Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: by video conference

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Merfyn Parry ac Elfed Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw gysylltiad.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 290 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 8 Hydref 2022.

 

Ni chytunwyd ar benodi is-gadeirydd yn y cyfarfod blaenorol, fodd bynnag, cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid penodi'r Cynghorydd Elfed Williams yn gadeirydd ac eiliwyd y cynnig gan y Cynghorydd Huw Williams. Cytunodd pawb oedd yn bresennol.

 

Ni chodwyd unrhyw faterion eraill.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

SAFONAU IAITH GYMRAEG - SAFON 98 pdf eicon PDF 205 KB

Derbyn adroddiad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg ar Safonau’r Gymraeg, yn benodol safon 98  (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Iaith (SIG) adroddiad Safonau'r Gymraeg - Safon 98 (a ddosbarthwyd yn flaenorol); roedd yr adroddiad yn ymwneud â Safonau’r Gymraeg – yn benodol safon 98.

 

Amlygodd y cadeirydd yr atodiadau fel polisi Conwy er gwybodaeth; eglurodd y Swyddog Iaith y byddai'r polisi'n cael ei ddilyn wrth lunio'r polisi ar gyfer CSDd.

 

Cyflwynwyd Safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych yn 2015, fel rhan o'u cyflwyno i sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Crëwyd y Safonau mewn ymateb uniongyrchol i Fesur y Gymraeg (2011) a rôl Comisiynydd Y Gymraeg.

 

Cyflwynwyd y Safonau er mwyn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yr un mor deg â’r Saesneg. Mae angen i Sir Ddinbych gydymffurfio â 167 o Safonau sydd wedi cael eu rhannu rhwng pum maes allweddol: Darparu Gwasanaeth, Gwneud Polisïau, a Gweithredol. Cadw Cofnodion a Hyrwyddo.

 

Cafyd y drafodaeth ganlynol -

 

·         Holodd y pwyllgor a fyddai'n rhaid i Hamdden Sir Ddinbych cyfyngedig gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg yr un fath â Chyngor Sir Ddinbych; hysbysodd swyddogion yr aelodau y byddai Hamdden Sir Ddinbych yn cydymffurfio â'r un safonau â'r Cyngor.

·         Cododd y pwyllgor bryderon y gallai gormod o waith gael ei alw ar y gweithlu ynglŷn â’r polisi gan obeithio na fyddai’n achosi gormod o waith i’r staff.

·         Eglurodd y swyddogion i'r aelodau fod y polisi'n cael ei gyflwyno iddynt heddiw i weld a oeddent yn hapus gyda'r strwythur a'r geiriad cyn mynd ag ef i'r Tîm Gweithredol Corfforaethol a'r Tîm Arwain Strategol cyn dod yn ôl i'r pwyllgor yn 2023 i'w gytuno'n derfynol.

·         Sicrhaodd y Swyddog Iaith yr aelodau nad oedd iaith gohebiaeth â'r cyhoedd yn faich ar staff gan fod yr holl lythyrau cychwynnol yn cael eu hanfon yn ddwyieithog i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â safonau'r Gymraeg. Fodd bynnag, pe bai'r aelod o'r cyhoedd yn ymateb drwy ddatgan ei ddewis iaith, yna byddai'n parhau yn ei ddewis iaith.

·         Awgrymodd yr Aelodau y dylid cyfeirio drwy'r polisi i gyd at bolisïau sy'n bodoli eisoes megis enwi strydoedd, gan eu bod wedi cael eu trafod yn helaeth mewn amrywiol gyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD bod aelodau Pwyllgor Llywio'r Iaith Gymraeg yn nodi cynnwys adroddiad Safonau'r Gymraeg - Safon 98.

 

 

6.

ADBORTH COMISIYNYDD Y GYMRAEG pdf eicon PDF 243 KB

Derbyn adroddiad ar ganlyniadau Adroddiad Monitro Comisiynydd y Gymraeg (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Iaith (SIG) adroddiad Adborth Comisiynydd y Gymraeg (a ddosbarthwyd yn flaenorol); roedd yr adroddiad yn cyfeirio at ganlyniadau Adroddiad Monitro Comisiynydd y Gymraeg.

 

Bob blwyddyn, mae Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal gwiriadau ymysg sefydliadau sy’n gweithredu Safonau’r Gymraeg sy’n statudol, er mwyn sicrhau bod y sefydliadau hynny’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.

 

Mae tîm y Comisiynydd hefyd yn trefnu cyfarfod blynyddol er mwyn trafod y canfyddiadau ac i adrodd ar gynnydd Adroddiad blynyddol Monitro’r Gymraeg.

