Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Rachel Flynn, Peter Scott a David Williams. 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 315 KB

Dyali’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw un yn datgan cysylltiad personol nac un oedd yn rhagfarnu. 

 

Cyn gofyn am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2019/20 a 2020/21, yn unol â chylch gwaith y Pwyllgor, roedd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Sir Ddinbych yn gofyn am farn y Pwyllgor ar sut oeddent yn dymuno ethol deilwyr swydd drwy godi llaw neu drwy bleidlais gyfrinachol. 

 

Penderfynwyd: - bod deilwyr y ddwy swydd yn cael eu hethol drwy bleidlais codi llaw.

 

3.

PENODI CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd dinesig 2019/20 a 2020/21

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Cafodd y Cynghorydd Brian Cossey ei enwebu a'i eilio.    Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill.    Felly:

 

Penderfynwyd: - bod y Cynghorydd Brian Cossey yn cael ei ethol yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Conwy a Sir Ddinbych y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20 a 2020/21.

 

Diolchodd y Cynghorydd Cossey i bawb am eu cefnogaeth ac am ymddiried ynddo. 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

I ethol Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd dinesig 2019/20 a 2020/21

 

Cofnodion:

Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu.  Hysbyswyd yr Aelodau yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor y dylai’r Is-Gadeirydd gael ei benodi ymhlith aelodau’r Pwyllgor sy’n cynrychioli awdurdod lleol nad oedd yn Gadeirydd y Pwyllgor.    Cafodd y Cynghorydd Graham Timms ei enwebu a'i eilio.    Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill:

 

Penderfynwyd: - bod y Cynghorydd Graham Timms yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20 a 2020/21.

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd hysbysiad am unrhyw faterion brys. 

 

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-19 pdf eicon PDF 359 KB

I ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2018/19 (copi yn atodedig) gan ddarparu adborth a/neu argymhellion i’r Bwrdd fel bo’n briodol

 

2.10pm – 3.10pm

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Hysbysodd Iwan Davies, Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yr aelodau o fis Mehefin 2019, y byddai Sian Williams, Pennaeth Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a byddai Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus. 

 

Cyflwynodd Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yr adroddiad a chyflwyniad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2018-19 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’r aelodau.  Eglurodd fod gan ardal bob awdurdod lleol rwymedigaeth gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Gan fod Conwy a Sir Ddinbych wedi sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd yn flaenorol, rhagflaenydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cytunwyd i barhau’r bartneriaeth hon drwy sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd.   Roedd aelodaeth y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys y ddau Gyngor, yr Heddlu, Comisiynydd Heddlu a Throseddu, Gwasanaeth Tân ac Achub, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru, Iechyd y Cyhoedd Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a'r Cynghorau Gwasanaethau Gwirfoddol yn y ddwy sir (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Dinbych) ac ati.  Byddai sefydliadau cyhoeddus eraill yn cael eu gwahodd i gyfrannu at waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus os oedd yn cael ei ystyried yn briodol.  Rôl y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus oedd gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ardaloedd y siroedd drwy weithio i gyflawni’r saith nod lles a amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Hysbyswyd yr Aelodau am y broses a ddilynir i lunio Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.    Fel rhan o’r broses hon, cysylltwyd â’r cyhoedd yn yr haf 2016 yn defnyddio dull Sgyrsiau’r Sir.    Diben hyn oedd cael dealltwriaeth o’r hyn oedd yn gweithio’n dda yn yr ardaloedd gwahanol a beth oedd angen canolbwyntio arno er budd cenedlaethau’r dyfodol.  Rhwng yr haf 2016 ac Ebrill 2017, cafodd yr Asesiad Lles ei lunio.    

 

Penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus na ddylai ddyblygu gwaith a wnaed neu a wneir gan sefydliad arall, felly roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi nodi 6 thema y gellir eu hadolygu.  Roedd y rhain yn cynnwys:

 

1. Mil Diwrnod Cyntaf Bywyd

2. Hybu canolfannau cymunedol

3. Hybu lles meddyliol ar gyfer pob oed

4. Hybu gwytnwch mewn pobl hŷn

5. Hybu gwytnwch amgylcheddol

6. Magu pobl ifanc wydn ac uchelgeisiol

 

Drwy’r broses Sgyrsiau’r Sir, roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi ymgynghori â’r cyhoedd ar y themâu hyn ac yn seiliedig ar adborth a dderbyniwyd penderfynwyd rhesymoli’r nifer o themâu blaenoriaeth o 6 i 3.  Gwnaed hyn drwy asesu’r effaith, goblygiadau hirdymor ac archwilio a oedd gwaith eisoes wedi’i wneud mewn perthynas â’r rhain.    Yn dilyn y broses hon roedd y Cynllun Llesiant ei hun wedi’i gymeradwyo gan bob partner statudol cyn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ebrill 2018.  Roedd y Cynllun terfynol yn nodi cyfanswm o dair thema y dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddelio â nhw, roedd y rhain yn cynnwys:

 

1. Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed

2. Cymuned - Rhoi grym i gymunedau

3. Lle - Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol

 

Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi ymrwymo i 4 egwyddor ychwanegol sy’n cefnogi’r 3 thema blaenoriaethau:

 

a.  Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a thrin pawb yn gyfartal

b.  Cefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg

c.  Cefnogi pobl er mwyn iddynt gael gafael ar lety iach, diogel a phriodol

ch.Osgoi dyblygu gwaith.

 

Roedd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro ar y dechrau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno cysylltu â’r prosiect o ongl wahanol, yn hytrach na chael arbenigwr yn eu meysydd perthnasol ar gyflawni’r blaenoriaethau byddent yn mabwysiadu dull gwahanol ar gyfer  ...  view the full Cofnodion text for item 6.

7.

RHAGLEN WAITH CRAFFU pdf eicon PDF 843 KB

I ystyried yr adroddiad (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2019/20

 

3.10pm – 3.30pm

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Gwasanaethau Pwyllgorau a Chraffu Conwy rhaglen gwaith i’r dyfodol drafft y Pwyllgor ar gyfer 2019/20 (dosbarthwyd yn flaenorol).  Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cylch gorchwyl y Pwyllgor yn nodi y dylai gyfarfod o leiaf dwywaith yn ystod blwyddyn y Cyngor.  Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn teimlo y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor gwrdd yn chwarterol, gynted â phosibl yn dilyn cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.    Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cyfarfod nesaf y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wed’i drefnu ar gyfer 5 Gorffennaf 2019.  Cytunwyd i’r eitemau canlynol gael eu cynnwys ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

1. Diweddariad ar ddatblygiad blaenoriaethau Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus

    (cytunwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf)

2. Effaith gadarnhaol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gonwy a Sir Ddinbych

    hyd yma (cytunwyd ar gyfer y cyfarfod nesaf).

3. Cyfraniad Partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i waith y Bwrdd

    Gwasanaethau Cyhoeddus – cytunwyd ar gyfer cyfarfod diweddarach

4. Cynllun Cyfathrebu/Strategaeth Ymgysylltu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus –

    cytunwyd ar gyfer cyfarfod diweddarach 

5. Cofrestr Risg – cytunwyd ar gyfer cyfarfod diweddarach

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ychwanegu Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru at rhaglen gwaith i’r dyfodol diwedd 2019/dechrau 2020.

 

Penderfynwyd: - yn amodol ar y newidiadau uchod i gymeradwyo rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer 2019/20

 

 

Daeth y cyfarfod i ben am 3.30pm