Agenda and draft minutes

Agenda and draft minutes

Lleoliad: TRWY GYNHADLEDD FIDEO

Eitemau
Rhif Eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnodion:

Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Elfed Williams.

 

 

2.

DATGANIADAU O FUDDIANT pdf eicon PDF 197 KB

Aelodau i ddatgan unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd i'w ystyried yn y cyfarfod hwn.

 

 

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Emrys Wynne gysylltiad personol ag eitem 8 ar y rhaglen gan ei fod yn gweithio gyda gweithgor yr Eisteddfod.

 

 

3.

PENODI CADEIRYDD

Penodi Cadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23.

 

 

Cofnodion:

Ceisiwyd enwebiadau ar gyfer penodi Cadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Huw Williams y Cynghorydd Ellie Chard, a chafodd ei eilio gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts.  Oherwydd na chafwyd unrhyw enwebiadau eraill, aethpwyd i’r bleidlais.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Ellie Chard yn Gadeirydd Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg ar gyfer y flwyddyn Gyngor gyfredol.

 

 

4.

PENODI IS-GADEIRYDD

Penodi Is-gadeirydd ar gyfer blwyddyn ddinesig 2022/23.

 

Cofnodion:

Gwahoddodd y Cadeirydd enwebiadau am Is-gadeirydd. Cynigiodd y Cynghorydd Emrys Wynne y dylid gohirio’r mater tan y cyfarfod nesaf oherwydd na chafwyd unrhyw enwebiadau a hefyd oherwydd bod rhai aelodau’n absennol o’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD y dylid gohirio penodiad Is-gadeirydd tan y cyfarfod nesaf.

 

 

5.

MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD

Rhybudd o eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys yn unol ag Adran 100B (4) Deddf Llywodraeth Leol, 1972.

 

 

Cofnodion:

Ni chodwyd unrhyw fater brys.

 

 

6.

COFNODION pdf eicon PDF 302 KB

I dderbyn cofnodion cyfarfod y pwyllgor a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 (copi ynghlwm)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith Gymraeg a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022

 

PENDERFYNWYD – yn amodol ar yr uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mawrth 2022 fel cofnod cywir.

 

 

7.

ADRODDIAD MONITRO IAITH GYMRAEG BLYNYDDOL pdf eicon PDF 283 KB

I drafod a chytuno ar gynnwys yr adroddiad Monitro Iaith Gymraeg blynyddol ar gyfer 2021/22 (copi ynghlwm)

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Monitro’r Gymraeg blynyddol gan yr Arweinydd Tîm - Cyfathrebu (adroddiad wedi’i ddosbarthu eisoes).

 

Yn unol â Safonau’r Gymraeg a gyflwynwyd o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, mae’n ofynnol i’r Cyngor gyhoeddi adroddiad erbyn 30 Mehefin bob blwyddyn yn amlinellu’r gwaith a wnaed i gydymffurfio â gofynion y Safonau rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth. Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar 6ed blwyddyn gweithrediad Safonau’r Gymraeg gyda’r ddwy flynedd ddiwethaf wedi bod yn wahanol iawn i’r arfer. Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi ymrwymo’n llwyr i ymateb yn gadarnhaol i Safonau’r Gymraeg fel sydd wedi’i adlewyrchu yn Strategaeth y Gymraeg 2017-2022 ac mae’r Cyngor yn dal yn gwbl ymrwymedig i chwarae ei ran yn yr ymdrech genedlaethol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050.

 

Yn 2021-22 roedd y Cyngor yn canolbwyntio’n benodol ar weithrediad y Safonau Iaith o fewn yr awdurdod gan sicrhau cydymffurfiaeth â’r 167 Safon o dan y penawdau Cynllunio Gwasanaethau, Gwneud Polisïau, Hyrwyddo a Chadw Cofnodion. Er mwyn gwneud hyn roedd yn hanfodol gweithio’n agos â Phencampwyr y Gymraeg ar draws yr Awdurdod i fonitro cydymffurfiaeth staff pan oedd y rhan fwyaf o’r gweithlu’n dal i weithio gartref. Rydym yn dal i gefnogi’r gweithlu fwy nag erioed gyda gweithrediad y safonau a’n targed yw dyblu’r defnydd dyddiol o’r Gymraeg. I wneud hyn rydym yn hyrwyddo cyrsiau Cymraeg er mwyn i staff allu cychwyn ar eu siwrnai iaith neu gyrsiau magu hyder a gweithgareddau mewnol i helpu staff i ddatblygu a meithrin eu sgiliau Cymraeg.

