Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Rhuthun a thrwy gyfrwng Fideo Gynhadledd
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Joan
Butterfield, Cheryl Carlisle, Alan Hughes, Kay Redhead, Austin Roberts a
Gareth Sandilands. |
|
DATGANIADAU O FUDDIANT PDF 230 KB Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu ragfarnol
mewn unrhyw fusnes a nodwyd i'w ystyried yn
y cyfarfod hwn. Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad personol sy’n rhagfarnu. |
|
PENODI CADEIRYDD Ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/23. Cofnodion: Yn unol â chylch gorchwyl Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych, ceisiwyd enwebiad am
Gadeirydd ar gyfer blwyddyn bwrdeistrefol 2022/23 o blith cynrychiolwyr Cyngor
Sir Ddinbych ar y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Cafodd Gareth Sandilands ei gynnig a’i
eilio. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau
eraill. Felly: PENDERFYNWYD yn unfrydol
ethol y Cynghorydd Gareth Sandilands yn Gadeirydd Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych yn ystod blynyddoedd
bwrdeistrefol 2022/23. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD Ethol Is-Gadeirydd
y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn ddinesig 2022/23. Cofnodion: Hefyd, ac yn unol â chylch gorchwyl Cydbwyllgor Trosolwg
a Chraffu, ceisiwyd enwebiad am Is-gadeirydd ar gyfer blynyddoedd bwrdeistrefol
2022/23 o blith cynrychiolwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu. Cafodd y Cynghorydd
Cheryl Carlisle ei chynnig a’i heilio. Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill. Felly: PENDERFYNWYD yn unfrydol ethol y
Cynghorydd Cheryl Carlisle yn Is-gadeirydd
Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir
Ddinbych yn ystod blynyddoedd bwrdeistrefol 2022/23. Gan fod y Cadeirydd ac Is-gadeirydd wedi ymddiheuro na
fyddent yn y cyfarfod, gofynnwyd i’r Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu enwebu
aelod etholedig o un o’r ddau awdurdod lleol i fod yn Gadeirydd yn y
cyfarfod. Enwebwyd ac eiliwyd y
Cynghorydd John Roberts. Ni chafwyd
enwebiad arall, felly: Penderfynodd: y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu i benodi’r Cynghorydd John Roberts yn Gadeirydd y cyfarfod yn absenoldeb y Cadeirydd ac Is-gadeirydd. |
|
MATERION BRYS Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn
y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel mater o frys yn unol
ag Adran 100B(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol, 1972. Cofnodion: Nid oedd y swyddogion yn ymwybodol o faterion brys
cyn y cyfarfod. |
|
COFNODION Y CYFARFOD DIWETHAF PDF 315 KB I dderbyn cofnodion
cyfarfod y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar Gyd Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus
Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd
ar 11 Chwefror 2022 (copi’n amgaeëdig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 11
Chwefror 2022 er cymeradwyaeth. Felly: Penderfynodd: y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu gymeradwyo cofnodion cyfarfod Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych a gynhaliwyd ar 11 Tachwedd
2022 fel cofnod cywir. Ni chodwyd unrhyw fater mewn perthynas â chynnwys y
cofnodion. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2021/22 PDF 419 KB Ystyried Adroddiad
Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a
Sir Ddinbych ar gyfer 2021/22 (copi’n amgaeëdig) a chyflwyno sylwadau a/neu argymhellion i’r Bwrdd ar ei
gynnwys. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gwella Perfformiad a Gwelliant
Corfforaethol (CBSC) Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a
Sir Ddinbych 2021/22 (dosbarthwyd ymlaen llaw). Rhoddodd yr adroddiad drosolwg
o’r hyn roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi'i gyflawni yn ystod y
flwyddyn ariannol flaenorol, gan adlewyrchu cydymffurfiaeth â Deddf Llesiant
Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn unol â 5 ffordd o weithio. Dyma oedd yr adroddiad blynyddol terfynol ar gyfer Cynllun Lles Conwy a Sir
Ddinbych presennol. Prif Gyflawniadau yn 2021/22 Mae’r ffocws wedi bod ar gefnogi busnesau a chymunedau drwy amseroedd heriol pandemig y coronafeirws, gan barhau i gydweithio gydag aelodau Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Prif gyflawniad y flwyddyn flaenorol oedd adolygu a diweddaru’r asesiad lleol o les ar gyfer y rhanbarth i baratoi ar gyfer Cynllun Lles 2023/2028. Fe ymgysylltwyd â chymunedau ac fe nodwyd y prif faterion a blaenoriaethau a sut y gallai’r Bwrdd helpu i ddylanwadu a darparu rôl arweinyddiaeth i helpu i fynd i’r afael â’r materion hynny. Blaenoriaethau 1.
