Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: SIAMBR Y CYNGOR, NEUADD Y SIR, RHUTHUN LL15 1YN

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cyn dechrau cyfarfod y Cyngor Llawn, cynigiodd y Cadeirydd longyfarchiadau i'r Cynghorydd Arwel Roberts a oedd wedi cael ei dderbyn i Orsedd y Beirdd.

 

Yna cynhaliwyd munud o dawelwch fel arwydd o barch tuag at y Cynghorydd Eryl Williams a oedd wedi colli ei fam a’r Cynghorydd Rhys Hughes a oedd wedi colli ei frawd.

 

 

2.

Datgan cysylltiad pdf eicon PDF 135 KB

Dylai’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu sy'n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies, Davies, Richard Davies a Peter Owen gysylltiad personol yn eitem 6 - Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

 

Datganodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts gysylltiad personol yn Eitem Rhif 9 – Diwygio Llywodraeth Leol.

 

Datganodd y Cynghorwyr, Martyn Holland, Huw Hilditch-Roberts, Geraint Lloyd Williams, Ann Davies, Joe Welch, Carys Guy, Jason McLellan, Barry Mellor, Paul Penlington, Julian Thompson-Hill, Arwel Roberts, James Davies, Margaret McCarroll, Jeanette Chamberlain-Jones, Gareth Sandilands, Cefyn Williams, Meirick Lloyd Davies a Richard Davies i gyd gysylltiad personol yn eitem 10 - Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol.

 

Datganodd y Cynghorydd Jason McLellan gysylltiad personol yn eitem 11 - Cynllun Cyfalaf 2013/14 - 2017/18

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Yn sgil digwyddiadau diweddar yn Rotheram gofynnodd y Cynghorydd Jason McLellan i’r Polisi Diogelu Lleol gael ei anfon at bob Aelod.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley, yn dilyn trafodaethau gyda’r Cyfarwyddwr Corfforaethol: Uchelgais Economaidd a Chymunedol a Phennaeth y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd y byddai copi o'r Polisi Diogelu Lleol yn cael ei anfon at yr holl aelodau yn fuan.

 

 

4.

DYDDIADUR Y CADEIRYDD pdf eicon PDF 92 KB

Nodi ymrwymiadau dinesig a ymgymerwyd gan Gadeirydd y Cyngor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Dosbarthwyd rhestr o ddigwyddiadau dinesig a gynhaliwyd gan y Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd dros y cyfnod rhwng 27 Mehefin 2014 a 7 Medi 2014 cyn y cyfarfod.

 

Mynegodd y Cadeirydd ei ddiolch i'r Is-gadeirydd am fynd i nifer o ddigwyddiadau ar ei ran.

 

Hysbysodd y Cadeirydd yr aelodau am lwyddiant Gŵyl y Traeth, Y Proms ar y Prom, a Sioe Awyr y Rhyl a gafodd eu cynnal yn y Rhyl. 

 

Roedd y digwyddiadau’n hynod lwyddiannus, gan ddenu nifer fawr o bobl i'r Rhyl.

 

Estynnodd y Cadeirydd ei ddiolch i Siân Davies a’i thîm am eu holl waith caled yn trefnu’r digwyddiadau.  Argymhellwyd hefyd y dylid gwahodd Siân a’i thîm i un o gyfarfodydd y Cyngor yn y dyfodol er mwyn galluogi aelodau i ddangos eu gwerthfawrogiad.

 

PENDERFYNWYD – y dylid derbyn y rhestr o ddigwyddiadau dinesig y bu Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Cyngor iddynt ac y dylid nodi sylwadau’r Cadeirydd.

 

 

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 168 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor Sir a gynhaliwyd 10 Mehefin 2014 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2014.

 

Dywedodd y Cynghorydd Meirick Lloyd Davies ei fod wedi datgan cysylltiad yn Eitem 8 - Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, ond nid yw ei enw wedi ei gynnwys yn y cofnodion.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid derbyn cofnodion cyfarfod y Cyngor a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2014 fel cofnod cywir.

 

 

6.

AWDURDOD TÂN AC ACHUB GOGLEDD CYMRU

Cyflwyniad gan Simon Smith, Prif Swyddog Tân a Dawn Docx, Dirprwy Prif Swyddog Tân, i ymgynghori ag Aelodau ar gynigion Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer darparu gwasanaethau tân ac achub yn y dyfodol ar draws y rhanbarth.

