Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Cabinet Room, County Hall, Ruthin

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Paul Penlington ac Anton Sampson.

 

 

 

2.

DATGAN CYSYLLTIAD pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. (copi wedi’i amgáu)

 

 

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o gysylltiad.

 

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw faterion brys.

 

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 309 KB

Derbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 (copi wedi’i amgáu)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Gymraeg a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017.

 

Materion yn Codi:

 

Fe drafododd y cadeirydd mater oedd yn ymwneud ag eitem 7, Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg 2017-2020. Cafwyd eglurhad y gallai aelodau fynychu cyfarfodydd Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg, ond gofynnodd y pwyllgor a fyddai modd i wahoddiadau gael eu hanfon i sicrhau bod aelodau yn ymwybodol o ddyddiadau’r cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017 fel cofnod cywir ac y dylai’r cadeirydd eu llofnodi.

 

 

 

5.

SAFONAU’R GYMRAEG pdf eicon PDF 302 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio am ddatblygiadau gyda Safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych (copi wedi’i amgáu)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Arweiniol Addysg, Plant a Phobl Ifanc a’r iaith Gymraeg, adroddiad ar safonau’r Gymraeg yn Sir Ddinbych.

 

Fe atgoffodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd, yr aelodau bod y safonau wedi cael eu cyflwyno ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

 

Fe soniodd yr Arweinydd Tîm am y meysydd yr oedd y Cyngor wedi bod yn gweithio’n galed i weithredu safonau’r Gymraeg:

 

·         Roedd y fewnrwyd a oedd yn ffocws i holl weithwyr y Cyngor bellach yn ddwyieithog.

·         Roedd gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig i staff y Cyngor, ac roedd sesiynau cyfarfod yn cael eu cynnig i'r staff a hoffai ddatblygu eu Cymraeg y tu allan i’r gwersi.

·         Fe soniwyd hefyd am becyn croesawu i’r Cyngor a fyddai’n cael ei anfon i bobl sy’n symud i’r ardal  i roi gwybod iddynt am Sir Ddinbych, ond hefyd i’w hannog i ddysgu Cymraeg.

 

Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Fe ganmolodd yr aelodau nod y Cyngor i gyflawni tu hwnt i’r hyn sy’n ofynnol yn ôl y safonau

·         Mynegwyd pryderon ynghylch sut byddai’r cyngor yn delio â chwynion tuag at yr iaith.

Fe atebodd yr Arweinydd gan ddweud bod nifer y cwynion yn isel. Fodd bynnag, byddai’r Cyngor yn delio ag unrhyw gwynion y byddant yn ei dderbyn. Dywedodd yr aelod arweiniol bod y Cyngor yn defnyddio siopwyr cudd i sicrhau y cydymffurfir â'r safonau.

·         Mewn cysylltiad â thema gohebiaeth yn y safonau, gofynnwyd a oedd negeseuon peiriant ateb yn eglur yn Gymraeg.

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod cefnogwyr y Gymraeg wedi helpu i sicrhau bod negeseuon Cymraeg ar beiriannau ateb yn eglur a chywir.

·         Trafodwyd gwersi Cymraeg i staff oedd yn dymuno siarad Cymraeg.

Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod gwersi Cymraeg yn cael eu cynnig ar draws y Cyngor i’r rhai oedd yn dymuno dysgu Cymraeg. Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth y pwyllgor y byddai’r Prif Weithredwr newydd yn cael gwersi Cymraeg yn fuan. Gofynnodd yr aelodau bod eu llongyfarchiadau’n cael eu hanfon ati.

·         Canmolodd y pwyllgor y cadeirydd am agor y cyfarfod trwy gyfrwng y Gymraeg, a gofyn a fyddai modd i holl gyfarfodydd y Cyngor gael eu hagor trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dywedodd yr Arweinydd Tîm y gallai’r Cyngor wneud hyn a mynd y tu hwnt i’r hyn roedd Safonau’r Gymraeg wedi’u hamlinellu.

 

Ar ôl y drafodaeth, dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau bod y Cyngor yn bwriadu penodi rhagor o siaradwyr Cymraeg rhugl ac roedd yn gweithio’n agos gydag Adnoddau Dynol i sicrhau y byddai hyn yn digwydd, er ei bod hi’n anodd penodi staff sy’n siarad Cymraeg mewn i rai swyddi.

 

PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad.

 

6.

STRATEGAETH Y GYMRAEG pdf eicon PDF 333 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio’r Pwyllgor am Strategaeth y Gymraeg y Cyngor. (copi wedi’i amgáu)

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad i friffio’r Pwyllgor am Strategaeth y Gymraeg y Cyngor.

 

Fe nododd yr Arweinydd Tîm y prif themâu a gafodd sylw yn y strategaeth a thynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad (a ddosbarthwyd yn flaenorol):

 

·         Thema 1: Cynllunio Strategol yr Iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych

·         Thema 2: Plant a Phobl Ifanc

·         Thema 3: Cymunedau

·         Thema 4: Busnes a'r economi

·         Thema 5: Gweinyddiaeth fewnol o fewn y Cyngor

Dywedodd yr arweinydd tîm wrth yr aelodau bod y Strategaeth ar gyfer 5 mlynedd, cyfnod cymharol fyr ac y byddai’r cyngor yn mynd ati i ddatblygu strategaeth tymor hirach.

