Agenda and draft minutes
Lleoliad: via Video Conference
Rhif | Eitem |
---|---|
Cofnodion: Gan mai hwn oedd y
cyfarfod cyntaf o Gydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych yn dilyn Cyfarfodydd Cyffredinol Blynyddol yr Awdurdodau,
gofynnodd y Cydlynydd Craffu (Rhian Evans) am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y
Cydbwyllgor ar gyfer y tymor 2021/2023,
a dywedodd wrth y Pwyllgor mai tro Cyngor Sir Ddinbych oedd hi i
gadeirio’r cyfarfod yn unol â Chylch Gorchwyl y Cyngor. Diolchwyd i’r Cynghorydd Brian Cossey am ei waith caled
yn sefydlu ac yn arwain y Pwyllgor yn ystod ei ddeiliadaeth a chroesawyd y
Cynghorydd Don Milne i gymryd ei le fel un o gynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref
Sirol Conwy. Croesawyd y Cynghorydd Meirick Lloyd-Davies i’r pwyllgor i gymryd
lle’r Cynghorydd Peter Scott fel un o gynrychiolwyr Cyngor Sir Ddinbych. Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Graham
Timms. Ni chafwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Graham Timms yn gadeirydd
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych dros flynyddoedd bwrdeistrefol 2021/11 a 2022/23.
|
|
PENODI IS-GADEIRYDD Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Is-gadeirydd
y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Dywedwyd wrth yr
aelodau ei bod yn ofynnol yn
unol â Chylch Gorchwyl y Pwyllgor ethol yr Is-gadeirydd
o blith aelodau’r awdurdod lleol nad yw Cadeirydd
y Pwyllgor wedi’u hethol o’u plith. Enwebwyd ac eiliwyd y Cynghorydd Nigel
Smith. Ni dderbyniwyd
enwebiadau eraill. Felly: PENDERFYNWYD: Ethol y Cynghorydd
Nigel Smith yn Is-gadeirydd Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych dros fynyddoedd bwrdeistrefol 2021/22 a 2022/23. |
|
YMDDIHEURIADAU AM ABSENOLDEB Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Geoff Corry,
Harry Saville a David Gwyn Williams. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT Cofnodion: Dim. |
|
MATERION BRYS Cofnodion: Dim. |
|
COFNODION Y CYFARFOD BLAENOROL Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2021 er cymeradwyaeth. Ymddiheurodd y Cynghorydd
Rachel Flynn am ei habsenoldeb
o ganlyniad i brofedigaeth. PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2021 fel cofnod cywir. |
|
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM ASESIADAU LLES AC YMGYSYLLTU Â'R GYMUNED Cofnodion: Cyflwynodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol (Nicola Kneale)
adroddiad (a ddosbarthwyd eisoes) yn rhoi
diweddariad ar gynnydd â datblygiad Asesiad Lles Conwy a Sir Ddinbych (ALl). Rhoddwyd diweddariad hefyd ar grant cymorth Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC) Gogledd Cymru. Atgoffwyd yr aelodau o natur statudol yr Asesiad
Lles, gan gydnabod mai dadansoddiad
o sefyllfa yw hwn a fydd yn
cynnal gwaith cynllunio'r BGC a’r cyrff cyhoeddus sy'n gweithredu yn y ddwy sir yn
y dyfodol. Rhaid
cynhyrchu’r Asesiad Lles erbyn mis
Mai 2022 er mwyn i’r BGC allu cynhyrchu
ei Gynllun Lles erbyn mis
Mai 2023. Rhagwelir y bydd
y drafft cyntaf ar gael ar
gyfer cynnal ymgynghoriad â phreswylwyr erbyn mis Hydref
2021. Roedd dwy brif ffrwd waith yn
rhan o gynhyrchiad yr Asesiad Lles
- dadansoddiad o sefyllfaoedd
seiliedig ar ymchwilio i ddata a gwaith ymgysylltu - yn cynnwys y cyhoedd,
cynghorwyr a chyflogwyr.
Ymgymerodd Conwy a Sir Ddinbych
â'u prosesau ymgysylltu eu hunain, Amlygwyd
yr angen i ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig. Grant cymorth BGC Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru dros y cyfnod 2021/22 oedd £87,000. Bydd yn cael ei
ddefnyddio i fynd i’r afael â bylchau
mewn ymchwil, gan weithio gyda
sefydliadau sy’n gweithio â phobl â nodweddion gwarchodedig er mwyn deall
beth yw eu
dyheadau yn y gymuned yn y dyfodol,
yr heriau y maent yn eu
hwynebu a’r camau adferol y gellid eu cymryd.