 

 

Cofnodion:

Roedd y Prif Swyddog Tân (PST), Simon Smith a’r Dirprwy Brif Swyddog Tân (DBST), Dawn Docx yn bresennol i ymgynghori ag aelodau ar gynigion Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ar gyfer cyflwyno gwasanaethau tân ac achub yn y dyfodol ar draws y rhanbarth.

 

Esboniodd y PST i’r aelodau (ynghyd â chyflwyniad) bod y gyllideb ar gyfer y 4 blynedd flaenorol wedi’i rhewi ac nad oedd yr ardoll i Awdurdodau Lleol wedi cael ei chodi yn ystod y cyfnod hwn.  Rhoddodd y PST enghreifftiau o doriadau i wasanaethau a wnaed yn ystod y cyfnod hwn ac aelodau bod arbedion o £3 miliwn yn cael eu gwneud dros y 5 mlynedd nesaf.

 

Eglurodd y DBST y byddai galwadau pellach ar y gwasanaethau’n parhau, ond byddai angen gwneud newidiadau i’r gwasanaeth oherwydd y cyfyngiadau ariannol.

 

Cadarnhaodd y PST y byddai angen gwneud llawer o waith cyn y gellid cyflwyno’r cynigion ar gyfer Sir Ddinbych.  Gallai peidio â chynyddu’r gyllideb refeniw o’r £3 miliwn ofynnol, dros y 5 mlynedd nesaf, arwain at ostyngiadau sylweddol fel:

 

·       Cau 9 neu 10 o’r 36 gorsaf dân ran amser bresennol

·       Cael gwared ar 17 o’r 54 injan dân bresennol

·       Colli tua 228 o’r 799 swydd diffoddwr tân gweithredol cyfredol yn sgil hynny.

 

Y cyfraniad presennol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru oedd £4,342,155. Felly’r cynnydd mwyaf yn y dyfodol fyddai:

 

·       2015/16        -         £77,666

·       2016/17        -         £91,100

·       2017/18        -         £102,478

·       2018/19        -         £102,631

·       2019/20        -         £68,062

 

Cyfanswm yr arian ychwanegol dros 5 mlynedd fyddai £441,937

 

Gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill am sicrwydd bod y Gwasanaeth Tân ac Achub wedi craffu ar bob llinell yn y gyllideb cyn dod at yr Awdurdodau Lleol i ofyn am ragor o gyfraniadau.

 

Cynigiodd y PST y sicrwydd y gofynnodd y Cynghorydd Julian Thompson-Hill amdano.

 

Yn dilyn trafodaeth fanwl, cadarnhaodd y PST y byddai'n adrodd sylwadau’r aelodau yn ôl fel rhan o’r sylwadau ar yr ymgynghoriad.

 

 

 

7.

RHYBUDD O GYNNIG

Ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd James Davies.

 

“Mae'r Cyngor yn cefnogi mentrau i hyfforddi 'Cyfeillion Dementia’ ac i greu 'Cymunedau sy'n Gyfeillgar i Ddementia'.  Mae'n ceisio arwain y gymuned leol yn y maes hwn drwy ddod yn 'Gyngor Cyfeillgar i Ddementia' a bydd yn ystyried, trwy’r pwyllgor archwilio a’r sianeli priodol eraill, amrywiaeth o fesurau y gellir eu cymryd i wella ei wasanaethau i gleifion dementia a'u gofalwyr."

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd James Davies y Rhybudd o Gynnig canlynol i'w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

“Mae’r Cyngor yn cefnogi mentrau i hyfforddi ‘Cyfeillion Dementia’ a chreu ‘Cymunedau sy’n Garedig i Ddementia’.  Mae'n ceisio arwain yn lleol yn y maes hwn drwy ddod yn ‘Gyngor sy’n Garedig i Ddementia’ a bydd yn ystyried, trwy’r Pwyllgor Archwilio a sianelau priodol eraill, amrywiaeth o fesurau y gellir eu cymryd i wella ei wasanaethau i gleifion dementia a’u gofalwyr”.

 

Eglurodd y Cynghorydd Davies bwysigrwydd yr angen i godi ymwybyddiaeth am Ddementia yn gyffredinol, gan gynnwys gwasanaethau cwsmeriaid, staff rheng flaen, a chynghorwyr i sicrhau bod pobl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

 

Cadarnhaodd y Cynghorydd Bobby Feeley fod gwaith wedi bod ar y gweill ynghylch ‘Cymunedau sy’n Garedig i Ddementia’.  Unwaith y bydd y gwaith yn gyflawn, bydd yn cael ei anfon at yr aelodau.  Roedd disgwyl i nifer y bobl â dementia gynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf.  Roedd rhaglen bresennol Cyngor Sir Ddinbych yn rhaglen ragorol.

