Agenda and draft minutes
Lleoliad: trwy cyfrwng fideo
Rhif | Eitem |
---|---|
CROESO/PWYNTIAU I’W NODI Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir Ddinbych, a
oedd wedi dod i’r cyfarfod i roi cyflwyniad ar y Fenter. Yn sgil y
cyfyngiadau presennol ar deithio a’r gofyniad i gadw pellter cymdeithasol
oherwydd y coronafeirws, cynhaliwyd y cyfarfod o bell trwy gyfrwng fideo
gynadledda ac nid oedd ar agor i’r cyhoedd.
Cafodd pob aelod gyfle i fynychu fel arsylwr a chafodd y Gohebydd
Democratiaeth Leol hefyd wahoddiad i arsylwi. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw
ymddiheuriadau. |
|
Aelodau i ddatgan
unrhyw gysylltiad personol neu gysylltiad sy'n rhagfarnu yn y busnes a nodwyd
i'w ystyried yn y cyfarfod hwn. Cofnodion: Datganodd y Cynghorwyr Meirick Davies, Arwel Roberts ac Emrys Wynne
gysylltiad personol ag eitem 5 oherwydd eu bod yn ymddiriedolwyr Menter Iaith
Sir Ddinbych. |
|
MATERION BRYS FEL Y'U CYTUNWYD GAN Y CADEIRYDD Hysbysiad o
eitemau y dylid, ym marn y Cadeirydd, eu hystyried yn y cyfarfod fel materion brys
yn unol ag Adran 100B(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni chodwyd unrhyw
fater brys. |
|
Derbyn cofnodion
cyfarfod Pwyllgor Llywio'r Gymraeg a gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2020 (copi’n
amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod Pwyllgor Llywio’r Iaith
Gymraeg a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2020. Cywirdeb – Tynnodd y Cynghorydd Emrys
Wynne sylw at anghysondeb yn y cofnodion Cymraeg gan eu bod yn nodi dyddiad o
12 Tachwedd 2019 yn hytrach na 10 Tachwedd 2020. Materion yn Codi - Dywedodd
y Cynghorydd Meirick Davies nad oedd y Cadeirydd a'r Is gadeirydd wedi eu henwi
ar y rhaglen yn unol â'r drefn arferol. PENDERFYNWYD – yn
amodol ar y newidiadau uchod, derbyn a chymeradwyo cofnodion y cyfarfod a
gynhaliwyd ar 10 Tachwedd 2020 fel cofnod cywir. |
|
MENTER IAITH Derbyn cyflwyniad
ar waith Menter Iaith gan Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir
Ddinbych. Dolen at Adroddiad Blynyddol 2019-20 Menter
Iaith Sir Ddinbych > https://misirddinbych.cymru/cms/wp-content/uploads/2021/01/Adroddiad-Blynyddol-2019-20203054.pdf
Cofnodion: Cyflwynodd
y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts Ruth Williams, Prif Swyddog Menter Iaith Sir
Ddinbych a gafodd ei gwahodd i'r cyfarfod i roi trosolwg o waith Menter Iaith. Roedd dolen at Adroddiad
Blynyddol Menter Iaith Sir Ddinbych 2019 - 2020 wedi'i dosbarthu gyda rhaglen y cyfarfod ac mae’r adroddiad yn
rhoi trosolwg cynhwysfawr o weithgareddau yn ystod 2019/20. Cyflwynodd
y Prif Swyddog gyflwyniad PowerPoint ar Fenter Iaith Sir Ddinbych - un o 22
Menter Iaith sydd ar waith yng Nghymru i
gynyddu a chryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn cymunedau. Mae’r sefydliad yn siop un
stop ar gyfer gwybodaeth am yr iaith, eisteddfodau ac ati, gofal plant,
sesiynau iaith a mwy i helpu pobl i fyw, dysgu a mwynhau eu hunain drwy gyfrwng
y Gymraeg. Roedd
