Agenda and draft minutes
Lleoliad: Siambr y Cyngor, Bodlondeb, Conwy, LL32 8DU
Rhif | Eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Derbyniwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan y Cynghorwyr Rachel Flynn,
Peter Scott a David Williams. |
|
Dyali’r Aelodau ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fater a nodwyd i’w ystyried yn y cyfarfod hwn Cofnodion: Nid oedd unrhyw un yn datgan cysylltiad personol nac un oedd yn
rhagfarnu. Cyn gofyn am enwebiadau ar gyfer swydd Cadeirydd ac Is-Gadeirydd y
Pwyllgor ar gyfer blwyddyn y Cyngor 2019/20 a 2020/21, yn unol â chylch gwaith
y Pwyllgor, roedd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Cyngor Sir Ddinbych yn
gofyn am farn y Pwyllgor ar sut oeddent yn dymuno ethol deilwyr swydd drwy godi
llaw neu drwy bleidlais gyfrinachol. Penderfynwyd: - bod deilwyr y ddwy swydd yn cael eu hethol drwy
bleidlais codi llaw. |
|
PENODI CADEIRYDD I ethol Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd dinesig 2019/20 a 2020/21 Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a
Chraffu. Cafodd y Cynghorydd Brian Cossey
ei enwebu a'i eilio. Ni dderbyniwyd
unrhyw enwebiadau eraill. Felly: Penderfynwyd: - bod y Cynghorydd Brian Cossey yn cael ei ethol
yn Gadeirydd Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Conwy a Sir Ddinbych y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20 a 2020/21. Diolchodd y Cynghorydd Cossey i bawb am eu cefnogaeth ac am ymddiried
ynddo. |
|
PENODI IS-GADEIRYDD I ethol
Is-Gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y blynyddoedd
dinesig 2019/20 a 2020/21 Cofnodion: Gofynnwyd am enwebiadau ar
gyfer Is-Gadeirydd y Cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu. Hysbyswyd yr
Aelodau yn unol â chylch gorchwyl y Pwyllgor y dylai’r Is-Gadeirydd gael ei
benodi ymhlith aelodau’r Pwyllgor sy’n cynrychioli awdurdod lleol nad oedd yn
Gadeirydd y Pwyllgor. Cafodd y
Cynghorydd Graham Timms ei enwebu a'i eilio.
Ni dderbyniwyd unrhyw enwebiadau eraill: Penderfynwyd: - bod y Cynghorydd Graham Timms yn cael ei ethol yn Is-Gadeirydd Cyd-bwyllgor
Trosolwg a Chraffu Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus
ar gyfer blwyddyn y cyngor 2019/20 a 2020/21. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Ni dderbyniwyd hysbysiad am unrhyw faterion brys. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS CONWY A SIR DDINBYCH 2018-19 PDF 359 KB I ystyried Adroddiad Blynyddol Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Conwy a Sir Ddinbych ar gyfer 2018/19 (copi yn atodedig) gan ddarparu adborth a/neu argymhellion i’r Bwrdd fel
bo’n briodol 2.10pm – 3.10pm Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Hysbysodd Iwan Davies, Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau
Cyhoeddus yr aelodau o fis Mehefin 2019, y byddai Sian Williams, Pennaeth
Gweithrediadau Cyfoeth Naturiol Cymru yn Gadeirydd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus a byddai Judith Greenhalgh, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ddinbych yn
Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus.
Cyflwynodd Is-Gadeirydd Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus yr
adroddiad a chyflwyniad (dosbarthwyd yn flaenorol) i gyflwyno Adroddiad
Blynyddol 2018-19 y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i’r aelodau. Eglurodd fod gan ardal bob awdurdod lleol
rwymedigaeth gyfreithiol i sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Gan fod Conwy
a Sir Ddinbych wedi sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Lleol ar y cyd yn flaenorol,
rhagflaenydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus, cytunwyd i barhau’r bartneriaeth
hon drwy sefydlu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar y cyd. Roedd aelodaeth y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus yn cynnwys y ddau Gyngor, yr Heddlu, Comisiynydd Heddlu
a Throseddu, Gwasanaeth Tân ac Achub, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr,
Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Gwasanaeth Prawf Gogledd Cymru,
Iechyd y Cyhoedd Cymru, Cwmni Adsefydlu Cymunedol Cymru a'r Cynghorau
Gwasanaethau Gwirfoddol yn y ddwy sir (Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Conwy a
Chyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Dinbych) ac ati. Byddai sefydliadau cyhoeddus eraill yn cael
eu gwahodd i gyfrannu at waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus os oedd yn cael
ei ystyried yn briodol. Rôl y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus oedd gwella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol
a diwylliannol ardaloedd y siroedd drwy weithio i gyflawni’r saith nod lles a
amlinellwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Hysbyswyd yr Aelodau am y broses a ddilynir i lunio
Cynllun Llesiant y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Fel rhan o’r broses hon, cysylltwyd â’r
cyhoedd yn yr haf 2016 yn defnyddio dull Sgyrsiau’r Sir. Diben hyn oedd cael dealltwriaeth o’r hyn
oedd yn gweithio’n dda yn yr ardaloedd gwahanol a beth oedd angen canolbwyntio
arno er budd cenedlaethau’r dyfodol.