Y gobaith yw y bydd yr ymchwil
wedi’i gwblhau erbyn mis Medi
2021. Gan
ymateb i gwestiynau'r Aelodau, dywedodd Rheolwr y Tîm Cynllunio Strategol: ·
Nad ydynt yn rhagweld
newidiadau mawr i’r CLl blaenorol,
fodd bynnag bydd y pandemig Covid-19 a Brexit wedi effeithio
ar rai meysydd e.e. pobl ifanc,
gwaith a nodau economaidd. ·
Mae Prifysgol Glyndŵr yn bartner allweddol sy’n adolygu ac yn rhoi cyngor
ar effaith y pandemig ar gymunedau
yn aml. ·
Mae ymgysylltiad â Chynghorau Dinas, Tref a Chymuned yn dechrau gyda
chlercod yn cael eu hysbysu
ynghylch 'Sgwrs y Sir' gyda chais iddynt
annog preswylwyr i gymryd rhan. ·
Ymgynghorwyd â gwasanaethau tai er mwyn iddynt gysylltu
â phobl sydd dan anfantais economaidd
i gael adborth. ·
Roedd yn annhebygol y byddai data cyfrifiad 2021 yn cael ei
ryddhau mewn pryd i'w gynnwys
yn nrafft cyntaf yr ALl. ·
Mae ymchwil ar y Gymraeg a diwylliant Cymru yn digwydd yn bennaf
ar lefel genedlaethol ond bydd y BGC hefyd yn cael gafael
ar ddata lleol ble bynnag
bosib. ·
Pwrpas yr ymchwil yw
adnabod pwysau ac mae tryloywder yn rhywbeth a fydd
o fudd i bob corff cyhoeddus; a ·
Caiff y data a gesglir ei ddehongli
gan weithwyr proffesiynol yn y gwahanol sefydliadau a gynrychiolir ar y BGC. Diolchodd
y Cadeirydd i Reolwr y Tîm Cynllunio Strategol
am yr adroddiad cynhwysfawr gan gydnabod pwysigrwydd yr asesiad lles
a fydd yn cynnal gwaith cynllunio
strategol cyrff cyhoeddus dros yr ychydig flynyddoedd
nesaf. PENDERFYNWYD nodi’r diweddariad a gafwyd ar yr Asesiad Lles ac Ymgysylltiad Cymunedol a chytuno y bydd yr Asesiad Lles drafft yn cael ei roi gerbron y Cydbwyllgor er ymgynghoriad yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2020/2021 Cofnodion: Rhoddodd Fran Lewis, Rheolwr Perfformiad a Gwelliant Corfforaethol (CBSC) drosolwg byr o’r adroddiad blynyddol drafft (a ddosbarthwyd eisoes). Mae’r pandemig Covid-19 wedi dominyddu’r flwyddyn hon gan olygu y bu’n rhaid cynnal cyfarfodydd yn rhithiol a’u hailagor i’r cyhoedd unwaith yr oedd cyfleusterau cyfieithu ar gael. Cafodd y Pwyllgor sicrwydd er y bu’n rhaid canslo rhai o gyfarfodydd y BGC, ei bod er hynny wedi bod yn flwyddyn gydweithredol, gan ymateb i'r pandemig drwy gylch gorchwyl Fforwm Lleol Cymru Gydnerth y Gogledd yn unol â Deddf Argyfyngau Sifil 2004. Roedd y camau cydweithredol a gymerwyd wedi’u rhestr ar dudalen 36 yr adroddiad. Pan ail-ddechreuodd cyfarfodydd y BGC adolygwyd y blaenoriaethau er mwyn sicrhau eu bod yn dal yn berthnasol. 1. Pobl – Cefnogi Lles Meddyliol Da Roedd gwaith wedi’i stopio’n rhannol oherwydd pwysau'r pandemig ar y corff arweiniol - Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rhoddwyd sicrwydd bod gwaith ar y gweill mewn ardaloedd gwledig o fewn y gymuned ffermio. Sefydlwyd is-grŵp er mwyn ailafael yn y thema iechyd meddwl a bydd yn dechrau ar ei waith unwaith y derbynnir gwybodaeth ar yr aelod arweiniol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. 2. Cymunedau – Cefnogi Ymrymusiad Cymunedol Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi gwneud cynnydd da gyda'r rhaglen Ymwybyddiaeth o Ddementia. Mae cyfarfodydd rhwydwaith wedi mynd o nerth i nerth ar-lein. Mae cysylltedd digidol yn cael ei asesu’n rhanbarthol drwy Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Mae’r cynnydd mewn gweithio o gartref ac addysgu yn y cartref wedi amlygu ei bwysigrwydd. 3. Lle - Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol · Lansiwyd y rhaglen Addewid Gwyrdd i’r Gymuned ym mis Ionawr 2020 gyda 4 o addewidion cymunedol wedi eu cyflwyno i ddechrau. Roedd y rhaglen wedi’i hoedi drwy gydol y cyfnodau clo ond mae bellach wedi ailgychwyn ac wedi derbyn ei 5ed addewid. · Datblygu nodau cyffredin ar gyfer sefydliadau BGC i fynd i'r afael â lleihau carbon. · Adeiladu ar ffaith fod cymunedau wedi ail-gysylltu â mannau gwyrdd a glas yn ystod y cyfnod clo. · Hyrwyddo dau brosiect lles – teithio cynaliadwy a mynediad at fannau gwyrdd – wedi’i noddi gan grant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru. Meysydd eraill o waith sydd wedi’u cynnwys: · Adolygu risgiau allweddol · Sicrhau bod gwefan BGC Conwy a Sir Ddinbych yn awr yn hygyrch i bobl â nam