 

Roedd y Cyngor yn aelod gweithredol o’r Bartneriaeth Iaith a arweiniwyd  gan Fenter Iaith Sir Ddinbych.  Mae’r fforwm yn cynnwys sawl sefydliad, lleol a chenedlaethol, sy’n gweithio’n strategol tuag at hyrwyddo a datblygu’r Gymraeg yn Sir Ddinbych.

 

Mae Cynllun y Gymraeg Mewn Addysg Sir Ddinbych hyd 2032 yn cynnwys gwybodaeth am y bwriad i gyfuno Grŵp Strategol y Gymraeg Mewn Addysg â Fforwm Iaith y Sir i oruchwylio gweithrediad a gwerthusiad y cynllun.

 

Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi gwneud llawer o waith hanfodol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yn fewnol ac yn allanol er mwyn sicrhau bod y Safonau Iaith yn cael eu gweithredu.

 

Cynhaliodd y Cyngor ei bedwerydd Eisteddfod rhwng 18 Chwefror ac 1 Mawrth fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi. Roedd y digwyddiad yn rhan o ymdrechion y Cyngor i godi proffil y Gymraeg,  i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r iaith  ac i ddathlu diwylliant Cymru. Cynhaliwyd yr Eisteddfod yn ystod cyfnod o gryn ffocws ar y Gymraeg gydag Eisteddfod yr Urdd  ar fin dychwelyd i’r Sir ym mis Mai 2022. Unwaith eto eleni, oherwydd Covid-19, cynhaliwyd Eisteddfod y Staff yn ddigidol.

 

Roedd ‘Mae Gen i Hawl’ yn ymgyrch genedlaethol i ddathlu’r gwasanaethau iaith a gynigir gan Awdurdodau Lleol a hawliau pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu hymwneud â nhw. Roedd yn gyfle i hyrwyddo gwasanaethau iaith Gymraeg yn Sir Ddinbych ac i gynyddu’r niferoedd sy’n dewis eu defnyddio. Mae’r ymgyrch farchnata’n siarad am rai o’r hawliau sydd gan y cyhoedd y ogystal â staff y Cyngor.

 

Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

  • Diolchodd y Cynghorydd Emrys Wynne i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Cymunedau, Swyddog y Gymraeg a’r Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts - cyn aelod arweiniol y Gymraeg, am y gwaith a grybwyllwyd yn yr adroddiad. Roedd y cytuno bod gweithio o bell wedi effeithio ar gymdeithasu a chyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg. Un o uchelgeisiau’r Cynghorydd Wynne fel aelod arweiniol oedd sicrhau y gallai pobl ddefnyddio’r Gymraeg ac na fyddai unrhyw effeithiau anffafriol o wneud hynny.
  • Codwyd y mater o’r gyllideb ar gyfer y Gymraeg a dywedwyd wrth  ...  view the full Cofnodion text for item 7.

8.

EISTEDDFOD YR URDD pdf eicon PDF 281 KB

Derbyn adroddiad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar ganlyniadau’r Eisteddfod a rôl y Cyngor yn y digwyddiad (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

lwyddiant Eisteddfod yr Urdd (wedi’i ddosbarthu eisoes).

 

Daeth Eisteddfod yr Urdd yn ôl i Sir Ddinbych fis diwethaf (30 Mai - 4 Mehefin) ar ôl iddi gael ei gohirio am ddwy flynedd. Roedd yr Eisteddfod i fod i gael ei chynnal yn wreiddiol ym mis Mai 2020 ond cafodd ei gohirio oherwydd Covid.