Lles Meddyliol Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych wedi trefnu a darparu hyfforddiant ar godi ymwybyddiaeth o ran dementia i helpu cymunedau a grwpiau i gefnogi pobl gyda dementia. 2. Ymrymuso'r Gymuned Mae cysylltedd digidol wedi helpu i gefnogi cymunedau i fod yn fwy gwydn yn ystod y pandemig, o gael gafael ar wasanaethau ar-lein i fwy o ddysgu a gweithio o gartref. Trafodwyd cynlluniau cysylltedd, yn cynnwys: · Cysylltu’r % Olaf Un - prosiect o dan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru sydd yn targedu ardaloedd sydd heb gysylltiad band eang cyflym iawn. · Prosiect LoRaWan - defnyddio technoleg i fonitro agweddau amrywiol o newidiadau amgylcheddau adeiledig a naturiol, yn cynnwys lefelau afonydd er mwyn cynorthwyo rhybuddion cynnar os bydd perygl o lifogydd. · Partneriaethau Ffeibr Cymunedol - sefydlwyd y rhain gan Openreach i gefnogi darparu Band Eang mewn cymunedau nad ydynt ar gynllun cyflwyno. Mae’r Bwrdd wedi cymryd rôl dylanwadu ac arweiniad yn y meysydd hynny i wella cysylltedd digidol. 3. Cadernid Amgylcheddol Cynllun Addewid Gwyrdd Cymunedol - addewidion y rhoddodd grwpiau cymunedol i leihau eu heffaith amgylcheddol negyddol - cafodd ei ail-lansio yn haf 2021 a arweiniodd at 3 argymhelliad pellach. Roedd yna ymrwymiad i annog pobl i wneud yr addewid i wneud gwahaniaeth i newid hinsawdd. Mae fframwaith amgylcheddol sefydliadol cyffredin wedi cael ei lunio, sefydlu grwpiau newydd - Rhwydwaith Swyddogion Datgarboneiddio a Newid Hinsawdd Gogledd Cymru. Bydd y Bwrdd yn canolbwyntio ar ble y gallent ychwanegu gwerth yn hytrach na dyblygu gwaith o ran: · Carbon a · Gwydnwch Risg Hinsawdd. Roedd cyllid ar gael gan Lywodraeth Cymru i Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer adeiladu cyfoeth cymunedol a phrosiect peilot caffael blaengar. Mae gweithgor wedi cael ei sefydlu gan CBSC a CSDd i ymchwilio sut y gellir datgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi. Bydd casgliadau'r gweithgor yn cael eu hadrodd i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus maes o law. Ar ôl ystyried cynnwys adroddiad y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu: Penderfynwyd: (i) derbyn
Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer
2021/2022; a (ii) cadarnhau ei
fod yn fodlon bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cydymffurfio â gofynion
Deddf Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn perthynas ag adrodd
ar ei weithgareddau a’r cynnydd a wnaed wrth gyflwyno ei Gynllun Lles
2017-2022. |
|
CYNLLUN LLES BWRDD GWASANAENTHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2023 I 2028 PDF 322 KB Gofynnir i’r Pwyllgor: (i) ystyried cynnwys Cynllun Lles drafft Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer y cyfnod 2023 i 2028 (copi’n amgaeëdig); ac (ii) i gyflawni ei ddyletswyddau fel ymgynghorai statudol ar y Cynllun drwy ddarparu adborth a/neu argymhellion i’r Bwrdd ar ei gynnwys cyn i’r Bwrdd ei gymeradwyo Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd
Arweinydd Tîm Cynllunio Strategol a Pherfformiad y Cynllun Lles 2023 i 2028
drafft arfaethedig (dosbarthwyd ymlaen llaw).