 

Yn ystod y drafodaeth, mynegodd nifer o aelodau eu cefnogaeth i'r Rhybudd o Gynnig.  Eglurwyd unwaith eto hefyd fod y Cyngor yn gwneud llawer iawn o waith yn ymwneud â Dementia. 

 

Argymhellodd y Cynghorydd Barbara Smith y dylid newid geiriad y Rhybudd o Gynnig, er mwyn iddo gymeradwyo’r gwaith roedd y cyngor yn ei wneud ar hyn o bryd.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Joan Butterfield 

 

Y geiriad i’w ychwanegu at y Rhybudd o Gynnig fyddai “bod aelodau’r cyngor yn cydnabod y gwaith rhagorol sy’n digwydd ar hyn o bryd yn Sir Ddinbych ond eu bod hefyd yn barod i ystyried gwneud rhagor o waith”.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts y dylid cyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Archwilio.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Peter Evans.

 

PENDERFYNWYD cyfeirio’r mater at y Pwyllgor Archwilio.

 

 

8.

RHYBUDD O GYNNIG

Ystyried y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorwyr Joe Welch, Colin Hughes, Geraint Lloyd-Williams, Meirick Lloyd Davies ac Eryl Williams.

 

“Mae arnom ni eisiau cefnogaeth y Cyngor i gael safiad cadarn i fynnu bod hyd gyfan cysylltiad Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru yn cael ei osod o dan y ddaear".

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Joe Welch y Rhybudd o Gynnig canlynol, ar ran y Cynghorwyr Colin Hughes, Geraint Lloyd-Williams, Meirick Lloyd Davies ac Eryl Williams, i'w ystyried gan y Cyngor Llawn.

 

“Byddem yn hoffi cael cefnogaeth y cyngor i gael safiad cadarn i fynnu bod cysylltiad Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru yn cael ei gosod o dan y ddaear ar ei hyd”.

 

PENDERFYNWYD cefnogi’r Rhybudd o Gynnig a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Joe Welch i ofyn am gefnogaeth y cyngor i gael safiad cadarn i fynnu bod cysylltiad Ffermydd Gwynt Gogledd Cymru yn cael ei osod o dan y ddaear ar ei hyd.

 

 

Ar y pwynt hwn (11.50am) cafwyd toriad am 15 munud

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 12:05pm.

 

 

 

9.

DIWYGIO LLYWODRAETH LEOL pdf eicon PDF 147 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Weithredwr (copi ynghlwm) sy’n gofyn i Aelodau ddarparu asesiad strategol o'r opsiynau o fewn y Papur Gwyn (Diwygio Llywodraeth Leol). Gofynnir am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb i uno’n wirfoddol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr Adroddiad Diwygio Llywodraeth Leol (a ddosbarthwyd yn flaenorol).

 

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn – Diwygio Llywodraeth Leol - ar gyfer ymgynghoriad ar 8 Gorffennaf 2014. Byddai’r cyfnod ymgynghori’n dod i ben ar 1 Hydref, 2014 am 23:59. Pwrpas yr adroddiad oedd nodi prif gynigion y Papur Gwyn, darparu asesiad strategol o’r opsiynau y mae'n eu cyflwyno i'r cyngor a gofyn am benderfyniad ynghylch a ddylid cyflwyno datganiad o ddiddordeb mewn uno’n wirfoddol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.  Rhaid cyflwyno'r datganiad o ddiddordeb erbyn mis Tachwedd 2014, a byddai angen cytundeb Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

 

Roedd y Papur Gwyn yn amlinellu’r camau oedd angen tuag at uno awdurdodau lleol i greu sefydliadau mwy o faint a ‘mwy cynaliadwy’.  Cynigiwyd y dylai aelodau ystyried goblygiadau’r rhan hon o’r papur yn ofalus a datblygu ymateb erbyn dyddiad cau’r ymgynghoriad, 1 Hydref, 2014.

 

Nododd y Papur Gwyn, fel ei hoff ddewis, raglen o uno awdurdodau lleol a fyddai’n gostwng y 22 awdurdod lleol presennol i 12, gyda thri yng Ngogledd Cymru a Sir Ddinbych yn uno â Chonwy. 