y cyflwyniad yn cynnwys y canlynol: ·
strwythur Menter Iaith
(cyfarwyddwyr, ymddiriedolwyr a staff), sy’n elusen gofrestredig sydd wedi
ennill Marc Ansawdd Elusen Ddibynadwy Cyngor Cenedlaethol y Mudiadau
Gwirfoddol. ·
y ffaith bod Menter Iaith mewn
sefyllfa strategol i helpu i ddarparu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o filiwn o
siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a sut y caiff ei ariannu. ·
y prif dargedau a’r themâu
strategol ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ynghyd â strategaethau
allweddol eraill yn cynnwys Strategaeth y Gymraeg Sir Ddinbych a Chynllun
Strategol y Gymraeg Mewn Addysg a gwaith gyda phartneriaid a sectorau eraill. ·
darpariaeth o fewn themâu
iaith Gymraeg strategol Sir Ddinbych (1) Cynllunio Strategol yr Iaith Gymraeg
yn Sir Ddinbych, (2) Plant a Phobl Ifanc, (3) y Gymuned, a (4) Busnes a’r
Economi, a manylion y cyfoeth o weithgareddau/digwyddiadau sydd wedi’u cynnal
i’r perwyl hwn a ddangoswyd mewn ffotograffau, yn y cyfryngau ac ati. ·
y ffynonellau o gyllid sydd ar
gael i Menter Iaith fel elusen gofrestredig yn cynnwys grantiau gan Lywodraeth
Cymru a Chyngor Sir Ddinbych ynghyd â chefnogaeth o ffynonellau eraill ar gyfer
gweithgareddau a phrosiectau. ·
cafwyd dolenni at dudalennau
cyfryngau cymdeithasol Menter Iaith ynghyd â manylion cyswllt y sefydliad. Diolchodd
y Cadeirydd i’r Prif Swyddog am ei chyflwyniad diddorol a llawn gwybodaeth. Cytunwyd y dylid anfon y
cyflwyniad at yr aelodau ar ôl y cyfarfod. Manteisiodd
yr aelodau ar y cyfle i wneud sylwadau a thrafod gwahanol agweddau ar waith
Menter Iaith gyda'r Prif Swyddog. Roedd
prif feysydd trafod yn canolbwyntio ar y canlynol - · Gofynnodd y Cynghorydd Ann Davies a oes digon yn cael ei wneud i gefnogi ac annog myfyrwyr o ysgolion uwchradd cyfrwng Cymraeg sy'n mynd i Goleg Cambria i ddal ati i siarad Cymraeg. Eglurodd y Prif Swyddog bod gan y Coleg ei swyddogion ei hun sy’n gyfrifol am sicrhau argaeledd y Gymraeg yn unol â'i safonau iaith Gymraeg, fodd bynnag pe bai gan yr aelodau unrhyw faterion yr hoffent eu codi yn y cyswllt hwn, gallai Menter Iaith Sir Ddinbych eu cyfeirio'n ôl at Goleg Cambria. Fel partner, mae Menter Iaith yn tueddu i weithio gyda Choleg Cambria yng nghyd-destun dosbarthiadau Cymraeg ar gyfer oedolion, ond o dro i dro hefyd cynhelir digwyddiadau neu weithgareddau ar y cyd. Er nad yw Menter Iaith yn gyfrifol am addysg mae'n gweithio gyda'r sector addysg fel rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg er mwyn cynnal trosolwg. Mewn ymateb i gwestiwn arall am y bobl ifanc yn y Rhyl sy’n manteisio ar weithgareddau Menter Iaith, dywedodd y Prif Swyddog bod o leiaf 90% o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg yn dod o gartrefi di-Gymraeg a bod y rhan fwyaf o ddisgyblion yn dysgu’r iaith drwy’r ysgol. Mae Menter Iaith yn gweithio gyda rhai ysgolion ond ni all gynnig rhagor o brosiectau heb gyllid ychwanegol i gyflogi mwy o staff. Mae rhieni’n aml yn cysylltu â Menter Iaith am gefnogaeth a ... view the full Cofnodion text for item 5. |