 

Fe dynnodd yr Arweinydd Tîm sylw at meysydd lle mae Sir Ddinbych yn gweithio tuag at y themâu o fewn y Strategaeth:

 

·         Cynigiodd y cyngor wersi Cymraeg i staff oedd yn dymuno dysgu.

·         Mae mewnrwyd y Cyngor yn ddwyieithog.

·         Byddai pobl sy’n symud i fyw i’r Sir yn cael pecyn croesawu i’r cyngor ac yn cael eu hannog i ddysgu Cymraeg.

·         Byddai adnoddau dynol yn hysbysebu rhagor o swyddi gyda’r Gymraeg mewn golwg.

Ar ôl i’r Arweinydd Tîm amlinellu’r camau oedd yn cael eu cymryd yn unol â’r Strategaeth aeth yr aelodau ymlaen i drafod y canlynol:

 

·         Roedd yn fanteisiol bod gan y Cyngor staff dwyieithog, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig oedd â niferoedd uchel o siaradwyr Cymraeg, ond gofynnodd aelodau a oedd gan ysbytai ddigon o staff dwyieithog ar gyfer y preswylwyr diamddiffyn oedd yn dymuno sgwrsio yn Gymraeg.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau na allai’r Cyngor fynnu beth roedd sefydliadau eraill yn ei wneud.

·         Roedd y targed o 0.5% i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn gynnydd rhy isel, a chyda lefel mor isel ni fyddai Sir Ddinbych yn helpu i gyflawni’r cynllun i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Wrth ymateb dywedodd yr Arweinydd Tîm bod niferoedd y siaradwyr Cymraeg yn y Sir yn gostwng ac roedd angen targed realistig.

Gallai’r cynnydd a osodwyd gael ei gynyddu yn y dyfodol.

·         Cafodd parc dŵr SC2 ei drafod, a chytunodd aelodau mai yn anaml iawn roedd acronymau yn cyfieithu’n dda i’r Gymraeg.

Fe wnaethant argymell y dylai enwau safleoedd neu brosiectau yn y dyfodol gael eu trafod i sicrhau bod modd byrhau’r enw yn Gymraeg a Saesneg.

·         Mynegodd aelodau bryderon ynghylch diffyg Cymraeg oedd yn cael ei ddysgu mewn rhai ysgolion.

Gofynnwyd iddynt basio unrhyw bryderon ymlaen i’r tîm addysg.

Gofynnodd y cadeirydd i’r swyddogion ystyried y pryderon a gafodd eu mynegi gan aelodau.

 

PENDERFYNWYD - nodi’r adroddiad yn amodol ar y pwyntiau y soniwyd amdanynt uchod.

 

 

 

 

7.

RÔL SWYDDOG Y GYMRAEG

Ystyried adroddiad ar lafar gan Arweinydd Tîm -Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i friffio’r Pwyllgor am Rôl y Swyddog Iaith Cymraeg newydd.

 

 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Cymunedau yr eitem trwy groesawu Swyddog y Gymraeg newydd i’r cyngor a dywedodd wrth yr aelodau y byddai’r Swyddog yn helpu’r Cyngor i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg.

 

Diolchodd y Swyddog i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad a rhoddodd gyflwyniad i’r pwyllgor ynglŷn â dyletswyddau a rôl Swyddog y Gymraeg.

 

·         Rhoi cyngor a chymorth i uwch swyddogion, aelodau ac adrannau i weithredu a chydymffurfio’n barhaol â Safonau’r Gymraeg a darparu arweiniad a  chefnogaeth o ddydd i ddydd.

·         Defnyddio dulliau arloesol a chreadigol i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg a chodi proffil yr iaith mewn modd sydd yn creu agwedd gadarnhaol tuag y Gymraeg o fewn y Cyngor Sir a’r gymuned ehangach.

·         Darparu hyfforddiant Ymwybyddiaeth Iaith Gymraeg a sesiynau gramadeg y Gymraeg

·         Gweithio’n agos gyda’r tîm AD i gynllunio gweithlu mewn perthynas â’r Gymraeg

 

Cafwyd y drafodaeth ganlynol ar ôl y cyflwyniad:

 

·         Cyfieithiadau Cymraeg – gofynnwyd a fyddai Swyddog y Gymraeg yn cyfieithu rhywfaint o waith mewnol i'r Cyngor.

Cafwyd eglurhad mai rôl y Swyddog oedd sicrhau  bod Cyngor Sir Ddinbych yn dilyn Safonau’r Gymraeg yn hytrach nag ymgymryd â gwaith cyfieithu.

·         Dyletswyddau Swyddog y Gymraeg – Gofynnodd y pwyllgor am restr lawn o ddyletswyddau’r Swyddog er mwyn iddynt allu anfon ymholiadau priodol.