Rhwng yr haf 2016 ac Ebrill 2017, cafodd yr Asesiad Lles ei lunio. Penderfynodd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus na ddylai
ddyblygu gwaith a wnaed neu a wneir gan sefydliad arall, felly roedd y Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus wedi nodi 6 thema y gellir eu hadolygu. Roedd y rhain yn cynnwys: 1.
Mil Diwrnod Cyntaf Bywyd 2.
Hybu canolfannau cymunedol 3.
Hybu lles meddyliol ar gyfer pob oed 4.
Hybu gwytnwch mewn pobl hŷn 5.
Hybu gwytnwch amgylcheddol 6.
Magu pobl ifanc wydn ac uchelgeisiol Drwy’r broses Sgyrsiau’r Sir, roedd y Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus wedi ymgynghori â’r cyhoedd ar y themâu hyn ac yn seiliedig ar
adborth a dderbyniwyd penderfynwyd rhesymoli’r nifer o themâu blaenoriaeth o 6
i 3. Gwnaed hyn drwy asesu’r effaith,
goblygiadau hirdymor ac archwilio a oedd gwaith eisoes wedi’i wneud mewn
perthynas â’r rhain. Yn dilyn y broses
hon roedd y Cynllun Llesiant ei hun wedi’i gymeradwyo gan bob partner statudol
cyn cael ei gymeradwyo gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn Ebrill 2018. Roedd y Cynllun terfynol yn nodi cyfanswm o
dair thema y dylai’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ddelio â nhw, roedd y rhain
yn cynnwys: 1.
Pobl – Cefnogi lles meddyliol da i rai o bob oed 2.
Cymuned - Rhoi grym i gymunedau 3.
Lle - Cefnogi Gwytnwch Amgylcheddol Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus hefyd wedi ymrwymo i 4
egwyddor ychwanegol sy’n cefnogi’r 3 thema blaenoriaethau: a. Mynd i'r afael
ag anghydraddoldeb a thrin pawb yn gyfartal b. Cefnogi a
hyrwyddo’r Gymraeg c. Cefnogi pobl er
mwyn iddynt gael gafael ar lety iach, diogel a phriodol ch.Osgoi dyblygu gwaith. Roedd Pennaeth Gweithrediadau Gogledd Cymru Cyfoeth Naturiol Cymru yn egluro ar y dechrau bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn dymuno cysylltu â’r prosiect o ongl wahanol, yn hytrach na chael arbenigwr yn eu meysydd perthnasol ar gyflawni’r blaenoriaethau byddent yn mabwysiadu dull gwahanol ar gyfer ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
RHAGLEN WAITH CRAFFU PDF 843 KB I ystyried yr adroddiad (copi yn atodedig) sy’n gofyn i’r aelodau adolygu rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2019/20 3.10pm – 3.30pm Cofnodion: Cyflwynodd Swyddog Gwasanaethau Pwyllgorau a Chraffu Conwy rhaglen gwaith
i’r dyfodol drafft y Pwyllgor ar gyfer 2019/20 (dosbarthwyd yn flaenorol). Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cylch gorchwyl y
Pwyllgor yn nodi y dylai gyfarfod o leiaf dwywaith yn ystod blwyddyn y
Cyngor. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor yn
teimlo y byddai’n fuddiol i’r Pwyllgor gwrdd yn chwarterol, gynted â phosibl yn
dilyn cyfarfodydd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Dywedwyd wrth yr Aelodau bod cyfarfod nesaf
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wed’i drefnu ar gyfer 5 Gorffennaf 2019. Cytunwyd i’r eitemau canlynol gael eu cynnwys
ar raglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn i ddod. 1. Diweddariad ar
ddatblygiad blaenoriaethau Bwrdd y Gwasanaethau Cyhoeddus (cytunwyd ar gyfer y cyfarfod
nesaf) 2. Effaith
gadarnhaol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ar Gonwy a Sir Ddinbych hyd yma (cytunwyd ar gyfer y
cyfarfod nesaf). 3. Cyfraniad Partneriaid
y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i waith y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – cytunwyd
ar gyfer cyfarfod diweddarach 4. Cynllun
Cyfathrebu/Strategaeth Ymgysylltu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus – cytunwyd ar gyfer cyfarfod
diweddarach 5. Cofrestr Risg –
cytunwyd ar gyfer cyfarfod diweddarach Cytunodd yr Aelodau hefyd i ychwanegu Adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru at
rhaglen gwaith i’r dyfodol diwedd 2019/dechrau 2020. Penderfynwyd: - yn amodol ar y newidiadau uchod i gymeradwyo
rhaglen gwaith i’r dyfodol y Pwyllgor ar gyfer 2019/20 Daeth
y cyfarfod i ben am 3.30pm |