Mae’r adroddiad eglurhaol yn amlinellu’r camau a gymerwyd i ddatblygu
cynnwys y Cynllun Lles hyd yn hyn. Fe
amlinellwyd bod yr adroddiad drafft wedi cael ei gyflwyno gerbron y Pwyllgor
fel ymgyngoreion statudol a cheisio adborth i lywio’r
adroddiad terfynol a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
ar 30 Tachwedd 2022. Canolbwyntiodd y cynllun ar yr uchelgais o wneud Conwy a Sir Ddinbych yn
lle mwy cyfartal i fyw gyda llai o amddifadedd.
Wrth wneud hynny roedd yn ceisio mynd i’r afael â gwir achosion tlodi ac
amddifadedd ac annog gwydnwch o dan bedwar prif thema: 1. Lles - Mae cymunedau’n
hapusach, yn fwy iach ac yn fwy gwydn i wynebu heriau, megis newid yn yr
hinsawdd neu gynnydd mewn costau byw. 2. Economi - Os bydd
economi werdd ffyniannus, wedi’i chefnogi gan weithlu medrus. 3. Cydraddoldeb - Bydd y
rhai â nodweddion a ddiogelir yn wynebu llai o rwystrau a 4. Tai - Mae gwell mynediad
at dai o ansawdd da Agwedd hanfodol o’r cynllun oedd gosod y sylfaen o ran sut y gall y
Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ei gyflawni.
Roedd yna angen i gyflwyno’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fel bwrdd
arweinyddiaeth yn hytrach nag un o ddarparu (canolbwyntio ar gyfeirio at y rhai
a allai ddarparu). Gan
ymateb i gwestiynau gan yr Aelodau: · Rhoddodd y swyddogion
sicrwydd y bydd cyflwyno a chymeradwyaeth ddilynol o’r Cynllun Lles yn
bodloni’r llinell derfyn statudol. · Dywedodd fod yna
ymgysylltu cyfyngedig gyda budd-ddeiliad gyda nodweddion a ddiogelir. Roedd yna
brosiect rhanbarthol yn mynd rhagddo i geisio gwella ymgysylltu gyda’r rhai nid
yn unig sydd â nodweddion a ddiogelir, ond y rhai sydd o dan anfantais
cymdeithasol-economaidd, gan gynnwys ‘grwpiau na chlywir ganddynt yn aml’. · Annog grwpiau cymunedol
a chynghorwyr i hyrwyddo ymgysylltu â phreswylwyr am y Cynllun Lles. · Cyfeiriwyd at y thema
Lles yn yr adroddiad o ran effaith amgylcheddol gan ddweud mai ei amcan oedd: o Cefnogi cynlluniau
cludiant cynaliadwy a gwyrdd sydd yn gwella ansawdd aer cyffredinol, yn cynnwys
cynlluniau teithio llesol ac iach sydd yn annog cerdded a beicio. o Lleihau allyriadau
carbon a chynyddu capasiti ynni adnewyddadwy. o Amddiffyn a gwella
bioamrywiaeth a chynefinoedd naturiol, tra’n cynyddu ac annog mynediad cyfartal
i asedau cefn gwlad. o Cefnogi cymunedau i
liniaru ac ymdopi ag effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. · Dywedwyd nad oedd gofal
cymdeithasol yn cael ei gynnwys o dan y Cynllun Lles (roedd bwrdd cydweithio
rhanbarthol arall, Bwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gogledd Cymru, yn darparu ar foderneiddio’r agenda gofal cymdeithasol). Codwyd
mynediad at gyfiawnder yn ardal Gogledd Cymru fel pryder. Clywodd y Pwyllgor fod newidiadau i’r system
Cymorth Cyfreithiol yn golygu mai dim ond 20% o’r boblogaeth oedd yn gymwys am
gymorth cyfreithiol, gan olygu bod nifer o bobl yn gorfod cynrychioli eu hunain
yn y Llysoedd Teulu. Gofynnwyd a oedd
modd tynnu sylw at y mater yn adroddiad 2022/2023 a’i ystyried yn rhan o’r