Cadarnhaodd y byddai rhestr o ddyletswyddau’n cael eu dosbarthu.

·         Arwyddion - Trafodwyd enwau strydoedd Cymraeg neu ddwyieithog, a pham nad oedd yna gydymffurfiad ar draws Sir Ddinbych.

Gofynnodd yr aelodau bod Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn mynychu cyfarfod yn y dyfodol i egluro beth oedd y broses arwyddion ar draws y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

 

8.

EISTEDDFOD YR URDD - DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 222 KB

Ystyried adroddiad gan Arweinydd Tîm –Rheoli Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd i ddiweddaru’r Pwyllgor am gynnydd ar drafodaethau yn ymwneud â dychweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r sir yn 2020 ac amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau i'r Cyngor (copi wedi’i amgáu)

 

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd Tîm – Cyfathrebu a Rheoli Ymgyrchoedd adroddiad i ddiweddaru’r Pwyllgor am gynnydd ar drafodaethau yn ymwneud â dychweliad Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd i’r sir yn 2020 ac amlinellu'r goblygiadau o ran adnoddau i'r Cyngor. 

 

Dywedodd yr Arweinydd wrth yr aelodau mai Fferm Kilford ar gyrion tref Dinbych fydd y lleoliad. Hwn oedd lleoliad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2013.  Mae’r safle wedi’i ddewis gan ei fod eisoes wedi cael ei brofi. Roedd y seilwaith eisoes ar y safle, yn ogystal â digon o dir agored ar gyfer yr ŵyl, meysydd parcio a safle garafanau.

 

Trafodwyd hefyd y bydd y Cyngor yn sefydlu grŵp strategol i gydlynu trafodaethau â threfnwyr Eisteddfod yr Urdd. Bydd angen i gyfarfod cyntaf y Grŵp Strategol gael ei gynnal ym mis Mehefin 2018 ac yna bob chwarter ar ôl hynny. Cadeirydd y Grŵp Strategol fydd Arweinydd y Cyngor.

 

Dywedodd yr Arweinydd Tîm wrth yr aelodau bod cynlluniau ar waith i hyrwyddo Sir Ddinbych gyfan a denu pobl fydd yn mynychu'r Eisteddfod i ymweld â safleoedd eraill yn Sir Ddinbych. Fe dynnodd yr Arweinydd Tîm sylw at nifer o fanteision y gallai’r Eisteddfod ei chael ar yr economi leol: 

 

·         Byddai £6m- £8m yn cael ei wario yn yr ardal leol.

·         Roedd 30% o ymwelwyr yn aros dros nos

·         Roedd 78% o bobl yn gwario arian gyda busnesau lleol

·         Roedd 60% yn ymweld â’r Maes am o leiaf deuddydd

·         Mae 45%-60% yn teithio hyd at 90 munud i ymweld â’r Eisteddfod.

 

Fe soniodd yr Arweinydd Tîm am ffigurau Sir y Fflint a sut roeddynt wedi elwa ar ôl i’r Eisteddfod gael ei chynnal yno, cafodd y data ei gasglu gan Beaufort Research:

 

·         Aeth 54% o ymwelwyr i siopau lleol

·         Aeth 54% i fwytai lleol

·         Aeth 33% i dafarndai lleol

·         Defnyddiodd 52% orsafoedd petrol lleol.

 

Fe soniodd yr aelodau y byddai wedi bod yn braf petai’r Eisteddfod wedi mynd i ardal arall o fewn Sir Ddinbych. Dywedodd yr Arweinydd Tîm bod y safle wedi cael ei ddewis yn sgil llwyddiant yr Eisteddodd Genedlaethol a gynhaliwyd yno yn flaenorol.

 

Trafodwyd arwyddion a hyrwyddo Sir Ddinbych i lwyfannu Eisteddfod yr Urdd 2020. Dywedodd yr Arweinydd Tîm y byddai arwyddion yn cael eu harddangos i hysbysebu mai Sir Ddinbych fyddai’n llwyfannu'r Eisteddfod a byddai gan Sir Ddinbych bresenoldeb yn Eisteddfod 2019 yng Nghaerdydd er mwyn hysbysebu mai Sir Ddinbych fyddai’n llwyfannu’r  Eisteddfod nesaf.  Byddai hefyd yn ffordd o ddangos beth sydd gan Sir Ddinbych fel sir i’w chynnig i ymwelwyr.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r cynnwys.

 

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 298 KB

Ystyried rhaglen gwaith i'r dyfodol y Pwyllgor (copi wedi’i amgáu).

 

 

Cofnodion:

Awgrymodd y cadeirydd y gallai cyfarfod arall gael ei drefnu ar gyfer mis Gorffennaf, a chytunodd swyddogion i chwilio am ddyddiad addas.

 

Cynigiwyd bod cefnogwr y Gymraeg yn cael ei g/wahodd i hysbysu'r aelodau o'u gwaith. 

 

Fe awgrymodd y cadeirydd bod themâu unigol y strategaeth yn cael eu craffu yn fanwl ym mhob cyfarfod, yn hytrach na’r strategaeth gyfan ym mhob cyfarfod.