Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: via Video Conference

Eitemau
Rhif Eitem

1.

PENODI CADEIRYDD pdf eicon PDF 7 MB

Cofnodion:

Gan mai  hwn oedd y cyfarfod cyntaf o Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn dilyn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdodau, gofynnodd y Cydlynydd Craffu (Rhian Evans) am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Cydbwyllgor ar gyfer y tymor 2021/2023,  a dywedodd wrth y Pwyllgor mai tro Cyngor Sir Ddinbych oedd hi i gadeirio’r cyfarfod yn unol â Chylch Gorchwyl y Cyngor.

 

Diolchwyd i’r Cynghorydd Brian Cossey am ei waith caled yn sefydlu ac yn arwain y Pwyllgor yn ystod ei ddeiliadaeth a chroesawyd y Cynghorydd Don Milne i gymryd ei le fel un o gynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Croesawyd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies i’r pwyllgor i gymryd lle’r Cynghorydd Peter Scott fel un o gynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych.

 

Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Graham Timms.  Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. 

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Graham Timms yn gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych dros flynyddoedd bwrdeistrefol 2021/11 a 2022/23.

 

 

 

 

2.

PENODI IS-GADEIRYDD

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Dywedwyd wrth yr aelodau ei bod yn ofynnol yn unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor ethol yr Is-gadeirydd o blith aelodau’r awdurdod lleol nad yw Cadeirydd y Pwyllgor wedi’u hethol o’u plith.  Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Nigel Smith.  Ni dderbyniwyd enwebiadau eraill.

 

Felly:

 

PENDERFYNWYD:  Ethol y Cynghorydd Nigel Smith yn Is-gadeirydd                 Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych dros fynyddoedd bwrdeistrefol 2021/22 a 2022/23.

 

3.

YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Geoff Corry, Harry Saville a David Gwyn Williams.

 

4.

DATGANIADAU O FUDDIANT

Cofnodion:

Dim.

5.

MATERION BRYS

Cofnodion:

Dim.

6.

COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2021 er cymeradwyaeth.

 

Ymddiheurodd y Cynghorydd Rachel Flynn am ei habsenoldeb o ganlyniad i brofedigaeth.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2021 fel cofnod cywir.

 

7.

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ASESIADAU LLES AC YMGYSYLLTU Â'R GYMUNED

Cofnodion:

Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol (Nicola Kneale) adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn rhoi diweddariad ar gynnydd â datblygiad Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych (ALl).  Rhoddwyd diweddariad hefyd ar grant cymorth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gogledd Cymru.

 

Atgoffwyd yr aelodau o natur statudol yr Asesiad Lles, gan gydnabod mai dadansoddiad o sefyllfa yw hwn a fydd yn cynnal gwaith cynllunio'r BGC a’r cyrff cyhoeddus sy'n gweithredu yn y ddwy sir yn y dyfodol.

 

Rhaid cynhyrchu’r Asesiad Lles erbyn mis Mai 2022 er mwyn i’r BGC allu cynhyrchu ei Gynllun Lles erbyn mis Mai 2023. Rhagwelir y bydd y drafft cyntaf ar gael ar gyfer cynnal ymgynghoriad â phreswylwyr erbyn mis Hydref 2021.

 

Roedd dwy brif ffrwd waith yn rhan o gynhyrchiad yr Asesiad Lles - dadansoddiad o sefyllfaoedd seiliedig ar ymchwilio i ddata a gwaith ymgysylltu - yn cynnwys y cyhoedd, cynghorwyr a chyflogwyr. Ymgymerodd Conwy a Sir Ddinbych â'u prosesau ymgysylltu eu hunain,

 

Amlygwyd yr angen i ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig. Grant cymorth BGC Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru dros y cyfnod 2021/22 oedd £87,000. Bydd yn cael ei ddefnyddio i fynd i’r afael â bylchau mewn ymchwil, gan weithio gyda sefydliadau sy’n gweithio â phobl â nodweddion gwarchodedig er mwyn deall beth yw eu dyheadau yn y gymuned yn y dyfodol, yr heriau y maent yn eu hwynebu a’r camau adferol y gellid eu cymryd. Y gobaith yw y bydd yr ymchwil wedi’i gwblhau erbyn mis Medi 2021.

 

Gan ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol:

 

·         Nad ydynt yn rhagweld newidiadau mawr i’r CLl blaenorol, fodd bynnag bydd y pandemig Covid-19 a Brexit wedi effeithio ar rai meysydd e.e. pobl ifanc, gwaith a nodau economaidd.

·         Mae Prifysgol Glyndŵr yn bartner allweddol sy’n adolygu ac yn rhoi cyngor ar effaith y pandemig ar gymunedau yn aml.