 

Roedd Llywodraeth Cymru yn annhebygol o gefnogi unrhyw gynnig a fyddai’n torri ar draws ffiniau presennol gwasanaethau Iechyd a’r Heddlu ac na fyddai’n cefnogi cynigion i newid ffiniau awdurdodau lleol presennol.

 

Roedd y Papur Gwyn yn nodi’n glir nad oedd digon o amser i ddatblygu, cynllunio a deddfu ar gyfer rhaglen lawn o uno cyn etholiadau nesaf y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2016. Ni fyddai Bil i uno awdurdodau yn cael ei gyflwyno, felly, i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ystod tymor y cynulliad, a fyddai'n dod i ben ym mis Ebrill 2016.

 

Byddai Bil drafft yn cael ei gyhoeddi yn ystod hydref 2015 ar gyfer ymgynghori fel bod Llywodraeth Cymru a fyddai’n cael eu hethol ym mis Mai 2016, mewn sefyllfa i wneud penderfyniadau cynnar ynghylch symud ymlaen a sut i fynd ati.

 

Byddai’r ddeddfwriaeth a fyddai’n cael ei chyflwyno ddechrau 2015 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer uno cynnar. Byddai ‘Prosbectws’ yn cael ei gyhoeddi erbyn haf 2014 yn nodi cymhellion Llywodraeth Cymru ar gyfer uno gwirfoddol.  Nid oedd y ‘Prosbectws’ wedi cael ei gyhoeddi erbyn dyddiad y cyfarfod.

 

Amlinellodd y Prif Weithredwr i'r aelodau, yr amserlen ar gyfer uno a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

Roedd dau opsiwn i’w hystyried:

 

·       Opsiwn 1 - Aros tan etholiad Llywodraeth Cymru ym mis Mai 2016; neu

·       Opsiwn 2 – Uno’n wirfoddol gyda Chonwy.

 

Roedd yn ymddangos yn glir bod aros i weld beth fyddai’n digwydd ym mis Mai 2016, mewn gwirionedd, yn gyfystyr â derbyn toriadau difrifol i gyllidebau a gwasanaethau a fyddai’n digwydd am o leiaf y chwe blynedd nesaf, ac wedi hynny, y dyfodol fyddai uno gorfodol.  Nid oedd gwneud toriadau llym, am nifer o flynyddoedd, ac yna cael uno gorfodol, yn ymddangos yn ganlyniad arbennig o dda ar gyfer y trigolion na’r cyngor.

 

Ni fyddai'r penderfyniad yn un syml ac roedd risgiau a chostau ymhlyg â’r naill opsiwn a’r llall.  At ei gilydd, roedd yr opsiwn o uno gwirfoddol yn un gwell yn strategol gan ei fod yn opsiwn ymarferol i’r ddau gyngor, a gallai gynnig y posibilrwydd o osgoi’r toriadau gwaethaf trwy gyfuniad o sicrhau cytundeb ariannol gyda Llywodraeth Cymru a sicrhau arbedion o'r uno ei hun.  Fodd bynnag, byddai ond yn bosibl ystyried yr opsiwn hwn pe bai dau amod yn cael eu bodloni:

 

·       Bod y pecyn ariannol a’r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn sylweddol ac yn rhwymol; a

·       Unwaith y bydd y ddau awdurdod a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar y Datganiad Bwriad ym mis Tachwedd 2015, bod y cytundeb yn rhwymol ar bob un o’r tri pharti.

 

Pe  ...  view the full Cofnodion text for item 9.

Ar y pwynt hwn (1.25pm) cafwyd toriad.

 

Ailddechreuodd y cyfarfod am 2.15pm.

 

 

 

YN BRESENNOL

 

Y Cynghorwyr  Brian Blakeley (Cadeirydd), Joan Butterfield, Jeanette Chamberlain-Jones, Bill Cowie, Ann Davies, Meirick Davies, Richard Davies, Stuart Davies, Peter Duffy, Hugh Evans, Peter Evans, Huw Hilditch-Roberts, Martyn Holland, Colin Hughes, Rhys Hughes, Alice Jones, Pat Jones, Gwyneth Kensler (Is-gadeirydd), Geraint Lloyd-Williams, Margaret McCarroll, Jason McLellan, Barry Mellor, Merfyn Parry, Paul Penlington, Arwel Roberts, Gareth Sandilands, David Simmons, Barbara Smith, David Smith, Julian Thompson-Hill, Joe Welch, Cefyn Williams, ac Eryl Williams

 

 

 

10.