 

Eglurodd Dylan Jones, ar ran y Comisiynydd, ffordd newydd y Comisiynydd o weithio eleni ar edrych ar gydymffurfiaeth sefydliadau â'r safonau perthnasol. Recriwtio a pholisïau oedd eu blaenoriaeth.

 

Corff sy'n creu ac yn cyhoeddi dogfennau a ffurflenni

 

Yn ystod arolygon 2022-23, darganfuwyd nad oedd pob dogfen a ffurflen yn cynnwys datganiad yn y fersiynau Saesneg, yn dweud bod y fersiwn hefyd ar gael yn Gymraeg. Roedd dwy enghraifft o ddogfen nad oedd yn cydymffurfio â safon 49, sef:

 

Soniwyd am yr holl ddogfennau ar wefan y Cyngor, a gallai’r gwaith o roi’r nodyn ar bob un o’r rhain gymryd wythnosau/misoedd; roeddem yn aros am gadarnhad gan swyddfa monitro'r Gymraeg.

 

Nododd y Cyngor lefel ganolig o gydymffurfiaeth ar gyfer ei apiau, gan nodi nad oedd ap ParentPay ar gael yn Gymraeg. Trafodwyd nad oedd ParentPay yn ap yr oedd y Cyngor wedi ei gyhoeddi, a chadarnhawyd bod gan yr ysgolion gytundeb gyda’r cwmni.

 

Yn ystod arolygon 2022-23, nodwyd bod un neges ar Twitter ac un neges ar Facebook yn cael eu cyhoeddi yn Saesneg yn unig ar gyfryngau corfforaethol y Cyngor.

 

·                   Defnyddio'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth y corff - Nodwyd yn yr holiadur hunanasesu nad oedd gan y Cyngor bolisi ar ddefnyddio'r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth corff.

·                   Safonau recriwtio a phenodi - Nodwyd yn ystod arolygon 2022-23 bod dwy hysbyseb swydd yn cynnwys geiriau a/neu deitlau uniaith Saesneg.

 

Mae'r gwallau a amlygwyd eisoes wedi'u datrys.

 

·                   Diolchodd yr aelodau i'r Swyddog Iaith am yr adroddiad; fodd bynnag, amlygwyd rhai pryderon gyda chyfryngau cymdeithasol gan fod rhai postiadau yn dangos yn Saesneg yn unig ac nid yn ddwyieithog. Cadarnhaodd y Swyddog Iaith fod cyfryngau cymdeithasol yn her oherwydd bod yr algorithm yn amlygu un iaith neu'r llall yn unig.

·                   Dywedodd y Swyddog Iaith wrth y pwyllgor hefyd mai her arall gyda chyfryngau cymdeithasol oedd bod rhai adrannau wedi gwneud eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol mewn meysydd o fewn y Cyngor. Byddai angen eu hatgoffa o'r polisi iaith Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi’r gweithgareddau a gymerwyd yn ystod 2023 ac yn cymeradwyo’r gweithgareddau arfaethedig ar gyfer 2023.

 

 

7.

GWEITHGAREDDAU I HYRWYDDO'R IAITH GYMRAEG pdf eicon PDF 255 KB

I dderbyn adroddiad yn rhoi gwybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am weithgareddau hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod diwethaf a'r cynlluniau amlinellol ar gyfer y flwyddyn i ddod (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Iaith (SIG) yr adroddiad yn amlygu'r gweithgareddau i hyrwyddo'r Gymraeg (a ddosbarthwyd yn flaenorol); nod yr adroddiad oedd hysbysu'r pwyllgor am y gwaith mewnol ac allanol i hyrwyddo'r Gymraeg.

 

Roedd y rhain fel a ganlyn -

 

·         Eisteddfod Staff

Cynhaliodd y Cyngor ei bedwerydd Eisteddfod rhwng 18 Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymdrechion y Cyngor i godi proffil y Gymraeg, i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r iaith ac i ddathlu diwylliant Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod cyfnod o gryn ffocws ar y Gymraeg gydag Eisteddfod yr Urdd  ar fin dychwelyd i’r Sir ym mis Mai 2022. Unwaith eto eleni, oherwydd Covid-19, cynhaliwyd Eisteddfod y Staff yn ddigidol. Defnyddiwyd ein platfform Facebook staff preifat i gynnal yr Eisteddfod ac i hyrwyddo’r categorïau amrywiol i staff gystadlu ynddynt drwy uwchlwytho llun i gyd-fynd â phob categori. Roedd y categorïau yn cynnwys Anifail Anwes yn y Cyflwr Gorau, Anifail Anwes Mwyaf Dawnus, Cyn ac Ar Ôl/Hen a Newydd, brawddeg gan DEWI SANT, fy hoff le yn Sir Ddinbych a llawer mwy; gwnaed hyn er mwyn annog mwy o bobl i gymryd rhan yn yr Eisteddfod eleni, penderfynwyd y dylai holl staff y Cyngor fod yn feirniaid. Fe ddewison nhw’r enillwyr trwy ‘hoffi’ lluniau/fideos ar y dudalen Facebook, a’r rhai wedi’u ‘hoffi’ fwyaf oedd yr enillwyr. Roedd yr ymateb a’r gefnogaeth a dderbyniwyd yn galonogol iawn eto eleni, gyda lefel dda o ymgysylltu â staff.