|
DATBLYGIADAU’R GYMRAEG YN RHANBARTHOL A CHENEDLAETHOL PDF 486 KB Ystyried
adroddiad gan Swyddog y Gymraeg (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
i aelodau ar gynnydd gweithgareddau Cymraeg yn rhanbarthol a chenedlaethol. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts eitem ar y
cynnydd parhaus sy’n cael ei wneud ar y gweithgareddau cysylltiedig â’r Gymraeg
yr oedd y pwyllgor wedi’u trafod yn y
cyfarfod blaenorol. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Cymunedau mai’r nod yw ymwreiddio’r gweithgareddau
hyn fel busnes craidd y cyngor gyda'r nod o sicrhau gwelliannau parhaus. Ymhelaethodd Swyddog yr Iaith Gymraeg ar feysydd penodol
o’r adroddiad a oedd yn cynnwys datblygiadau mewn sawl maes allweddol a nododd
hefyd effaith Covid-19 ar gynnydd gyda chyfeiriad penodol at y canlynol: ·
‘Mwy Na Geiriau’ – cafwyd crynodeb ar y cynnydd a
wnaed gyda’r camau canlynol: ¨ parhau
i roi gwybod i staff mewnol a gwasanaethau a gomisiynir am y ‘Cynnig
Gweithredol’ a hyrwyddo’r swigen oren fel arwydd rhwydd o ddewis iaith ar waith
papur ac o'r cynnig o ddewis iaith gan ddarparwyr gofal. ¨ cynyddu’r
defnydd o’r Gymraeg gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn Sir Ddinbych a
hyrwyddo’r defnydd o adnoddau digidol a’r cyrsiau Cymraeg ar-lein sydd wedi’u
datblygu gan ‘Cymraeg Gwaith’. ¨ dangos
ymrwymiad i ymwreiddio’r Gymraeg ym mhob un o feysydd gwasanaeth y Gwasanaeth
Cymorth Cymunedol / Gwasanaethau Plant. ¨ gwaith
ychwanegol i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ·
Cynllun
Strategol y Gymraeg Mewn Addysg – cwblhawyd y gwaith o adeiladu
Ysgol Llanfair Dyffryn Clwyd a'r Ganolfan Iaith Gymraeg yn Llanelwy. Agorwyd Cylch Meithrin ar dir yr ysgol newydd yn
Llanfair Dyffryn Clwyd ac Ysgol Dewi Sant.
Nodwyd hefyd effaith Covid-19 ar weithgareddau cyfoethogi’r cwricwlwm ac
Eisteddfod yr Urdd. Roedd patrwm o
gynnydd mewn niferoedd mewn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg. ·
Arolwg Sgiliau Iaith Gymraeg - cafwyd manylion yr hunanasesiad o sgiliau iaith Gymraeg
staff, yn cynnwys dadansoddiad o’r canlyniadau fesul gwasanaeth sy'n amrywio o
Lefel 0 (dim sgiliau) i Lefel 5. Ni fydd yr arolwg yn cael ei gynnal eleni gan na
ddisgwylir y byddai’r canlyniad yn wahanol iawn, er ei bod yn bosibl y byddai
gostyngiad yn y lefelau oherwydd bod
staff yn gweithio gartref o ganlyniad i Covid-19 ac o’r herwydd ddim yn clywed y Gymraeg nac yn siarad
Cymraeg yn y swyddfa. ·
Diweddariad
ar y Bartneriaeth Iaith Gymraeg – Partner Iaith – mae
Covid-19 yn golygu bod mapio gweithgaredd ar draws y sir wedi’i oedi ar hyn o
bryd. Gwahoddwyd swyddfa’r
Comisiynydd Iaith i drafod sut y mae Covid-19 wedi effeithio ar yr Iaith
Gymraeg yn genedlaethol yn ogystal ag unrhyw arfer da sydd wedi dod i’r amlwg.
Yn ogystal trafodwyd yr ymgynghoriad ar gategorïau ysgolion yn ôl
darpariaeth iaith Gymraeg gyda’r Swyddog Moderneiddio Addysg.
