. Roedd HASCAS wedi cael ei gomisiynu i gynnal ymchwiliad llawn ac i ddarparu ymatebion manwl i bryderon a godwyd gan deuluoedd y cleifion hynny yr effeithir arnynt. Yr ail dasg ar gyfer HASCAS fyddai, lle y bo'n briodol, paratoi achosion disgyblu yn erbyn aelodau unigol o staff. Byddai HASCAS yn cyfweld teuluoedd eto ynghyd â nifer o deuluoedd ychwanegol a oedd wedi dod ymlaen ers cwblhau adroddiad Donna Ochenden. Cadarnhawyd bod nifer o staff wedi cael eu hatal, tra'n aros am gamau disgyblu, a bod nifer o staff wedi cael eu hadrodd i'r cyrff ... view the full Cofnodion text for item 4. |