Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Cabinet Room, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Ellie Chard, Joe Welch, Huw Hilditch-Roberts, a Paul Penlington.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Y Cynghorydd Emrys Wynne – Cadeirydd bwrdd Menter Iaith Sir Dinbych.

 

Y Cynghorydd Arwel Roberts – Aelod o fwrdd Menter Iaith Sir Dinbych.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 376 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 02 Mai 2018 (copi wedi’i amgáu)

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 2 Mai 2018.

 

Materion yn Codi:-

 

·         Codwyd materion arwyddion dwyieithog ac ailenwi strydoedd a thai.  Gofynnodd yr Aelodau am i’r swyddog perthnasol ddod i gyfarfod pellach o’r pwyllgor i drafod y mater.

 

PENDERFYNWYD - derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Mai 2018 fel cofnod cywir

 

 

5.

ADRODDIAD MONITRO IAITH GYMRAEG BLYNYDDOL pdf eicon PDF 191 KB

I drafod a chytuno ar gynnwys yr adroddiad Monitro Iaith Gymraeg blynyddol ar gyfer 2071/18.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd adroddiad monitro'r Gymraeg a oedd yn amlygu cynnydd y Cyngor gyda'r safonau iaith yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

 

Yn dilyn cyflwyniad a throsolwg byr yr Arweinydd Tîm, awgrymodd y cadeirydd y dylai’r pwyllgor fynd drwy adroddiad monitro'r iaith Gymraeg a chodi unrhyw bryderon neu gwestiynau.  

 

Pencampwyr Iaith

 

·         Holwyd a oedd yna restr o Bencampwyr Iaith y gellid ei rhannu i’r aelodau.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau fod yna restr ar yr hysbysfyrddau ledled swyddfeydd y cyngor ac y byddai’r rhestr yn cael ei rhannu.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau mai dyletswyddau mewnol ynghylch y Cyngor oedd gan y Pencampwyr Iaith ac nad ydyn nhw'n ymdrin â materion allanol.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau y byddai pencampwr iaith yn dod i gyfarfod pellach o’r Pwyllgor i drafod y dyletswyddau sy’n cael eu cyflawni.

 

Gweithio mewn Partneriaeth

 

·         Wrth drafod y Gwaith mewn Partneriaeth gan y Cyngor, datganodd y Cynghorwyr Emrys Wynne ac Arwel Roberts fuddiant gan eu bod yn aelodau o fwrdd Menter Iaith Sir Ddinbych

 

Cynllunio’r Gweithlu:

 

·         Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau fod y Cyngor yn bwriadu cynnal archwiliad i ganfod faint o siaradwyr Cymraeg sydd yn y Cyngor. Holodd yr aelodau yr Arweinydd Tîm ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg yn y Cyngor ac a oedd unrhyw adran yn peri pryder oherwydd prinder siaradwyr Cymraeg. Wrth ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau ei bod yn anodd amcangyfrif nifer y siaradwyr Cymraeg oherwydd bod y data sydd wedi’i gasglu yn anghyson. Amlinellwyd cynlluniau'r dyfodol ynghylch sicrhau fod rheolwyr yn casglu data mwy cywir am allu ieithyddol eu staff.  Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau y byddai holiadur hefyd yn cael ei gylchredeg yn y dyfodol ond roedd yn cydnabod nad oedd staff yn cyflwyno ymatebion cywir bob amser ynglŷn â’u galluoedd ieithyddol yn y Gymraeg, am amrywiaeth o resymau.

 

Dangosyddion y Gymraeg.

 

·         Trafodwyd perthnasedd a phwysigrwydd y dangosyddion a ddefnyddiwyd i fonitro cynnydd.

 

·         Holodd yr aelodau’r Arweinydd Tîm am y cwynion a dderbyniwyd oddi wrth y cyhoedd yn gyffredinol. Atebodd yr Arweinydd Tîm y derbyniwyd pedair cwyn yn ystod y flwyddyn ariannol diwethaf a bod pob un wedi’i thrin o fewn yr cyfnodau a ganiateir.

 

·         Holwyd a fyddai cwynion yn debyg o gynyddu wrth i’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol gynyddu. Dywedodd yr Arweinydd Tîm fod yr holl wybodaeth a oedd yn cael ei roi ar Facebook yn ddwyieithog ond y byddai’r ail drydaru a’r ymatebion yn cael eu hateb yn iaith y post.

 

 

Canmolodd y Cynghorydd Arwel Roberts yr adroddiad manwl a chynigiodd y dylai’r pwyllgor gytuno ar gynnwys yr adroddiad. Eiliodd y Cynghorydd Ann Davies y cynnig.

 

Pleidleisiodd pob un o’r aelodau i gytuno â chynnwys yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD – fod y Pwyllgor yn cymeradwyo cynnwys Adroddiad Monitro’r Iaith Gymraeg.

 

 

6.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu).

 

 

Cofnodion:

Dywedodd y cadeirydd yr hoffai i gyfarfodydd y pwyllgor ganolbwyntio ar adrannau penodol o Safonau'r Gymraeg, yn hytrach na cheisio trafod yr holl Safonau'r un pryd.

 

Awgrymodd yr Arweinydd Tîm – Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd hefyd y dylid ychwanegu at y rhaglen waith ddiweddariad gan y Gwasanaethau Ieuenctid ar Gydweithio rhwng Gwasanaeth Ieuenctid Sir Ddinbych a’r Urdd.

 

Trafodwyd swyddogaeth y Pencampwyr Iaith a chytunwyd y dylen nhw ddod i’r cyfarfod nesaf.

 

Cytunodd y Pwyllgor gynnwys eitem ar y flaen raglen waith ynglŷn â pholisir Gymraeg ac enwi strydoedd.

 

PENDERFYNWYD – Yn amodol ar yr uchod, gymeradwyo’r flaen raglen waith.