Mae gwaith ar gydweithio ar ymgyrchoedd yn y cyfryngau cymdeithasol ar
ddathliadau cenedlaethol ar y gweill. I gloi dywedodd Swyddog yr Iaith Gymraeg er bod Covid-19
wedi amharu ar gynlluniau mae digonedd o waith da ar y gweill o hyd, yn ogystal
â ffyrdd mwy arloesol y sicrhau canlyniadau. Tynnodd y Cynghorydd Hilditch-Roberts sylw at y gwaith
caled parhaus sy’n digwydd i wella sefyllfa’r Gymraeg dan amgylchiadau anodd
iawn a diolchodd i’r Swyddog Iaith a’i thîm am eu gwaith caled. Er y casglwyd tystiolaeth dros y tair blynedd
ddiwethaf bod cynnydd wedi bod yn faint o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y sir,
mae gwelliannau i'w gwneud o hyd ac mae gan bawb ran i'w chwarae yn hyn o
beth. Cyfeiriodd hefyd at yr hinsawdd
ariannol anodd sy’n cyfyngu ar y cyllid
sydd ar gael ar gyfer mentrau eraill, megis rhoi rhagor o gefnogaeth i
fusnesau. Yn olaf cyfeiriodd at yr
heriau i ddisgyblion ysgolion cyfrwng
Cymraeg sydd o gartrefi di-Gymraeg wrth ddysgu o bell. Codwyd y materion canlynol yn ystod y drafodaeth a
ddilynodd – · effaith y pandemig ar blant o gartrefi di-Gymraeg sy'n cael ... view the full Cofnodion text for item 6. |
|
GWEITHGAREDDAU I HYRWYDDO’R GYMRAEG PDF 222 KB Ystyried
adroddiad gan Swyddog y Gymraeg (copi ynghlwm) yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf
ar weithgarwch hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod diwethaf ac amlinellu
cynlluniau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Cofnodion: Cyflwynodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts adroddiad (wedi’i ddosbarthu eisoes) yn rhoi
diweddariad i’r aelodau ar weithgaredd hyrwyddo’r Gymraeg ers y cyfarfod
diwethaf ac amlinellodd y cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cafwyd cyflwyniad gan Swyddog yr Iaith Gymraeg yn rhoi
manylion am nifer o’r gweithgareddau hyn, yn cynnwys: ·
Eisteddfod Staff - cynhaliodd y Cyngor ei drydedd Eisteddfod rhwng 15 Chwefror ac 1 Mawrth fel
rhan o’i ddathliadau Dydd Gŵyl
Dewi. Oherwydd Covid-19 cynhaliwyd yr
eisteddfod yn ddigidol gan ddefnyddio safle Facebook preifat staff y Cyngor i
gystadlu ac i bleidleisio. Roedd yr
Eisteddfod ddigidol yn llwyddiannus dros ben gyda 163 wedi cofrestru ar gyfer
cystadlaethau a 700 bleidleisiau wedi’u bwrw. ·
Dydd
Gŵyl Dewi – yr Eisteddfod Staff oedd y prif ddigwyddiad i
ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ond yn ogystal rhannwyd gwybodaeth yn y cyfryngau
digidol am hanes Dewi Sant; rhestr o eiriau Cymraeg defnyddiol a'r dull
ffonetig o’u hynganu er mwyn helpu dysgwyr Cymraeg, a ffeithiau diddorol am y
genhinen a’r Genhinen Bedr. ·
Paned
a Sgwrs – oherwydd bod y rhan fwyaf o staff bellach yn
gweithio gartref cynhaliwyd y sesiynau'n ddigidol ond ar ôl dechrau da roedd y
niferoedd wedi gostwng dros y misoedd diwethaf. Y rheswm dros hyn oedd yr angen
am seibiant oddi wrth y sgrin dros amser cinio pan gynhaliwyd y sesiynau.
Mae amser y sesiwn bellach wedi’i newid i 9.00 a.m. ac mae’r niferoedd
wedi codi unwaith eto a chafwyd adborth cadarnhaol gan staff. ·
Dydd
Santes Dwynwen – lluniwyd cwis am hanes Santes Dwynwen fel rhan
o’r dathliadau eleni a chafodd hwn ei rannu’n fewnol ac yn allanol yn y
cyfryngau cymdeithasol a chymerodd dros 30 o bobl ran.
