Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: Trwy Gynhadledd Fideo

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau oddi wrth y Cynghorwyr Merfyn Parry a Huw Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

3.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972

 

 

Cofnodion:

Dim.

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 297 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022.

 

Hysbysodd Swyddog yr Iaith Gymraeg y pwyllgor na chynhaliwyd Eisteddfod y staff y flwyddyn hon; cynhaliwyd yr ail Eisteddfod ar-lein a phrin oedd y bobl a gymerodd ran. Felly, penderfynwyd gohirio’r Eisteddfod nesaf nes 2024.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 8 Tachwedd 2022 fel cofnod cywir.

 

 

5.

DIWEDDARIAD MWY NA GEIRIAU pdf eicon PDF 293 KB

Derbyn adroddiad gan y Swyddog Datblygu Staff yn diweddaru'r pwyllgor ar y gwaith a gyflawnwyd gyda Mwy na Geiriau (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Datblygu Staff yr adroddiad ynglŷn â’r FframwaithMwy na Geiriau’ (a ddosbarthwyd o flaen llaw). Roedd yr adroddiad yn disgrifio datblygiad y fframwaithMwy na Geiriau’.

Roedd y fframwaithMwy na Geiriauyn nodi sut ellid mynd ati ar y cyd i sicrhau cynnydd dan y themâu cyffredinol, diwylliant ac arweinyddiaeth. Roedd y camau y byddai’r Cyngor yn eu cymryd yn 2023-24 yn cynnwys:

·       Darparu manylion ynglŷn â sut roedd y gwasanaethau’n bodloni anghenion siaradwyr Cymraeg ynghyd â thargedau i sicrhau gwelliant

·       Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu presennol a gweithlu’r dyfodol

·       Rhannu arferion gorau wrth ddarparu gwasanaethau Cymraeg a sut i wneudCynnig Gweithredolgyda’r holl staff a gyflogir yn uniongyrchol neu’r rhai mewn gwasanaethau a gomisiynir.

·       Darparu hyfforddiant ac adnoddau iaith i’r holl staff a chyfleoedd i siaradwyr Cymraeg fagu hyder wrth ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg.

Mae’n ofynnol i Sir Ddinbych gyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn ar gyflawni camau gweithredu penodol wrth weithredu’r fframwaith. Wrth ddal i fonitro ar weithredu’r fframwaith, canolbwyntid ar brofiad y defnyddwyr o’r gwasanaeth a’r systemau monitro presennol (er enghraifft, fel rhan o arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru).

Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach

·       Holodd y pwyllgor ynglŷn â chostau’r fframwaith a chadarnhaodd y Swyddog Datblygu Staff nad oedd y fframwaithMwy na Geiriauyn creu costau ychwanegol i’r Cyngor.

·       Soniodd y pwyllgor am gostau dysgu Cymraeg gan holi a fedrai hynny effeithio ar unrhyw wasanaethau a fyddai’n trefnu bod aelodau o’u tîm yn cael gwersi Cymraeg. Cadarnhawyd mai’r unig gost fyddai cyflenwi staff ar adegau’r gwersi.

·        Hysbyswyd y pwyllgor bod canran y siaradwyr Cymraeg yn y sector gofal mewnol yn Sir Ddinbych yn 20%, o gymharu â 12% yn y sector preifat. Cytunodd y swyddogion a’r aelodau y byddai angen newid diwylliant er mwyn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg.

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r fframwaithMwy na Geiriau’.

 

 

6.

DIWEDDARIAD AR GYNLLUN STRATEGOL Y GYMRAEG MEWN ADDYSG

Derbyn diweddariad llafar gan Swyddog Datblygu CSGA ar y Gymraeg mewn Addysg.

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog Datblygu’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Hysbysodd y swyddog datblygu’r pwyllgor o’r saith o dargedau yn y strategaeth,

sef

 

        I.         Cynyddu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg a lleoedd addysg yn yr iaith Gymraeg;

      II.         Cynyddu nifer y plant a phobl ifanc sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg ac yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg;

    III.         Codi safonau addysg yn y Gymraeg a sicrhau bod dysgwyr yn dod yn rhugl yn y Gymraeg erbyn diwedd eu haddysg orfodol;

    IV.         Sicrhau bod y Gymraeg wedi’i hintegreiddio’n llawn yng nghwricwlwm pob ysgol, gan gynnwys ysgolion cyfrwng Saesneg;

     V.         Darparu cymorth i athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol eraill er mwyn datblygu eu sgiliau Cymraeg a’u gallu i addysgu;

    VI.         Cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng cyfathrebu mewn ysgolion ac annog rhieni a’r gymuned ehangach i arfer y Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol;

  VII.          Sicrhau fod addysg Gymraeg yn hygyrch i bawb, beth bynnag eu cefndir neu’u hamgylchiadau.

 

Nod y targedau hyn oedd sicrhau fod addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ac yn hygyrch i bawb a ddymunai ei dderbyn, a chodi safonau addysg Gymraeg ledled Cymru.