 

Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf i gynnal Gŵyl Triban ac roedd mynediad i’r maes am ddim, gyda hynny wedi rhoi hwb i nifer yr ymwelwyr. Ymwelodd dros 118,000 o bobl â’r eisteddfod dros yr wythnos.  Roedd mwy o gystadleuwyr o Sir Ddinbych nag o unrhyw ran arall o Gymru sydd yn adlewyrchiad o waith caled yr Adran Addysg.

 

Roedd Pabell Sir Ddinbych yn cynnwys:

 

·        Theatr

·        Ardal hyrwyddo busnes

·        Ardal Celf a Chrefft

·        Gwasanaethau Cefn Gwlad ac Ieuenctid a thrac BMX a oedd yn atyniad aruthrol.

·        Llu o berfformiadau

·        Ymweliadau gwleidyddol drwy gydol yr wythnos.

 

Cafodd y babell nifer fawr o ymwelwyr gyda llawer o deuluoedd o ardaloedd y Rhyl a Phrestatyn wedi dod am dro - demograffig nad ydynt fel arfer yn mynd i’r eisteddfod.

 

Cynhyrchwyd gwaith celf gan ffoaduriaid sydd wedi dod i’r ardal a oedd yn amlygu’r tebygrwydd rhwng eu diwylliant a diwylliant Cymru.

 

Y gobaith yw hefyd y bydd yr Eisteddfod yn gadael etifeddiaeth barhaol o ran ei dylanwad ar yr economi leol a’r fasnach dwristiaeth gyda mwy a mwy o bobl yn dod i’r sir a rhanbarth Gogledd Ddwyrain Cymru ehangach. Dywedodd llawer o bobl a ddaeth i babell  Sir Ddinbych mai hwn oedd y tro cyntaf iddynt ddod i’r sir ac y byddant yn dod yn ôl i dreulio mwy o amser yma. Bydd yr Urdd yn cynnal astudiaeth o effaith ar yr economi yn y dyfodol agos.

 

Dylai’r Cyngor hefyd weithio’n agos â’r Urdd a phartneriaid cymunedol eraill i ddod o hyd i gyfleoedd i fanteisio ar weithgareddau’r Urdd a chynnal digwyddiadau rheolaidd eraill a fydd yn cynnal bwrlwm a momentwm.

 

Trafododd y pwyllgor y pwyntiau canlynol yn fwy manwl –

 

  • Roedd y Pwyllgor i gyd yn cytuno bod llwyddiant yr Eisteddfod yn gyrhaeddiad aruthrol a bod digwyddiad fel hyn a ddaeth a chymaint o bobl at ei gilydd yn beth braf iawn ar ôl Covid. Roedd yr amrywiaeth eang o weithgareddau a digwyddiadau ar y Maes yn rhagorol o ran y cyfleoedd a gynigiwyd i hyrwyddo’r Gymraeg. Roedd y Pwyllgor yn gobeithio bod yr economi leol wedi manteisio yn sgil yr Eisteddfod.
  • Diolchodd y Cynghorydd Gill German i staff Sir Ddinbych a’r Urdd am yr Eisteddfod gan ddweud bod yr ŵyl wedi’i hysbrydoli i fynd ymlaen â’i thaith ddysgu Cymraeg.
  • Roedd y Cyfarwyddwr Corfforaethol - Cymunedau eisiau diolch i’r tîm ar ran y Cyngor a’r Tîm Uwch Reolwyr o fewn y Cyngor am ddod a’r Cyngor yn agosach at y gymuned.

 

PENDERFYNWYD  y dylai Pwyllgor Llywio’r Gymraeg nodi’r adroddiad ar Eisteddfod yr Urdd.

 

 

9.

RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL pdf eicon PDF 313 KB

Ystyried rhaglen gwaith i’r dyfodol y pwyllgor (copi ynghlwm).

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol y Gwasanaeth Democrataidd i’w hystyried.

 

Cododd yr Aelodau’r materion canlynol -

 

·        Cytunodd y Swyddogion y byddent yn trafod unrhyw eitemau ychwanegol ar gyfer y Pwyllgor y tu allan i’r cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD yn amodol ar yr uchod, y dylid cymeradwyo a nodi rhaglen gwaith i'r dyfodol y Cyngor