Crëwyd
dogfen o eiriau Cymraeg perthnasol a sut i'w hynganu ar gyfer dysgwyr Cymraeg,
ynghyd â chwilair. ·
Dydd Miwsig Cymru - crëwyd rhestr o ganeuon Cymraeg i’w rhannu gyda staff ac i hyrwyddo cân
newydd - Byw i’r Awr, ar gyfer yr
ymgyrch Nerth dy Ben, i atgoffa’n gilydd o'n cryfderau a'n dewrder. Y nod yw amlygu’r effaith
gadarnhaol y mae cerddoriaeth yn ei gael ar iechyd meddwl. Roedd
y rhan fwyaf o’r artistiaid yn y fideo yn gyn-ddisgyblion Ysgol Glan Clwyd. ·
Hyrwyddo
Safonau’r Gymraeg – crëwyd dogfen/rhestr wirio i hyrwyddo a rhannu’r
safonau iaith yn Sir Dinbych Heddiw, LINC, Visiontime a thudalen Facebook staff
y cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau. ·
Geirfa
ar gyfer cyfarfodydd – er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg mewn
cyfarfodydd, yn cynnwys eu hagor a’u cau yn Gymraeg, crëwyd geirfa ddefnyddiol
i'w rhannu ar Facebook ynghyd â recordiadau sain er mwyn i bobl allu clywed sut
i’w hynganu. ·
Diwrnod
Crempog - crëwyd
rhestr o eiriau a thermau defnyddiol ar gyfer staff ·
Y
Camau Nesaf: Amserlen
arfaethedig o weithgareddau ar gyfer 2021 - cyflwynwyd tabl o weithgareddau arfaethedig ar
gyfer bob mis drwy gydol 2021 i’w ystyried a’i drafod ymhellach yn y cyfarfod. Ar ddiwedd y cyflwyniad talodd y Cyfarwyddwr
Corfforaethol Cymunedau deyrnged i’r gwaith rhagorol y mae’r Swyddog Iaith wedi’i wneud dan
amgylchiadau hynod o anodd i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau difyr ar gyfer
staff er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg.
Ategwyd ei sylwadau gan y pwyllgor cyfan a diolchwyd i'r Swyddog Iaith
am ei holl waith caled. Trafododd yr Aelodau sawl mater yn deillio o'r adroddiad
mewn mwy o fanylder - ·
Cynigiodd y Cynghorydd Arwel Roberts y dylid
cynhyrchu datganiad ar y gwaith rhagorol a wnaed i hyrwyddo’r Gymraeg i’w
gyhoeddi mewn papurau papurau bro ac ati. Cytunodd
y Swyddog Iaith â hyn a dywedodd hefyd y gellid hyrwyddo’r llwyddiannau drwy
sianelau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor. · Atebodd y Swyddog Iaith gwestiynau am sesiynau cyflwyno staff newydd ... view the full Cofnodion text for item 7. |
|
RHAGLEN GWAITH I’R DYFODOL PDF 266 KB Ystyried rhaglen
gwaith i'r dyfodol y pwyllgor (gweler yn amgaeedig). Cofnodion: Cyflwynwyd Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol y Pwyllgor
i’w ystyried, a thrafododd yr aelodau’r materion canlynol: ·
cynnydd
gyda Strategaeth y Gymraeg 2022 – 27 a buddsoddiad posibl yn y cyswllt hwnnw a
chadarnhawyd mai'r bwriad yw cyflwyno dogfen ddrafft i'r pwyllgor er ystyriaeth
cyn ei chyflwyno i'r Cabinet ym mis Chwefror/Mawrth 2022. ·
cafwyd
cadarnhad bod diweddariad ar Eisteddfod yr Urdd wedi’i gytuno fel eitem ar
gyfer rhaglen mis Tachwedd ond y bydd yr eitem yn cael ei dwyn ymlaen i’w
hystyried yng nghyfarfod mis Gorffennaf os bydd unrhyw ddatblygiadau cyn hynny;
cytunwyd hefyd bod diweddariad ar yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei
gyflwyno mewn yn y dyfodol ar yr adeg briodol wrth i fwy o wybodaeth ddod i
law. ·
yn
dilyn awgrym gan y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts cytunwyd y bydd aelodau o
staff yn cael gwahoddiad i gyfarfod yn y dyfodol i roi eu profiadau personol
i’r pwyllgor ynghylch y gefnogaeth y maent wedi’i chael gan y Cyngor ar eu
siwrnai i ddysgu Cymraeg. PENDERFYNWYD, yn
ddibynnol ar yr uchod, derbyn a nodi’r Rhaglen Gwaith i'r Dyfodol. Daeth y cyfarfod i ben am 12.25pm |