 

Trafododd Aelodau’r materion canlynol yn fanylach

 

·       Wrth sôn am y targed cyntaf, bu’r aelodau’n trafod y lleoliadau niferus dan ddatblygiad a’r ffaith bod y datblygiad yn Ysgol Dewi Sant wedi’i oedi oherwydd pryderon Dŵr Cymru. Gobeithiai’r swyddogion, serch hynny, y datrysid y mater fel bod modd dal ati i ddatblygu’r cylch meithrin ar y safle. Roedd yno gais hefyd i ddod o hyd i leoliad addas yn Rhuthun. Dywedodd y swyddogion y gallai gymryd deuddeg mis neu fwy i gael y maen i’r wal yn Rhuthun, gan ei bod yn heriol dod o hyd i safle addas ar gyfer cylch meithrin yno.

·       Trafodwyd yr heriau gydag addysg a’r Gymraeg. Dywedodd yr aelodau bod Llywodraeth Cymru’n deall yr heriau hynny, ond ei bod yn dal yn anodd recriwtio athrawon Cymraeg a bod dewis y rhieni’n creu rhwystr arall i’r Gymraeg mewn addysg.

·       Cytunodd y pwyllgor y dylid rhoi mwy o bwyslais ar fuddion y Gymraeg ac y dylai pobl weld yr iaith fel sgil y dylid ei glodfori a’i annog.

 

Diolchodd y cadeirydd i’r swyddogion am ddod i’r cyfarfod a rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r pwyllgor ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cytunodd yr aelodau y dylai’r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg fod yn eitem flynyddol ar y rhaglen.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi’r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg.  

 

Ar yr adeg hon hysbyswyd y cadeirydd nad oedd y pwyllgor â chworwm mwyach; torrodd y cyfarfod am egwyl o ddeg munud. Ailddechreuodd y cyfarfod am 12.00 pm.

 

 

7.

CANLYNIADAU CYFRIFIAD 2021

Derbyn diweddariad llafar gan Swyddog yr Iaith Gymraeg ynglŷn â chanlyniadau Cyfrifiad 2021.

 

 

Cofnodion:

Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg gyflwyniad i’r pwyllgor ynglŷn â’r canfyddiadau yn sgil canlyniadau Cyfrifiad 2021.

 

Roedd cwestiynau’r cyfrifiad yn gofyn i unigolion asesu eu hunain. Gofynnid i’r unigolion ddewis yr holl opsiynau a oedd yn wir iddynt hwy. Gallai nifer o ffactorau ddylanwadau ar y modd yr oedd pobl yn asesu eu sgiliau a’u cofnodi. Cynhaliwyd Cyfrifiad 2021 yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19).

 

Roedd yr adroddiad yn amlygu bod nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg (tair oed a hŷn) wedi gostwng ers Cyfrifiad 2011 o 562,000 i 538,000, a oedd 1.2% yn llai. Y rhan o Gymru â’r ganran fwyaf o siaradwyr Cymraeg oedd y gogledd-orllewin, a’r de-ddwyrain oedd â’r ganran leiaf. Hysbysodd Swyddog yr Iaith Gymraeg y pwyllgor y bu gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg ymhob awdurdod lleol heblaw am Gaerdydd, Bro Morgannwg, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Yn Sir Gâr y cafwyd y gostyngiad mwyaf a hynny am yr ail gyfrifiad yn olynol.

 

Roedd bron i dri chwarter o’r boblogaeth wedi nodi yn y cyfrifiad nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau Cymraeg. Rhoes Swyddog yr Iaith Gymraeg wybodaeth i’r aelodau ynglŷn â phoblogaeth Cymru a fedrai fod wedi effeithio ar y cyfrifiad.

 

·       Roedd poblogaeth Cymru wedi cynyddu tua 1.4% ers 2011.

·       Roedd mwy o bobl a aned y tu allan i Gymru’n byw yma yn 2021 nag yn 2011

·       Roedd canran y plant a phobl ifanc dan bymtheg yng Nghymru wedi gostwng ers 2011.