 

·         Eisteddfod yr Urdd yn Sir Ddinbych

 

Dychwelodd Eisteddfod yr Urdd i Sir Ddinbych eleni a chafodd ei chynnal ar Fferm Kilford ar gyrion Dinbych. Dechreuodd y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod yn 2018; fodd bynnag, bu'n rhaid ei ohirio ddwywaith oherwydd y Pandemig. Ailddechreuwydd trefnu’r Eisteddfod yn 2021 gyda llawer o fisoedd prysur yn arwain at y digwyddiad ei hun. Cyngor Sir Ddinbych oedd un o brif noddwyr yr Eisteddfod eleni, a ninnau hefyd yn noddi’r ddwy sioe – y sioe ysgolion cynradd ‘Ni yw y Byd’ a’r sioe ysgolion uwchradd ‘Fi di Fi’. Cawsom babell fawr ar faes yr Eisteddfod, a’n thema oedd ‘Darganfod Sir Ddinbych’. Roedd sawl adran i'r babell, a oedd yn cynnwys theatr, busnes/twristiaeth, celf a chrefft a chefn gwlad. Bu’n Eisteddfod hynod lwyddiannus, ac roedd pabell Sir Ddinbych yn brysur drwy’r dydd, bob dydd. Braf oedd gweld cymaint o gyffro a bwrlwm ar y maes ar ôl cyfnod mor hir.

 

·         Paned a Sgwrs

Mae sesiynau'n dal i gael eu cynnal yn rhithiol. Lleihaodd niferoedd yn ystod 2021 o ganlyniad i’r sesiynau’n rhai rhithiol, ond maent wedi codi eto dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r sesiynau’n mynd o nerth i nerth. Mae gennym glybiau darllen wyneb yn wyneb unwaith y mis yn Llyfrgelloedd Dinbych a Rhuthun. Mae staff yn dewis llyfr o’r gyfres ‘Amdani’, sy’n addas ar gyfer dysgwyr ac yn ei ddarllen erbyn y sesiwn nesaf, lle caiff y llyfr ei drafod wedyn, gan ganiatáu i ddysgwyr ddefnyddio’r Gymraeg i fynegi barn. Mae'r sesiynau hyn wedi bod yn llwyddiannus iawn, gyda staff yn ffafrio'r sesiynau wyneb yn wyneb. Mae tasgau ysgrifenedig wythnosol hefyd yn cael eu paratoi ar gyfer staff i'w helpu i ddatblygu eu medrau ysgrifennu.

 

Y camau nesaf: Amserlen gweithgaredd arfaethedig ar gyfer 2023:

 

Gweithgareddau trwy’r misoedd

 

·         Hydref 2022 – Awst 2023 - Ymgyrch fewnol ar ‘Dyblu eich defnydd dyddiol o’r Gymraeg

·         Tachwedd - Rhagfyr 2022 - Cwpan y Byd FIFA

·         Tachwedd 2022 – Mawrth 2023 – Strategaeth Iaith Gymraeg

·         Tachwedd 2022 – Ionawr 2023 – Polisi ar Weithredu’r Gymraeg yn fewnol

 

Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach – 

 

·         Roedd y pwyllgor yn  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 334 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w hystyried.

 

Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach –

 

·         Dywedodd y Swyddog Iaith wrth y pwyllgor y gallai'r Adroddiad ar lwyddiant y Strategaeth Iaith 2017-2022 gael ei ohirio tan fis Gorffennaf o bosibl.

·         Holodd y pwyllgor a ellid trafod adroddiad ar y polisi Iaith Gymraeg o fewn addysg mewn cyfarfod yn y dyfodol.

·         Cadarnhaodd y Swyddog Iaith hefyd y byddai adroddiad Safonau'r Gymraeg - Safon 98 yn cael ei gyflwyno i'r pwyllgor ar gyfer cyfarfod 5 Gorffennaf.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor.

 

 

9.

ER GWYBODAETH - ADRODDIAD Y GYMRAEG FEL FFORDD O WEITHIO pdf eicon PDF 140 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio'r Iaith Gymraeg yn derbyn ac yn nodi Adroddiad Gwybodaeth y Gymraeg fel Ffordd o Weithio.