ADOLYGIAD O'R POLISI CLUDIANT O’R CARTREF I'R YSGOL pdf eicon PDF 141 KB

Ystyried adroddiad gan y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg (copi ynghlwm) i ymgynghori ag Aelodau ynghylch y cynigion a amlinellwyd ar gyfer Polisi diwygiedig Cludiant o'r Cartref i'r Ysgol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cwsmeriaid a Chymorth Addysg y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol (a ddosbarthwyd yn flaenorol) er mwyn i'r aelodau ystyried cynnwys y polisi diwygiedig.

 

Yn y Gweithdy Rhyddid a Hyblygrwydd ar 17 Mehefin 2014, rhoddodd aelodau etholedig gymeradwyaeth i gynnal adolygiad o’r ddarpariaeth cludiant presennol ac i gynnal ymgynghoriad ar bolisi diwygiedig.

 

Cyhoeddodd y Cyngor ymgynghoriad ar y polisi newydd arfaethedig ar 11 Awst 2014. Roedd yn rhaid mabwysiadu’r polisi newydd erbyn 1 Hydref 2014 i sicrhau bod y rheoliadau yn cael eu bodloni.  Roedd hyn yn cyd-fynd â Rheoliadau Gwybodaeth am Deithio gan Ddysgwyr 1.105 lle mae'n datgan:

 

Os yw Awdurdod Lleol yn penderfynu newid neu ddileu’r ddarpariaeth cludiant dewisol y mae’n ei ddarparu, rhaid iddo gyhoeddi’r wybodaeth cyn 1 Hydref yn y flwyddyn cyn y flwyddyn academaidd y bydd y newidiadau yn dod i rym.

 

Byddai angen i'r Aelodau ystyried:

 

·       Canlyniad gorfodi'r polisi newydd i gael gwared â’r holl anghysonderau hanesyddol yn y broses gymhwyso

·       Cyflwyno mannau codi canolog fel y nodir ym mharagraff 4.2 y polisi – byddai’r newid hwn yn effeithio’n uniongyrchol ar tua 232 o ddisgyblion uwchradd a 352 o ddisgyblion cynradd.

 

Byddai'r cynnig yn cael effaith uniongyrchol ar y Gwasanaeth Cludo Teithwyr.  Amcangyfrifwyd y byddai’n arbed tua £303,000.  Gallai'r arbedion newid yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o lwybrau peryglus ac o unrhyw daliadau a wneir i rieni ar gyfer teithiau fel dewis arall yn lle darparu cludiant am ddim.

 

Yr arbediad a ragwelir ar gludiant ysgolion cynradd fyddai oddeutu £30,000.  Gan fod hwn yn swm cymharol fach o arbedion, nid oedd penderfyniad eto a ddylid gwneud unrhyw newidiadau i gludiant Cynradd.

 

Roedd nifer o faterion dadleuol a chafwyd trafodaeth fanwl.

 

Byddai cludiant gostyngol yn cael ei ddarparu os nad oedd dysgwr yn gymwys i gael cludiant am ddim yn ôl unrhyw un o'r meini prawf a nodir yn y polisi hwn ond y gellir ei roi ar lwybr cludiant contract presennol sydd â seddi gwag.  Byddai ffi resymol yn cael ei chyflwyno bob tymor.  Roedd Sir Ddinbych yn codi £50 y tymor ar hyn o bryd.

 

Oherwydd y duedd barhaus o orwario ar gludiant ysgol, roedd meysydd eraill wedi bod yn rhoi cymhorthdal tuag at y gyllideb.  Byddai’r arbedion a grëwyd yn galluogi’r gyllideb cludiant ysgol i dalu ei gostau.

 

Roedd y drafodaeth hefyd yn cynnwys categoreiddio ysgolion. 

 

Byddai’r Awdurdod yn darparu cludiant dewisol i’r ysgol agosaf sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg, hyd yn oed os nad dyma eu hysgol agosaf gymwys.  I’r diben hwn, byddai'n ysgol categori 1 neu 2 o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru ar Ddarpariaeth Cyfrwng Cymraeg.  Ni fyddwn yn darparu cludiant os dewisir addysg ddwyieithog. Bydd dewisiadau ond yn cael eu hystyried yn ôl Cyfrwng Cymraeg neu Gyfrwng Saesneg.

 

Eglurodd y Pennaeth Addysg y drefn gategoreiddio i'r aelodau.  Roedd tair agwedd i gategoreiddio, sef:

 

(i)              Cwricwlwm

(ii)             Iaith, a

(iii)            Canlyniadau

 

Byddai cludiant yn cael ei ddarparu ar gyfer yr holl drosglwyddiadau a reolwyd am oes y trosglwyddiad, boed yn hirdymor neu’n fyrdymor.