Cynllun Lles? Cytunwyd i ychwanegu’r
mater yn rhan o’r adborth i’r ymgynghoriad. Ar
ddiwedd trafodaeth y Pwyllgor: Penderfynodd:- y Cydbwyllgor, ar ôl
ystyried cynnwys yr adroddiad a’r Cynllun Lles drafft, ac yn amodol ar waith
esboniadol sy’n cael ei wneud o ran ‘sicrhau bod gwybodaeth a chymorth digonol
ar gael i alluogi preswylwyr Conwy a Sir Ddinbych i gael cyfiawnder a chymorth
cyfreithiol’ yn disgyn o fewn cylch gwaith Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a
Sir Ddinbych; (i) cymeradwyo themâu a
blaenoriaethau sydd wedi’u cynnwys yng Nghynllun Lles Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus 2023 i 2028; a (ii)
cymeradwyo’r gweithredoedd arfaethedig i
ddarparu'r Cynllun Lles. |
|
RHAGLEN WAITH I'R DYFODOL PDF 770 KB I ystyried a derbyn blaenraglen waith arfaethedig y Pwyllgor (copi ynghlwm) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynodd y Swyddog Gwasanaethau Craffu a Phwyllgorau
(CBSC) rhaglen gwaith i’r dyfodol drafft (dosbarthwyd ymlaen llaw) yn atgoffa’r
Pwyllgor y bydd y cyfarfod nesaf ar 10 Mawrth 2023. Bydd dwy eitem yn cael eu cyflwyno: 1.
Cofrestr risg y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a 2.
Chyfraniad Partneriaid Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
i waith y BGC a manteision y BGC i bartneriaid. Roedd y Pwyllgor eisoes wedi gwahodd Awdurdod Tân ac
Achub Gogledd Cymru i amlinellu eu
cyfraniad i’r BGC a’r manteision iddynt o fod yn rhan o’r BGC ac roedd eu
cyfraniad yn llawn gwybodaeth. Ar ôl ystyried aelodaeth statudol y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus, fe wnaethant gytuno i wahodd cynrychiolwyr o Fwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i fynychu’r cyfarfod nesaf i roi cyflwyniad am
yr ail achos busnes. Felly: Penderfynodd: y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu, yn amodol ar y sylwadau uchod – (i)
i gadarnhau ei raglen gwaith i’r dyfodol drafft ar
gyfer y cyfarfod sydd wedi’i drefnu ar gyfer 10 Mawrth 2023 fel yr amlinellir
yn yr adroddiad; a (ii) bod
cynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwahodd i
fynychu’r cyfarfod uchod i drafod cyfraniad y Bwrdd i waith y BGC gydag
aelodau’r Bwrdd, ynghyd â manteision y Bwrdd Iechyd o fod yn aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus. Atgoffodd
y Cydlynydd Craffu (CSDd) y Pwyllgor y bydd Cadeirydd
y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cyflwyno cofnodion cyfarfod y Cydbwyllgor
Trosolwg a Chraffu i gyfarfod BGC nesaf
yn rhan o’r broses gyfathrebu ddwy ffordd rhwng y ddau endid. |
|
Cofnodion: Cafodd y ddogfen ei nodi. |
|
FFRAMWAITH CENEDLAETHAU'R DYFODOL AR GYFER CRAFFU PDF 942 KB Cofnodion: Cafodd y fframwaith ei nodi. |
|
COFNODION CYFARFOD Y BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS A GYNHALIWYD AR 27 GORFFENNAF 2022 PDF 372 KB Cofnodion: Cafodd yr adroddiad gwybodaeth ei nodi. |
|
RHAGLEN GWAITH I'R DYFODOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH PDF 319 KB Cofnodion: Cafodd yr adroddiad gwybodaeth ei nodi. Daeth y cyfarfod i ben am 11.05am. |