·         Mae ymgysylltiad â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn dechrau gyda chlercod yn cael eu hysbysu ynghylch 'Sgwrs y Sir' gyda chais iddynt annog preswylwyr i gymryd rhan.

·         Ymgynghorwyd â gwasanaethau tai er mwyn iddynt gysylltu â phobl sydd dan anfantais economaidd i gael adborth.

·         Roedd yn annhebygol y byddai data cyfrifiad 2021 yn cael ei ryddhau mewn pryd i'w gynnwys yn nrafft cyntaf yr ALl.

·         Mae ymchwil ar y Gymraeg a diwylliant Cymru yn digwydd yn bennaf ar lefel genedlaethol ond bydd y BGC hefyd yn cael gafael ar ddata lleol ble bynnag bosib.

·         Pwrpas yr ymchwil yw adnabod pwysau ac mae tryloywder yn rhywbeth a fydd o fudd i bob corff cyhoeddus; a

·         Caiff y data a gesglir ei ddehongli gan weithwyr proffesiynol yn y gwahanol sefydliadau a gynrychiolir ar y BGC.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol am yr adroddiad cynhwysfawr gan gydnabod pwysigrwydd yr asesiad lles a fydd yn cynnal gwaith cynllunio strategol cyrff cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad a gafwyd ar yr Asesiad Lles ac Ymgysylltiad Cymunedol a chytuno y bydd yr Asesiad Lles drafft yn cael ei roi gerbron y Cydbwyllgor er ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2020/2021

Cofnodion:

Rhoddodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) drosolwg byr o’r adroddiad blynyddol drafft (a ddosbarthwyd eisoes).  

 

Mae’r pandemig Covid-19 wedi dominyddu’r flwyddyn hon gan olygu y bu’n rhaid cynnal cyfarfodydd yn rhithiol a’u hailagor i’r cyhoedd unwaith yr oedd cyfleusterau cyfieithu ar gael.

 

Cafodd y Pwyllgor sicrwydd er y bu’n rhaid canslo rhai o gyfarfodydd y BGC, ei bod er hynny wedi bod yn flwyddyn gydweithredol,  gan ymateb i'r pandemig drwy gylch gorchwyl Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd yn unol â Deddf Argyfyngau Sifil 2004. Roedd y camau cydweithredol a gymerwyd wedi’u rhestr ar dudalen 36 yr adroddiad.

 

Pan ail-ddechreuodd cyfarfodydd y BGC adolygwyd y blaenoriaethau er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol.

 

1.    Pobl – Cefnogi Lles Meddyliol Da

Roedd gwaith wedi’i stopio’n rhannol oherwydd pwysau'r pandemig ar y corff arweiniol - Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddwyd sicrwydd bod gwaith ar y gweill mewn ardaloedd gwledig o fewn y gymuned ffermio.

 

Sefydlwyd is-grŵp er mwyn ailafael yn y thema iechyd meddwl a bydd yn dechrau ar ei waith unwaith y derbynnir gwybodaeth ar yr aelod arweiniol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

2.    Cymunedau – Cefnogi Ymrymusiad Cymunedol

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi gwneud cynnydd da gyda'r rhaglen Ymwybyddiaeth o Ddementia. Mae cyfarfodydd rhwydwaith wedi mynd o nerth i nerth ar-lein.

Mae cysylltedd digidol yn cael ei asesu’n rhanbarthol drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae’r cynnydd mewn gweithio o gartref ac addysgu yn y cartref wedi amlygu ei bwysigrwydd.

3.    Lle - Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol

·         Lansiwyd y rhaglen Addewid Gwyrdd i’r Gymuned ym mis Ionawr 2020 gyda 4 o addewidion cymunedol wedi eu cyflwyno i ddechrau. Roedd y rhaglen wedi’i hoedi drwy gydol y cyfnodau clo ond mae bellach wedi ailgychwyn ac wedi derbyn ei 5ed addewid.

·         Datblygu nodau cyffredin ar gyfer sefydliadau BGC i fynd i'r afael â lleihau carbon.

·         Adeiladu ar ffaith fod cymunedau wedi  ail-gysylltu â mannau gwyrdd a glas yn ystod y cyfnod clo.

·         Hyrwyddo dau brosiect lles – teithio cynaliadwy a mynediad  at fannau gwyrdd – wedi’i noddi gan grant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru.

Meysydd eraill o waith sydd wedi’u cynnwys:

·         Adolygu risgiau allweddol

·      Sicrhau bod gwefan BGC Conwy a Sir Ddinbych yn awr yn hygyrch i bobl â nam synhwyraidd.