 

Roedd y Pennaeth Addysg yn cadw’r hawl i weithredu pwerau dewisol mewn achosion penodol er mwyn sicrhau cyn lleied o drafferthion â phosibl i’r disgybl.

 

Byddai asesiad risg yn cael ei gynnal ar y mannau codi ganolog a awgrymwyd cyn eu cadarnhau.

 

PENDERFYNWYD bod yr aelodau'n derbyn ac ystyried y Polisi Cludiant o’r Cartref i’r Ysgol Diwygiedig, a fyddai hefyd yn cael ei gyflwyno yn y pwyllgor Archwilio a’r Cabinet.

 

 

11.

CYNLLUN CYFALAF pdf eicon PDF 105 KB

Ystyried adroddiad gan Bennaeth Cyllid ac Asedau (copi ynghlwm) sy’n darparu’r Cynllun Cyfalaf diweddaraf i’r Aelodau, gan gynnwys diweddariad ynglŷn â’r prosiectau mawr a’r Cynllun Corfforaethol.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau adroddiad ar Gynllun Cyfalaf 2013/14 - 2017/18 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor ynghylch y Cynllun Cyfalaf, gan gynnwys prosiectau mawr a'r Cynllun Corfforaethol.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol ynghylch prosiectau yn yr adroddiad. 

 

PENDERFYNWYD:

 

·       Bod Aelodau’n nodi safbwynt canlyniad 2013/14 y Cynllun Cyfalaf, y safbwynt diweddaraf ar gynllun cyfalaf 2014/15 a’r diweddariad ar brosiectau mawr.

·       Bod Aelodau’n cymeradwyo bwrw ymlaen â cham adeiladu cynllun estyniad ac adnewyddu Ysgol Gymunedol Bodnant.

 

 

12.

CYLLIDEB 205/16 - 2016/17 pdf eicon PDF 271 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi i ddilyn) sy’n rhoi gwybod i’r Aelodau am y sefyllfa gyllidebol ddiweddaraf ar gyfer 2015/2016 - 2016/17.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Cyllid ac Asedau adroddiad Cyllideb 2015/16 – 2016/17 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu diweddariad i’r Cyngor ar y sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb a chymeradwyo'r cynigion ar gyfer arbedion a restrir yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Roedd yr adroddiad yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran y gyllideb ac yn cyflwyno Cam 1 rhaglen o arbedion cyllidebol i'w gymeradwyo er mwyn cyflawni’r gyllideb refeniw ar gyfer 2015/16 a dechrau ar y broses ar gyfer 2016/17.

 

Daw mwyafrif (tua 78%) o gyllid y Cyngor gan Lywodraeth Cymru drwy'r Grant Cynnal Refeniw ac ailddosbarthu Trethi Annomestig Cenedlaethol.

 

Roedd y setliad ar gyfer 2014/15 wedi cael ei ostwng o 4.6% ar y flwyddyn flaenorol, sef y gostyngiad mwyaf yn hanes y cyngor a’r gostyngiad uchaf yng Nghymru.  Roedd y gostyngiad wedi bod yn uwch na'r cyfartaledd oherwydd addasiadau sy'n codi o ganlyniadau cyfrifiad 2011.  Roedd y twf a amcangyfrifwyd yn y boblogaeth leol wedi’i oramcangyfrif dros nifer o flynyddoedd.  Byddai'r effaith yn golygu y byddai effaith andwyol ar gyllid Sir Ddinbych am nifer o flynyddoedd. 

 

Cyhoeddwyd toriadau pellach.  Felly, byddai angen gwneud arbedion o £18 miliwn hyd at ac yn cynnwys 2016/17.

 

Mae proses newydd wedi’i chyflwyno ar gyfer gosod cyllideb, o’r enw Rhyddid a Hyblygrwydd, ac roedd yn newid sylweddol i ymagwedd y cyngor at osod cyllideb.  Roedd y broses yn dadansoddi pob gwasanaeth yn ôl eitemau unigol ar y gyllideb i asesu pa swyddogaethau roedd pob gwasanaeth yn eu cyflawni, beth yw eu cost ac a oeddent yn ofynion statudol neu gyfreithiol ac/neu yn flaenoriaethau corfforaethol.