 

Yna hysbysodd Swyddog yr Iaith Gymraeg y pwyllgor o’r canlyniadau yn Sir Ddinbych; yn 2011 gallai 22,236 o bob tair oed neu hŷn siarad Cymraeg, sef 24.5% o’r boblogaeth o 90,527. Yng Nghyfrifiad 2021, 20,942 o bobl a fedrai siarad Cymraeg, a oedd yn ostyngiad o 2.1%. Roedd cyfanswm y boblogaeth hefyd wedi cynyddu i 93,055.

 

Diolchodd yr aelodau i Swyddog yr Iaith Gymraeg am y wybodaeth; er gwaethaf y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg, nid oedd cyn waethed â’r disgwyl i lawer o bobl. Soniodd yr aelodau, fodd bynnag, nad oedd effaith Covid 19 ar y Gymraeg wedi dod i’r amlwg yn llwyr eto.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn nodi canlyniadau Cyfrifiad 2021.

 

 

8.

STRATEGAETH IAITH DRAFFT 2023-28 pdf eicon PDF 229 KB

Derbyn adroddiad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg ar yr amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r Strategaeth Iaith Gymraeg newydd (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd Swyddog yr Iaith Gymraeg Strategaeth y Gymraeg 2023-28 (a ddosbarthwyd o flaen llaw) gan rannu’r wybodaeth ddiweddaraf â’r aelodau ynglŷn â’r amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r strategaeth newydd.

 

Roedd yr adroddiad yn sôn am ddatblygu Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg yn Sir Ddinbych ac yn cyflwyno’r amserlen arfaethedig ar gyfer datblygu’r strategaeth newydd.

 

Roedd Mesur yr Iaith Gymraeg (Cymru) 2011 wedi galluogi’r Llywodraeth i bennu safonau yn ymwneud â'r Iaith Gymraeg ac roedd Llywodraeth Cymru yn disgwyl i’r holl awdurdodau lleol fabwysiadu Strategaeth y Gymraeg wrth iddynt ymateb i'r Safonau.

 

Mabwysiadodd Cabinet Sir Ddinbych y strategaeth bresennol ym mis Mawrth 2017, ac roedd hi’n ymdrin â’r dull o hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso’r defnydd ohoni yn y sir; roedd disgwyl y byddai’r Cyngor yn diwygio’r strategaeth bum mlynedd wedi’i chyhoeddi.

 

Roedd y Cyngor wedi ystyried sawl enghraifft o arfer orau gan gynghorau eraill, y wybodaeth ddemograffig oedd ar gael a llwyddiannau’r strategaeth flaenorol.

 

Roedd yr aelodau a’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth eisoes wedi trafod y meysydd â blaenoriaeth ac wedi eu cymeradwyo mewn egwyddor.

 

Wrth ddrafftio’r strategaeth, roedd y Cyngor wedi ymgysylltu ac ymgynghori â'r gwasanaethau a phartneriaethau mewnol ac allanol perthnasol.

 

Roedd y Cyngor wedi comisiynu’r Ganolfan Cynllunio Iaith i ddadansoddi data, gwneud gwaith ymchwil a llunio adroddiad sicrwydd ar ein Strategaeth

 

y Gymraeg 2017-2022. Roedd gwaith yn digwydd ar y cyd i drafod y canfyddiadau y byddai rhai o’r camau gweithredu yn y Strategaeth yn seiliedig arnynt.

 

Awgrymodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol: Llywodraethu a Busnes bod Swyddog yr Iaith Gymraeg yn anfon y Strategaeth at yr aelodau hynny o’r pwyllgor nad oeddent yn bresennol, fel y gallent hwythau ymateb i’r Strategaeth.

 

PENDERFYNWYD bod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg yn cymeradwyo dull gweithredu’r Strategaeth, yr amserlen a’r camau gweithredu.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 169 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor i’w hystyried.

 

Trafododd y pwyllgor y materion canlynol ymhellach

 

·       Cytunodd y pwyllgor bennu eitem flynyddol ar y rhaglen ar gyfer y Gymraeg mewn Addysg, ond y dylid dod â’r mater gerbron y pwyllgor yn gynt pe byddai mater o bwys yn codi yn y cyfamser.

·        Cadarnhaodd y swyddogion y byddai eitem ynghylch Strategaeth y Gymraeg ar raglen y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, derbyn a nodi Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor.

 

Daeth y cyfarfod i ben am 12.45pm