synhwyraidd. · Rhoi sylw i argymhellion Archwilio Cymru o ran adolygu BGC, a · Cyfrannu at adolygiad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Bydd y BGC yn parhau i gydweithio ar draws Gogledd Cymru ac yn arbennig gyda Phrifysgol Glyndŵr a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Wrecsam i wneud y mwyaf o waith partneriaeth, lleihau dyblygu, ennyn ymgysylltiad cymunedau a rhoi cyfrifoldebau'r ALl ar waith. Anogodd aelodau swyddogion y BGC i gysylltu â chymunedau a sefydliadau gwirfoddol gyda’r bwriad o gynyddu nifer yr Addewidion Gwyrdd ar draws ardal y BGC. PENDERFYNWYD nodi Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych 2020/2021 |
|
Y PWYLLGOR CYFRIFON CYHOEDDUS - DARPARU AR GYFER CENEDLAETHAU'R DYFODOL - Y STORI HYD YMA Cofnodion: Cyflwynodd
Nicola Kneale yr adroddiad
(a ddosbarthwyd eisoes) gan ddweud bod llawer o’r argymhellion
yn yr adroddiad
yn ymwneud â’r gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru a Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol ei rhoi i hwyluso
gweithrediad ac effeithiolrwydd
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)
2015. Roedd
yr adroddiad wedi’i gynhyrchu ym mis Mawrth
2021 - cyn etholiadau Llywodraeth Cymru. Roedd ymrwymiad felly i adolygu’r argymhellion yn yr adroddiad o fewn 6 mis o sefydliad
y weinyddiaeth newydd. Mewn
ymateb dywedodd aelodau’r Pwyllgor: ·
Eu bod yn siomedig â diffyg
ymateb sefydliadau addysgol yr ymgynghorwyd
â hwy a hefyd â nifer isel y myfyrwyr
yn y sefydliadau hynny a oedd yn
ymwybodol o fodolaeth y Ddeddf a'i phwrpas. ·
Bod y genhedlaeth iau yn fwy
tueddol o ddefnyddio apiau ar eu
dyfeisiadau TG, ac o bosibl
dyma’r ffordd ymlaen gydag arolygon
yn y dyfodol. ·
Mae pobl yn dueddol o ddechrau
derbyn paramedrau ansafonol yn eu
bywydau gan gredu mai dyma’r
‘norm’, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd. PENDERFYNWYD derbyn adroddiad Darparu ar gyfer Cenedlaethau’r Dyfodol – Stori Hyd Yma y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus. |
|
PAPUR TRAFOD: CHWE THEMA A FYDD YN HELPU I WNEUD CRAFFU'N ADDAS AR GYFER Y DYFODOL Cofnodion: Atgoffodd
Fran Lewis y Pwyllgor bod cynllun
gweithredu drafft yn ymateb i adolygiad
Swyddfa Archwilio Cymru (Archwilio Cymru bellach) o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus wedi’i roi gerbron y Pwyllgor
eisoes. Roedd y cynllun gweithredu’n gwneud dau argymhelliad
yn benodol ar gyfer y Cydbwyllgor
Craffu: 1.
Adolygu’r chwe thema sy’n
gwneud craffu’n addas ar gyfer
y dyfodol mewn perthynas â’r Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu (tud 77 yn rhestr
camau gweithredu posibl) ac 2. Ystyried cyfethol aelodau heb fod
yn etholedig i’r CBTCh. Gwnaeth y Pwyllgor gais bod
gweithdy anffurfiol yn cael ei
gynnal i drafod y camau gweithredu a bod yr eitem yn
cael ei thrafod
eto yng nghyfarfod
nesaf Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar 12 Tachwedd 2021. PENDERFYNWYD: I.
Nodi’r Papur Trafod: Chwe
Thema i Helpu i Wneud Craffu yn
Addas ar Gyfer y Dyfodol II.
Cynnal gweithdy anffurfiol i drafod y camau gweithredu cyn cyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, a III.
Rhoi’r
mater gerbron Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus eto ar
12 Tachwedd 2021 |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL Cofnodion: Cyflwynodd y Cadeirydd raglen gwaith i’r dyfodol drafft y Pwyllgor ar gyfer 2021/22 (wedi’i ddosbarthu eisoes). Cytunwyd fod yn rhaid cynnwys yr eitemau canlynol ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 1. Diweddariad ar yr Asesiad Lles ac Ymgysylltiad Cymunedol. 2. BIPBC - Cyfraniad at waith y BGC a buddion y BGC iddo fel partner. 3. Chwe Thema a fydd yn helpu i wneud craffu'n addas ar gyfer y dyfodol. PENDERFYNWYD, yn amodol ar yr uchod,
y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol ar
gyfer 2021/22 |
|
CADARNHAU'R AMSERLEN GYFARFODYDD Cofnodion: 12 Tachwedd
2021 11 Mawrth
2022 21 Hydref 2022 Gofynnodd
y Cadeirydd bod yr holl ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd
pwyllgor y BGC yn cael eu dosbarthu
i aelodau’r Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu. Daeth y cyfarfod i ben am 12:00am |