 

Trefnwyd Gweithdai Cyllideb gyda phedwar gweithdy diwrnod llawn yn cael eu cynnal.  Mae chwe gweithdy pellach wedi eu trefnu.  Roedd nifer dda o aelodau yn bresennol ym mhob gweithdy.

 

Yn y gweithdai, gofynnwyd i'r aelodau ystyried cynigion dan y categorïau canlynol:

 

·       Mabwysiadu

·       Datblygu, a

·       Gohirio.

 

Roedd Atodiad 1 yr adroddiad yn tynnu sylw at yr arbedion a gynigiwyd yn y pedwar gweithdy cyntaf lle cafwyd cefnogaeth i “fabwysiadu”.  Byddai cynigion eraill yn cael eu hystyried mewn gweithdai pellach. 

 

Bu ymgynghori sylweddol ynghylch proses y gyllideb ac roedd wedi cael ei ystyried yn y CET, yr UDA, a chyfarfodydd Briffio'r Cabinet a’r Cyngor.  Erbyn diwedd y broses byddai o leiaf deg gweithdy cyllideb wedi’u cynnal gydag aelodau etholedig.

 

Roedd gan y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol swyddogaeth oruchwylio ac wedi derbyn adroddiadau i bob un o'i gyfarfodydd ers mis Ebrill 2014.

 

Yn ogystal, byddem yn ymgynghori â’r undebau llafur ar gynigion unigol dros y misoedd nesaf.  Wrth i'r broses ddatblygu, efallai y bydd angen ymgynghori'n gyhoeddus ar rai cynigion.

 

Dywedodd y Cynghorydd Joan Butterfield na fyddai'r Grŵp Llafur yn barod i bleidleisio o blaid unrhyw newidiadau, yn enwedig rhai sy’n effeithio ar staff a phobl yn y gymuned.  Er eu bod yn derbyn fod Gweithdai’r Gyllideb wedi bod yn agored, y rheswm dros y penderfyniad oedd na chafwyd unrhyw wybodaeth derfynol ar unrhyw un o’r canlyniadau.  Gofynnodd y Cynghorydd Butterfield hefyd i gael golwg ar yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb o ran y toriadau.

 

Ymatebodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau, y Cynghorydd Julian Thompson-Hill i’r Cynghorydd Butterfield yn cadarnhau bod yr holl wybodaeth wedi ei darparu yn barod.  Roedd yr Asesiadau Effaith Cydraddoldeb wedi cael eu hanfon drwy e-bost at bob aelod er bod rhai'n hwyr.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd, y Cynghorydd Hugh Evans, fod y Cynghorydd Thompson-Hill wedi gofyn i bawb oedd yn bresennol ar ddiwedd pob un o’r Gweithdai Cyllideb os oedd unrhyw faterion neu broblemau ac ni chafwyd ymateb gan unrhyw un a oedd yn bresennol.  Roedd y manylion wedi bod yn destun proses drylwyr ac wedi’u trafod yn  ...  view the full Cofnodion text for item 12.

13.

ADRODDIAD ARIANNOL - Y SEFYLLFA GANLYNIAD TERFYNOL A DATGANIAD CYFRIFON 2013/14 pdf eicon PDF 102 KB

Ystyried adroddiad gan y Prif Gyfrifydd (copi ynghlwm) a nodi'r sefyllfa refeniw derfynol a'r effaith ar arian wrth gefn a balansau.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Gyllid ac Asedau'r Adroddiad Cyllid - Sefyllfa Refeniw Derfynol 2013/14 (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i ddarparu'r sefyllfa refeniw derfynol a'r effaith ar gronfeydd wrth gefn a balansau i’r aelodau, er gwybodaeth.

 

Roedd y Cabinet wedi bod yn derbyn adroddiadau monitro rheolaidd trwy gydol y flwyddyn ariannol ynglŷn â pherfformiad gwariant yn ôl y gyllideb a’r arbedion y cytunwyd arnynt fel rhan o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig.    Derbyniwyd yr adroddiad canlyniad terfynol gan y Cabinet ar 25 Mehefin 2013. Cyflwynwyd drafft cyntaf y Datganiad Cyfrifon Blynyddol ar gyfer 2013/14 i’r archwilwyr allanol ar 30 Mehefin.  Roedd y cyfrifon yn cael eu harchwilio ar hyn o bryd a’r bwriad oedd cyflwyno’r cyfrifon terfynol i’r Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol ar 29 Medi i'w cymeradwyo'n ffurfiol.