·         Rhoi sylw i argymhellion Archwilio Cymru o ran adolygu BGC, a

·      Cyfrannu at adolygiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Bydd y BGC yn parhau i gydweithio ar draws Gogledd Cymru ac yn arbennig gyda Phrifysgol Glyndŵr a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Wrecsam i wneud y mwyaf o waith partneriaeth, lleihau dyblygu, ennyn ymgysylltiad cymunedau a rhoi cyfrifoldebau'r ALl ar waith.

Anogodd aelodau swyddogion y BGC i gysylltu â chymunedau a sefydliadau gwirfoddol gyda’r bwriad o gynyddu nifer yr Addewidion Gwyrdd ar draws ardal y BGC.

PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych 2020/2021

 

 

 

 

 

 

9a

Y PWYLLGOR CYFRIFON CYHOEDDUS - DARPARU AR GYFER CENEDLAETHAU'R DYFODOL - Y STORI HYD YMA

Cofnodion:

Cyflwynodd Nicola Kneale yr adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) gan ddweud bod llawer o’r argymhellion yn yr adroddiad yn ymwneud â’r gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei rhoi i hwyluso gweithrediad ac effeithiolrwydd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd yr adroddiad wedi’i gynhyrchu ym mis Mawrth 2021 - cyn etholiadau Llywodraeth Cymru. Roedd ymrwymiad felly i adolygu’r argymhellion yn yr adroddiad o fewn 6 mis o sefydliad y weinyddiaeth newydd.

 

Mewn ymateb dywedodd aelodau’r Pwyllgor:

·         Eu bod yn siomedig â diffyg ymateb sefydliadau addysgol yr ymgynghorwyd â hwy a hefyd â nifer isel y myfyrwyr yn y sefydliadau hynny a oedd yn ymwybodol o fodolaeth y Ddeddf a'i phwrpas.

·         Bod y genhedlaeth iau yn fwy tueddol o ddefnyddio apiau ar eu dyfeisiadau TG, ac o bosibl dyma’r ffordd ymlaen gydag arolygon yn y dyfodol.

·         Mae pobl yn dueddol o ddechrau derbyn paramedrau ansafonol yn eu bywydau gan gredu mai dyma’r ‘norm’, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd.

 

PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Darparu ar gyfer Cenedlaethau’r DyfodolStori Hyd Yma  y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

 

 

 

9b

PAPUR TRAFOD: CHWE THEMA A FYDD YN HELPU I WNEUD CRAFFU'N ADDAS AR GYFER Y DYFODOL

Cofnodion:

Atgoffodd Fran Lewis y Pwyllgor bod cynllun gweithredu drafft yn ymateb i adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru (Archwilio Cymru bellach) o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i roi gerbron y Pwyllgor eisoes. Roedd y cynllun gweithredu’n gwneud dau argymhelliad yn benodol ar gyfer y Cydbwyllgor Craffu:

 

1.    Adolygu’r chwe thema sy’n gwneud craffu’n addas ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu (tud 77 yn rhestr camau gweithredu posibl) ac

2.    Ystyried cyfethol aelodau heb fod yn etholedig i’r CBTCh.

 

Gwnaeth y Pwyllgor gais bod gweithdy anffurfiol yn cael ei gynnal i drafod y camau gweithredu a bod yr eitem yn cael ei thrafod eto yng nghyfarfod nesaf Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 12 Tachwedd 2021.

 

PENDERFYNWYD:

 

       I.        Nodi’r Papur Trafod: Chwe Thema i Helpu i Wneud Craffu yn Addas ar Gyfer y Dyfodol

     II.         Cynnal gweithdy anffurfiol i drafod y camau gweithredu cyn cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r  Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a

    III.        Rhoi’r mater gerbron Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eto ar 12 Tachwedd 2021

 

 

10.

RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd raglen gwaith i’r dyfodol drafft y Pwyllgor ar gyfer 2021/22 (wedi’i ddosbarthu eisoes). Cytunwyd fod yn rhaid cynnwys yr eitemau canlynol ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

1.    Diweddariad ar yr Asesiad Lles ac Ymgysylltiad Cymunedol.

2.    BIPBC - Cyfraniad at waith y BGC a buddion y BGC iddo fel partner.

3.    Chwe Thema a fydd yn helpu i wneud craffu'n addas ar gyfer y dyfodol.

 

PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar gyfer 2021/22

 

11.

CADARNHAU'R AMSERLEN GYFARFODYDD

Cofnodion:

12 Tachwedd 2021

11 Mawrth 2022

21 Hydref 2022

 

Gofynnodd y Cadeirydd bod yr holl ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd pwyllgor y BGC yn cael eu dosbarthu i aelodau’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12:00am