 

Y sefyllfa gyffredinol o ran canlyniad ariannol ar gyfer 2013/14 oedd tanwariant o’i gymharu â’r gyllideb a gymeradwywyd, a oedd, ynghyd â chynnydd yn enillion Treth y Cyngor, yn cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor.  O ganlyniad, trosglwyddwyd cyllid i gronfeydd wrth gefn penodol i gynorthwyo'r Cyngor i fynd i’r afael â phwysau ariannol difrifol dros y blynyddoedd nesaf a diwallu’r ymrwymiadau ariannol oedd angen i gyflawni’r Cynllun Corfforaethol.

 

Cafwyd trafodaethau, gyda’r Pennaeth Cyllid yn ymateb i ymholiadau a godwyd gan yr Aelodau.

 

Diolchodd yr aelodau i’r Pennaeth Cyllid ac Asedau, y Prif Gyfrifydd a'u tîm am y gwaith aruthrol oedd wedi cael ei wneud.

 

PENDERFYNWYD - fod yr aelodau’n nodi’r sefyllfa canlyniad refeniw terfynol ar gyfer 2013/14 a nodi’r modd yr ymdriniwyd â chronfeydd wrth gefn a balansau a nodir yn yr adroddiad.

 

 

14.

HYFFORDDIANT AELODAU pdf eicon PDF 125 KB

Ystyried adroddiad gan y Rheolwr Cymorth a Datblygu Aelodau (copi ynghlwm) er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch pa sesiynau hyfforddi sy’n orfodol ar gyfer rolau penodol. Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch y Cynllun Datblygu Personol / y Broses Adolygu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol dros Foderneiddio a Pherfformiad, y Cynghorydd Barbara Smith, yr Adroddiad Hyfforddi Aelodau (a ddosbarthwyd yn flaenorol) i nodi’r sefyllfa ddiweddaraf am faterion yn ymwneud â hyfforddi aelodau, gan gynnwys Sesiynau Gorfodol a Chynlluniau Datblygu ac Adolygiadau Personol.

 

Roedd angen i’r aelodau benderfynu ynghylch pa sesiynau yr ystyriwyd yn orfodol i bob aelod a pha sesiynau fyddai’n cael eu hystyried yn orfodol ar gyfer swyddi penodol. 

 

Roedd Adran 7 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol sicrhau y darperir cyfleoedd hyfforddi a datblygu rhesymol i'w aelodau.

 

Cafwyd trafodaeth gyffredinol, a chynigiodd y Cynghorydd Stuart Davies y dylid hepgor y gair “cosb” o’r argymhelliad.  Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Dave Smith. 

 

PENDERFYNWYD  :

 

·       y dylai’r holl aelodau dderbyn yr hyfforddiant 'Generig' gorfodol a ganlyn:

Ø  Cod Ymddygiad

Ø  Diogelu / Rhianta Corfforaethol / Amddiffyn Plant

Ø  Cyllid

Ø  Cydraddoldeb

Ø  Cyflwyniad (strwythur y Cyngor, Cyfansoddiad a Diogelu Data).

·       rhaid i wahanol aelodau pwyllgorau dderbyn yr hyfforddiant gofodol canlynol ar gyfer swyddi penodol, yn ychwanegol at yr hyfforddiant gorfodol, ac mae croeso i bob aelod dderbyn yr hyfforddiant hwn os yw o ddiddordeb iddynt.

Ø  Sgiliau cadeirio (ar gyfer Cadeiryddion ac Is-Gadeiryddion pob Pwyllgor)

Ø  Archwilio (Cadeirio)

Ø  Arweinwyr Grwpiau

Ø  Cabinet (gan gynnwys siarad cyhoeddus a siarad â'r cyfryngau)

Ø  Pwyllgor Cynllunio

Ø  Pwyllgor Trwyddedu

·       (Cynhelir yr hyfforddiant i gadeiryddion ym mis Chwefror bob blwyddyn, fel bod darpar Gadeiryddion newydd yn gymwys i enwebu ar gyfer swyddi Cadeiryddion yn y dyfodol.  Byddai hyfforddiant pellach i Gadeiryddion Archwilio hefyd yn cael ei gynnal ym mis Mai).

 

 

 

15.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Y CYNGOR SIR pdf eicon PDF 175 KB

Ystyried Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Cyngor (copi ynghlwm).

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, AD a Democrataidd Raglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor (dosbarthwyd eisoes).

 

PENDERFYNWYD y dylid cymeradwyo a nodi Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Cyngor.

 

 

DAETH Y CYFARFOD I BEN AM 5.10 P.M.